Agenda item

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd 2020/21

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Cynghorydd Hourahine gyflwyno Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Safonau 2020/21 i'r Cyngor.

 

Dyma oedd yr wythfed adroddiad blynyddol, a drafodai'r cyfnod o fis Tachwedd 2020 hyd fis Tachwedd 2021, ac a oedd yn dilyn ymlaen o'r adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i'r Cyngor ym mis Tachwedd 2020.

 

Yn flaenorol, roedd yr Adroddiad Blynyddol hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ar sail wirfoddol.  Fodd bynnag, ers mis Mai 2022, roedd hi bellach yn ofyniad statudol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i'r Pwyllgor Safonau gyflwyno adroddiad blynyddol i'r Cyngor. Yn ogystal â hynny, roedd yn rhaid i Adroddiad Blynyddol y flwyddyn nesaf gynnwys asesiad o'r graddau yr oedd arweinwyr y grwpiau gwleidyddol ar y Cyngor wedi cydymffurfio â'u dyletswyddau newydd i hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad o fewn eu grwpiau.

 

Roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod ar chwe achlysur dros y deuddeg mis diwethaf, gyda'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnal o bell yn unol â Phrotocolau'r Cyngor. 

 

Am y tro cyntaf eleni, galwyd ar y Pwyllgor Safonau i gynnal gwrandawiad camymddwyn ac i orfodi sancsiwn ar aelod etholedig. Nid oedd hyn yn adlewyrchu'n dda ar y Cyngor, ac felly ystyriwyd y dylai'r achos hwn fod yn wers lesol i'r holl aelodau. Roedd copi llawn o'r penderfyniad felly wedi'i atodi i'r Adroddiad Blynyddol hwn, ac roedd yr holl aelodau'n cael eu hannog i ddarllen a nodi'r rhesymau wrth wraidd y penderfyniad.

 

Ni phenderfynwyd yn ffurfiol ar unrhyw gwynion o dan Gamau 1 a 2 y Protocol Datrys yn Lleol, ac ni chyfeiriwyd unrhyw gwynion i sylw'r Pwyllgor Safonau o dan Gam 3 yn ystod 2020/21.

 

Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod tair cwyn wedi'u cyfeirio i sylw'r Ombwdsmon am Gynghorwyr y Ddinas dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod wyth cwyn wedi'u gwneud ynghylch cynghorwyr cymuned. Ar wahân i un achos o gamymddwyn, ni dderbyniwyd bod angen cynnal ymchwiliad ffurfiol i'r cwynion eraill, er i'r Ombwdsmon ysgrifennu at ddau gynghorydd cymuned i'w hatgoffa ynghylch eu rhwymedigaethau o dan y Cod, ac i'w rhybuddio i beidio bod yn ymosodol nac yn amharchus tuag at aelodau o'r cyhoedd yn y dyfodol, ac i beidio dwyn anfri ar eu swydd.

 

Roedd y gofynion hyfforddi ar gyfer Cynghorwyr Cymuned, cynghorau cymuned a'u clercod yn parhau i gael eu monitro a'u hadolygu'n rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor, yn enwedig wrth inni symud tuag at y cylch nesaf o etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022.

 

Yn ystod y 12 mis diwethaf, cwblhaodd dau o'r aelodau annibynnol a oedd wedi gwasanaethu hiraf ar y Pwyllgor, Phil Westwood (Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor) a Tracey Britton, eu hail dymor swydd, a dymunai'r Pwyllgor fanteisio ar y cyfle i ddiolch iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled ar hyd y blynyddoedd. Roedd hi'n bleser gan y Pwyllgor gael croesawu Richard Morgan a Gill Norton fel aelodau annibynnol newydd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid nodi a chytuno ar yr adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Derbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2020/21 a nodi'r flaenraglen waith..

Dogfennau ategol: