Agenda item

Cofrestr Risg Corfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad ar Bolisi Rheoli Risg y Cyngor a’r Gofrestr Risg Gorfforaethol, oedd yn galluogi’r weinyddiaeth a swyddogion i nodi, rheoli a monitro yn effeithiol y risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyrraedd ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

 

Byddai’r adroddiad risg Chwarter Dau hefyd yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ym mis Ionawr (2022)  i adolygu proses rheoli risg a threfniadau llywodraethiant y Cyngor.

 

Arddiwedd chwarter dau, yr oedd gan y Cyngor 46 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny y tybiwyd eu bod yn fwyaf arwyddocaol i gyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu rhoi ar Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor i’w monitro. 

 

Arddiwedd chwarter dau, cofnodwyd 18 risg yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol:

·        UnarddegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        PumRisg Fawr (7 i 14);

·        Un Risg Ganolig (4 i 6); ac

·        Un Risg Isel (1 i 3).

 

Newidyng Nghyfeiriad Sgoriau Risg

O gymharu â chwarter un, arhosodd 13 risg ar yr un sgôr risg gyda phedair risg yn cynyddu ac un sgôr risg yn gostwng.

 

Yn y chwarter olaf, yr oedd cyfradd achosion Covid wedi cynyddu, gyda llacio cyfyngiadau. Yr oedd llwyddiant y rhaglen frechu wedi lliniaru’r salwch mwyaf difrifol mewn ysbytai, ond mae cyfraddau heintiad uchel wedi cael effaith ar lefelau staffio a phresenoldeb mewn ysgolion.

 

Yr oedd ansicrwydd bellach gydag amrywiolyn newydd Omicron, a bydd yn rhaid i drigolion a’r Cyngor ddal i fod yn wyliadwrus dros gyfnod y gaeaf.

 

GweloddGofal Cymdeithasol Oedolion yng Nghasnewydd fwy o alw am ei wasanaethau, ac yr oedd hyn yn effeithio ar allu’r Cyngor i wneud y ddarpariaeth angenrheidiol.

 

YngNghasnewydd a Chymru yn gyffredinol, yr oedd y sector gofal cymdeithasol yn cael trafferth recriwtio a chadw staff.  Yr oedd llawer o swyddi gwag, ac yr oedd yr holl ddarparwyr gofal yn cael anhawster denu pobl o’r newydd, tra bod y staff presennol yn cael eu denu i sectorau eraill gyda chyflog gwell a chymhellion ariannol.

 

Yr oedd y Cyngor yn rhan o drafodaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y pecynnau gofal yr oedd arnynt eu hangen ac i fynd i’r afael â materion recriwtio a swyddi gwag.

 

Yn dilyn COP26, bu mwy o bwyslais ar genhedloedd i ddad-garboneidido a lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Cynyddodd y sgôr risg i adlewyrchu mwy o debygolrwydd y bydau tymereddau’n codi ledled y byd. 

 

Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i leihau ei allyriadau carbon i sero net carbon erbyn 2030, ac yr oedd wedi cychwyn ar hyn eisoes. Byddai angen i’r Cyngor wneud mwy i wireddu hyn nid yn unig i’r Cyngor ei hun ond ar draws y ddinas.

 

Drafftiodd y Cyngor gynllun clir am y pum mlynedd nesaf o ran y camau y bydd angen eu cymryd i gyrraedd y targed hwn. Yr oedd y Cynllun yn destun ymgynghori a byddai’n cael ei lansio yn gynnar yn 2022.

 

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Casnewydd argyfwng ecolegol a hinsawdd oedd yn cydnabod yr angen i warchod amgylcheddau lleol Casnewydd a lleihau allyriadau carbon ledled y ddinas. Byddai’r cynnig yn sicrhau y byddai pob penderfyniad a pholisi yn y dyfodol  a wnaed gan Gyngor Casnewydd yn cael eu hintegreiddio ar draws gweithgareddau’r Cyngor, a byddai’r Cyngor yn arwain trwy esiampl gan weithio mewn partneriaeth.

 

Yn y chwarter olaf, bu effaith economaidd eang oedd yn effeithio ar gyflwyno gwasanaethau yng Nghasnewydd.

 

Gwelwyd hyn amlycaf mewn swyddi gwag i yrwyr HGV a staff gofal cymdeithasol. 

 

Yr oedd trigolion a busnesau hefyd yn gweld cynnydd yng nghost nwyddau a gwasanaethau, ac yr oedd hyn yn effeithio ar gyflenwad nwyddau. 

 

Cynhaliodd y Cyngor hunanasesiad o Ddiogelu, oedd yn nodi’r arferion da oedd yn digwydd yn y sefydliad.

 

Gyda’rhunanasesiad hwn, yr oedd gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o lle oedd angen gwella, a chynnal arferion da. 

 

Canlyniadhyn oedd gostwng y sgôr risg gyffredinol i bedwar.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·        Soniodd y Cynghorydd Cockeram am y rhan hwnnw o gyflwyniad yr Arweinydd a grybwyllodd y pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol gyda swyddi gwag a chyfraddau tâl. Dywedodd yr Aelod Cabinet y bu mewn cyfarfod o’r Bartneriaeth Ranbarthol ddoe lle penderfynwyd na allent aros i’r Llywodraeth wneud y trefniadau angenrheidiol i gynyddu cyfraddau tâl, felly trafododd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol godi cyfraddau tâl i ofal cartref fel rhanbarth. Byddai gwneud hyn trwy wario £1M yn golygu na fyddai cyflogau ond yn codi o £1, ac fe gymerai lawer o arian i ddod â’u tâl i fyny i lefel y cyflog byw. Nid oedd hyn yn llawer o arian i’r rhanbarth, ond y teimlad oedd y dylid darparu’r £1.8M o arian cynllun y gaeaf i staff gofal cartref.  

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Jeavons y byddai clefyd marwolaeth yr ynn yn newid tirwedd y ddinas dros y misoedd i ddod oherwydd y perygl i’r cyhoedd ac i adeiladau. Er hynny, byddai rhaglen o blannu coed newydd yn digwydd.

 

·        Manteisiodd y Cynghorydd Hughes ar y cyfle i atgoffa’r cyhoedd fod y drafft o gynllun newid hinsawdd yn destun ymgynghori tan ddiwedd Rhagfyr 2021 a bod yr holl fanylion ar wefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol Cyngor Dinas Casnewydd.

 

·        Yr oedd y Cynghorydd Davies eisiau dweud wrth gydweithwyr lle’r oedd y Cyngor gyda statws Cerpyn Coch yng nghyswllt y galw am gefnogaeth a darpariaeth ADY ac AAA.  Yr oedd y Cyngor yn dal i aros am ganllawiau gan LlC dan Ddeddf ADY newydd. Bu oedi oherwydd y pandemig ac yr oedd swyddogion a’r Aelod Cabinet wedi lleisio pryderon wrth CLlLC ynghylch y blaenoriaethau a’r darpariaethau o ran cyllid fel y gallai’r Gwasanaethau addysg symud ymlaen a dod allan o statws Cerpyn Coch. Yr oedd cyllidebau ysgolion yn awr ar oren, ac yr oedd yr aelod Cabinet yn falch o adrodd mai dim ond tair ysgol oedd a chyllideb ddiffyg, a bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r ysgolion hynny i sicrhau bod cefnogaeth ar gael a bod cyllidebau yn cael eu rheoli.

 

·        Cyfeiriodd y Cynghorydd Harvey at y ffaith fod achosion covid yn cynyddu, ac yr oedd am sicrhau’r cyhoedd fod modd galw ar y Cyngor i roi cefnogaeth.

 

·        Soniodd y Cynghorydd Mayer fod seibr-ddiogelwch yn dal ar goch oherwydd, yn anffodus, y bydd pobl yn dal i allu dod o hyd i ffyrdd o gyrchu data.  Yr oedd yr asedau hefyd ar goch, ac y mae hyn yn fater o bwys y mae’n rhaid i ni ddelio ag ef: yr oedd yn rhan o’r normal newydd wrth i’r cyngor geisio rhesymoli ei wasanaethau.

 

·        Awgrymodd y Cynghorydd Truman fod ansicrwydd mawr ynghylch blaengynllunio oherwydd yr amrywiolyn newydd, ond fod angen i ni gynllunio yn iawn. Hefyd, yr oedd Brexit yn broblem, gyda phrinder gyrwyr HGV, yr economi, costau ynni a chostau cyflogaeth, ond byddai’r cyngor yn ateb yr heriau hynny.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys y Gofrestr Risg Gorfforaethol a pharhau i fonitro’r risgiau hyn a’r cynnydd ar gamau a gymerir i ymdrin â’r risgiau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: