Agenda item

Adroddiad Diweddaru Brexit

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod blwyddyn, bron, wedi mynd heibio ers i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl yn ffurfiol. Trwy gydol y flwyddyn, yr oedd y Cyngor wedi parhau i weld effeithiau, nid yn unig o adael yr UE ond o Covid ledled y byd wrth i economïau weld mwy o alw, a tharfu ar gyflenwadau. Yr oedd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo yma yng Nghasnewydd, gan ein bod yn gweld swyddi gwag ar draws pob sector, ond yn bennaf mewn adeiladu, gweithgynhyrchu, gweithgareddau llety a bwyd. Tarfwyd ar gyflenwadau bwyd a nwyddau, ac yr oedd hyn i’w weld ar silffoedd archfarchnadoedd. Yr oedd prosiectau mawr hefyd yn gweld cynnydd ym mhrisiau deunyddiau a llafur, a hyn yn ei dro yn cael effaith ar gyflwyno a chost y prosiectau. Yn olaf, yr oedd cost ynni (trydan a nwy) wedi codi, oedd yn golygu y byddai aelwydydd ar dariffau safonol a thalu-ymlaen-llaw yn gweld cynnydd yn eu costau. I aelwydydd ar incwm isel yng Nghasnewydd, byddai hyn yn cael cryn effaith ac yn rhoi mwy o bwysau ar aelwydydd bregus.

 

Fel yr adroddwyd yn Adroddiad Covid y Cabinet, yr oedd y Cyngor wedi lansio cefnogaeth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru i helpu aelwydydd cymwys i wneud cais am £100 tuag at wresogi gyda thrydan a nwy dros y gaeaf. Ym mis Tachwedd, dyfarnwyd £2.8m i Gasnewydd i’w ddosbarthu i saith corff allanol ar hyd y ddinas. Cyfarfu’r Cyngor a’r sefydliadau i’w helpu i osod i fyny a bwrw ymlaen gyda’r prosiectau dros yr wyth mis nesaf.

 

I ddinasyddion yr UE/EAA yn y ddinas, aeth dros chwe mis heibio ers i’r terfyn amser ddod i ben. Byddai llawer o drigolion yn y ddinas wedi derbyn naill ai statws Sefydlu Llawn neu Gyn-Sefydlu, ond yr oedd y Cyngor yn ymwybodol fod rhai trigolion yn dal i aros am benderfyniad.

 

Yr oedd y Cabinet eisiau ailadrodd eu cefnogaeth i ddinasyddion yr UE / AEE sy’n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, gan fod gan bawb ran i’w chwarae i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Anogodd yr Arweinydd unrhyw un oedd yn dal i aros am benderfyniad neu’n cael anhawster cwblhau eu cais i gysylltu â’r Cyngor a mudiadau eraill fel Cyngor ar Bopeth. 

 

Yr oedd Cyngor Casnewydd yn dal i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau y gallai dinasyddion yr UE gyrchu’r gwasanaethau a’r gefnogaeth oedd arnynt eu hangen.

 

Yr oedd y Cyngor yn parhau i arwain prosiect rhwydwaith bwyd ledled y ddinas i asesu’r galw a’r galw fyddai’n debyg o ddigwydd dros y gaeaf.

 

Yr oedd y Cyngor hefyd yn adolygu adnoddau a’r gallu i ymateb i angen fel y byddai’n codi, ac yn gweithio gyda GAVO i wneud trefniadau i gefnogi mwy o waith ar dlodi bwyd yn y ddinas.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod y ddyletswydd gymdeithasol-economaidd yn mynnu bod y cyngor yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau fel corff cyhoeddus. Cynyddodd chwyddiant i 5.1% ac yr oedd aelwydydd oedd yn gweithio hefyd yn wynebu risg. Yr oedd y Cyngor wedi darparu cludiant cyhoeddus am ddim ar hyd a lled y ddinas ym mis Rhagfyr i helpu trigolion.  Er mwyn cryfhau a chefnogi cymunedau fel rhan o’r ddyletswydd gymdeithasol-economaidd , cyhoeddodd yr Arweinydd y byddai cyngor y ddinas yn cynyddu’r arian sydd ar gael i fanciau bwyd ledled y ddinas o £100K i ymdrin â’r heriau ac i atal pobl Casnewydd rhag gorfod penderfynu rhwng bwyta a gwresogi y gaeaf hwn.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

·        Dywedodd y Cynghorydd D Harvey, os oedd unrhyw un mewn anhawster ariannol, iddynt gysylltu â Chyngor Dinas Casnewydd.

 

·        Ychwanegodd y Cynghorydd Jeavons fod pris tanwydd wedi codi i £1.43 a bod y cynnydd ym mhrisiau deunyddiau crai, Yswiriant Gwladol a chwyddiant oll wedi cael effaith ar hyn. Rhaid ymdrin â hyn, ac yr oedd pobl yn talu cannoedd o bunnoedd yn ychwanegol, oedd yn ormod, ac ni ddylai pobl ddisgyn i dlodi.

 

·        Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau ei chydweithwyr, a dweud mai’r gwir plaen oedd na allai rhai pobl fforddio pryd Nadolig eleni, yn ogystal â bod angen cefnogaeth ariannol. Yr oedd bron i 100 bobl yr wythnos yn gofyn am help, ac yr oedd yn frawychus fod y bobl hynny mewn trafferthion. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch fod cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael i fanciau bwyd, am ein bod yn wynebu cyfnod digynsail, a bod Cyngor Dinas Casnewydd eisiau edrych ar ôl ei thrigolion.

 

·        Cytunodd y Cynghorydd Cockeram fod newyddion am arian yn cael ei roi i fanciau bwyd yn gadarnhaol. Yr oedd Brexit wedi effeithio ar Gyngor  Dinas Casnewydd, gyda chostau llafur a deunyddiau wedi cynyddu o 17%, fyddai’n sicr o effeithio ar y gyllideb dros y flwyddyn neu ddwy nesaf.

 

·        Dywedodd y Cynghorydd Hughes ei bod yn drist fod pobl yn dibynnu ar fanciau bwyd, a chroesawodd y gefnogaeth gan Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r sawl oedd yn cefnogi banciau bwyd a dosbarthu parseli bwyd ledled Casnewydd.  Yr  oedd yr Arweinydd yn ddiweddar wedi ymuno ag aelodau o’i heglwys leol i ddarparu parseli bwyd, ac yr oedd yn gwneud rhywun yn wylaidd i weld pobl yn dod at ei gilydd i sicrhau bod y teuluoedd mwyaf anghenus yn gallu cael profiad cadarnhaol adeg y Nadolig, er ei bod yn drist iawn fod gwirfoddolwyr yn gorfod gwneud hyn.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd a nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a bydd y Cabinet / Aelodau’r Cabinet yn derbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

Dogfennau ategol: