Agenda item

Hysbysiad o Gynnig: Cynnig i Gyngor Dinas Casnewydd ddatgan Argyfwng Hinsawdd

To receive the following motion for which the necessary notice has been provided.

 

Newport City Council resolves to:

Declare an Ecological and Climate Emergency.

·         Newport City Council will continue the good work that we have started and reduce our carbon emissions to net zero carbon by 2030.

·         Review the services we provide to ensure they support the city’s journey to both net zero carbon and adapting to the impacts of climate change by 2050.

·         Develop a clear Climate Change Organisational plan, in consultation with our citizens, for the next five years that will set out the actions we need to take to achieve this.

·         Develop a city-wide Local Area Energy Plan, in collaboration with experts from the public, private and third sector to develop innovative solutions to decarbonise heat, electricity and local transport and realise local renewable energy production.

·         Work with One Newport partners and the public to develop a city-wide Climate Strategy to enable city-wide net zero carbon and adaptation to climate change by 2050 and integrate best ecological practice into each area of the council’s activity, allowing us to lead the city by example.

·         Publicise this declaration of an ecological and climate emergency to residents and businesses in Newport and support and influence action by partners through partnerships and support and enable action by citizens to reduce their own carbon emissions.

The motion is to be proposed by the Leader and seconded by Councillor Jason Hughes.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynnig a ganlyn i’r Cyngor a chadw ei hawl i siarad yn ddiweddarach yn y drafodaeth.

 

Datgan Argyfwng Ecolegol a Hinsawdd.

 

§  Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau â’r gwaith da yr ydym wedi’i ddechrau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon i garbon sero net erbyn 2030.

§  Adolygu'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas  tuag at garbon sero net, ac wrth ymaddasu i effeithiau'r newid hinsawdd erbyn 2050.

§  Datblygu cynllun sefydliadol clir ar gyfer y Newid Hinsawdd, mewn ymgynghoriad â'n dinasyddion, ar gyfer y pum mlynedd nesaf a fydd yn nodi'r camau gweithredu ar gyfer cyflawni hynny.

§  Datblygu Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y ddinas gyfan, mewn cydweithrediad ag arbenigwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddatblygu datrysiadau arloesol i ddatgarboneiddio gwres, trydan a thrafnidiaeth leol a gwireddu cynlluniau i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn lleol.

§  Gweithio gyda phartneriaid Casnewydd yn Un a’r cyhoedd i ddatblygu Strategaeth Hinsawdd ar gyfer y ddinas gyfan er mwyn galluogi sero net ac ymaddasu i'r newid hinsawdd drwy'r ddinas gyfan erbyn 2050, ac ymgorffori arfer gorau ecolegol ym mhob rhan o weithgarwch y Cyngor, gan ein galluogi i arwain drwy esiampl.

§  Rhoi cyhoeddusrwydd i’r datganiad hwn o argyfwng ecolegol a hinsawdd ymhlith trigolion a busnesau yng Nghasnewydd, a chefnogi a dylanwadu ar gamau gweithredu gan bartneriaid drwy bartneriaethau a chefnogaeth a galluogi dinasyddion i weithredu er mwyn gostwng eu hallyriadau carbon eu hunain.

 

Cadwodd yr Arweinydd ei hawl i siarad ar ôl i'r drafodaeth ddod i ben.

Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Hughes, a wnaeth hefyd gadw ei hawl i siarad.

 

Ni chynigiwyd unrhyw ddiwygiadau.

 

Sylwadau ar y Cynnig gan y Cynghorwyr:

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Jeavons fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd mawr dros y pedair blynedd diwethaf gan sicrhau gostyngiad o bron 30% mewn allyriadau carbon. Roedd hyn yn cynnwys gosod bylbiau LED ynni isel yn lle bylbiau traddodiadol yn yr holl oleuadau stryd, a chyflwyno amryw o systemau solar PV ar draws ei ystâd.  Yn fuan, byddai'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad ar ei strategaeth newid hinsawdd uchelgeisiol. Gydag ymrwymiad i sero net erbyn 2030 neu'n gynt.

 

Aeth y Cynghorydd Jeavons ymlaen i ddweud bod gan y Cyngor fflyd o ychydig dros 200 o gerbydau, a'i fod yn symud i ffwrdd yn gyflym oddi wrth gerbydau diesel a phetrol. Erbyn diwedd y flwyddyn byddai 25% o'r fflyd yn drydan, gan gynnwys pob car a fan fach.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gweithio ar beiriannau a cherbydau pwrpasol mwy heriol, ac yn ddiweddar rhoddodd yr RCV cyntaf ar waith yng Nghymru, a byddai pum cerbyd arall yn ymuno â'r fflyd dros y misoedd nesaf.  Erbyn 2030, byddai holl fflyd y Cyngor yn rhedeg ar drydan.

 

Byddai newid ceir a faniau yn arbed 75 tunnell o CO2 y flwyddyn. Roedd hyn yn cyfateb i'r swm y byddai 100 o goed yn ei amsugno dros 75 mlynedd.  Mae pob RCV trydan yn arbed 40 o dunelli o Co2 y flwyddyn, a byddai'r Cyngor yn targedu'r defnydd o gerbydau trydan at Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer.

 

Roedd 21 o orsafoedd gwefru yn adeiladau'r cyngor, 50 wedi'u gosod yn ein meysydd parcio i'w defnyddio gan y cyhoedd, ac roedd cynlluniau ar droed i osod gwefrwyr cyflym a chyfleusterau gwefru preswyl.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Lacey wrth ei gyd-aelodau ein bod mewn argyfwng Ecolegol a Hinsawdd, ac nad oedd hi'n rhy hwyr i aelodau etholedig sefydlu polisi i gael effaith gadarnhaol ar y ddinas er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Dim ond un cyngor, ac un ddinas, oedd Casnewydd. Er hynny, ond ychydig o flynyddoedd yn ôl gwnaed cynnig i'r cyngor droi Casnewydd yn ddinas sy'n gyfeillgar â gwenyn, ac roedd y cynnig hwnnw eisoes wedi cael cryn effaith.  Roedd nid un, ond dwy wenynen brin ac mewn perygl yn ffynnu yn y ddinas - gellid cael hyd i'r gardwenynen feinlais nid yn unig ar wastadeddau Gwent, ond hefyd yn Sain Silian, ynghyd â'r wenynen grwydrol ymyl arian. Yn ogystal â hynny, sylwodd gwenynwyr lleol ar gynnydd yn y mêl a gynhyrchwyd eleni yn sgil menter Mai Di Dor, yn ogystal â chreu'r dolydd blodau gwyllt.

 

Aeth y Cynghorydd Lacey yn ei flaen i ofyn i'r aelodau gefnogi'r cynnig o'u blaen er mwyn sicrhau'r effaith honno unwaith eto am genedlaethau i ddod.

 

§  Roedd y Cynghorydd Forsey yn croesawu'r cynllun newid hinsawdd i'r cyngor gyrraedd sero net.  Roedd y Cynghorydd Forsey yn annog cerdded a beicio, ac yn awgrymu cynllunio teithiau lle bynnag y bo modd.  Roedd y mwyafrif o deithiau'n llai na milltir o hyd, a byddai cerdded yn ddewis iachach gan fod y Cyngor yn cynllunio mwy o lwybrau teithio llesol.

 

§  Fel yr Aelod Cabinet blaenorol dros ddatblygu cynaliadwy, soniodd y Cynghorydd Davies fod hyn yn dal i fod yn fater yr oedd yn dal i deimlo'n angerddol iawn yn ei gylch, ac roedd hi'n teimlo rheidrwydd moesol i symud yn gyflym a diogelu dyfodol ein planed.

 

Roedd y newid hinsawdd bellach yn effeithio ar bob gwlad ar bob cyfandir, ac yn effeithio ar fywydau, gan gostio'n ddrud i bobl, cymunedau a gwledydd yn y presennol, a byddai'n costio mwy fyth yn y dyfodol.

 

Roedd pobl yn profi effeithiau sylweddol y newid hinsawdd, a oedd yn cynnwys newid ym mhatrymau'r tywydd, cynnydd yn lefelau'r môr a digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Mae'r allyriadau nwyon t? gwydr o weithgareddau dynol yn gyrru'r newid hinsawdd , ac roedd y lefelau hynny'n parhau i godi i'w lefelau uchaf erioed. Heb weithredu, rhagfynegwyd y byddai tymheredd cyfartalog arwynebedd y byd yn codi dros y 21ain ganrif, a byddai'n debygol o fynd heibio 3 gradd selsiws.

 

Mae’n glir mai'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed y mae hyn yn effeithio arnynt fwyaf. Mae hyn yn wir ar raddfa ryngwladol, mewn gwledydd fel Madagasgar, lle cafodd sychder ei achosi'n llwyr gan y newid hinsawdd gan arwain at newyn a chlefyd.

 

Ar raddfa fwy lleol, roedd hi'n glir bod hyn yn effeithio'n fwy uniongyrchol ar y rhai mwyaf difreintiedig, a oedd naill ai'n byw mewn ardaloedd lle roedd lefelau uchel o allyriadau co2 wedi'u cofnodi, neu'n byw mewn tai annigonol nad oeddent yn addas i wrthsefyll yr hinsawdd eithafol a oedd yn cael ei rhagweld.  Teimlwyd bod gan bawb gyfrifoldeb personol i weithredu.

 

Roedd cymryd cyfrifoldeb corfforaethol a datblygu strategaeth ar gyfer y ddinas gyfan a fyddai'n ein galluogi ni fel dinas i droi'n garbon niwtral erbyn 2050 yn rhywbeth yr oedd yn rhaid ei ganmol, felly cefnogodd y Cynghorydd Davies y cynnig.

 

§  Awgrymodd y Cynghorydd Whitehead fod y drafodaeth ynghylch llygredd wedi cael ei rhoi i'r naill ochr, ond bod angen codi hyn fel mater o flaenoriaeth.  Soniodd y Cynghorydd fod swm aruthrol o chwyn yn cuddio plastigau ar safle Sainsbury's at y Castell.  Roedd llawer o blastig wrth y fynedfa i Ganol y Ddinas hefyd, ac roedd angen mynd i'r afael â hyn.

 

§  Soniodd y Cynghorydd M Evans y byddai'r gr?p Ceidwadol yn cefnogi'r cynnig, ac roedd yn croesawu'r cyfle i gydweithio â'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector.  Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd hi iddynt ddarparu datrysiadau arloesol a chymorth er mwyn helpu'r cyngor i gyrraedd ei nod a'i darged.  Fodd bynnag, roedd angen i'r cyhoedd gefnogi hyn.  Byddai rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig a fyddai'n rhedeg bob awr o'r dydd a phob dydd o'r flwyddyn am bris rhesymol, ynghyd â gwasanaeth bws dibynadwy am bris rhesymol o gymorth mawr, ond roeddem ymhell o allu cyflawni hyn.  Roedd angen cydnabod bod car yn rheidrwydd i rai pobl, yn hytrach na moethusrwydd. Er mwyn galluogi teuluoedd incwm isel i gymryd rhan drwy ddewis opsiynau fforddiadwy, byddai angen swm sylweddol o gyllid gan y llywodraeth.  Ni fyddai hyn yn hawdd, a byddai angen i bob un ohonom osod esiampl, a byddai angen i weddill y byd chwarae ei ran hefyd.

 

§  I gloi, dywedodd y Cynghorydd Hughes y byddai'r rhan fwyaf ohonom yma heno yn ymwybodol iawn o'r niwed aruthrol y mae cynnydd cyfartalog o 2~C yn nhymheredd y byd yn debygol o'i achosi i'n planed, hyd yn oed o gymharu â chynnydd o 1.5*C.

 

Rydym yn wlad arfordirol, ac mae Casnewydd yn ddinas forol - rhywbeth fu o'n plaid yn y gorffennol ond sy'n codi heriau difrifol o ran ein dyfodol. Ni fydd yr un gornel o'r byd yn osgoi canlyniadau'r newid hinsawdd.

 

Bellach bydd angen cymryd camau uchelgeisiol ar raddfa leol a chenedlaethol, ac fel unigolion er mwyn cyfyngu ar gynhesu byd-eang.

Mae Casnewydd wedi ymrwymo i dargedau sero net ac yn arwain y ffordd mewn sawl maes. Mae ein staff dawnus ac angerddol yn ein gwneud yn sefydliad y gallwn ymfalchïo ynddo. Rydym wedi gwneud dechrau da, a chynnydd cryf, ond fel y trafodwyd drwy gydol COP26 mae angen gweithredu llawer mwy o gamau brys i osgoi effeithiau gwaethaf y newid hinsawdd.

 

Bydd datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd yn cryfhau ein safbwynt ymhellach wrth barhau i gymryd camau effeithiol. Fel cyngor byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithredu'r holl gamau a amlygir, a bod ein cynlluniau'n gyson ac effeithiol wrth gyrraedd ein targedau uchelgeisiol.

 

Mae ein cydweithwyr yn y Cyngor wedi siarad am y gwahaniaeth rydym yn ei wneud, ac effaith gadarnhaol y cynigion rydym yn eu cymeradwyo ar yr amgylchedd. Ledled y ddinas mae pobl yn gwneud gwahaniaeth ac mae'r Cyngor hwn yn gwneud gwahaniaeth - rhaid inni sicrhau nad ydym yn colli momentwm.

 

Anogodd y Cynghorydd Hughes yr aelodau i rannu ac ymateb i ddrafft y strategaeth newid hinsawdd, ac i helpu i lunio ymateb ein dinasoedd i'r heriau hyn.

 

Mae cynifer o weithgareddau'n cael eu cynnal ledled y ddinas y gallwn fod yn wirioneddol falch ohonynt - rydym yn gweld ein bioamrywiaeth drefol yn ffynni, rhywogaethau newydd yn dychwelyd a phartneriaethau a chymunedau'n ymgysylltu, ond mae'r her o flaen dynoliaeth yn cynrychioli'r her fwyaf erioed, ac mae'r cynnig yn ein rhwymo ni i gyd i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r heriau, cefnogi ein hecosystemau a chyrraedd sero net.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod y cynnig hwn yn anfon neges glir ein bod yn cymryd y materion hyn o ddifri ac y byddwn yn parhau i fynd ati'n rhagweithiol i gyflawni ein rhwymedigaethau i genedlaethau'r dyfodol.

 

Roedd y Cynghorydd Hughes yn falch o eilio'r cynnig hwn a gofynnodd i'w gydweithwyr yn y Cyngor gefnogi'r cynnig hefyd.

 

§  Soniodd yr Arweinydd ei bod yn amlwg bod cytundeb trawsbleidiol o blaid y cynnig hwn, a phwysleisiodd rôl gwaith partneriaeth.  Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i siarter teithio cynaliadwy.  Roedd cyfle i yrwyr tacsi ddefnyddio'r cynllun Cerbydau Trydanol (EV) sydd ar gael iddynt brofi moduron cerbydau trydan.  Roedd trafodaeth yn cael ei chynnal ar sut i harneisio’r adnodd naturiol ar hyd coridor yr M4 o Afon Hafren.  Roedd y Cyngor yn mynd i'r afael â rhai o'r materion y rhoddwyd sylw iddynt gan gydweithwyr yn y cyfarfod hwn, fel chwynnu a chodi sbwriel.  Cyfeiriodd yr Arweinydd sylwadau cydweithwyr o’r wrthblaid a diolch i bawb am eu cefnogaeth yn y drafodaeth hon. Teimlwyd bod rhwymedigaeth foesol i gefnogi'r plant yng Nghasnewydd fel eu bod yn cael dyfodol mwy cynaliadwy.

 

Penderfynwyd:

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig ac fe'i derbyniwyd yn briodol.