Gofynnodd y Pennaeth Cyllid i eitem 11 o Adroddiad
Archwilio Datganiadau Ariannol 2020/2021 gael ei chynnwys yn yr
eitem hon.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y byddai ei gydweithiwr
Mark Howcroft (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) yn mynd trwy gyflwyniad
7b i roi trosolwg o'r cyfrifon. Byddai Rheolwr Archwilio Cymru yn
mynd drwy’r adroddiad ar Safon Archwilio Ryngwladol 260, sef
barn Archwilio Cymru ar y cyfrifon.
Yna, i
gloi, dychwelir at eitem 7 gan fod yr adroddiad yn dangos ymatebion
y timau i'r materion a nodwyd yn yr adroddiad ar Safon Archwilio
Ryngwladol 260 a rhestr o gamddatganiadau a nodwyd ac a
gywirwyd.
Prif Bwyntiau
- Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod y cyflwyniad yn
egluro’r sefyllfa gryno gan y cafodd y gyfres ddrafft o
gyfrifon eu hawdurdodi i’w cyhoeddi ar 2 Gorffennaf 2021
– dyddiad a gafodd ei ohirio oherwydd COVID-19 a salwch
staff. Cyhoeddwyd yr hysbysiadau angenrheidiol ar y wefan yn
egluro'r rheswm dros yr oedi, fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth.
Cafodd y cyfrifon eu harddangos i’r cyhoedd rhwng 26
Gorffennaf 2021 a 20 Awst 2021 heb unrhyw ymatebion.
- Roedd papur ar wahân y cyfeiriwyd ato ar ddechrau eitem
7 yn manylu ar faint o ymholiadau a godwyd mewn perthynas â'r
cyflwyniadau cyfrif drafft ac roedd hwn yn ymdrin â'r pedwar
pwynt a godwyd yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf gan y
Cadeirydd.
- Roedd y cyfrifon terfynol yn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed
yn ystod yr ymarfer hwnnw ac ar y cyd â'r adolygiad gan
Archwilio Cymru, y manylwyd ar ei ganfyddiadau yn yr adroddiad ar
Safon Archwilio Ryngwladol 260 a oedd i'w ystyried ar ddiwedd y
cyflwyniad.
- Daeth Archwilio Cymru i'r casgliad bod y cyfrifon yn ddarlun
cywir a theg.
- Gofynnwyd i'r pwyllgor gymeradwyo'r cyfrifon terfynol, a
fyddai wedyn yn arwain at eu hardystio gan y Pennaeth Cyllid a'r
Cadeirydd.
- Byddai copi newydd yn cael ei anfon at y cadeirydd dros dro
i'w lofnodi.
- Roedd pum datganiad allweddol yn hanner cyntaf y ddogfen, sef
dogfen graidd y Cyngor, ac roedd yr incwm a’r gwariant yn dal
holl weithgareddau refeniw’r Cyngor. Roedd y dadansoddiad o
wariant cyllid yn bwysig gan fod yr aelodau wedi derbyn gwybodaeth
reoli yn ystod y flwyddyn o ran perfformiad yn erbyn y gyllideb a
gallai hyn fod yn wahanol i'r Datganiad Incwm a Gwariant
Cynhwysfawr. Eglurwyd bod y dogfennau technegol hyn yn cynnwys
pethau fel symudiadau asedau sefydlog ac ati, a fyddai’n
digwydd ar ôl y monitro chwarterol, fel bod y dadansoddiad o
wariant cyllid yn cael ei gysoni rhwng y ddwy ddogfen.
- Y Datganiad Symudiadau mewn Cronfeydd wrth Gefn yw iechyd y
sefydliad i ymdrin ag argyfyngau a digwyddiadau
annisgwyl.
- Roedd y fantolen ac agweddau asedau sefydlog yn bwynt
allweddol gan fod gan y Cyngor lawer o asedau y byddai'r archwilwyr
yn edrych arnynt oherwydd arwyddocâd y ffigurau dan
sylw.
- Roedd y Datganiad Llif Arian yn dangos y symudiadau mewn arian
parod a chyfwerth ag arian parod yr awdurdod yn ystod y
flwyddyn.
Y neges
allweddol oedd bod tanwariant o £40 miliwn fel yr adroddwyd
i’r Cabinet ym mis Mehefin 2021 ac nid oedd hyn wedi newid
o’r ffigwr a adroddwyd i’r pwyllgor ym mis Gorffennaf
2021. Yr un oedd yr achosion o ran maint y derbyniadau untro a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, y
tanwariant ar draws yr holl wasanaethau mewn perthynas â
chostau gweinyddu cyffredinol a darparu gwasanaethau oherwydd
newidiadau mewn arferion gwaith, a pheidio â chyflawni
gwasanaethau arferol / wedi’u cynllunio gan nad oedd eu
hangen neu nad oedd modd eu cyflawni oherwydd bod gwaith ymateb i
COVID-19 yn cael ei flaenoriaethu. Yr oedd hefyd oherwydd
tanwariant yn ei gyllideb
refeniw wrth gefn gyffredinol, cynllun gostyngiadau’r dreth
gyngor ac incwm y dreth gyngor.
- Mae'r Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr yn dangos diffyg
o £8.8 miliwn ar ddarpariaeth gwasanaethau.
- Nid oedd y Rhaglen Gwariant Cyfalaf wedi newid ers mis
Gorffennaf 2021 a’r canlyniad oedd gwariant o £26
miliwn a chafodd £7.1 miliwn ei gario ymlaen i’r
flwyddyn ariannol gyfredol.
- Symudwyd y tanwariant refeniw o £14 miliwn i’r
cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn ac roedd gan y symudiadau
yn y cronfeydd wrth gefn swm net o £21 miliwn. Cafodd
tanwariant ysgolion o £8 miliwn ei drosglwyddo i gronfa wrth
gefn ysgolion, a oedd yn sefyllfa artiffisial oherwydd, ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol, roedd Llywodraeth Cymru yn darparu adnoddau
ychwanegol i ysgolion ar gyfer gwaith cynnal a chadw ysgolion ac
ati.
- Trosglwyddwyd y tanwariant o £14 miliwn i gyfres o
gronfeydd wrth gefn.
- Roedd balans defnyddiadwy wrth
gefn o £108 miliwn wedi'i rannu rhwng balans Cronfa'r Cyngor
o £6.5 miliwn, balansau a ddelir
gan ysgolion (£10 miliwn) a chronfeydd wrth gefn wedi'u
clustnodi. O'r £85 miliwn, roedd £42 miliwn yn rhan o'r
gronfa menter cyllid preifat wrth gefn ac roedd yn adlewyrchu'r
ffaith bod rhwymedigaethau parhaus.
- Roedd derbyniadau wedi'u cadw pryd bynnag y mae'r Cyngor yn
gwerthu unrhyw beth, ac roedd yr arian hwnnw'n cael ei glustnodi i
gronfa benodol i'w ddefnyddio ar gyfer buddsoddi mewn asedau yn y
dyfodol a chynlluniau dygwyd ymlaen o dan y rhaglen
gyfalaf.
- Caniatawyd i'r Cyngor roi arian o'r neilltu ar gyfer
rhwymedigaethau benthyciadau lle'r oedd ansicrwydd ynghylch
amseriad a symiau.
Daeth y
Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i'r casgliad ei bod wedi bod yn
flwyddyn heriol a'i bod yn foddhaol derbyn dyfarniad cywir a theg
er gwaethaf newidiadau mewn personél a llai o gapasiti tîm. Parhaodd COVID-19 i chwarae
rhan yn y cyflwyniad cyfrifon o ran cymhlethdodau posibl gan fod
llawer o arian wedi dod i law yn hwyr yn y flwyddyn ariannol mewn
perthynas â hawliadau COVID-19. Roedd trefniadau asiantaeth,
lle trefnwyd arian a gwasanaethau ar ran Llywodraeth Cymru, yn
golygu dangos y cyfrifon hynny mewn ffordd wahanol.
- Bu newidiadau gweddol sylweddol hefyd yng nghyflwyniad y
cyfrifon eleni ac ailbrisiwyd y
portffolio ysgolion fel rhan o'r gwaith asedau
sefydlog.
- Codwyd pwynt a godwyd gan yr archwilwyr o ran cyflwyniadau
benthyciadau di-log gan Lywodraeth Cymru ac roedd y trefniant hwn
wedi'i ddiwygio ac roeddent bellach yn cydymffurfio â
chaffaeliadau syml.
- Mewn perthynas â benthyciadau di-log, ehangwyd y defnydd
o gymaryddion gwerth teg i roi mwy o ddealltwriaeth i'r gynulleidfa
o'r rhwymedigaethau ariannol yr oedd y Cyngor yn eu
hwynebu.
Crëwyd ased wrth gefn newydd i adlewyrchu'r
rhwymedigaethau dyled gofal cymdeithasol hynny sy'n
ddyledus.
Roedd trafodion
pensiwn Cyngor Dinas Casnewydd a Thrafnidiaeth Casnewydd bellach
wedi’u cyfuno.
Mewn
perthynas â newidiadau adrodd ar bensiynau, roedd
penderfyniad wedi ei wneud gan aelodau Cyngor Dinas Casnewydd (Medi
2020) i gefnogi Trafnidiaeth Casnewydd a’i heriau ariannol. O
ganlyniad i hyn, roedd Trafnidiaeth Casnewydd wedi dangos ei
rhwymedigaeth diffyg pensiwn yn ei chyfrifon. Paratowyd y cyfrifon
drafft ar y sail bod manylion y cytundeb eto i'w cyrraedd, ond
roedd darpariaethau'n cydnabod newid tebygol yn y
rhwymedigaeth. Roedd
cydnabyddiaeth ei bod yn debygol y byddai rhwymedigaeth y trefniant
hwnnw'n newid a rhagwelwyd hynny’n briodol. Wrth archwilio
Trafnidiaeth Casnewydd,
roedd
archwilwyr y sefydliad yn ymholi am statws Trafnidiaeth Casnewydd
fel corff derbyniedig o’i gymharu â bwriad gwreiddiol y
cytundeb trosglwyddo, a chan fod awydd eisoes i helpu Trafnidiaeth
Casnewydd trwy roi cymorth ariannol, penderfynwyd y gellid
defnyddio’r cytundeb gwreiddiol yn lle dyfeisio cytundeb
newydd. Felly, mae cofnodion ar gyfer pensiynau wedi'u
cyfuno.
Roedd
rhai newidiadau ynghylch lle byddai Trafnidiaeth Casnewydd, yn
hanesyddol, wedi bod yn gyfrifol am dalu'r cyfraniadau i'r gronfa
bensiwn a oedd yn eiddo iddi ar ran ei haelodau. Y Cyngor sydd
â'r prif gyfrifoldeb bellach ac mae gan Drafnidiaeth
Casnewydd rwymedigaeth dan gontract i'r Cyngor i'n talu am y costau
hynny yn lle.
Nodwyd
hefyd bod mwy o ddefnydd o amcangyfrifon.
Byddai’r gwersi a ddysgwyd yn cael eu hailgyflwyno yn
ystod cyfarfod Ionawr 2022 gan eu bod yn fwy perthnasol i’r
archwiliad nesaf.
Gofynnodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i'r aelodau edrych ar
eitem 7a, a oedd yn ymateb i’r adroddiad ar Safon Archwilio
Ryngwladol 260 ac awdurdodiad y Datganiad o Gyfrifon.
Cwestiynau:
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jordan at dudalen 122, ynghylch
cyfanswm y gwariant, lle bu naid sylweddol yn 2021/2022 o
£26.2 miliwn i £100.2 miliwn a £62 miliwn.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod hyn yn adlewyrchu lefel
y gwariant a wariwyd yn hanesyddol ar gyfalaf a bod pethau fel
llithriant wedi symud costau
ymlaen.
Gwnaeth
y Cynghorydd Jordan sylw am dystysgrif y Pennaeth Cyllid ar dudalen
127 a holodd am y term Gr?p Dinas Casnewydd, a chadarnhaodd y
Pennaeth Cyllid Cynorthwyol mai Cyngor Dinas Casnewydd a
Thrafnidiaeth Casnewydd oedd hwn.
Gwnaeth
y Cynghorydd Jordan sylw am dudalen 140 mewn perthynas â Cham
1 2020/2021, lle mai nifer y cwynion wedi'i nodi fel 1,129 ond
roedd nifer y cwynion yn 221 yn adroddiad y Rheolwr Datrys
Cwynion.
Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol mai gwybodaeth oedd hon a
ddarparwyd ar gyfer 2020/2021 ac, os oedd gwahaniaeth, byddai hyn
yn cael ei wirio a'i gadarnhau i'r pwyllgor.
Gwnaeth
y Cynghorydd Thomas sylw am y mater pensiwn mewn perthynas â
Bws Casnewydd a dywedodd ei fod yn fodlon ei fod wedi'i
ddatrys.
Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am eu holl waith caled a
gofynnodd a oedd unrhyw grantiau'n cael eu hadfachu gan Lywodraeth
Cymru.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid nad oedd unrhyw
adfachu.
Eglurodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y cwestiwn cynharach ar
Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol 7.4 yn ymwneud â
cheisiadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn hytrach na chwynion a
chanmoliaeth a chan eu bod yn eitemau ar wahân roedd y
ffigurau'n wahanol.
Adroddiad Archwilio Datganiadau Ariannol
2020/2021
Cyflwynodd rheolwr Archwilio Cymru yr adroddiad i'r
pwyllgor.
Prif bwyntiau:
- Roedd Archwilio Cymru yn cynnig barn archwilio ddiamod ar y
datganiadau ariannol, a oedd yn newyddion da i Gyngor Dinas
Casnewydd.
- Roedd ansicrwydd prisio sylweddol ynghylch prisio asedau
adeiladau ac eiddo buddsoddi eleni oherwydd pandemig
COVID-19.
- Mewn perthynas â'r dystysgrif archwilio, codwyd
paragraff pwysleisio mater.
- Mae nifer o gywiriadau wedi’u gwneud o ganlyniad
i’r broses archwilio, fel y nodir yn Atodiad 3.
- Roedd rhai camddatganiadau nas cywirwyd nad yw'r Cyngor wedi'u
cywiro yn y cyfrifon terfynol ym mharagraff 15, a oedd yn fân
eu gwerth.
- Ym mharagraff 18, roedd tri mater pellach: cyfuno darpariaeth
pensiwn Trafnidiaeth Casnewydd i gyfrifon endid sengl Cyngor
Casnewydd.
- Roedd hwn yn ymarfer technegol iawn gyda llawer o waith i'w
wneud.
- Cynhaliwyd adolygiad o ddatganiadau o fuddiant aelodau, a
thynnwyd sylw at y ffaith nad oedd naw aelod, o’r 50 o
aelodau, wedi dychwelyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant wedi’u
diweddaru ar gyfer y flwyddyn.
- Cafwyd gwaith dilynol ar fater a godwyd y llynedd ar brofi
credydwyr yn y cyfrif, lle cronnwyd nifer o eitemau sampl yn
anghywir yn y flwyddyn ariannol, ac eleni cynyddwyd lefel y profion
a chanfuwyd un eitem arall a oedd wedi'i chronni'n
anghywir.
Dywedodd Rheolwr Archwilio Cymru y bwriedid rhoi barn ddiamod
ar y set hon o ddatganiadau ariannol a diolchwyd i'r holl staff dan
sylw, a oedd yn hynod ymroddedig i'r dasg.
Dywedodd y Cadeirydd, pan adroddwyd y datganiadau o fuddiant y
llynedd, y byddai templed neu weithdrefn yn cael ei chyflwyno a
fyddai'n helpu.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod trefn wedi'i chyflwyno ond nad
oedd yn gweithio ac y byddai'r Pennaeth Cyllid yn ysgrifennu at yr
aelodau nad oedd yn datgelu eu datganiadau i'w hatgoffa o
bwysigrwydd cyflwyno'r datganiadau hyn. Byddai'r Adran Gyllid yn
gweithio gyda'r Gwasanaethau Democrataidd i annog aelodau i
gwblhau'r ddau ddatganiad o fuddiant ar yr un pryd.
Datganiad o Gyfrifon
Dychwelodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol at Eitem 7, y
Datganiad o Gyfrifon, a chyflwynodd yr adroddiad eglurhaol i'r
pwyllgor.
Prif Bwyntiau:
- Atodiad A ac Atodiad B oedd swmp yr adroddiad.
- Roedd adran ar y gwersi cychwynnol a ddysgwyd ond byddai
gwersi manylach a ddysgwyd yn dychwelyd i’r pwyllgor ym mis
Ionawr 2022.
- Roedd Atodiad A yn cyfeirio at effaith y pandemig a chwaraeodd
ran yng ngallu'r tîm i weithio drwy'r broses o gau cyfrifon
ac roedd hyn yn amlwg yn yr effeithiau ar adnoddau o fewn y
tîm.
- Roedd y tanwariant o £40 miliwn hefyd yn ychwanegu amser
at y broses gan fod angen penderfynu sut y byddai'r tanwariant hwn
yn cael ei ddyrannu ar draws y cronfeydd wrth gefn a
farciwyd.
- Bu oedi gyda'r cyfrifon drafft, ond diolchodd y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol i'r tîm, a oedd yn gallu cwblhau'r
cyfrifon gyda dim ond ychydig o oedi.
- Nodwyd 16 maes lle roedd angen cywiriadau ond roedd hyn yn
gyson â'r blynyddoedd blaenorol.
- Manylwyd ar y camddatganiadau nas cywirwyd ar dudalen 93 gydag
esboniadau'n cael eu cynnwys ynghylch pam y digwyddodd hynny. Roedd
pensiwn Trafnidiaeth Casnewydd o ganlyniad i wahaniaethau amseru
rhwng y cyfrifon a oedd yn cael eu cynhyrchu ar ffurf ddrafft
a’r penderfyniad a wnaed ynghylch sut y byddai’r
cwmni’n cael ei gefnogi.
- Y prif reswm dros beidio â chywiro'r camddatganiadau
hynny yw'r effaith ar falans y gronfa
gyffredinol, a byddai angen symud y symiau hyn i'r cronfeydd wrth
gefn a glustnodwyd ac nad oedd hynny'n ymarferol. Nodwyd yr hyn y
gellid ei wneud i fynd i'r afael â hyn y flwyddyn nesaf yn yr
adran gwersi a ddysgwyd.
- O ran datganiadau'r aelodau, o’r rhai a dderbyniwyd, nid
oedd nifer ohonynt o ansawdd digonol. Roedd yn hollbwysig cael
cydymffurfedd ac ysgrifennir at yr
aelodau yngl?n â'r mater hwn fel y crybwyllwyd
eisoes.
- O ran camddatganiadau wedi'u cywiro, mae'r Adran Gyllid wedi
ychwanegu sylwadau ynghylch pam mae'r rhain wedi
digwydd.
- Yn Atodiad A, yr adran gwersi a ddysgwyd, nodwyd pedwar yr
oedd angen eu hadolygu, sef y broses ar gyfer ad-daliadau mewnol, y
broses ar gyfer cymeradwyo cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd,
a’r rhai sy’n codi fel rhan o’r broses archwilio,
ac edrychir ar y rhain i gywiro’r camddatganiadau
hyn.
- Mewn perthynas â darpariaethau, roedd dealltwriaeth
dechnegol yr oedd angen ei gwella.
Gofynnodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i'r pwyllgor roi ei
awdurdod ac argymell cymeradwyo'r cyfrifon ac felly byddai'r
Cadeirydd a'r Pennaeth Cyllid yn gallu cymeradwyo'r cyfrifon a'r
Llythyr Sylwadau i'w cyflwyno i Archwilio Cymru.
Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod angen i'r pwyllgor
gynnal pleidlais ar p'un a ddylid cymeradwyo'r cyfrifon i'w
cymeradwyo ynghyd â'r Llythyr Sylwadau. Roedd angen gwneud
hyn yn electronig, felly byddai copi o'r cyfrifon yn cael ei anfon
at yr aelodau er mwyn iddynt gymeradwyo'r cyfrifon a'r Llythyr
Sylwadau a byddai angen i'r aelodau ddarparu eu llofnod
electronig.
Os na
ellid cwblhau hyn, gallai aelodau anfon e-bost i ddweud eu bod wedi
cymeradwyo'r cyfrifon yn lle llofnodi'r ddogfen yn
bersonol.
Roedd
angen gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan fod y cyfrifon i'w
hadolygu a'u cymeradwyo gan yr Archwilydd Cyffredinol ddydd Mawrth
nesaf.
Cytunwyd:
Cymeradwyodd y pwyllgor y cyfrifon a chytunwyd y byddai e-bost
yn cael ei anfon at Gadeirydd y pwyllgor i'w lofnodi