Agenda item

Adroddiad Diweddaru Covid

Cofnodion:

Soniodd yr Arweinydd, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yr ymddangosodd amrywiolyn Omicron yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.

 

Yr oedd nifer yr achosion positif am yr amrywiolyn newydd yn is na’r rhai yn Lloegr a’r Alban, ond mater o amser yn unig fyddai cyn i ni weld mwy o gynnydd ac achosion yng Nghasnewydd.

 

Yr oedd y cyfnod hwn yn amser i lawer yng Nghasnewydd ddod ynghyd gyda ffrindiau, cydweithwyr a theuluoedd i ddathlu cyfnod yr ?yl, yn enwedig wedi’r amser caled y buom drwyddo. Yr oedd yn bwysig cofio fod cyfyngiadau yn dal ar waith: gwisgo mygydau mewn siopau, cludiant cyhoeddus a mannau cyhoeddus eraill, cadw pellter cymdeithasol, a thrwyddedau covid wrth gymdeithasu mewn mannau ledled Casnewydd.

 

Dylid rhoi ystyriaeth i’r sawl oedd yn fregus yng Nghasnewydd ac yn fwy agored i risg Covid.  Yr oedd y system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei hymestyn fwy fyth wrth i ni weld mwy o alw am y gwasanaethau hyn.

 

Y neges dros yr ?yl oedd i bobl fod yn synhwyrol am yr hyn yr oeddent yn wneud a meddwl am eraill wrth gymdeithasu gyda ffrindiau a theuluoedd; cymryd profion covid rheolaidd, a hunan-ynysu os profant yn bositif am covid.

 

Yn olaf, yr oedd yn bwysig i bobl gymryd y brechiad atgyfnerthu pan gânt eu llythyr gan y GIG, neu i’r sawl sydd heb eu brechu wneud hynny er mwyn amddiffyn eu hunain a’r rhai o’u cwmpas.

   

Yr oedd gwasanaethau rheng-flaen y Cyngor yn dal ar waith, a lle bo modd, yr oedd y staff yn gweithio o gartref yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Yr oedd hyn yn wir hefyd am aelodau etholedig y Cyngor, gyda swyddogaethau democrataidd yn digwydd yn rhithiol.
 

Yr oedd adroddiad y Normal Newydd a gyflwynwyd i’r Cabinet heddiw yn amlinellu’r agwedd a gymerid yn y dyfodol gan y Cyngor i foderneiddio gwasanaethau, gan adeiladu ar y manteision a ddangoswyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i wasanaethau a staff y Cyngor weithio’n hyblyg.

  

Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cefnogi gwerth £51 miliwn i’r trigolion mwyaf bregus a difreintiedig yng Nghymru, gyda phob aelwyd gymwys yn gallu hawlio £100 i gefnogi taliadau tanwydd y gaeaf. Anfonwyd llythyrau at bob aelwyd oedd yn derbyn Gostyngiad Treth Cyngor yn dweud sut i wneud cais ar-lein, ond fod dulliau eraill os nad oedd modd iddynt gyrchu cyfrifiadur neu ddyfais ddigidol. Yr oedd yn bwysig i aelwydydd cymwys fanteisio ar y cynnig hwn, a rhannu’r neges gyda’u cymdogion, teuluoedd a chyfeillion a all fod yn gymwys.    

 

Trwy gydol tymor yr hydref, yr oedd y gwasanaethau addysg ac ysgolion yn dal i weithredu fel arfer ar waethaf yr heriau a wynebai ysgolion gydag achosion Covid. Yr oedd y gwasanaethau addysg ac ysgolion yn cydweithio trwy fonitro presenoldeb a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y disgyblion mwyaf bregus a’u rhieni yn cael eu cefnogi a’u hannog i fynychu.

 

Yr oedd yr ysgolion, y Gwasanaeth Lles Addysg a Llywodraeth Cymru yn cadw golwg fanwl ar gyfraddau presenoldeb disgyblion yn ystod tymor yr hydref. Dangosodd hyn cyfraddau presenoldeb is na’r disgwyl am fisoedd Medi a Hydref 2021.

 

 

Ysgolion Cynradd

Ysgolion Uwchradd

Ysgolion Arbennig

Medi / Hydref 2021

91.6%

88.2%

87.6%

 

Er nad oedd disgwyl i ysgolion osod targedau presenoldeb nac adrodd am ddata presenoldeb at ddibenion cenedlaethol, yr oedd yn hanfodol i ysgolion gadw cofnod cywir o bresenoldeb disgyblion at ddibenion monitro a gwerthuso. Gofynnwyd i ysgolion osod eu targedau mewnol eu hunain am bresenoldeb a rhannu’r rhain gyda’r Gwasanaeth Lles Addysg i helpu i gyfarwyddo gwaith y Swyddogion Lles Addysg.  Mae data presenoldeb misol am bob ysgol yn cael eu casglu, eu dadansoddi a’u holrhain yn erbyn y flwyddyn academaidd flaenorol. Mae’r data wedyn yn cael ei anfon at bob ysgol yn fisol. Yr oedd yn hanfodol i ddisgyblion gynnal yr arfer o fynd i’r ysgol yn rheolaidd a phrydlon. Yr oedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ymwneud â disgyblion nad oedd yn mynychu’n rheolaidd, a dod i gysylltiad â’u teuluoedd. Yr oedd yn cydnabod y gall rhieni fod angen mwy o sicrwydd fod ysgolion yn llefydd diogel i’w plant. Lle nad oedd ysgolion yn llwyddo i ymwneud â rhieni, neu lle mae absenoldeb heb awdurdod yn digwydd yn gyson, gall ysgolion gyfeirio’r disgybl a’i deulu at y Gwasanaeth Lles Addysg.

 

Ym mis Tachwedd 2021, bu Swyddogion Lles Addysg mewn 75 o gyfarfodydd ysgol, a derbyn 93 cyfeiriad yng nghyswllt absenoldeb cyson disgyblion unigol. Yr oedd cyfeiriad presenoldeb yn cael ei ddilyn naill ai gan alwad ffôn neu e-bost at y rhiant neu gydag ymweliad â’r cartref. Ym mis Tachwedd 2021, gwnaeth Swyddogion Lles Addysg 189 o ymweliadau cartref. Yn 109 o’r achosion hyn, bu’r Swyddogion Lles Addysg yn ymwneud a’r rhieni a’r disgyblion i drafod y rhesymau dros ddiffyg presenoldeb. Dyma oedd y prif resymau dros absenoldeb cyson yn y flwyddyn academaidd hyd yma:

Achosion positif Covid 19

Hunan-ynysu oherwydd Covid 19

Pryder am Covid 19

Salwch arall

Problemau iechyd meddwl cysylltiedig â’r plentyn neu’r teulu

Gwyliau teuluol yn ystod y tymor

 

Byddai datblygiadau o bwys yng nghanol y ddinas megis y gwesty newydd ac Arcêd y Farchnad yn agor yn y Flwyddyn Newydd, ac yn rhoi cyfleoedd newydd i’r ddinas a’r trigolion yn dilyn cyfnod heriol iawn i fusnesau. 

 

Yr oedd y Cyngor yn falch o dderbyn gwobr am y sefydliad mwyaf eithriadol yn y Gwobrau Amgylcheddol cenedlaethol fis diwethaf. Yr oedd y wobr yn cydnabod y cynnydd a wnaeth y Cyngor tuag at ei nod o fod yn sero net niwtral o ran carbon erbyn 2030.

 

Ynghyd â’r wobr hon, pasiodd y Cyngor gynnig yn datgan argyfwng ecolegol a hinsawdd i ddinas Casnewydd.  Yr oedd hyn yn cydnabod y gwaith yr oedd yn rhaid i’r Cyngor, ei bartneriaid, trigolion a busnesau wneud i ddad-garboneidido. Dyma pam ei bod yn bwysig i bobl gyfrannu tuag at ein hymgynghoriad ar ein Cynllun Newid Hinsawdd fyddai’n cael ei lansio y flwyddyn nesaf.

 

Yr oedd y Cyngor yn falch hefyd o weld cwblhau’r llwybr Teithio Llesol yn Lliswerry, gan wella mynediad i feiciau a cherddwyr yn yr ardal. 

 

Yr oedd gweithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor, yr heddlu a phartneriaid eraill wedi helpu i lywio pobl ifainc draw o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnig gweithgareddau eraill a chefnogaeth diogelu.

 

Y mis hwn, lansiodd y Cyngor ei Gyllideb Gyfranogol newydd gyda Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i gefnogi grwpiau a mentrau lleol i wella eu hardaloedd a chefnogi’r cymunedau oedd yn byw yn yr ardaloedd hynny. Y mae’r agwedd hon yn rhoi grym i’r trigolion i benderfynu pa brosiectau fyddai’n cael arian i gyflwyno’r prosiectau hynny, ac yn gyfle i gymunedau wella bywydau a phrofiadau’r sawl o’u cwmpas. 

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

·        Yr oedd y Cynghorydd Davies eisiau canolbwyntio ar adfer strategol yng nghyswllt lefelau presenoldeb mewn ysgolion, a pharhau i gefnogi teuluoedd lle’r oedd presenoldeb yn isel. Yr oedd ysgolion yn ganolbwynt i’r gymuned leol, ac yn cefnogi teuluoedd trwy gyllid grantiau i’w helpu trwy’r argyfwng. Yr oedd hyn hefyd yn rhoi pwysau ar staff, a chanmolodd yr Aelod Cabinet y staff am eu gwaith caled a’u canolbwynt ar blant ysgol. Yr oedd yr holl staff addysg, gan gynnwys swyddogion, athrawon a gweithwyr lles addysg yn haeddu’r gwyliau dros y Nadolig, iddynt fod yn barod ar gyfer y tymor newydd a’r hyn fyddai’n eu hwynebu o ganlyniad i’r amrywiolyn newydd.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Truman yr angen i fod yn ofalus dros y Nadolig gyda’ch anwyliaid, a gwrando ar gyngor yr arbenigwyr iechyd. Hefyd, yr oedd y GIG wedi gweithio’n galed iawn a dylid eu canmol. Yr oedd y rhaglen o frechiadau atgyfnerthu yn mynd ymlaen yn dda yng Nghymru, gyda staff y GIG yn ateb yr her.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Harvey sylwadau ei chydweithwyr. Dywedodd yr Aelod Cabinet ei bod hithau a’i theulu yn fregus a’u bod oll yn ynysu er mwyn cael un diwrnod gyda’i gilydd. Yr oedd gwisgo mwgwd a diheintio dwylo yn rheolaidd yn hynod bwysig. Yr oedd y Gwasanaeth Addysg yn rhyfeddol, ac yn gwneud gwaith ychwanegol nad oedd yn eu swydd-ddisgrifiadau cyn i hyn oll ddigwydd. Yr oedd y Cynghorydd Harvey hefyd yn cytuno gyda’r Cynghorydd Truman am ei sylwadau am y GIG. Yn olaf, diolchodd i’r Cynghorydd S Marshall yn arbennig, oedd yn rhoi brechiadau atgyfnerthu i bobl gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac anogodd bawb i dderbyn eu brechiadau.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd a nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad ac i’r Cabinet / Aelodau’r Cabinet dderbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

 

Dogfennau ategol: