Discussion with Nicola Dance- Senior Policy & Partnership Officer and Alun Prescott- Neighbourhood Hub Manager
Cofnodion:
Cafodd y cynghorau cymuned gyflwyniad gan yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth. Eglurwyd bod yr hyfforddiant hwn yn fenter dan Bartneriaeth Casnewydd yn Un i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth drwy Raglen Leader Dyffryn Wysg a oedd yn ffynhonnell cyllid ar gyfer y prosiect.
Prif Bwyntiau:
· Hyfforddiant llythrennedd carbon am ddim i gael ei gynnig i gynghorau cymuned yng Nghasnewydd a Sir Fynwy gan ei bod yn fenter ar y cyd rhwng y ddwy ardal hynny.
· Byddai cynghorau cymuned yn dysgu am y cysylltiad rhwng gweithgareddau dynol a’r newid yn yr hinsawdd, a byddai hynny'n rhoi'r wybodaeth iddynt gymryd camau i leihau allyriadau carbon ar lefel unigol neu ar lefel cyngor cymuned.
· Gwnaed cais i'r Gronfa Datblygu Gwledig a oedd yn llwyddiannus, ac roedd yn berthnasol i ardal LEADER Dyffryn Wysg yn cynnwys Sir Fynwy a wardiau gwledig yng Nghasnewydd gan gynnwys Llan-wern, Maerun, Graig, Caerllion a Langstone. O ran hyfforddiant cynghorau cymuned, bydd yr hyfforddiant yn cael ei ymestyn i bob un o'r 14 cyngor cymuned a bydd yn cael ei ddarparu yn y flwyddyn newydd gan Cynnal Cymru.
· Mae 116 o leoedd hyfforddiant ar-lein am ddim ar gael i aelodau Cynghorau Cymuned a hyd at 90 o leoedd am ddim ar gael i aelodau o'r gymuned yn yr ardal.
· Mae Hyfforddi'r Hyfforddwr hefyd ar gael lle gall pobl a oedd wedi derbyn yr hyfforddiant hefyd fynd ymlaen i gyflwyno'r hyfforddiant eu hunain yn y dyfodol.
· Hyfforddiant i'w gynnal ar-lein rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 – Dau sesiwn ar-lein gydag awr o ddysgu hunangyfeiriedig.
· Bydd yr hyfforddiant yn rhoi gwybod i bobl am y ffeithiau a'r wyddoniaeth y tu ôl i'r newid yn yr hinsawdd, ac effaith gwahanol gamau gweithredu ac yn eu helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu gan ddefnyddio eu gwybodaeth. Byddai’r cwrs hefyd yn cael ei achredu gyda thystysgrif ar ôl ei gwblhau.
· 4 cyfle i gofrestru gyda chwrs ym mis Ionawr, 2 ym mis Chwefror ac 1 ym mis Mawrth 2022.
Y cam nesaf oedd ysgrifennu at glercod cynghorau cymuned yr wythnos nesaf i wahodd pobl i gofrestru eu diddordeb ymlaen llaw gyda'r ddolen archebu. Gall un person gofrestru ar ran ei gyngor cymuned gyda'r potensial i ymestyn hynny i fwy o bobl.
Gofynnwyd i gynghorau cymuned hefyd helpu i nodi grwpiau sy'n gofalu am adeiladau cymunedol yn eu hardal a hefyd hyrwyddo'r hyfforddiant hwn i drigolion yn eu hardal a allai fod â diddordeb.
Cwestiynau:
Gofynnodd cynrychiolydd Llanfihangel-y-fedw am y 116 o leoedd ac am y ffaith mai dim ond un cynrychiolydd cyngor cymuned o bob cyngor a all fynychu'r hyfforddiant a chadarnhaodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod y 116 o leoedd hefyd yn cynnwys Sir Fynwy sy'n cymryd y rhan fwyaf o leoedd a’i fod hefyd ar gael i sefydliadau sy'n rhedeg adeiladau cymunedol.
Dywedodd cynrychiolydd Maerun y byddai llawer o grwpiau â diddordeb ym Maerun a gofynnodd a oedd unrhyw bosteri ar gael i'w hanfon at y grwpiau hyn.
Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Polisi a Phartneriaeth y byddai'r wybodaeth yn cael ei hanfon drwy'r Swyddog Cymorth Llywodraethu at glercod Cyngor Cymuned yr wythnos nesaf.
Anogwyd Cynghorau Cymuned hefyd i ddilyn Partneriaeth Casnewydd yn Un ar Twitter i gael mwy o wybodaeth ac i rannu'r wybodaeth am eu cylchlythyrau.