30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.
Cofnodion:
Roedd y Prif Uwcharolygydd Tom Harding a’r Uwcharolygydd Mike Richards yn bresennol ac fe gafwyd y newyddion diweddaraf ganddynt am flaenoriaethau plismona lleol cyfredol, cyn gofyn am gwestiynau gan yr Aelodau.
Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd ddweud ambell air.
Roedd yr Arweinydd yn falch iawn o glywed am y bartneriaeth ariannu strydoedd mwy diogel a roddwyd ar waith yn ddiweddar a llongyfarchodd yr Arolygydd Cantwell a'r Arolygydd George am ennill gwobr PCC am waith partneriaeth.
Aeth yr Arweinydd yn ei blaen i ddweud bod cynnydd yn nifer y deunyddiau tramgwyddus sy'n cael eu gosod o amgylch canol y ddinas, ynghyd â gosod posteri'n anghyfreithlon, yng nghyswllt pobl trawsryweddol, ac roedd hi'n gofyn am sicrwydd y byddai'r heddlu'n ymdrin â'r mater. Sicrhaodd y Prif Uwcharolygydd Harding yr Arweinydd fod pob un o’r troseddau casineb yr adroddir amdanynt wrth yr heddlu yn cael eu harchwilio bob bore a’u trosglwyddo i swyddog hyfforddedig a fyddai'n ymdrin â'r digwyddiad mewn modd priodol, ac anogodd trigolion i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiad, gan fod hyn yn cael ei ystyried yn fater difrifol. Soniodd yr Uwcharolygydd Richards hefyd fod gan yr heddlu aelod trawsryweddol o staff i ymdrin ag unrhyw broblemau mewn modd priodol.
Yn y cyfarfod blaenorol, roedd yr Arweinydd wedi codi'r heriau yr adroddwyd amdanynt ym Malpas, ac roedd yn falch o weld bod yr heddlu wedi cynyddu eu presenoldeb o amgylch Hosbis Dewi Sant. Roedd yr Arweinydd hefyd yn falch iawn o glywed bod moped wedi'i atafaelu a bod y pryderon a godwyd gan drigolion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn cael sylw.
Gofynnodd yr Arweinydd pa sicrwydd y gallai’r heddlu ei roi i drigolion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, a sut i roi gwybod am achosion o hynny, gan fod trigolion yn aml yn amharod i gysylltu â'r heddlu. Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards yr Arweinydd y byddai'r heddlu mor ymatebol â phosibl i'r materion hyn er mwyn sicrhau bod cymunedau'n rhoi gwybod amdanynt.
Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad ynghylch y berthynas sydd gan gynghorwyr â'r Arolygydd, ac a oedd gan aelodau etholedig hawl i gael cyfarfodydd misol â'r Arolygydd. Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Richards yr Arweinydd y gellid disgwyl perthynas waith dda â'r cynghorwyr. Yn ogystal â hynny, byddai Arolygydd newydd ar gyfer Gorllewin Casnewydd yn ei swydd erbyn diwedd yr wythnos, gan fod bwlch wedi bod am gwpl o wythnosau, ac ymddiheurodd yr Uwcharolygydd Richards am hyn. Byddai'r Uwcharolygydd Richards yn pwysleisio pwysigrwydd cyfarfod yn rheolaidd â chynghorwyr.
Cododd yr Arweinydd hefyd ddiogelwch personol yr aelodau yng ngoleuni bygythiadau terfysgol diweddar a llofruddiaeth Syr David Amess. Roedd yr Arweinydd wedi cael cefnogaeth gan heddlu Gwent yn gysylltiedig â phroblem aflonyddu ddiweddar ond yn siomedig ynghylch y gwahaniaeth yn lefel y cyswllt rhwng heddluoedd ledled Cymru ac Arweinwyr Cyngor. Mewn rhai awdurdodau byddai'r heddlu'n cysylltu'n uniongyrchol â'r Arweinwyr, ond nid oedd hyn wedi digwydd yng Ngwent, a byddai'r Arweinydd wedi gwerthfawrogi rhywfaint o sicrwydd gan yr heddlu. Ymddiheurodd y Prif Uwcharolygydd Harding am y ffaith nad oedd yr Arweinydd yn teimlo bod ei diogelwch yn cael ei ystyried o ddifri. Roedd y Prif Uwcharolygydd wedi anfon e-bost at y Prif Weithredwr cyn pen tair awr wedi'r digwyddiad, a sicrhaodd yr Arweinydd y byddai'r heddlu'n rhoi cefnogaeth i unrhyw Gynghorwyr a fyddai mewn sefyllfa debyg, ac roedd yn barod i rannu copi o'r e-bost â'r Arweinydd. Pe bai cynghorwyr am gael gwybodaeth gyswllt, byddai'r Prif Uwcharolygydd yn darparu'r wybodaeth honno.
Cwestiynau i Gynghorwyr:
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at ddigwyddiad diweddar lle roedd dioddefwr camdriniaeth ddomestig wedi ffonio 999 am hanner nos a heb gael ei gweld nes iddi oleuo am 5am. Teimlai nad oedd hyn yn dderbyniol ac y dylai'r heddlu fod wedi cyrraedd ynghynt. Roedd y stâd wedi gweld llofruddiaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar. Yn ogystal â hyn, roedd eiddo'n cael ei dargedu gan unigolyn a fyddai'n cerdded heibio gan ollwng peg arno i'w nodi ar gyfer lladron. Ymddiheurodd yr Uwcharolygydd Richards am y digwyddiad 999 diweddar, a sicrhaodd y cynghorydd y byddai'n codi'r mater gyda'r ystafell reoli. Diolchodd yr Uwcharolygydd Richards hefyd i'r cynghorydd am yr wybodaeth ynghylch bwrgleriaeth, a byddai'n codi hynny â'r Arolygydd Cawley fel mater o flaenoriaeth.
§ Cadarnhaodd y Cynghorydd Jeavons fod yr Arolygydd Cawley yn cyfarfod yn fisol â chynghorwyr ward, a bod yr Arolygydd yn ddiweddar wedi rhoi diweddariad iddo ynghylch gwefryrwyr ar Ffordd Ddosbarthu'r De ar nosau Sul. Fodd bynnag, gofynnodd y Cynghorydd am gael uwchgyfeirio'r mater gan ei fod yn dal i ddigwydd ac yn achosi aflonyddwch difrifol i'r trigolion. Byddai hyn yn digwydd yn oriau mân y bore pan fyddai gyrwyr o amgylch Sefydliad Lysaght yn stopio ac yn cychwyn wrth y goleuadau traffig. Gofynnodd y Cynghorydd Jeavons hefyd am gael defnyddio'r fan 'Gan Bwyll' yn ystod yr amseroedd hyn. Cytunodd yr Uwcharolygydd i ymchwilio i'r cais am fan Gan Bwyll i fynd i'r afael â hyn.
Cadarnhaodd y Maer fod y 30 munud a neilltuwyd ar ben ac nad oedd unrhyw amser i ofyn unrhyw gwestiynau pellach.
Cododd y Cynghorydd Fouweather bwynt o drefn a gofyn i’r Maer a oedd yn deg nad oedd gan gynghorwyr amser i fynd i drafod eu materion wedi i'r Arweinydd ofyn cwestiynau i'r Prif Uwcharolygydd.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y 30 munud ar ben ar gyfer Cwestiynau i'r Heddlu, ac os oedd yr aelodau'n pryderu nad oedd digon o amser wedi'i neilltuo ar gyfer yr eitem hon, fod hynny'n fater i'w drafod rywbryd eto.
Cododd y Cynghorydd Routley bwynt o drefn a gofyn i'r Maer atal y Rheolau Sefydlog er mwyn parhau â Chwestiynau'r Heddlu.
Dywedodd nad oedd gan y Maer rym i atal Rheolau Sefydlog er mwyn ymestyn yr amser ar gyfer cwestiynau, ac mai mater i'w benderfynu gan y Cyngor oedd hynny. Fodd bynnag, gallai'r Aelodau wneud cynnig gweithdrefnol a chynnal pleidlais ynghylch a ddylid atal y Rheolau Sefydlog ac ymestyn yr amser ar gyfer Cwestiynau'r Heddlu. Bu'n arferiad erioed i'r Arweinydd gael gwahoddiad i siarad a gofyn cwestiynau yn gyntaf.
Dywedodd y Cynghorydd M Evans mai penderfyniad diweddar oedd yr arferiad hwn i'r Arweinydd siarad yn gyntaf. Nid felly yr oedd pethau pan oedd y Cynghorydd Evans yn Arweinydd hyd 2012.
Eglurodd y Swyddog Monitro y broses eto. Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai angen i'r Cyngor wneud cynnig i atal y rheolau sefydlog ac ymestyn yr amser ar gyfer Cwestiynau'r Heddlu. Byddai wedyn yn destun trafodaeth a phleidlais.
Ar sail yr uchod, gofynnodd y Maer a fyddai rhywun yn dymuno cynnig pleidlais i atal y Rheolau Sefydlog ac ymestyn yr amser. Gwnaed y cynnig gan y Cynghorydd Mogford, ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Routley.
Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine am bwynt arall o drefn, gan ddweud ei bod hi'n afresymol gofyn i swyddogion yr heddlu aros i drafod mater a oedd yn fewnol i'r Cyngor. Pe bai'r Cyngor yn penderfynu maes o law y byddai angen neilltuo rhagor o amser ar gyfer cwestiynau'r heddlu, y swyddogion fyddai i benderfynu ynghylch hynny. Teimlai'r Cynghorydd ei bod yn afresymol i'r swyddogion heddlu aros tra bo'r drafodaeth yn cael ei chynnal, a'i bod yn bosib bod ganddynt flaenoriaethau eraill i'w hystyried.
Er ei bod yn anffodus nad oedd cynghorwyr eraill wedi cael cyfle i siarad, ac y gellid codi hyn eto, awgrymodd y Cynghorydd Whitehead fod y drafodaeth yn tynnu oddi ar gyfarfod y cyngor ac yn gwastraffu amser y swyddogion heddlu.
Gan fod amser yn mynd rhagddo, awgrymodd y Cynghorydd Fouweather y dylai'r heddlu adael, ond mynegodd ei farn, fel o'r blaen, y dylid caniatáu i gynghorwyr ofyn cwestiynau i'r heddlu, yn hytrach na rhoi'r flaenoriaeth i'r Arweinydd.
Gofynnodd y Swyddog Monitro i'r Maer gau'r drafodaeth, a naill ai cynnal pleidlais ar y mater neu gau cwestiynau'r heddlu.
Ar y pwynt hwnnw, tynnodd y Cynghorydd Routley ei gynnig yn ôl, a chytunwyd y dylid cau cwestiynau'r heddlu ac y dylai'r heddlu adael y cyfarfod.