Agenda item

Adroddiad Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y Cyfnod hyd at 30 Medi 2021

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth ei chydweithwyr yn y Cabinet maiadroddiad cydymffurfio oedd hwn i gadarnhau fod gweithgareddau’r Trysorlys yn hanner cyntaf 2021-22 yn unol â’r Strategaeth Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd gan yr Aelodau. Yr oedd yr adroddiad yn cymharu gweithgaredd gyda’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn 2020-21 i nodi’r achosion.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth a ganlyn:

 

·        Atgoffa am y strategaeth trysorlys y cytunwyd arni

·        Manyliongweithgaredd benthyca a buddsoddi

·        Gwybodaeth am ystyriaethau economaidd ehangach fel y pandemig a’r hinsawdd economaidd

·        Cyfoesiad am y cod Trysorlys Rhyngwladol ar gyllido buddsoddi masnachol

Daeth yr adroddiad i ben gydag archwiliad o weithgaredd yn erbyn perfformiad, gan gadarnhau cydymffurfio.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a’i gadarnhau ganddynt i fynd ymlaen i’w ystyried gan y Cabinet a’r Cyngor yn y pen draw.

 

Felar 30 Medi 2021 gostyngodd lefel y benthyca o £9.1m ar lefelau 2020-21 i £144m. 

 

Yr oedd y gostyngiad hwn oherwydd:

 

·        Ad-dalu benthyciad PWLB a aeddfedodd yn hanner cyntaf 2021/22.  Fel ar 30 Medi nid oedd angen benthyca pellach i ail-gyflenwi’r benthyciad hwn. Efallai y bydd angen benthyca dros dro cyn 31 Mawrth 2022.

·        Yr oedd gan y Cyngor nifer o fenthyciadau oedd yn Rhandaliadau Cyfartal o’r Prifswm (EIP), oedd yn ad-dalu’r prifswm dros einioes y benthyciad, gyda’r llog cysylltiedig â’r benthyciad yn gostwng wrth i’r prifswm leihau.

 

·        Cynyddoddlefel y buddsoddiadau hefyd o £4.1m i £28.9m, oedd yn ostyngiad yn y benthyca net o £13.3m yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol i £115.1m. 

 

Cynhwysiryn ffigwr y buddsoddiad £13.9m a ddelir fel arian parod. Yr oedd hyn tua £6m yn llai na’r swm ar ddiwedd y flwyddyn, ond oherwydd y pandemig, yr oedd yr Awdurdod yn dal i gadw lefelau uwch na’r hyn oedd yn normal o arian parod fel y gall fod ar gael ar rybudd byr iawn i dalu am unrhyw alw annisgwyl am y llif arian.

 

Arhyn o bryd, nid oedd llawer o alw am fenthyca byr iawn yn y farchnad, ac ym mis Medi yr oedd cyfraddau ar adneuon is na 14 diwrnod gyda’r Cyfleuster Adneuo Cyfrif Rheoli Dyled (DMADF) yn dal yn isel iawn ar 0.01%. Mae gan yr Awdurdod fuddsoddiadau gydag awdurdodau lleol eraill o £15m gyda chyfraddau llog sydd fymryn yn well, ond yn dal yn isel. Rhagwelir y bydd y buddsoddiadau yn gostwng yn ystod 2021/22 fel dewis arall yn lle benthyca hyd nes i ni gyrraedd y balans o £10m, a fyddai’n parhau wedi ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol a Deilliannau (MiFIDII).

 

O ganlyniad i hyn, ni fydd angen benthyca tymor-hir o’r newydd yn hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, ond yr ydym yn rhagweld y bydd angen i’r Cyngor gymryd benthyciadau ychwanegol yn y tymor byr am weddill y flwyddyn er mwyn talu am weithgaredd llif arian normal o ddydd i ddydd, er, gyda’r rhagolygon gwariant cyfalaf cyfredol, y disgwyl yw na fyddai unrhyw ofyniad penodol i fenthyca dros y tymor hir yn y flwyddyn ariannol hon. Efallai y bydd angen ystyried benthyca allanol er mwyn rheoli risg o du cyfraddau llog, a rheidrwydd benthyca tymor-hwy y Cyngor.

 

Mae’rAwdurdod wedi mesur a rheoli pa mor agored ydyw i risgiau rheoli trysorlys gan ddefnyddio gwahanol ddangosyddion, sydd i’w gweld yn Atodiad B.  Cadarnhaodd yr adroddiad fod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â’r Dangosyddion Cynghorus a osodwyd ar gyfer 2021/22.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn nodi’r adroddiad ar weithgareddau rheoli trysorlys am y cyfnod hyd at 30 Medi 2021 a rhoddodd sylwadau i’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: