Cofnodion:
Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion nad oedd yr adroddiad ond yn adlewyrchu'r chwe mis diwethaf, gan dynnu sylw at y ffaith eu bod yn dal i ddelio â'r pandemig. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod yr adroddiad wedi galluogi iddynt ganolbwyntio o'r newydd a threfnu ffrydiau gwaith yn ôl blaenoriaeth i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion yn sgil y pandemig.
Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod nifer yr atgyfeiriadau wedi parhau'n gyson, ond bod natur yr atgyfeiriadau'n fwy cymhleth. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw at gynnydd yng ngweithgarwch y Gwasanaethau Oedolion ar safleoedd ysbyty, yn benodol yn Ysbyty Prifysgol y Faenor, ac at y ffaith bod nifer y staff sydd ar gael yn yr ysbytai ac mewn gofal cymdeithasol yn gyffredinol wedi gostwng, a bod diffyg gofal cartref wedi arafu prosesau.
Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw at gynaliadwyedd ariannol cartrefi gofal lle'r oedd perygl i ddarparwyr eraill gau, a pherygl o brinder staff. Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sicrwydd i'r pwyllgor eu bod wedi ymroi i gydweithio'n greadigol â darparwyr i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i allu aros ar agor.
Cwestiynau:
Gofynnodd y pwyllgor:
·
Sut
mae'r Gwasanaethau Oedolion
wedi defnyddio llais y
defnyddiwr gwasanaeth, ac a welwyd
unrhyw newidiadau yn y
llais hwnnw?
Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion sylw at enghraifft lle'r oedd pobl ifanc ag anableddau dysgu a chorfforol yn byw'n annibynnol, a'r gwaith a wnaed i glywed eu lleisiau er mwyn gwella eu profiad wrth ddysgu a meithrin sgiliau. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod hi'n bwysig ymgynghori ag unigolion ym mhob cam er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau ar eu cyfer, waeth beth fo'r canlyniad hwnnw.
·
Aoes cynllun B os
bydd unrhyw
ddarparwyr pellach yn cau?
Nododd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y
gallai problemau staffio o
fewn gofal
cartref effeithio ar y
pecynnau y gall darparwyr eu
cynnig, ac roedd gwaith
ar y gweill
i sicrhau
bod gan bawb yr isafswm a oedd yn angenrheidiol er mwyn
parhau i
weithio, ac i atal unrhyw broblemau
yn y dyfodol.
·
Arôl i'r darparydd
gau ac ailgartrefu'r preswylwyr, a gaiff
teuluoedd eu cynnwys yn y trafodaethau
hyn?
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod teuluoedd yn cael eu cynnwys, a'u bod yn gweld hynny fel cyfle i ailystyried yr hyn a fyddai orau i'r unigolyn dan sylw. Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod hi'n ffodus bod pob un o'r 27 o breswylwyr wedi gallu cael eu symud i leoliad newydd a oedd yn ffafriol iddynt hwy a'u teuluoedd.
·
Ayw cwmnïau'n gallu
helpu pobl
ag anableddau i gael mynediad i'r
gweithlu?
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod cyfleoedd dydd ar gael a oedd yn rhan o'r gwaith o gynllunio gofal i unigolion, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw'r rhain i bobl ag anableddau dysgu a chorfforol. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion sylw at bwysigrwydd cydnabod buddiannau unigolion a sicrhau eu bod wedi'u cefnogi'n llawn i wneud hynny'n rhan o'r pecyn. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, er bod amrywiaeth o gyfleoedd ar draws Casnewydd, mae effeithiau'r pandemig yn dal yn amlwg.
·
Pa mor
bryderus oedd Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion ar
hyn o bryd
ynghylch heriau'r gaeaf
nesaf?
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei bod hi'n argyfwng o ran sefydlogrwydd gwasanaethau darparwyr, a bod hyn yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau oedolion. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion fod yn rhaid gwneud defnydd doeth o adnoddau, ac ystyried dulliau creadigol o recriwtio, cadw a bodloni anghenion staff, ond cydnabu ei bod hi'n sefyllfa fregus.
Dywedodd
yr Aelod
Cabinet wrth y pwyllgor fod y
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol eisoes
yn edrych
ar ddata ac
yn ystyried
cynyddu cyllid, gwella
ansawdd gwasanaethau a gofal a
mesurau eraill. Dywedodd
yr Aelod
Cabinet wrth y pwyllgor ei bod
hi'n bosibl
y byddai Llywodraeth Cymru yn
gwneud cyhoeddiad ynghylch
cyllid.
·
Sut y
gellid ymdrin â gofal
cymdeithasol yn y presennol, a
beth y gellid ei wneud i ddatrys y sefyllfa
anodd hon?
Cydnabu’r Aelod Cabinet ei bod hi'n sefyllfa anodd, gan nad y gallu i gyflogi staff yn unig oedd y broblem, a bod heintiau Covid yn effeithio ar argaeledd staff. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet y gobaith y byddai Llywodraeth Cymru'n gwneud cyhoeddiad, a thynnodd sylw at bwysigrwydd pecynnau cyflog i ddenu staff i'r sector gofal.
·
Pa mor
debygol yw
hi y byddwn yn cyrraedd y
targed o ran y benodeiaeth?
Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion
fod hyn
yn weithredol ac yn
effeithiol ar gyfer dinasyddion Casnewydd.
Cydnabu Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion fod gwaith i'w wneud o
hyd gan
fod yr
holl ymdrechion yn
ystod y pandemig wedi'u
cyfeirio at gefnogi gwasanaethau
gofal, ond
gan eu bod
bellach yn
gallu gwneud hynny,
roeddent yn
creu opsiynau ac yn
gwneud mwy
o gynnydd yn hyn o beth.
· A fyddai’r targed ar gyfer datblygu gwasanaethau ailalluogi a dementia yn cael ei gyrraedd?
Teimlai
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y
byddai hwn
yn darged
anos i'w
gyrraedd gan eu bod wedi gorfod
addasu llawer o wasanaethau
ailalluogi yn wasanaethau
ailalluogi i bobl â
dementia. Er y byddai hyn yn anodd i'w gyflawni, gobeithiai
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion y
byddai'r targed hwn yn wyrdd.
·
A
fyddai dyddiad gweithredu'r
Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
yn cael
ei fodloni?
Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion
wrth y pwyllgor fod
hyn yn
cael ei
ohirio o hyd, a'u bod
yn disgwyl
derbyn cod ymarfer, ac i'r
ymgynghoriad ddod i ben.
Sicrhaodd Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion y pwyllgor y byddai'r
amser hwn
yn cael
ei ddefnyddio i
sicrhau bod staff yn derbyn hyfforddiant gloywi
ar y ddeddfwriaeth.
·
Aydynt ar
y trywydd iawn i greu gweithgor
i adolygu
swyddi allweddol a disgrifiadau allweddol
ar draws y gwasanaethau cymunedol
i oedolion,
a chwblhau hynny erbyn mis Mawrth
2022?
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion na chafwyd digon o gapasiti i ganolbwyntio ar hyn fel y cynlluniwyd, ond bod y swyddi'n cael eu hadolygu wrth iddynt ddod i'r amlwg, fesul dipyn, yn lle bod adolygu'r cyfan gyda'i gilydd, ac er nad oeddent ond wedi cwblhau 20% hyd yma, roeddent ar y trywydd iawn i gyflawni hyn mewn pryd.
· A fyddai gwasanaeth penodi rhanbarthol drwy gydweithio ac awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn cael ei ddatblygu erbyn 2022?
Mynegodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion ei fod yn gobeithio y byddai hynny'n digwydd.
· Gofynnodd y pwyllgor a fyddai hyn yn cael ei wneud yn rhanbarthol, gydag unigolyn neu dîm o bobl yn arwain.
Teimlai
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion
fod angen
i bobl
leol gynnal
y benodeiaeth er mwyn iddi fod yn hyblyg i drigolion. Roedd
hi'n bosibl
mai unigolyn fyddai'n
cynnal y benodeiaeth yn y pen
draw, felly nododd Pennaeth y Gwasanaethau
Oedolion ei
bod hi'n hollbwysig pennu
pwy oedd
â'r sgiliau a sut y
gellid ei
rheoli'n lleol.
· Sut yr oedd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion gweld cynnydd yn parhau o ran eitem 1 ar dudalen 27?
Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion eu bod ar hyn o bryd yn cael eu hachredu, ac ar ôl derbyn yr achrediad, gellid ei ymwreiddio ar draws y gweithlu.
Dogfennau ategol: