Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyhoeddiadau'r Arweinydd:

 

·         Diwrnod Rhuban Gwyn 2021

Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni ar ddydd Iau 25 Tachwedd.

 

Mae’n ddigwyddiad blynyddol sy’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diddymu Trais yn Erbyn Menywod.

 

Eleni rydym yn gofyn i drigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol ymrwymo i #Her30.

 

Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth ynghylch y 30 o blant yng Ngwent yr effeithir arnynt bob dydd yn eu cartrefi gan achosion o gam-drin domestig, lle mae'n rhaid galw'r heddlu.

 

Gallai #Her30 fod yn rhywbeth rydych chi'n ei wneud ar eich pen eich hun, gydag ambell aelod o'r teulu neu fel rhan o gr?p. Gall pobl, teuluoedd, ysgolion, sefydliadau, timau chwaraeon a grwpiau cymunedol osod eu heriau eu hunain gan ganolbwyntio ar y rhif 30 ac fe’u hanogir i bostio eu gweithredoedd i gefnogi'r ymgyrch ar-lein.

 

Mae gweithdai addysgol a chynlluniau gwersi'n cael eu rhoi ar waith mewn ysgolion ar draws Gwent i godi ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd perthnasoedd iach ymhlith plant a phobl ifanc.

 

Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, gan gynnwys corfforol, rheolaeth drwy orfodaeth, camdriniaeth seicolegol a chamdriniaeth ariannol.

 

Ar y cyd â'n partneriaid mae'n hanfodol ein bod nid yn unig yn sefyll yn erbyn ymddygiad dinistriol o'r fath ond ein bod hefyd yn annog y rhai sy'n ei brofi i geisio cymorth.

 

·         Cynllun newid hinsawdd

Mae'r newid hinsawdd ymhlith yr heriau byd-eang sy'n diffinio ein cenhedlaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai pawb ohonom yn ymwybodol o ganlyniadau COP26 a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Glasgow, a’r angen dybryd i bawb ddod ynghyd i gyfyngu ar godiadau tymheredd byd-eang, ac i adeiladu byd sy'n gynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol.

 

Fel cyngor, rydym eisoes wedi gwneud dechrau da, gan sicrhau gostyngiad o 29 y cant i'n hallyriadau uniongyrchol a chynhyrchu ynni dros y tair blynedd diwethaf.

 

Fodd bynnag, gwyddom fod gennym lawer mwy o waith i'w wneud, ac rwy'n falch ein bod bellach wedi cyflwyno ein drafft o'r cynllun newid hinsawdd ar gyfer ymgynghoriad.

 

Mae'r cynllun newid hinsawdd uchelgeisiol yn esbonio sut y bydd y Cyngor yn gweithio tuag at droi'n garbon niwtral erbyn 2030, a sut y byddwn yn defnyddio ein gwasanaethau i gefnogi gweithredu ynghylch y newid hinsawdd ledled y ddinas.

 

Mae'n canolbwyntio ar chwe thema gyflawni allweddol:

 

- diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol

- ein hadeiladau

- ein tir

- trafnidiaeth a symudedd

- y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu caffael

- ein rôl ehangach

 

Mae'r Cyngor yn gofyn am farn trigolion, busnesau a rhanddeiliaid er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn cymryd y camau cywir cyn inni gwblhau'r cynllun yn derfynol yn fuan yn 2022.

 

·         Gwobr amgylcheddol

Gan barhau ar yr un trywydd, cyhoeddodd yr arweinydd ei bod yn falch dros ben o fod wedi derbyn gwobr Sefydliad Eithriadol ar ran Cyngor Dinas Casnewydd yn nghyfres gyntaf y Gwobrau Amgylcheddol Cenedlaethol a ddyfarnwyd yn ddiweddar. 

 

Roedd y wobr yn cydnabod ymrwymiad ac angerdd ein staff i gyflawni newid gwirioneddol i'n sefydliad ac i Gasnewydd.

 

Mynegodd yr Arweinydd ddiolch i'r rhai sy'n gweithio'n ddi-flino ac yn angerddol i wella'n hamgylchedd a lleihau ein hallyriadau carbon, ac i'r rhai sy'n rhoi o'u hamser rhydd i gefnogi mentrau dirifedi fel gwirfoddolwyr yn y ddinas a thu hwnt. Adlewyrchiad o'u hymdrechion a'u hymroddiad hwy oedd y fuddugoliaeth hon.

 

·         Gwobr maethu genedlaethol i weithiwr cymdeithasol

Llongyfarchodd yr Arweinydd un o weithwyr cymdeithasol y Cyngor sydd wedi cael ei chydnabod am ei gwaith rhagorol ym maes maethu.

 

Mae Lorraine Bird, gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol gyda thîm Maethu Cymru Casnewydd, wedi ennill gwobr ragoriaeth gan y Rhwydwaith Maethu am gyfraniad eithriadol gan weithiwr cymdeithasol.

 

Roedd ei henwebiad yn seiliedig ar lythyr o werthfawrogiad gan un o'r gofalwyr maeth y mae hi'n gweithio gyda nhw, yn tynnu sylw at y ffaith ei bod bob tro'n cyflawni uwchlaw a thu hwnt i'w dyletswydd.

 

Mynegodd yr Arweinydd longyfarchiadau i Lorraine a’r tîm maethu cyfan sy’n gwneud gwaith anhygoel i bobl ifanc yng Nghasnewydd.

 

·         Cronfa Codi'r Gwastad / Adnewyddu Cymunedol

Cyhoeddwyd yn ddiweddar fod Casnewydd wedi derbyn dros £2.8miliwn o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (UK CRF).

 

Gwahoddwyd ceisiadau i CRF y DU yn gynharach yn y flwyddyn, a'r nod oedd cefnogi pobl i gael cyflogaeth a buddsoddi mewn sgiliau, busnes lleol, lleoedd a chymunedau.

 

Fel cyngor, roeddem yn falch o allu cefnogi partneriaid gyda'u ceisiadau, a gallwn nawr fwrw ymlaen ag amryw o brosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein hardaloedd lleol.

 

Byddwn yn parhau i wneud cais am arian gan fentrau o'r fath i sicrhau cymaint o fudd ag sy'n bosibl i Gasnewydd.

 

·         Canolfan Hamdden

Rhoddwyd caniatâd cynllunio yn gynharach y mis hwn gan fraenaru'r tir er mwyn gwireddu gweledigaeth y Cyngor am ganolfan hamdden newydd i drigolion Casnewydd.

 

 Bydd gwaith nawr yn dechrau'n fuan y flwyddyn nesaf i greu adeilad yr 21ain ganrif a fydd yn cynnwys cyfleusterau o'r radd flaenaf.

 

Yn ogystal â darpariaeth wych o ran hamdden, rydym yn benderfynol o sicrhau bod y ganolfan newydd yn cael ei hadeiladu hyd at y safonau amgylcheddol gorau posib.

 

Rydym am iddi fod yn gynhwysol a chael ei defnyddio gan bobl o bob oed ac o bob rhan o'r ddinas, felly mae hygyrchedd hefyd yn ffactor allweddol yn ei dyluniad a'i lleoliad.

 

Gofynnwyd i'r cyhoedd am eu safbwyntiau ynghylch y datblygiad yn gynharach eleni, ac roedd yr adborth a gafwyd yn hynod gadarnhaol.  Roedd yr Arweinydd yn sicr y byddai ganddynt hwy, fel hi ei hun, ddiddordeb mawr yng nghynnydd y datblygiad, gan ddisgwyl yn eiddgar i'r drysau agor.

 

Cwestiynau'r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans:

Ym mis Chwefror 2021, gofynnodd y Cynghorydd Fouweather a oedd yr Arweinydd neu Aelodau’r Cabinet yn cynnal trafodaethau â Friars Walk ynghylch siop Debenhams a fyddai'n wag yn fuan. Ateb yr arweinydd oedd 'na'.  Dyfynnwyd yr Arweinydd wedyn mewn erthygl Newyddion y BBC yn awgrymu y byddai'r Cyngor yn gweithio gyda LlC ac Ardal Gwella Busnes Casnewydd Nawr i ganfod datrysiad.  Wyth mis yn ddiweddarach, datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth nad oedd unrhyw gyfarfod wedi cael ei gynnal â Friars Walk, Talisker Corporation.  Yn ogystal â hynny, a oedd yr Arweinydd hefyd wedi cael gwybod ymlaen llaw fod Admiral yn cau yng Nghanol y Ddinas.

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd ganddi reolaeth ar adroddiadau newyddiadurwyr. Roedd nifer o gyfarfodydd wedi'u cynnal a bu'r Arweinydd yn cyfarfod â Chadeirydd Debenhams Group.  Roedd trafodaethau parhaus hefyd wedi cael eu cynnal rhwng uwch swyddogion a Talisker.  Roedd y rhain yn drafodaethau technegol ynghylch materion cyfreithiol ac ariannol masnachol sensitif, ac felly'n faterion i uwch swyddogion yn hytrach na'r Arweinydd. 

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud ei bod yn siomedig iawn ynghylch y newyddion bod Admiral yn cau ei swyddfeydd, ac na chafodd wybod am hynny tan y diwrnod pan ryddhawyd y datganiad i'r wasg.  Cysylltodd Admiral â'r Cyngor am 9am y diwrnod hwnnw i ddweud bod datganiad yn cael ei ryddhau i'r wasg.  Roedd swyddogion yn parhau i gynnal deialog ag Admiral, ac roeddent yn dal i fod yn denantiaid ac yn gyfrifol am dalu rhent ar yr adeilad. Byddai swyddogion hefyd yn parhau i weithio'n agos ag Admiral i nodi tenant newydd i gymryd drosodd adeilad Admiral.  Roedd cyfarfodydd wedi cael eu cynnal bob pythefnos i drafod y canlyniadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

 

Atodol:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at yr wybodaeth fod swyddogion yn ymdrin â'r materion hyn, a'r ymdeimlad bod hon yn thema ailadroddus a oedd yn arddangos diffyg meddwl cydgysylltiedig.  Soniodd y Cynghorydd Evans fod y cyn Ddirprwy Arweinydd y Cynghorydd Ed Townsend wedi gweithio’n ddiflino i gael Admiral yn y ddinas.  Eleni yn unig roedd y Cyngor wedi talu £375K i Talisker, hyd fis Medi mewn cymorthdaliadau'n gysylltiedig ag unedau siop gwag, a £2m ers mis Ionawr 2017.  A oedd yr Arweinydd yn teimlo bod angen sefydlu cyfarfodydd rheolaidd ar fyrder â Debenhams fel mater o flaenoriaeth, ac mai cyfrifoldeb Arweinydd y Cyngor oedd bwrw ymlaen â'r trafodaethau hyn. 

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd fod trefniadau ariannol Talisker wedi'u cofnodi'n gyhoeddus drwy gyfarfodydd agored a thryloyw'r Cabinet, a bod cyhoeddusrwydd eang i'r cytundeb cymhorthdal buddsoddi, a chofnod helaeth o hynny.  Mewn perthynas ag Admiral, cafodd Cyngor Dinas Casnewydd wybod y newyddion yn yr union un ffordd ag y cafodd ei gymdogion wybod am leoliadau swyddfeydd eraill, ac nid oedd yn gwybod ymlaen llaw am y camau yr oedd y cwmni'n eu cymryd.  Fodd bynnag, roedd a wnelo hyn ag adleoli staff yn unig, yn hytrach na cholli swyddi.  Roedd y cyngor yn gweithio'n agos gyda busnesau ar ystod o lefelau ar draws yr awdurdod.  Roedd y Cyngor yn cyfathrebu'n gyson â'r Ardal Gwella Busnes i annog busnesau newydd i ddod i Gasnewydd, ac roedd y Cyngor hefyd yn cefnogi egin-fusnesau. 

 

Bryd hynny, ailadroddodd y Cynghorydd M Evans ei gwestiwn, ac fe'i hatgoffwyd gan yr Arweinydd fod swyddogion yn ymdrin â'r materion dan sylw.

 

Codwyd pwynt o drefn gan y Cynghorydd M Spencer ynghylch ailadrodd cwestiwn.  Dywedodd y Maer nad oedd diben mynd ar drywydd y cwestiwn hwn, a gofynnodd am y cwestiwn nesaf i'r Arweinydd

 

Cynghorydd K Whitehead:

Ynghylch faint o drigolion Casnewydd a oedd yn ymweld â Chaerdydd a G?yl y Gaeaf, a'r ystyriaeth y gallai Casnewydd efelychu hyn. Byddai’r tir gyferbyn â Friars Walk yn lleoliad delfrydol ar gyfer hynny. A allai Cyngor Dinas Casnewydd hefyd sefydlu hyn dros gyfnod yr ?yl.

 

Ymateb:

Roedd yr Arweinydd yn croesawu'r cwestiwn, ac ystyriai hyn yn gyfle perffaith i ddenu pobl i Ganol y Ddinas. Soniodd yr Arweinydd hefyd am ddigwyddiad goleuo goleuadau'r Nadolig a stondinau a reidiau ffair y gellid eu lleoli o fewn yr ardal ger Glan yr Afon a Chanol y Ddinas.  Roedd yr Arweinydd yn croesawu unrhyw syniadau a allai fod gan bobl am atyniadau tymhorol drwy gydol y flwyddyn.  Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau ar y Cyngor o ran safle gan fod yr adeilad hamdden newydd yn cael ei godi yn y safle yr oedd y Cynghorydd Whitehead wedi cyfeirio ato.  Roedd yr Arweinydd yn awyddus i gadw ymwelwyr o fewn Canol y Ddinas ac yn hyderus y byddai'r Cyngor yn gallu cynnal y digwyddiadau hyn mewn cydweithrediad â'r Ardal Gwella Buses a rhanddeiliaid eraill.

 

Cynghorydd Hussain:

A allai'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am y cymorth sydd ar gael i fusnesau.

 

Ymateb:

Tynnodd yr Arweinydd sylw at waith rhagorol y Tîm Cymorth Busnes o fewn y Cyngor.  Roedd y tîm newydd greu ffilm fer ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu'r cymorth oedd yn cael ei roi i fusnesau bach a'r grantiau a oedd ar gael, sef hyd at £250k.  Roedd cymorth sylweddol ar gael yn y maes hwn.

 

Atodol:

A oedd LlC wedi cynnig cymorth ychwanegol ac, os felly, faint o gymorth?

 

Ymateb:

Gwnaed cyhoeddiad ar yr un diwrnod â'r Cyngor y byddai pecyn £45m ar gyfer busnesau bach ledled Cymru ar gael, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer hyfforddiant i sectorau a oedd heb gael digon o gefnogaeth. Roedd hyn yn newyddion da i'r rhai a oedd yn ystyried sefydlu busnes bach yng Nghasnewydd.  Y gobaith oedd y gallai £1.5m fod ar gael i Gasnewydd a £10m ar draws Cymru ar gyfer cyfrifon dysgu personol er mwyn helpu pobl i newid gyrfa.  Roedd hyn yn gyfle gwirioneddol i gefnogi busnesau ac unigolion.