Agenda item

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol y Ddinas (PSPO)

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio gyflwyno'r adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio wrth yr aelodau fod yr adroddiad yn argymell y dylai'r Cyngor benderfynu cymeradwyo a mabwysiadu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) diwygiedig ar gyfer Canol y Ddinas am gyfnod pellach o dair blynedd, fel y nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Pwrpas Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) oedd atal unigolion a grwpiau rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus mewn man cyhoeddus, lle roedd yr ymddygiad hwnnw'n amharu, neu'n debygol o amharu, ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol. Dim ond y Cyngor a allai wneud PSPO ond gallai'r Heddlu a Swyddogion y Cyngor gyflawni gwaith gorfodi. Gallai unrhyw un a fyddai'n torri'r PSPO dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig neu fod yn agored i ddirwy yn y llys ynadon.

 

Lluniwyd y PSPO Canol Dinas cyntaf yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd 2015, yn dilyn ymgynghori helaeth â'r cyhoedd a goruchwyliaeth gan y swyddogaeth Graffu. Cafodd y PSPO gwreiddiol wedyn ei ddisodli gan Orchymyn diwygiedig yn 2018. Roedd yn rhaid adolygu'r PSPO bob tair blynedd i ystyried a oedd angen parhau â'r mesurau rheoli.

 

Yn unol â'r ddeddfwriaeth â'r canllawiau statudol, roedd yn ofynnol i'r Cyngor ymgynghori â'r Heddlu a'r gymuned ehangach. Roedd canlyniadau'r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac ymatebion y cyhoedd i'r ymgynghoriad ehangach wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad.

 

Heddlu Gwent oedd yn gorfodi cyfyngiadau'r PSPO cyfredol yn bennaf, ac roedd cydweithwyr o'r Heddlu wedi bod yn ymwneud â´r broses adolygu ac yn bresennol yn nau gyfarfod y Pwyllgor Rheoli Craffu. Roeddent o blaid parhau â chyfyngiadau'r PSPO ac yn hyderus y byddai'r mesurau rheoli hyn o gymorth iddynt reoli canol y ddinas yn fwy effeithiol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu sylwadau'r Heddlu a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac roeddent yn fodlon bod yr angen am PSPO yn parhau yng nghanol y ddinas.  Roeddent yn argymell y dylid ei adnewyddu ar yr un telerau ag o'r blaen, ond gan gynnwys un mesur rheoli ychwanegol yn gysylltiedig â defnydd peryglus o e-feiciau a e-sgwteri. Fodd bynnag, y Cyngor llawn oedd i benderfynu'n derfynol ynghylch mabwysiadu unrhyw PSPO.

 

Wrth ystyried yr angen am unrhyw PSPO a'i effaith, roedd yn rhaid i'r Cyngor roi sylw i'w ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, a'i ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ac felly roedd Asesiad Effaith Tegwch a Chydraddoldeb wedi cael ei gynnal, a oedd hefyd wedi'i atodi i'r adroddiad hwn. Ystyriwyd bod y mesurau rheoli a gynigiwyd yn ffordd resymol a chymesur o atal neu leihau effaith niweidiol y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Canol y Ddinas.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Truman fod y Cyngor yn penderfynu cymeradwyo PSPO Canol y Ddinas fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

§  Fel Cadeirydd y Pwyllgor Craffu fu'n adolygu'r PSPO newydd, diolchodd y Cynghorydd Lacey i'r swyddogion, asiantaethau allanol ac aelodau'r pwyllgor am yr amser a dreuliwyd yn sicrhau bod y gorchymyn a gyflwynwyd heddiw'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cynnig canlyniad angenrheidiol a chymesur ar gyfer yr hyn yr oedd ei angen yng nghanol y ddinas.

 

Ar ôl casglu y dylid argymell y PSPO fel yr oedd wedi'i gyflwyno, derbyniodd y Pwyllgor Craffu gyngor gan y swyddogion, Pennaeth y Gyfraith a Safonau yn ogystal â Heddlu Gwent.  Roedd yr holl bartïon yn argymell yn gryf y gorchymyn fel yr oedd wedi'i gyflwyno heddiw.  Gan hynny, roedd y Cynghorydd Lacey o blaid cymeradwyo'r gorchymyn hwn.

 

§  Cymeradwyodd y Cynghorydd M Evans yr adroddiad yn anfoddog, gan barhau i fod yn siomedig nad oedd gwaharddiad llwyr ar gardota.  Er bod materion hawliau dynol yn berthnasol, roedd hi'n werth nodi bod gan drigolion yr hawl i ymweld â chanol y ddinas heb gael pobl yn gofyn iddynt am arian, gan fod rhoi arian yn aml yn wrthgynhyrchiol a bod cymdeithasau ar gael i roi cymorth i bobl ddigartref.  Roedd felly angen mynd i'r afael â hyn ar fyrder.

 

§  Roedd y Cynghorydd H Townsend yn croesawu'r camau a gymerwyd yn gysylltiedig ag e-feiciau ac e-sgwteri yng nghanol y ddinas, ond ni chytunai â'r mesurau a gymerwyd ynghylch digartrefedd - teimlai fod pobl ddigartref yn cael eu cosbi.  Nid oedd y Cynghorydd Townsend felly'n cymeradwyo'r cynnig.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Ferris am sgwrs a gafodd yn ddiweddar â chwpl nad oeddent yn ymweld â Chasnewydd gan fod yr achosion o gardota bygythiol yn gwneud iddynt deimlo'n anniogel.  Roedd ef ei hun wedi cael profiad tebyg wrth gasglu arian er budd elusen, pan ofynnwyd iddo symud ymaith.  Nid oedd ychwaith yn dderbyniol i sgwteri trydan yrru'n gyflym.

 

§  Cyfeirioddyr Arweinydd at sylwadau'r Cynghorydd Lacey ynghylch y cynnig seiliedig ar wybodaeth, a'r ymarfer casglu data, a chyflwyno'r cynigion dan sylw. Nid oedd hyn yn seiliedig ar dybiaethau, ond ar dystiolaeth ffeithiol, yr oedd yn rhaid ei hystyried.  Roedd amryw o ddadleuon ar y naill ochr a'r llall, ond mynegodd yr Arweinydd y glir fod gwaith i gefnogi pobl ddigartref yn parhau.  Yn sgil y pandemig, trawsnewidiwyd y dull o roi cymorth i bobl sy'n agored i niwed, a'r hyn yr oedd y Cyngor yn gallu ei wneud.  Roedd yr Arweinydd felly o'r farn fod yr adroddiad yn rhesymol.

 

Penderfynwyd:

Y dylai'r Cyngor fabwysiadu a gweithredu PSPO Canol y Ddinas (2021-2024), fel y nodwyd yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: