Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Mogford:

Ystyried Mesurau i Leihau Allyriadau (Gwenwynig) ar draws y Ddinas.

 

Gyda'r pwyslais newydd ar frwydro yn erbyn y newid hinsawdd yng Nghymru, a oes gan yr Aelod Cabinet gynllun neu weledigaeth i sicrhau bod modd sicrhau'r mynediad gorau posib i ganolfannau ailgylchu lleol o ran pellter a'r amser a gymerir i'w cyrraedd.

 

Enghraifft ymarferol o hyn yw canolfan ailgylchu Five Lanes ar yr A48. Mae llawer o drigolion yn gorfod teithio'n hirach o ran amser a phellter i ganolfan ailgylchu CDC a all fod yn daith gron o hyd at 20 milltir a mwy yn hytrach na theithio ychydig filltiroedd mewn rhai achosion.

 

O'i gwneud hi'n haws ac yn gyflymach teithio i'r ganolfan ailgylchu agosaf, onid yw'r aelod cabinet hefyd yn gweld potensial i hynny leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn ogystal â sicrhau gostyngiad buddiol mewn allyriadau o gerbydau?

 

Ymateb:

Penderfynodd Cyngor Sir Fynwy atal mynediad gan drigolion Casnewydd i'w Ganolfan Ailgylchu Five Lanes yn ôl yn 2019; ac er ei bod yn drueni gennym weld bod hyn yn achosi anghyfleustra i drigolion yn yr ardal, yn anffodus Cyngor Sir Fynwy sydd i benderfynu ynghylch rheolau mynediad i'w safleoedd ailgylchu, ac nid oedd gennym unrhyw reolaeth dros hynny.

 

Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd, yn manylu ar gynlluniau i adeiladu ail gyfleuster ailgylchu gwastraff y cartref, yn nwyrain y Ddinas. Hefyd, mae holl wastraff ailgylchadwy cyffredin y cartref yn cael ei gasglu'n wythnosol gan holl drigolion Casnewydd, yn ogystal â chasgliadau gwastraff cyffredin a gwastraff gardd. Gellir trefnu casgliad arbennig ar gyfer eitemau swmpus ar gais.

 

I gloi, nid ydym wedi gweld unrhyw gydberthynas rhwng tipio anghyfreithlon a mynediad i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae tipio anghyfreithlon yn weithgarwch troseddol a fyddai y tu hwnt i ystyriaeth y mwyafrif helaeth o'n trigolion. Cyflawnir cyfran sylweddol o dipio anghyfreithlon gan weithredwyr masnachol, nad ydynt yn cael defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, ac y mae rheidrwydd cyfreithiol iddynt waredu eu gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

 

Atodol:

'Pe bai gan y Cyngor diddordeb mewn cytundeb i gyd-gyllido cyfleusterau fel Five Lanes yn y dyfodol, byddem yn barod i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny'. Roedd hyn wedi'i gynnwys mewn e-bost a gafwyd ar 25 Medi 2019 oddi wrth Gyngor Sir Fynwy.  A oedd y cynnig hwn wedi'i dderbyn, ac a fyddai'n fuddiol i'r ddau gyngor rannu'r cyfleuster hwn.

 

Ymateb:

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod Cyngor Sir Fynwy wedi cau'r cyfleusterau hyn i drigolion yn 2019.  Roedd sgyrsiau wedi cael eu cynnal yn y gorffennol, ond heb unrhyw arwyddion cadarnhaol.

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Kellaway:

Rwyf wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan drigolion sy'n pryderu ynghylch perygl llifogydd yn Llanwern. Efallai eich bod yn cofio'r glaw a gafwyd dros y Nadolig ym mis Rhagfyr 2020 a achosodd ddifrod i gartrefi trigolion gan beri i rai trigolion orfod symud allan.

 

Pa sicrwydd y gallwch chi a'r weinyddiaeth ei rhoi i drigolion na fyddant yn gweld Ffos y Mynachod yn gorlifo eto, na'r llifogydd dilynol ym mhentref Llanwern a'r ardal ehangach, fel y gall yr holl drigolion o leiaf edrych ymlaen at Nadolig heddychlon a di-straen.

 

Ymateb:

Rydym wedi cynnal ymchwiliad teledu cylch cyfyng trylwyr i’r system ddraenio ar hyd Heol yr Orsaf, ac wedi gwneud llawer o waith i drwsio pibellau, cael gwared â gwreiddiau a jetio'r system i sicrhau ei fod yn perfformio'n well. Cafwyd digwyddiad glawiad uchel yn ddiweddar, ac nid oedd yn ymddangos fel pe bai wedi achosi unrhyw broblem o ran llifogydd yn yr ardal. Gallai hynny fod wedi achosi problemau cyn cwblhau'r gwaith adfer.

 

Mae'r broblem hon yn dibynnu i raddau helaeth ar allu'r d?r i lifo o'r system i'r ffosydd draenio cysylltiedig. Os bydd y ffosydd draenio ymhellach i lawr o'r system yn parhau i weithio, rydym yn hyderus na ddylai'r trigolion brofi unrhyw broblemau yn y dyfodol.  Rydym hefyd wedi cyflwyno dau hysbysiad torri amod i Redrow er mwyn sicrhau bod y datblygiad yn mynd rhagddo'n unol â'r manylion cymeradwy, yn enwedig o ran draenio. Roedd yn ofynnol i Redrow roi'r gorau i osod rhagor o wynebau caled a thynnu pridd nes cytuno a gweithredu ar y manylion draenio d?r wyneb. Ystyrir bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw d?r wyneb yn llifo oddi ar y safle gan gynyddu problemau llifogydd yn y pentref.

 

Mae CDC yn ceisio cyllid grant gan Lywodraeth Cymru i ail-leinio peth o'r system bresennol ac i uwchraddio rhannau eraill er mwyn sicrhau perfformiad gwell yn yr ardal.

 

Atodol:

Ddwy neu dair blynedd yn ôl, rhoddodd y datblygwr £100k i'r Cyngor uwchraddio'r draeniau.  Pam na ddefnyddiwyd yr arian i wneud y gwaith trwsio ynghynt er mwyn osgoi llifogydd y llynedd.

 

Ymateb:

Cafwyd cynllun yn wreiddiol yn 2005, ond ni chafodd y safle ei ddatblygu am nifer o flynyddoedd.  Pan ddatblygwyd y safle, nid oedd y dyluniad gwreiddiol yn bodloni'r safonau cyfredol oherwydd y newid hinsawdd, a byddai'n gwrthdaro ag amryw o gyfleustodau. Ers hynny mae dyluniad mwy addas wedi cael ei ddatblygu.

 

Cwestiwn 3 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Routley:

A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau’r Ddinas amlinellu ei weledigaeth wleidyddol a’i arweiniad o ran sut y mae’n mynd i adeiladu momentwm yn y dyfodol o ran diogelwch ffyrdd a'r amgylchedd yng Nghasnewydd.

 

Ymateb:

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i gyflawni'r amcanion a nodir yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru, sy'n rhoi'r flaenoriaeth i bobl a'r newid hinsawdd wrth ystyried priffyrdd a thrafnidiaeth.

 

Gan ganolbwyntio ar ddiogelwch ffyrdd, mae Casnewydd yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r terfyn cyflymder arferol o 20mya mewn ardaloedd preswyl, sydd i fod i ddod i rym ledled Cymru yn 2023.

 

Y prif amcan yw gwneud ffyrdd a strydoedd yn fwy diogel i bob defnyddiwr, gan roi mwy o flaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus a dulliau teithio llesol, fel y gwelwyd mewn prosiectau diweddar o amgylch y ddinas, gan gynnwys Queens Hill / Devon Place.

 

O ran yr amgylchedd a chyrraedd targed 2030 a tharged Sero Net 2050, mae'r awdurdod, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn darparu Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan sy'n hygyrch i'r cyhoedd yn y ddinas, ac yn gwneud cynnydd da wrth ddatgarboneiddio fflyd y Cyngor.

 

Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â mentrau i wireddu manteision dinas wyrddach er budd ein cymunedau, ac i annog bioamrywiaeth, yn enwedig yr amgylchedd trefol. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar ein strategaeth newid hinsawdd.

 

Atodol:

Roedd 30MYA ar Heol Magwyr, wedyn 50MYA, cyn dychwelyd i 30MYA gan achosi lefelau uchel o lygredd.  Roedd hyn hefyd yn achosi rhwystredigaeth i yrwyr.  A fyddai'r Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r cynllun gorchmynion traffig.

 

Ymateb:

Dim ond terfynau cyflymder 30MYA i 20MYA oedd dan ystyriaeth yn Adolygiad LlC.  Roedd y terfynau cyflymder ar weddill y ffyrdd y cyfeiriwyd atynt wedi'u gostwng o 60MYA i 50MYA, a thybiwyd bod hynny'n briodol.

 

Cwestiwn 4 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Forsey:

Mae llawer o drigolion wedi gwneud sylwadau ynghylch y gwaith adeiladu parhaus wrth yr orsaf reilffordd. A all yr Aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am gynnydd pont droed Devon Place?

 

Ymateb:

Pwrpas prosiect pont Devon Place yw cymryd lle tanlwybr presennol, sy'n cysylltu Devon Place â Queensway o dan reilffordd Prif Linell Great Western.

 

Roedd y tanlwybr yn ddiolwg, ac yn denu llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys nifer o ymosodiadau a mygio difrifol. Nid oedd y tanlwybr yn ddiogel nac yn addas ar gyfer Dinas yn yr 21ain Ganrif. Yn ffodus, roedd yr Awdurdod wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer pont newydd gyfun i gerddwyr a beicwyr; byddai hynny'n galluogi Cyngor Dinas Casnewydd (CDC) i ddatgomisiynu'r tanlwybr presennol. Mae'r cyllid ar gyfer y datblygiad ac i'w weithredu wedi cael ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Teithio Llesol, yn dilyn cyfres o gamau datblygu dyluniad a hyfywedd. Er nad yw'r gwaith wedi'i gwblhau eto, rhagwelir y bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £9 miliwn o'r gwaith datblygu hyd at ei gyflawni. Rhan o'r broses oedd cau hawl tramwy'r tanlwybr yn barhaol.

 

Un o'r elfennau mwyaf technegol oedd addasu'r llinell drydan a oedd wedi'i gosod uwchben. Nid oedd y llinell ond wedi cael ei chomisiynu'n ddiweddar. Dechreuodd y cyfnod adeiladu'n llawn ym mis Awst 2021. Roedd y gwaith cynnar yn cynnwys clirio'r safle, gosod hysbysfyrddau a thynnu cerflun Harvey Hood i lawr. Cafodd y cerflun, sy'n eiddo i Network Rail, ei drwsio cyn cael ei ailosod yn agos at brif fynedfa'r orsaf. Byddai rhannau pellach o'r bont yn cyrraedd yn yr wythnosau nesaf wrth iddynt gael eu rhyddhau o weithdy'r gwneuthurwyr. Byddai gwaith yn dechrau i osod y strwythurau cynnal ar y ddaear drwy gydol mis Rhagfyr gan arwain at y prif waith i godi segmentau o lawr y bont. Byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy nifer o weithgareddau codi unigol dros gyfnod cau'r rheilffordd a oedd wedi'i amserlennu dros y Nadolig. Bydd y cyfnod cau yn dechrau ar noswyl Nadolig ac yn para am 72 awr. Dros y cyfnod hwnnw, bydd y strwythurau cynnal canolog, y lloriau a'r rhychwantau cyswllt yn cael eu codi i'w lle.

 

Ar ôl y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd byddai'r esgynfeydd mynediad, y grisiau, y parapedau a'r canllawiau'n cyrraedd y safle i'w gosod fesul dipyn yn ystod y gwanwyn. Bydd gwaith ar dir y cyhoedd yn digwydd ar ôl hyn, a dylem weld y prif strwythur yn ei le erbyn diwedd mis Mawrth/Ebrill.

 

Cwestiwn 5 – Aelod Cabinet: Datblygu Cynaliadwy

 

Cynghorydd Mogford:

Mae cannoedd o astudiaethau wedi canfod effeithiau biolegol neu iechyd niweidiol yn sgil dod i gysylltiad ag ymbelydredd amledd radio ar ddwyseddau sy'n rhy isel i achosi gwres sylweddol. Nid oes gan y cyhoedd ar hyn o bryd unrhyw reswm i gredu bod 5G yn ddiogel.

 

Mae mastiau 5G yn dechrau ymddangos ym mhob man o amgylch Casnewydd. Mae eu cwmpas yn fyr iawn ac i bob pwrpas ond yn cynnwys ardaloedd o fewn eu 'llinell olwg'.

 

Faint o'r mastiau hyn y gellir disgwyl iddynt gael caniatâd cynllunio os mai'r cynllun yw sicrhau darpariaeth lawn neu sylweddol yng Nghasnewydd?

 

Yn dilyn ymlaen o hyn, a allai'r Aelod Cabinet geisio tawelu'r aelodau, wrth i 5G gael ei roi ar waith yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ei fod yn argyhoeddedig bod y risg i iechyd y cyhoedd yn is na throthwy a fyddai'n peri pryder? A yw wedi ymgysylltu eto â Senedd Cymru ar y mater hwn er mwyn cael sicrwydd drosto'i hun?

 

Ymateb:

Mae'r rhan fwyaf o ddatblygiadau cyfarpar telathrebu, gan gynnwys mastiau 5G, yn ddatblygiadau a ganiateir.  Mae hyn yn golygu bod egwyddor y datblygiad wedi'i derbyn, ac na all yr awdurdod cynllunio lleol ond ystyried lleoliad ac ymddangosiad y cynnig.  Ni fyddai goblygiadau iechyd posibl yn ystyriaeth o safbwynt cynllunio.  Rheolir pob awdurdod cynllunio lleol gan ddeddfwriaeth gynllunio, ac ni all Cyngor Dinas Casnewydd wyro oddi wrth y ddeddfwriaeth honno. 

 

Roedd pryderon ymbelydredd yn gysylltiedig â mastiau 5G yn berthnasol i reoliadau ar wahân.  Roeddwn yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau a rhai risgiau iechyd canfyddedig, ond hefyd yn ymwybodol o ymchwil wyddonol sydd wedi cyflwyno tystiolaeth gadarn i wrthbrofi'r honiadau hyn.  Y llynedd, er enghraifft, ni chanfu corff rheoleiddio'r DU, Ofcom, unrhyw risgiau canfyddadwy yn ei brofion cyntaf ers rhoi technoleg 5G ar waith.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd o'r un farn.

 

Pan gyflwynir cais am gymeradwyaeth ymlaen llaw i osod mast 5G i awdurdod cynllunio lleol, byddwn yn sicrhau bod y cais yn cynnwys tystysgrif yr ICNIRP (Y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio).  Mae'r dystysgrif hon yn cadarnhau bod dyluniad y cyfarpar yn cydymffurfio'n llwyr â gofynion canllawiau'r ICNIRP ar gysylltiad y cyhoedd ag amledd radio. Mae'r dystysgrif yn rhan angenrheidiol o'r broses, a hebddi, byddai'r awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod ystyried y cais. 

 

Nod y darparwyr rhwydwaith yw creu cyswllt cyflym iawn i ddinasyddion a busnesau yng Nghasnewydd, ac annog mewnfuddsoddi. Fodd bynnag, nid ydynt yn cynnal unrhyw ymgynghoriad ymlaen llaw â ni ynghylch eu cynigion ar gyfer rhannu mastiau, nac ynghylch nifer y mastiau newydd sydd eu hangen.

 

Atodol:

A allai'r Aelod Cabinet roi sicrwydd i'r aelodau, wrth roi 5G ar waith yn ardal Casnewydd, ei fod yn argyhoeddedig bod y risg i iechyd y cyhoedd yn is na'r trothwy a fyddai'n destun pryder, a bod yr Aelod Cabinet wedi ymgysylltu â'r Senedd i ofyn am y sicrwydd hwn.

 

Ymateb:

O ran y risgiau i iechyd y cyhoedd, roedd y Cyngor yn hyderus ar hyn o bryd, yn ôl yr holl ymchwil gan Ofcom, fod y dechnoleg yn ddiogel.

 

Cwestiwn 6 – Aelod Cabinet: Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Cynghorydd Marshall:

Mae Cynllun Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd yn cynnwys ymrwymiad i leihau nifer y lleoliadau gofal cymdeithasol y tu allan i'r sir. A all yr Aelod Cabinet roi trosolwg o gynnydd yn erbyn yr amcan hwn?

 

Ymateb:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, er gwaethaf heriau’r pandemig, rydym wedi gallu lleihau’n ddiogel nifer y plant sy’n derbyn gofal. Mae ein timau wedi gweithio i gefnogi teuluoedd ac i ddarparu'r cymorth uniongyrchol sydd ei angen i atal plant rhag cael eu derbyn i ofal. Mae hyn wedi cynnwys datblygu ein tîm Babi a Fi i gefnogi rhieni sydd mewn perygl o golli eu plant oherwydd risg o niwed sylweddol cyn-geni, gweithredu Cynadleddau Gr?p Teulu i ganfod atebion i deuluoedd, a darparu tîm Ymateb Brys i ymyrryd mewn cyfnodau o argyfwng a chynnig cymorth bob awr o'r dydd. Rydym wedi gweithio i ddirymu nifer y Gorchmynion Gofal drwy gefnogi camau i ddod â phlant a theuluoedd yn ôl at ei gilydd, weithiau flynyddoedd ar ôl iddynt ddod i mewn i ofal yn wreiddiol. Rydym wedi helpu aelodau o'r teulu a gofalwyr maeth i ofalu am blant drwy ddefnyddio Gwarcheidiaeth Arbennig yn lle eu bod yn aros mewn gofal.

 

Mae'r tabl isod yn dangos y gostyngiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal ers mis Ebrill 2020.

 

Dyddiad

Cyfanswm PDG (gan gynnwys Plant Digwmni sy'n Ceisio Lloches)

Cyfanswm PDG (ac eithrio Plant Digwmni sy'n Ceisio Lloches)

31.03.2020

379

362

30.06.2020

378

359

30.09.2020

382

365

31.12.2020

376

362

31.03.2021

378

363

30.06.2021

373

359

30.09.2021

367

347

 

Ar 19 Tachwedd 2021 roedd gennym 366 o blant yn ein gofal. Gyda'n holl blant mewn gofal rydym wedi canolbwyntio ar ddefnyddio'r dull mwyaf effeithiol posibl i fodloni eu hanghenion. I rai plant bydd hyn yn golygu bod mewn gofal ond cael eu lleoli gydag aelodau o'r teulu, ac yn aml bydd hyn yn golygu eu lleoli y tu allan i Gasnewydd.

 

Mae gennym nifer fawr o ofalwyr maeth sy'n byw ychydig y tu allan i Gasnewydd hefyd, felly er bod y rheiny wedi'u cynnwys yn y categori 'lleoliadau y tu allan i'r sir', maen nhw'n dal yn agos at ysgol a chymuned wreiddiol y plentyn. Mae gennym hefyd nifer fach o blant wedi'u lleoli i'w mabwysiadu y tu allan i Gasnewydd, ac mae'r rhain eto wedi'u cynnwys yn rhan o'r gr?p o leoliadau y tu allan i'r awdurdod.

 

Ar 30 Mehefin 2021, roedd gennym 22 o blant wedi'u lleoli y tu allan i Gymru. Roedd holl aelodau'r gr?p hwn naill ai wedi'u lleoli gydag aelodau o'r teulu neu'n disgwyl am orchmynion mabwysiadu terfynol. Roedd 98 o blant eraill yng Nghymru ond y tu allan i Gasnewydd, a'r rhan fwyaf o'r rheiny yng Ngwent neu yng Nghaerdydd. Mae'r cyfanswm hwn o blant wedi bod yn sefydlog dros y flwyddyn ddiwethaf, ond o edrych ar y manylion ceir rhesymau da dros leoli'r plant y tu allan i Gasnewydd.

 

Rydym wedi mynd ar drywydd y gwaith hwn er mwyn ceisio sicrhau, pan fydd angen gofal maeth neu ofal preswyl ar blant, y gallwn ofalu amdanynt yng Nghasnewydd. Yn raddol rydym wedi lleihau ein dibyniaeth ar Asiantaethau Maethu Annibynnol a gofal preswyl allanol. Byddwn yn parhau i wneud hyn gan mai dyma sut mae sicrhau diogelwch a llesiant plant, a bodloni eu hanghenion yn y dyfodol.

 

I'r perwyl hwn rydym wedi cynyddu a gwella darpariaeth gofal preswyl yng Nghasnewydd. Mae hyn yn cynnwys agor Rose Cottage a Rosedale, gwelliannau yn Forest Lodge ac Oaklands a chau Cambridge House. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i ddatblygu Windmill Farm a'r anecsys yn Rosedale. Dros y deunaw mis diwethaf, gostyngodd nifer y plant a leolwyd gyda darparwyr preswyl y tu allan i'r awdurdod o 24 i 18. Dyna oedd y canlyniadau gorau i'n plant, ond yn ogystal â hynny bu'n fodd i ostwng ein gwariant yn raddol ar y mathau hyn o leoliadau. Mae cyfanswm y gwariant wedi gostwng bron i £2 filiwn, ac mae peth o'r arian hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu ein cartrefi ein hunain, gan sicrhau bod y canlyniadau i'n plant yn gwella'n sylweddol.

 

Mae staff Cyngor Dinas Casnewydd wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o sicrhau bod gennym gr?p cadarn o ofalwyr maeth â phecyn cadarnhaol o gymorth, gan gynnwys cymorth ariannol, materol ac emosiynol. Mae lansio Maethu Cymru wedi cael ei gydblethu â'n hymagweddau lleol at recriwtio gofalwyr maeth, a'u cadw ar ôl hynny.

 

Yn y deunaw mis diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y plant a leolwyd gydag asiantaethau Maethu Annibynnol, o 72 i 58.

 

Mae'r gwaith a gyflawnir ym mhob maes o fewn y Gwasanaethau Plant yn cyfrannu at y gwaith hwn, ac felly'n cyfrannu at gyflawni'r ymrwymiad i leihau nifer y plant a osodir yn amhriodol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol y tu allan i'r sir.

 

Roedd y Maer a'r Faeres yn bresennol mewn digwyddiad Gofal Maeth diweddar, ac yn hapus i gefnogi'r fenter hon.

 

Nid oedd unrhyw gwestiynau i Gadeiryddion y Pwyllgorau.  Gofynnodd y Maer felly i'r aelodau nodi dyddiad y cyfarfod nesaf, a chan nad oedd unrhyw fater pellach i'w drafod, datganodd fod y cyfarfod ar ben.