Agenda item

Adolygiad Fframwaith Moesegol

Cofnodion:

Atgoffodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio’r pwyllgor o'r adolygiad annibynnol a grybwyllwyd yn flaenorol gan CLlLC o'r Fframwaith Moesegol yng Nghymru gan Richard Penn, cyn yr etholiadau lleol chyn i’r ddeddfwriaeth newydd gael ei chyflwyno. Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor fod CLlLC yn ymwybodol bod y fframwaith gwreiddiol wedi bod ar waith ers 2006 ac nad oedd wedi'i ddiwygio ers peth amser, ac roedd yr amgylchiadau presennol yn cynnig cyfle i adolygu hyn a phenderfynu a oedd yn dal yn addas i'r diben.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor fod yr adolygiad hwn wedi'i gyhoeddi'n llawn a'i fod yn cael ei ystyried gan y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol.  Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor y byddai'r model ar gyfer y Cod Ymddygiad yn newid cyn mis Mai 2022 yn barod ar gyfer y Cynghorwyr Cymuned a Dinas newydd.  Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y pwyllgor nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol ond bod rhywfaint o fireinio a chryfhau darpariaethau, yn enwedig mewn perthynas â chydraddoldeb. 

 

Tynnodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio sylw at y newidiadau posibl sydd i'w gwneud i'r drefn orfodi.  Atgoffodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio'r pwyllgor fod yn rhaid i bob cwyn fynd at yr Ombwdsmon cyn iddynt gael eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau.  Nododd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod y broses hon wedi cael beirniadaeth gan mai dim ond ychydig sy'n cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau.  Atgoffodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio'r pwyllgor, er y gall y Pwyllgor Safonau ymdrin â chwynion lefel isel heb fynd at yr Ombwdsmon, nad oes gan y Pwyllgor Safonau unrhyw bwerau i gosbi heb atgyfeiriad yr Ombwdsmon.  Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor mai'r awgrym oedd y byddai rôl ehangach yn y dyfodol i Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau o ran ymchwiliadau ac ymdrin â chwynion ar lefel leol. 

 

Cwestiynau:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Wilcox a fyddai goblygiadau o ran costau i gynghorau, beth oedd y goblygiadau i Swyddogion Monitro, ac a fyddai hyn yn symud mwy o gyfrifoldeb i awdurdodau lleol. 

 

·Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y Pwyllgor nad oedd darpariaeth gyllidebol yn cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer hyn a byddai'n rhaid dod o hyd iddi o fewn yr adnoddau presennol.  Teimlai Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio fod goblygiadau sylweddol iddo'i hun a'r Dirprwy Swyddog Monitro heb unrhyw adnoddau ychwanegol. 

·Teimlai Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio nad yw hyn yn achos o Lywodraeth Cymru yn symud cyfrifoldeb gan fod llawer o Bwyllgorau Safonau wedi gwneud y sylw hwn yn ystod yr ymgynghoriad, lle'r oeddent yn gofyn am fwy o b?er ac yn teimlo bod yr Ombwdsmon yn gwneud gormod, ond beth bynnag, fe fyddai yna oblygiadau o ran adnoddau.

·Gofynnodd y Cynghorydd Wilcox a ddylid anfon llythyr gan y Cyngor i nodi'r goblygiadau hyn o ran adnoddau. 

·Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio wrth y pwyllgor nad ymgynghorwyd â hwy gan mai adroddiad gwybodaeth yn unig ydoedd ac roedd hyn yn seiliedig ar ddatganiad a wnaed gan y gweinidog.  Hysbysodd Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio'r pwyllgor am yr addewid a wnaed i ymgynghori ddigwydd pe baent yn penderfynu bwrw ymlaen a phe bai newidiadau radical i'w gwneud, gellid cyflwyno sylwadau ond nid oedd dim pellach i'w wneud ar hyn o bryd. 

·Gofynnodd y Cynghorydd Wilcox am i hyn gael ei nodi a'i gyflwyno ei hun i Mrs Nurton.

Dogfennau ategol: