Agenda item

Adolygiad Canol Blwyddyn - Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Cofnodion:

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at yr heriau a wynebir yn y ddau faes gwasanaeth gan weithluoedd yn y gwasanaethau cyhoeddus, iechyd a gofal cymdeithasol oherwydd y pandemig. Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol sylw at yr heriau o flaen gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac er nad oedd yr heriau hynny'n unigryw, roedd eu maint yn aruthrol ar drothwy'r gaeaf. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth aelodau'r pwyllgor am y pwysau ar y staff, a'r her o gadw a recriwtio staff, gan sicrhau'r aelodau mai problem drwy'r DU oedd hon, nid yng Nghasnewydd yn unig. Sicrhaodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y tanwariant a ragwelwyd yn yr adroddiadau gan esbonio mai amgylchiadau anarferol o fewn gofal cymdeithasol oedd wrth wraidd hyn. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod rhai materion ynghudd yn yr adroddiadau ar y gyllideb, fel problemau'n gysylltiedig â'r gweithlu gan fod llai o wariant ar staff, yn ogystal â'r ffaith nad oedd gofal cymdeithasol oedolion yn gallu cyflenwi rhai pecynnau gofal oherwydd y prinder hwnnw o staff. Byddai'r staff wedi costio swm sylweddol, gan olygu bod yr arbedion yn "drist ac anffodus". Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd fod amryw o grantiau Covid wedi cael eu derbyn oddi wrth Lywodraeth Cymru, gyda rhywfaint o'r gwariant hwnnw'n cael ei gymhwyso'n uniongyrchol yn ôl i Lywodraeth Cymru fesul mis, a chynlluniau i wario £3.5 miliwn o grantiau yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n cuddio problemau cyllidebu a chyllido.

Canolbwyntiodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr adroddiad Plant, gan nodi cynnydd yn y cysylltiadau â'r Gwasanaethau Plant, a oedd yn adlewyrchu'r anawsterau y mae pobl wedi'u profi yn y pandemig. Esboniodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cynnydd hwn mewn atgyfeiriadau yn rhoi mwy o bwysau ar y staff, a nododd fod natur yr atgyfeiriadau a wneir o natur fwyfwy cymhleth.

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y gwaith a oedd yn cael ei wneud gyda phlant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain, gan weithio mewn partneriaeth â Chaerdydd i ailgartrefu'r rhai a oedd yn cyrraedd Caint ac yn cael eu trosglwyddo o borthladdoedd, y darn o waith a oedd yn cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yfory. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod opsiynau gwirioneddol ar gael i Gasnewydd er mwyn gofalu am y gr?p hwn, ac y gallai gynnig gwasanaethau cadarnhaol i roi gofal da a chadarn ac ystyried amgylchiadau'r plant wrth gyrraedd.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y llwyddiant a welwyd gyda rhaglen MYST.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwaith adeiladu Fferm y Felin yn mynd rhagddo, gyda dyddiad cwblhau ym mis Ebrill, ac y byddai'r staff wedi'u hyfforddi'n llawn cyn yr agoriad.

Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd, teimlai Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod darpariaeth gwasanaeth wedi parhau, a bod gwaith wedi'i gyflawni er mwyn arloesi, a gobeithiai fod yr adroddiad yn dangos bod y Gwasanaethau Plant wedi gallu cyflenwi gwasanaethau'n effeithiol ac yn ddiogel, er gwaethaf y pandemig.

Cwestiynau:

Gofynnodd y pwyllgor:

           A gafwyd cyfyngiadau o ran cynnig cyflog cystadleuol?

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gyllideb yn achosi cyfyngiadau, ond teimlai fod cyflogau da yn cael eu cynnig o gymharu â'r awdurdodau cyfagos. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol mai recriwtio oedd y broblem.

           Pa gamau fyddai'n cael eu cymryd i osgoi tanwariant a sicrhau defnydd effeithiol o'r arian?

 

Teimlai Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol mai'r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau'r naill a'r llall fyddai cyflogi staff. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod cynlluniau ar waith i wella hyn, ond eu bod yn wynebu heriau sylweddol gan na ellid ond cynnig contractau tymor byr yn seiliedig ar gyllid grant.

Ailbwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod yr amgylchiadau'n anarferol, ac atgoffodd aelodau'r pwyllgor nad oedd targedau fyth yn cael eu cyrraedd yn llwyr. Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at y ffaith fod llawer o awdurdodau’n cynnig cymhellion i staff newydd wrth recriwtio, ac nes bod cydraddoldeb o ran cyflog, teimlai y byddai recriwtio i'r diwydiant gofal yn anodd.

 

           A allai Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol ymhelaethu ar achosion llys teulu a darpariaeth gwasanaethau plant, a sut y gellid gwella hynny.

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn rhaid gwneud newidiadau sylweddol i'r modd y cânt eu rheoli, a bod cyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno wedi achosi oedi yn rhai rhannau o'r llys teulu. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y rhai yn acíwt mewn cyfraith breifat yn hytrach na chyfraith gyhoeddus, ond eu bod yn pentyrru. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer o heriau a phroblemau y tu hwnt i'w rheolaeth, ond roeddent yn gweithio i wella ac ehangu mesurau ataliol fel y byddai llai o achosion yn gorfod cyrraedd y llys.

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol at y pwysau ar ddarpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, gan fod y gwaith yn ddi-ddiwedd. Ailbwysleisiodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol bwysigrwydd cydweithio â gwasanaethau ataliol, rheoli pwysau, a cheisio rhoi cefnogaeth fwy effeithiol i deuluoedd.

Tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at frwydrau iechyd meddwl plant ysgol, gan nodi ei fod yn broblem gynyddol a bod achosion yn ôl-gronni o'r herwydd.

 

           A oedd swyddi wedi cael eu hysbysebu?

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at yr hysbysebion helaeth a osodwyd gyda chefnogaeth yr adran AD, a nododd y gwaith a oedd ar y gweill i weld sut y gellid cydweithio â'r colegau er mwyn recriwtio. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod Cyngor Dinas Casnewydd yn rhan o Gofal Cymdeithasol Cymru: Gofalwn Cymru, a oedd yn gweithio i hyrwyddo gofal cymdeithasol fel maes da i weithio ynddo. Ychwanegodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod hefyd am gadw'r staff presennol drwy fod yn hyblyg ac anogol.

 

           A fyddai unrhyw danwariant yn mynd tuag at ofal a lles y staff?

 

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod LlC wedi gwneud taliadau i staff cyn Nadolig 2020. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn ystyried defnyddio arian grant i wella lles, fel goruchwyliaeth glinigol neu fyfyriol, a dywedodd wrth y pwyllgor fod y rhan fwyaf o'r arian grant yn amodol.

 

           Pa mor llwyddiannus fu’r hysbyseb i gynyddu’r gronfa o ofalwyr maeth a pha ffordd oedd y fwyaf llwyddiannus i ddenu gofalwr maeth?

 

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn rhan o Maethu Cymru, a oedd wedi cynnwys ymgyrch ar y teledu, ond eu bod hefyd wedi hysbysebu'n lleol. Teimlai Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol mai'r ffordd orau oedd ar dafod leferydd, a dywedodd fod y gefnogaeth a'r mân weithredoedd a wneir gan yr awdurdod yn allweddol er mwyn cadw gofalwyr maeth.

 

           Sut oedd Llais y Defnyddiwr Gwasanaeth wedi cael ei ddefnyddio gan yr oedolion a'r plant, ac a oedd unrhyw newidiadau wedi cael eu nodi yn sgil y llais hwnnw?

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y gwaith a wnaed gyda Barnardos i edrych ar rai agweddau, a oedd wedi cynnwys edrych ar y gwaith a wnaed yn gysylltiedig ag ecsploetio a'r rhyngwyneb rhwng gwasanaethau ataliol a statudol. Eglurodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y gwaith a wnaed yn gysylltiedig â'r broses amddiffyn plant, lle buont yn siarad â staff a chadeiryddion cynadleddau Amddiffyn Plant, y rhieni a'r plant a oedd yn ymwneud â'r systemau hynny. Yn sgil hyn cafodd gwersi eu dysgu, ac amlygwyd newidiadau yr oedd angen eu gweithredu, wedi'u' hysgogi gan y tîm a lleisiau plant a'u rhieni.

Tynnodd y Cyfarwyddwr Strategol hefyd at waith sy'n cael ei gyflawni i sicrhau na fydd mamau'n colli eu babanod ar enedigaeth.

 

           A yw'r maes gwasanaeth ar y trywydd iawn i gyrraedd targedau'r model ymateb i gamfanteisio ar blant, ac os ddim, beth yw'r risgiau posibl yn gysylltiedig â hynny?

 

Sicrhaodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y pwyllgor eu bod yn gweithio gyda phartneriaid a all gymhlethu'r sefyllfa. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol at bwysigrwydd cynnal model cyfarfodydd aml-asiantaeth a'r pecyn cymorth camfanteisio. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gweithiwr cymdeithasol camfanteisio wedi gwneud cryn wahaniaeth, gan rannu sgiliau a gwybodaeth ar draws y maes gwasanaeth. Eglurodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y statws ambr yn adlewyrchu'r realiti y byddai heriau bob amser yn codi. Roedd yn rhaid iddynt felly barhau i fod yn realistig, ond roedd y gwaith yr oeddent yn ei gyflawni ar y trywydd iawn.

 

           A fyddai targedau’n cael eu cyrraedd o ran archwilio cynaliadwyedd opsiynau am amddiffyniadau ymyrraeth gynnar o fewn swydd y timau atal erbyn mis Mawrth 2021.

 

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cyllid cychwynnol hyd at fis Mawrth 2020 ond ei fod wedi'i ymestyn ac felly byddai'n gallu gweithredu'r peilot drwy gydol 2021-22. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor mai ffynhonnell y cyllid hwn oedd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ac er ei fod yn cydnabod y llwyddiant a gafwyd yn ei sgil, nid oedd sicrwydd y byddai'r cyllid yn parhau. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod wedi gallu cyfleu'n glir fod yr hyb diogelu yn cynnwys presenoldeb cryf yr Heddlu, ac mae hynny wedi gwneud gwahaniaeth mawr wrth reoli atgyfeiriadau. Pe bai modd sicrhau cyllid ychwanegol, nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai modd parhau â'r gwaith, ond bod hynny'n annhebygol, felly byddai'n rhaid symud yr hyn a ddysgwyd ymlaen i ddarnau eraill o waith.

 

           Sut oedd yr oedi i adroddiad y gweithgor cyfraith gyhoeddus ar ddiwygio cyfiawnder teuluol yn amharu ar gynnydd o ran gwella problemau?

 

Tynnodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw at y ffaith bod yr adroddiad wedi cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021, ac mai'r rheswm dros osod terfynau amser oedd y camau a oedd i'w gweithredu, gan nad oedd modd cymryd y camau hynny heb yr adroddiad, a oedd wedi'i gyhoeddi'n hwyr. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod llawer o waith wedi'i wneud yn lleol ac yn genedlaethol i ystyried sut y cyflawnir gwaith ar draws timau waith cymdeithasol. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol at bwysigrwydd myfyrio ar waith a wnaed yn y cyfnod cyn achos, a'r gwasanaethau a gynigir i deuluoedd cyn dwyn achosion gerbron y llys. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod nifer y plant sy'n derbyn gofal yn gostwng ac, yn gysylltiedig â hynny, fod nifer y plant a oedd yn destun achosion gofal yn isel, a hynny'n bennaf oherwydd gwaith a wnaed ymlaen llaw.

 

           Sut oedd nifer y plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt o gymharu â'r nifer sy'n derbyn gofal y tu allan i'r Sir yn adlewyrchu ar ffigur hwnnw?

 

Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol na fu erioed nifer fawr o blant o gymharu â'r cyfanswm y tu allan i'r sir, ar wahân i'r rhai a oedd ar/ychydig y tu hwnt i ffiniau'r sir.

 

           A fyddwn yn gweld cynnydd mewn cysylltiadau wrth i covid barhau?

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol fod hynny'n anochel, a bod y maes gwasanaeth yn rhagweld ei flwyddyn brysuraf.

 

           A oes unrhyw arwyddion bod busnesau'n cynnal lleoliadau profiad gwaith i bobl ifanc?

 

Dywedodd Pennaeth Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y cafwyd llawer o gefnogaeth o ran gweithgareddau'r haf, ond ei bod hi'n gyfnod anodd i bawb, yn enwedig busnesau.

 

           Faint o blant ar eu pen eu hunain y byddai Casnewydd yn eu derbyn?

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor y byddai'r adroddiad a oedd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bartneriaeth ar 17 Tachwedd 2021, yn cael ei anfon ymlaen gan ei fod yn berthnasol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol eu bod yn gweithio gyda Chaerdydd a Llywodraeth Cymru, ac yn derbyn 10 o blant, yr oedd 8 ohonynt eisoes wedi'u derbyn. Dywedodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor, ar ôl i'r 10 o blant ailsetlo, byddai amser i ystyried derbyn mwy.

 

           A oedd unrhyw bartneriaid/bartneriaethau newydd yn cael eu defnyddio i ystyried dulliau newydd o weithio yn dilyn profiadau'r flwyddyn ddiwethaf?

Sicrhaodd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y pwyllgor y byddai partneriaethau a ystod o asiantaethau a Barnardo's yn parhau, ond dywedodd nad oedd unrhyw bartneriaethau newydd penodol i'w crybwyll. Nododd Cyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol y bu heriau mawr o fis Mawrth 2020 hyd haf 2021 gan fod nifer o asiantaethau wedi lleihau gwasanaethau, ac oherwydd heriau'n gysylltiedig ag asiantaethau nad oeddent yn ymweld, ac mae olion hynny i'w gweld heddiw.

Er mai ond rhagolygon canol blwyddyn oedd hyn, tynnodd yr Aelod Cabinet sylw at y ffaith mai ond un targed oedd yn goch, a bod y targed hwnnw i raddau helaeth y tu hwnt i reolaeth y maes gwasanaeth. Roedd y targedau eraill yn ambr a gwyrdd.

Dogfennau ategol: