Agenda item

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am 2020/2021.  Cwblhawyd hwn gan Chris Humphrey, fel Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol o Ragfyr 2019 - Hydref 2021. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â chyfnod pan ddaeth Chris i’w rôl dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol. Diolchodd yr Arweinydd i Chris am ei gwaith arbennig yn ystod ei chyfnod fel Cyfarwyddwr.

 

Yr oedd yr adroddiad yn trin y cyfnod digynsail o alw ar y Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion. Ym Mai 2021 cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru Wiriad Sicrhau oedd yn edrych yn ôl ar y cyfnod 2020/2021. Nododd y gwiriadGwelsom gefnogaeth seiliedig ar berthynas agored a gonest am y dewisiadau oedd ar gael i bobl oedd angen gofal a chefnogaeth a gofalwyr oedd angen cefnogaeth”.

 

Yr oedd gwasanaethau plant yn wynebu galw digynsail a chynnydd yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd, ac yr oedd y gwasanaethau oedolion yn gweithio dan bwysau sylweddol. Yr oedd y canfyddiadau yn nodi diwylliant o wella a chefnogi ei gilydd, a chydnabyddiaeth o arweiniad cadarnhaol. Er bod y staff wedi eu llethu gan swm enfawr o waith achos cymhleth, yr oedd yr ysbryd ar y cyfan yn dda.

 

Ar draws Gofal Cymdeithasol Plant ac Oedolion, parhawyd i gyflwyno gwasanaethau a chynnal pob lefel o ddarpariaeth ar waethaf effeithiau’r pandemig. O Gysylltwyr Cymunedol a gwasanaethau ataliol plant, i eiriolaeth, gofal cartref a chefnogaeth i deuluoedd hyd at ymyriadau statudol mewn cyfiawnder teulu a darparu gofal maeth a gofal mewn cartrefi preswyl, yr oedd cefnogaeth yn cael ei gynnig i ddinasyddion yn uniongyrchol. Yr oedd y staff yn dal i gyflwyno gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ogystal â cheisio atebion arloesol i ymdrin â chyfyngiadau’r pandemig.

 

MewnGwasanaethau Oedolion, datblygwyd gwasanaeth estyn allan newydd, ac yr oedd prosesau’r Gwasanaeth o ran rhyddhau o’r ysbyty wedi eu gwreiddio’n llwyddiannus yn Ysbyty newydd y Faenor a agorodd ym Medi 2020. Yr oedd y timau ysbyty ac Ail-alluogi yn bresennol yn yr ysbytai trwy gydol yr amser.

 

MewnGwasanaethau Plant, fe wnaethom gyflwyno tîm Ymateb Sydyn a chyflwyno ‘Babi a Fi’ i gefnogi teuluoedd i ofalu yn ddiogel am eu plant yng nghartref y teulu.

 

Yr oedd gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a chyda’n cymunedau yn allweddol i’n galluogi i barhau i gyflwyno gwasanaethau cadarnhaol. Ar bob lefel o’r Gwasanaethau Cymdeithasol, mae swyddogion ac Aelodau yn parhau i gynrychioli CDC ar fforymau rhanbarthol a chenedlaethol gan gynnwys y Byrddau Diogelu, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, gr?p rhanbarthol i blant heb neb gyda hwy sy’n ceisio lloches, ac amrywiaeth o grwpiau partneriaeth a ffurfiwyd yn unswydd i ymdrin â galwadau’r pandemig a sicrhau y gellid cyflwyno gwasanaethau yn effeithiol ar draws yr holl asiantaethau.

 

Er bod 2020/2021 wedi gweld pwysau enfawr ar y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae’r adroddiad yn amlinellu’r ffyrdd eithriadol y llwyddodd y staff i barhau i ofalu am ein dinasyddion mwyaf bregus, a’u gwarchod. Bydd mwy o heriau yn ein disgwyl yn 2021/2022, and bydd cyfle hefyd i barhau i wella gwasanaethau.  

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Cockeram, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, i ddweud gair am yr Adroddiad Blynyddol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Cockeram rai pwyntiau, gan ddweud yn gyntaf ei fod yn cytuno a sylwadau’r Arweinydd am Chris Humphrey a’r gwaith gwych a wnaeth yn ystod y pandemig a’r gwasanaeth a gyflwynwyd yn gyson gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn wynebu llawer o heriau, gan gynnwys diogelu. Yr oedd cael yr heddlu a’r sector iechyd yn yr Hwb Diogelu yn welliant mawr. Cynllun peilot oedd hwn yng Nghasnewydd a oedd bellach yn cael ei gyflwyno ar hyd a lled Cymru yn dilyn ei lwyddiant. Hefyd, roedd y ffaith fod ysgolion yn y cyfnod clo a heb wybod beth oedd yn digwydd i’r plant yn gallu bod yn broblem. 

 

Yr oedd gan y Cyngor 380 o blant oedd yn derbyn gofal, gyda 256 ohonynt mewn gofal maeth. Yr oedd gofalwyr maeth yn edrych ar ôl y rhan fwyaf o’r plant, ac yr oedd yr Aelod Cabinet am ddiolch iddynt am eu gwaith caled.  Gwelodd y Cyngor hefyd 26 o achosion o fabwysiadu llwyddiannus yn ystod y cyfnod clo. Un o’r meysydd oedd yn peri balchder i’r Aelod Cabinet oedd cartrefi preswyl y Gwasanaethau Plant, oedd hefyd yn llwyddiannus iawn, a chawsai lythyr gan y Gweinidog yn diolch i’r Cyngor am y gwasanaeth hwn. 

 

Cafwyd 840 o gyfeiriadau o’r ysbyty newydd yn Llanfrechfa a rhyddhawyd 475, sydd yn golygu bod 60% wedi eu harbed rhag gorfod mynd i’r ysbyty. Yr oedd hefyd Wasanaeth Ail-alluogi Dementia newydd oedd yn gwneud yn dda.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol am y cyllid yr oedd awdurdodau lleol yn dibynnu arno. Aeth yr adroddiad hefyd i’r pwyllgor craffu a derbyn sylwadau cadarnhaol. Yr oedd tanwariant, ond hynny oherwydd nad oeddem yn y byd go-iawn oherwydd effaith covid.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r staff a fu’n rhagorol, ond a oedd hefyd wedi blino, ac yr oedd problem gyffredinol gyda staffio ledled Cymru. Teimlai’r Aelod Cabinet fod angen adroddiad rhanbarthol ar sut i gynyddu staffio, a gofynnodd i Goleg Gwent a cholegau eraill ddarparu bwrsariaethau i annog pobl i fynd i’r proffesiwn a gweithio i’r cyngor. Yn olaf, yr oedd yr Aelod Cabinet yn ystyried fod hwn, ar y cyfan, yn adroddiad cadarnhaol.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, Sally Jenkins i ddweud gair. Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei diolchiadau i Chris Humphrey, yn ogystal â diolch i’r staff oherwydd eu bod dan bwysau enfawr. Yr oedd y staff wedi blino, a’r ysbryd yn isel, ond yr oedd y negeseuon cadarnhaol ac ymrwymiad y staff i ddal i weithio i Gasnewydd trwy gadw myfyrwyr yn deyrnged i’r gefnogaeth a gynigir iddynt gan y Cyngor.  Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â’r flwyddyn 2021 ond y teimlad oedd ein bod wedi mynd yn syth i gyfnod heriol arall yn 2022. 

 

Yn olaf, manteisiodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y cyfle i ddiolch i’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ynghyd ag aelodau etholedig eraill am eu cefnogaeth tra bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dal i gyflwyno gwasanaethau.  Yng ngoleuni amrywiolyn Omicron, yr oedd pryder am sut y byddai’r staff yn parhau i weithio, ond byddai hyn yn cael ei fonitro ac fe wnâi’r Gwasanaethau Cymdeithasol bopeth i sicrhau’r gwasanaeth gorau gyda’r gefnogaeth a gynigir.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am ei chyfraniad aruthrol, a gwahoddodd sylwadau gan Aelodau’r Cabinet.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes, fel gweithiwr cymdeithasol, ei bod yn dda clywed canmol i’r staff, o gofio’r amodau gwaith, o dan yr amodau sydd mor heriol.

 

Penderfyniad:

 

Derbyniodd y Cabinet Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol am 2020/21.

 

 

Dogfennau ategol: