Agenda item

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Strategol 2020/21

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad uchod i'r Cyngor.

 

O dan Ddeddf Cydraddoldeb (2010) roedd yn ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb strategol a geir yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol. Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gyhoeddi data cydraddoldeb staff, a oedd yn yr adroddiad hwn hefyd. Roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn trafod y flwyddyn gyntaf o gyflawni yn erbyn Amcanion Cydraddoldeb Strategol newydd y Cyngor, a gyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2020.

 

Datblygwyd yr Amcanion newydd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol a buont yn destun ymgysylltu helaeth â'r gymuned. Er bod y Cynllun yn gwireddu gweledigaeth strategol ar gyfer cydraddoldeb yng Nghasnewydd, sicrhawyd, drwy gynnwys cymunedau ar lawr gwlad, ei fod hefyd yn cynnig canlyniadau pendant i gymunedau lleol.

 

Roedd y pandemig yn creu cryn heriau wrth gyflawni yn erbyn rhai meysydd gwaith, er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau cwsmeriaid. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd mewn meysydd eraill o ganlyniad uniongyrchol i COVID-19. Bu'n rhaid i waith cydraddoldeb y Cyngor am eleni fod yn hyblyg, gan ymateb i heriau a ddeuai i'r amlwg, yn enwedig o ran mynediad i wybodaeth, addysg ac ymdrin â throseddau casineb ar sail hil.

 

Teimlwyd effeithiau ymadawiad y DU â'r UE yn ddwys yn ein cymunedau ymfudol o'r UE eleni, a pharhaodd y ffocws ar helpu pobl i aros yng Nghasnewydd a diogelu eu hawliau. Roedd y Cyngor wedi ystyried effeithiolrwydd ein trefniadau monitro drwy gydol y flwyddyn a chymryd camau i'w gwella.

 

Eleni parhaodd y Cyngor i ddangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn amryfal ffyrdd, gan gynnwys ymrwymo i Bolisi Dim Goddefgarwch i Hiliaeth yng Nghymru gan Gyngor Hil Cymru a Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr. Nodwyd dyddiadau pwysig gennym - gan gynnwys Mis Balchder, Hanes Pobl Ddu 365, Wythnos Ffoaduriaid, Diwrnod Cofio'r Holocost a Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb.  Yn gynharach eleni, dosbarthwyd £100,000 o gyllid i brosiectau cymunedol ar lawr gwlad yn rhan o'r rhaglen Cyllidebu Cyfranogol, a sefydlwyd Gr?p Rhanddeiliaid Hygyrchedd i gynghori ar brosiectau'r cyngor, gyda ffocws ar fynediad i bobl anabl.

 

Mae'r Cyngor wedi sefydlu nifer o rwydweithiau staff er mwyn rhoi cefnogaeth well i'n cydweithwyr sydd o gefndiroedd lleiafrifol. Roedd gan y cyngor bellach rwydwaith staff Amrywiaeth (lleiafrifoedd ethnig), LGBTQ+ ac Anabledd. Roedd dadansoddiad o ddata ein gweithlu yn amlygu meysydd allweddol i'w gwella, gan gynnwys gwella lefelau data cydraddoldeb cofnodedig, alinio categorïau cofnodi yn well â data'r cyfrifiad, a deall pam bod lefelau'r ymadawyr yn uwch ar gyfer grwpiau neilltuol (ee, pobl o gefndir lleiafrifol ethnig a phobl anabl).

 

Roedd gan y Cyngor waith i'w wneud o hyd i wella'r gynrychiolaeth o staff lleiafrifol ethnig ar bob lefel o fewn y sefydliad, a dyma fyddai ffocws ein gwaith yn ystod 2021/22.  Roedd y Cyngor wedi sefydlu gweithgorau penodol ar gyfer Recriwtio a Gweithlu Cynrychioliadol i fwrw ymlaen â hyn. 

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol hwn gerbron y Pwyllgor Rheoli Trosolwg a Chraffu a'r Cabinet.  Roedd y fersiwn yn cynnwys sampl o'r graffeg a fyddai'n cael eu defnyddio yn yr adroddiad terfynol a fyddai'n cael ei gyhoeddi, a'r deunydd cyfathrebu.

 

Cynigioddyr Arweinydd y dylid derbyn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a gofyn i'r Aelod Cabinet dros Asedau ac Adnoddau eilio'r cynnig.

 

Ychwanegoddyr Aelod Cabinet dros Asedau ac Adnoddau mai crynodeb oedd yr adroddiad hwn o'r gwaith a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn gyntaf ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd. Roedd yn nodi ymrwymiad y Cyngor i ddiwylliant yn y gweithle a dull o ddarparu gwasanaethau sy'n gwerthfawrogi cynhwysiant ac amrywiaeth.

 

Byddai'rCyngor yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn dros y 12 mis nesaf, ac roedd yr Adroddiad Blynyddol yn nodi blaenoriaethau clir ar gyfer y cyfnod nesaf yn seiliedig ar adolygiad o ddata ein gweithlu a chynnydd yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb hyd yma.

 

Cyflawnwydgwaith eleni yn erbyn cefndir heriol, a arweiniodd at ffocws dwys ar anghydraddoldeb a chraffu ar ymateb gwasanaethau cyhoeddus i'r pandemig., yn enwedig wrth gefnogi cymunedau lleiafrifol. Un o gryfderau allweddol y cyfnod hwn fu'r cynnydd o ran ymgysylltu â Rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys ein cymunedau ar lawr gwlad a staff lleiafrifol. Defnyddiwyd hyn nid yn unig yn sail ar gyfer ymateb y Cyngor i COVID-19, ond hefyd i lywio'i flaenoriaethau wrth adfer ac mewn gwaith ehangach ar gydraddoldeb.

 

Nododdyr Aelod Cabinet hefyd fod yr adroddiad hefyd wedi'i ysgrifennu'n dda iawn gan swyddogion, ac yn gynhwysfawr iawn.

 

RoeddGr?p Cydraddoldeb Strategol y Cyngor wedi cael ei ailwampio ac erbyn hyn yn derbyn adroddiadau chwarterol ar brif bwyntiau. Roedd Eiriolwyr o blith yr Aelodau Etholedig a Chadeiryddion Rhwydwaith hefyd yn bresennol yn y Gr?p, ac roedd yn canolbwyntio llawer mwy ar ganlyniadau wrth gefnogi'r gwaith hwn.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 20/21 yn unol â therfynau amser statudol.

Dogfennau ategol: