Agenda item

Adolygiadau Canol Blwyddyn Addysg

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad a dweud fod y Gwasanaeth Addysg yn dal i ddatblygu, hyd yn oed yn erbyn cefndir ymateb y gwasanaeth i bandemig COVID-19.

Dangosodd yr adroddiad, o’r camau y rhoddwyd manylion amdanynt, fod 76 ar hyn o bryd yn debyg o gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a’u mesur fel rhaigwyrdd’, gyda dim ond 4 yngoch’. Ers cyhoeddi’r adroddiad, gwnaed mwy o gynnydd ac yr oedd y Gwasanaeth mewn sefyllfa well fyth.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

-Pam fod tanwariant o 5% yn cael ei ragweld?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg fod y ffigwr hwn yn £1 miliwn, a’i fod yn bennaf gysylltiedig â lleoliadau allsirol. Yn erbyn cefndir y pandemig, bu’n anodd adnabod y plant oedd angen y ddarpariaeth hon. Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd hefyd wedi ceisio cadw plant ag anghenion cymhleth yn nes at adref ar gyfer eu haddysg, ac yr oedd hyn yn lleihau costau. At y dyfodol, byddai mwy o angen cefnogaeth ar y plant hyn, felly nid oedd y tanwariant yn duedd fyddai’n debygol o barhau.

 

-  Pa mor aml mae’r map risg yn cael ei adolygu?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg fod cyfarfodydd yr uwch-dîm rheoli yn cael eu cynnal yn wythnosol, a bod cynyddu risg yn bwnc rheolaidd, ond fod y map risg yn benodol yn cael ei drafod ddwywaith y flwyddyn. Er bod modd rhagweld rhai risgiau fel cefnogaeth ADY a’r galw amdano, yr oedd rhai wedi lleihau, er enghraifft, gwariant GEMS oherwydd bod sgiliau ac arbenigedd yn yr ysgolion i barhau â’r gefnogaeth hon. Yr oedd y risgiau ynghylch Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau oherwydd cynnydd mewn prisiau, ac er bod gan Gyngor Dinas Casnewydd ddigon o lefydd gwag yn ein hysgolion, nid oedd y rhain ym mhob cymuned, sy’n golygu na allai Cyngor Dinas Casnewydd o raid gynnig llefydd o fewn cylch o 2 filltir, a byddai hyn yn risg cost am y tro. 

 

-  Pa fesurau a gymerir i gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg fod y Gwasanaeth, ar ddechrau’r cyfnod clo, wedi gweithio gyda’r holl ysgolion i gynnal asesiadau risg ar ddisgyblion bregus er mwyn gofalu eu bod yn cael eu holrhain a’u cefnogi. Yr oedd cefnogaeth ADY yn cael ei asesu yn ôl graddiant yn dibynnu ar anghenion y plentyn. Pan fyddai anghenion ychwanegol yn cael eu nodi, gallai Cyngor Dinas Casnewydd ddarparu ystod o gefnogaeth, weithiau ar lefel ysgol, yn amrywio o amser ychwanegol neu waith ychwanegol, neu ei ddarparu mewn canolfan adnoddau leol. Gallai Cyngor Dinas Casnewydd ystyried darpariaeth y tu allan i’r dref, ac yr oedd mapio darpariaeth ar gael yn ein holl ysgolion, oedd yn gwneud yn si?r fod gan bob plentyn mewn addysg brif-ffrwd hawl i gefnogaeth i’w hanghenion. Gallai’r Awdurdod lleol weld yr holl ddarpariaeth ar draws yr holl ysgolion a bod yn hyderus fod disgyblion yn cael eu cefnogi ar lefel ysgol ac yn y gwahanol ddarpariaethau addysg ledled y ddinas.

 

-  Sut mae’r Llwybrau Diogel i’r Ysgol yn cael eu monitro, a beth sy’n cael ei wneud i annog teithio llesol i’r ysgol?

 

Mae’rymarferiad y cyfeirir ato yn y Cynllun Gwasanaeth oedd yn effeithio ar dderbyniadau i ysgolion a’r polisi cludo o’r cartref i’r ysgol yn y Gwasanaeth Addysg. Fodd bynnag, yr oedd Llwybrau Diogel i’r Ysgol mewn gwirionedd yng nghylch gorchwyl Gwasanaethau’r Ddinas. Canfuwyd mewn cyfarfodydd gyda Gwasanaethau’r Ddinas fod Llwybrau Diogel i’r Ysgol yn ddarn o waith tymor-hir.

 

Yroedd y Gwasanaeth Addysg yn dal eisiau bwrw ymlaen â’r fenter am eu bod yn cydnabod pwysigrwydd cael plant fel dinasyddion ifanc i weld ei bod yn bwysig cerdded i’r ysgol lle bo modd. Gan gofio’r pwysau ar ysgolion dros y 2 flynedd ddiwethaf, ni ofynnwyd am fonitro dulliau teithio, ond yn y dyfodol, gallai ysgolion gynnal eu harolygon eu hunain am sut i gael eu plant i’r ysgol, a gallai hynny fod yn feincnod defnyddiol o ran hyrwyddo cerdded i’r ysgol. Hefyd, anfonwyd  Arolwg Teithio Llesol at bob ysgol yn gynharach y tymor hwn, a bydd modd adrodd yn ôl am y canlyniadau mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

-  Beth oedd y gweithdrefnau a’r darpariaethau i blant ADY wrth drosi o’r ysgol gynradd i’r uwchradd?

 

Dywedodd y Pennaeth Cynhwysiant y byddai cyflwyno Deddf Trawsnewid ADY  newydd yn sicrhau gwell medr wrth adnabod plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd system allwedd electronig yn cael ei chyflwyno ym mhob ysgol, sef erfyn oedd yn caniatáu monitro, gyda phob gwybodaeth am unrhyw ddisgybl yn gallu cael ei drosglwyddo i’r ysgol nesaf dim ond wrth wasgu botwm. Dylai unrhyw berson ifanc mewn unrhyw ysgol fod â phroffil un-tudalen, a phe byddai unrhyw anghenion pellach yn cael eu nodi, dylid eu cynnwys. Bydd yn hawdd trosglwyddo’r wybodaeth rhwng ysgolion.

Esboniodd y Pennaeth Cynhwysiant, er y byddai amrywio o raid yn y ddarpariaeth rhwng ysgolion, eu bod yn anelu am gysondeb darpariaeth ar draws yr ysgolion. Yr oedd 2 athro ymgynghorol yn gweithio mewn trosi, ac yn gwneud gwaith sicrhau ansawdd er mwyn gofalu bod cysondeb rhwng ysgolion a chau unrhyw fylchau yn ansawdd y ddarpariaeth.

 

-Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o’r dangosydd coch yn erbyn trawsnewid ADY.

 

Esbonioddyr Aelod Cabinet dros Addysg fod yr oedi cyn gweithredu wedi digwydd am fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hwyr yn anfon canllawiau at awdurdodau lleol, gan i faterion COVID gymryd blaenoriaeth. Fodd bynnag, bu’r Aelod Cabinet yn mynychu cyfarfodydd misol gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru lle’r oedd hyn ar yr agenda ac yn cael ei drafod o ran gweithredu a materion cost. Byddai sgyrsiau e-bost yn aml hefyd gydag aelodau Cabinet eraill ar hyd a lled Cymru am hyn, ac ar yr un pryd, yr oedd uwch-swyddogion y Gwasanaeth Addysg yn cael yr un sgyrsiau gyda’u cysylltiadau yn Llywodraeth Cymru. Waeth beth oedd y cefndir gwleidyddol ledled Cymru, yr oedd pawb o’r un farn am gael hyn wedi ei roi ar waith mor fuan ag sydd modd.

 

 

-Pa mor hyderus y mae Cyngor Dinas Casnewydd gyda chyflwyno’r cwricwlwm newydd?

 

Dywedodd y Pennaeth Addysg fod ar Gyngor Dinas Casnewydd angen methodoleg sicrhau ansawdd i ofalu eu bod ar y llwybr iawn i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn llawn. Yn y cefndir, yr oedd gan Gyngor Dinas Casnewydd wiriadau sylfaenol fel eu bod yn gwybod fod y dysgu proffesiynol yn cael ei gynnig, a’u bod wedi gwrando ar sesiynau cynllunio datblygu ysgolion i weld pa gynlluniau oedd ar gael. Yr oedd Penaethiaid yn cael eu holi am raglen dreigl yn ystod y flwyddyn. Yn wreiddiol, yr oedd gofyn i’r ysgolion roi tystiolaeth benodol o’u parodrwydd yn nhymor yr hydref, ond oherwydd problemau gweithlu yn yr ysgolion, ni thybiwyd fod hyn yn briodol, felly symudwyd yr arolwg parodrwydd i dymor y gwanwyn.

 

-Pryd mae disgwyl i’r ysgolion sydd â diffyg ariannol ddychwelyd i gyllideb gytbwys?

Pennaeth Addysg fod cyfarfodydd monitro yn cael eu cynnal, ac na wyddys yn union lle mae Cyngor Dinas Casnewydd o ran adfer o’r diffyg, ond bydd y wybodaeth hon ar gael pan adolygir y cynllun gwasanaeth ar ddiwedd y flwyddyn. Y nod oedd i’r holl ysgolion fod â gwarged neu fod yn gytbwys ymhen 3 blynedd, ond byddai unrhyw newidiadau posib yn cael eu holrhain a’u cynnwys yn y cynllun adfer yn amserol, felly roedd hyblygrwydd hefyd yn bwysig. 

 

-   Pa addysg oedd yn cael ei ddarparu i blant sy’n dysgu gartref adeg y pandemig?

 

Esboniodd y Pennaeth Addysg, pan oedd yr ysgolion wedi cau, fod y Gwasanaeth yn gweithio gyda’r ysgolion i ddarparu gwaith cyfun. Yr oedd y canolbwynt ar ddysgu proffesiynol a rhoi i athrawon y sgiliau i ddarparu dysgu digidol, gan rannu’r arferion gorau rhwng ysgolion. Ynghyd â’r GCA, sefydlwyd gwefan ar draws y rhanbarth fel y gallai’r ysgolion ei chyrchu a manteisio ar gyfleoedd. Yr oedd y penaethiaid yn dal eu hunain yn gyfrifol am wneud eu gorau i ymateb i ofynion y plant, a gwrando ar rieni a disgyblion trwy arolygon.

 

-   Sut mae’r Cyngor yn monitro plant sy’n cael eu dysgu’n barhaol gartref?

Esboniodd y Pennaeth Addysg a Dysgu fod nifer y plant sy’n cael eu haddysgu gartref wedi cynyddu. Cyn yr epidemig, yr oedd gan yr ALl adnoddau cyfyngedig i reoli addysgu gartref yn effeithiol, ac yr oedd y niferoedd wedi cynyddu ers hynny am nifer o resymau, oedd yn rhoi mwy o bwysau ar fonitro.

Pan fydd rhiant yn rhoi gwybod am fwriad i addysgu gartref, bydd y Swyddog Lles Addysg yn cysylltu â’r teulu ymhen 10 diwrnod i wneud yn si?r fod y rhiant yn deall oblygiadau’r dewis hwnnw. Yna, byddai’r Swyddog Lles Addysg yn ymweld o leiaf unwaith y flwyddyn. Yr oedd grant bychan eleni wedi talu am staffio ac adnoddau ychwanegol, a llwyddodd Cyngor Dinas Casnewydd i benodi Swyddog Cyswllt Teulu i weithio’n benodol gyda phlant sy’n dewis cael eu haddysgu gartref, a 2 ddiwrnod ychwanegol am swydd Swyddog Lles Addysg, oedd yn golygu fod modd ymwneud yn amlach â’r teuluoedd. Yr oedd hyn yn cynnwys trefnu gweithgareddau gr?p i deuluoedd oedd wedi gofyn am gefnogaeth emosiynol, a gwybodaeth am y celfyddydau mynegiannol yn y cwricwlwm fel cerddoriaeth a drama, ynghyd a gweithgareddau gwyddoniaeth a chyngor am yrfaoedd. Cynhaliwyd cyfres o ddyddiau lles a gwyddoniaeth, digwyddiadau gyda thîm y Dreigiau, a digwyddiad gyrfaoedd i’r dysgwyr h?n drafod eu dyheadau ôl-16.

 

-   Faint o blant sy’n cael eu haddysgu gartref? A sawl enghraifft o wahardd sydd yn system addysg CDC?

 

Roeddyn anodd gwybod union nifer y sawl sy’n cael eu haddysgu gartref oherwydd y trosiant yn niferoedd y bobl ifanc. Yr oedd yn ymddangos fod rhai pobl ifanc yn cael eu haddysgu gartref am gyfnod byrrach ac yna’n dychwelyd i’r ysgol, yn ogystal â phobl ifanc oedd yn yr ysgol ac yna a adawodd. Gwyddys fod 185 o blant oedd yn cael eu haddysgu gartref ar 30 Medi, ond nid y  plant hynny o raid oedd yr un 185 a gofnodwyd yn y cyfrifiad ym mis Ionawr eleni. 

 

Yn dilyn COVID, nodwyd newid yn ymddygiad pobl ifanc. Bu dychwelyd i’r ysgol ffurfiol a’r cyfyngiadau oed dyn anorfod yn sgil hyn yn anodd i rai pobl ifanc reoli. Yr oedd angen cyfuniad o gefnogaeth, sgyrsiau unswydd, a chefnogaeth ychwanegol gan athrawon ymgynghorol i ymdopi â hyn. Yr oedd amser heriol o’n blaenau, a bydd angen mynd i’r afael a diffyg cymdeithasu a diffyg ffiniau yn y cartref. Mae disgyblion a waherddir yn mynychu’r uned cyfeirio disgyblion lle maent yn derbyn cefnogaeth arbenigol megis dosbarthiadau rheoli dicter, gwersi ymwybyddiaeth ofalgar, etc. Fel rhiant corfforaethol, rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd sicrhau dysgu cadarn fel bod y disgyblion hyn yn cael y deilliannau academaidd gorau.

 

-Mewn ymateb i fesuraucochyr holodd y Cadeirydd amdanynt, dywedodd y Pennaeth Addysg y byddai’r adolygiad o ystafelloedd tawelu wedi ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2022. Y rheswm dros yr oedi oedd yr angen am gefnogaeth Iechyd a Diogelwch er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael eu defnyddio’n iawn. Bu oedi cyn rhoi peth hyfforddiant, ond cafodd hyn ei gomisiynu allan i rai meysydd er mwyn dwyn baich y dasg hon oddi ar ysgwyddau’r tîm iechyd a diogelwch.

 

-Mewn ymateb i’r dangosydd coch am ddatblygu strategaeth i drosi grwpiau bregus, esboniodd y Pennaeth Addysg fod Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda lleoliadau heb fod yn rhai’r wladwriaeth, megis meithrinfeydd preifat. Nid oes modd i ni fynnu eu bod yn mynychu sesiynau dysgu proffesiynol a chydweithredu, yn enwedig gan eu bod hwythau hefyd wedi dioddef problemau staffio yn ystod y pandemig. Wrth gwrs, fe fyddai gan y meithrinfeydd o hyd ddyletswydd o ofal, a rheidrwydd i fynd ar gyrsiau statudol megis Diogelu, felly byddant yn blaenoriaethu hynny. Mae’n debyg y bydd y targed hwn yn cael ei oedi tan y Cynllun Gwasanaeth nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelod Cabinet am fod yn bresennol ac ateb cwestiynau’r Pwyllgor Craffu. 

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ei diolch hithau a’i chanmoliaeth i’r holl swyddogion addysg a’r staff dysgu ledled Casnewydd fam eu gwaith caled ar gyflwyno targedau. Ar waethaf yr amgylchiadau hynod anodd, dangosodd y Gwasanaethau Addysg wir arweiniad, a buont yn cefnogi ac yn cynnal ysgolion yn y cyfnod hwn.

 

Dogfennau ategol: