Agenda item

Cyllideb Refeniw Ddrafft a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC): Cynigion Terfynol 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet. Yr oedd yr adroddiad yn amlygu’r materion allweddol sy’n effeithio ar ddatblygiad cyllideb y Cyngor am 2022/23 a’r Cynllun Ariannol Tymor canol. Gofynnwyd i’r Cabinet felly gytuno i’r cynigion er mwyn galluogi proses ymgynghori ar gyllideb 2022/23 i gychwyn. 

 

Nododd yr Arweinydd nad oedd unrhyw arbedion newydd yn y gyllideb i ymgynghori arnynt ac nad oedd gofyniad am arbedion newydd neu ychwanegol er mwyn i ni gydbwyso’r gyllideb gyffredinol am y flwyddyn nesaf. Yr oedd hyn yn sefyllfa eithriadol i’r Cyngor o gymharu â

blynyddoedd blaenorol, diolch i’r setliad drafft ffafriol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ddiwedd llynedd.

 

Yr oedd balans ar hyn o bryd am flwyddyn ariannol 2022/23, ac y mae hyn yn anorfod oherwydd bod y setliad yn hwyr. Er hynny, mae mwy o waith i’w wneud i nodi’r buddsoddiad priodol fel sydd wedi ei osod allan yn y blaenoriaethau allweddol.

 

Yn gyffredinol, yr oedd y gyllideb drafft  yn cynnwys buddsoddiad o bron i £26m yn 2022/23 a £47m dros y tymor canol. Yr oedd hyn yn cynnwys chwyddiant mewn tâl a phrisiau. Fodd bynnag, soniodd yr Arweinydd yn benodol am y meysydd buddsoddi y credai hi a’i chydweithwyr yn y Cabinet oedd y rhai mewn angen, yn ogystal ag ardaloedd a welodd fwy o fuddsoddiad yn dilyn y setliad oedd yn well na’r disgwyl:

Yr oedd y gyllideb hon yn cynnig buddsoddiad mewn ysgolion o hyd at £8m yn 22/23, sef twf o  7.3% yn y gyllideb i ysgolion a hyd at £17.5m dros y tair blynedd nesaf. Mae’r buddsoddiad yn 22/23 yn cynrychioli £2m yn ychwanegol at y codiadau tâl a phrisiau sy’n gysylltiedig ag ysgolion newydd a rhai sy’n tyfu. Byddai hyn yn gynnydd yn y swm o arian fesul disgybl, a byddai’r holl ysgolion yn elwa o hyn. Diolchodd yr Arweinydd ar ei rhan ei hun a’r Cabinet am broffesiynoldeb ac ymrwymiad  staff ysgolion dros y ddwy flynedd a aeth heibio. Bu’r staff yn gweithio’n ddiflino ers cychwyn y pandemig i addasu i newidiadau mewn dysgu, a dylid eu canmol am eu hymdrechion.

 

Soniodd yr Arweinydd am fwy o gynigion am fuddsoddi ar gyfer ymyriad cynnar ac ati i leihau’r pwysau ar Gynghorau mewn lleoliadau addysg a gofal cymdeithasol. Yr oedd hyn yn cynnwys buddsoddiad i greu mwy o allu yn yr hwb diogelu i gefnogi teuluoedd, rhoi mwy o adnoddau a mynd ati yn rhagweithiol i asesu a chefnogi disgyblion bregus.

 

Rhoddwydystyriaeth hefyd i fuddsoddiadau eraill wedi eu targedu a allai gael effaith ar y gefnogaeth a roddir i deuluoedd ac unigolion bregus, wrth i’r Cyngor barhau i reoli effaith y pandemig. Byddai’r rhain yn cael eu cyhoeddi yn y gyllideb derfynol.

 

Rhoddwydystyriaeth hefyd i fuddsoddiadau  fyddai’n cael effaith ar ganol y ddinas a’r busnesau yno. Yn benodol,  y rhain oedd hyrwyddo’r ddinas, marchnata, mewnfuddsoddi, cydgordio gweithgareddau a digwyddiadau, twristiaeth, a’r amgylchedd cyffredinol yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas. Byddai’r rhain hefyd yn cael eu cyhoeddi yn y gyllideb derfynol.

 

Yr oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn cynllunio i fuddsoddi oddeutu £9.5m yn y gyllideb ddrafft yn ychwanegol at y codiadau tâl a phrisiau, ac y mae manylion y rhain yn atodiad 1 yr adroddiad.  Ymysg rhai o’r eitemau allweddol yr oedd:

 

§  £3.2m am Gyflog Byw gwirioneddol i weithwyr gofal a’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol

§  £1.4m am y galw ychwanegol mewn gwasanaethau plant ac oedolion

§  Broni £900k o gyllid ychwanegol ar gyfer prydau ysgol am ddim.

 

Darparwyddros £700k i gefnogi cyfarwyddeb Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na fyddai unrhyw gysgwyr allan yng Nghasnewydd.  Yr oedd y Cyngor wedi rhoi llawer o gefnogaeth i gysgwyr allan ac wedi dod o hyd i lety i lawer o unigolion a theuluoedd oedd mewn lle anodd. Byddai’r buddsoddiad hwn yn galluogi’r Cyngor i barhau i roi cefnogaeth. 

 

Byddidyn cytuno ar fwy o fuddsoddiadau manwl yn y gyllideb derfynol yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Chwefror. Byddai adborth o’r ymgynghori yn cael ei ystyried, ac yr oedd y Cabinet eisiau clywed barn am y tri maes blaenoriaeth allweddol, sef ysgolion, ymyriad cynnar, a’r ddinas, yn ogystal ag adborth am fuddsoddiadau penodol yn y gyllideb. Hefyd, yn ogystal â’r buddsoddi cyson yn y gyllideb refeniw fyddai’n cael ei gadarnhau yn y gyllideb derfynol, byddai’r Cabinet hefyd yn nodi buddsoddiadau unwaith-am-byth yn y meysydd hyn a rhai allweddol eraill, a thalu amdanynt o danwariant eleni. Byddai hyn hefyd yn cynnwys darpariaeth am risg Covid o ran effaith debygol y pandemig unwaith i Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru ddod i ben ym mis Mawrth 2022 gan y byddai hyn hefyd yn galw am liniaru.

           

Yn olaf, cynigiwyd cynnydd o 3.7% yn nhreth y cyngor i ymgynghori arno. Yr oedd hyn yn gynnydd wythnosol o £0.59 - £0.79 i eiddo ym Mandiau A i C, sef y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd.

 

Yr oedd y setliad a dderbyniwyd wedi caniatáu i’r Cyngor fuddsoddi a chynyddu arian i wasanaethau allweddol, a byddai mwy o wybodaeth yn cael ei gyhoeddi yn y gyllideb derfynol, ond yr oedd Treth y Cyngor yn ffactor bwysig yn hynny hefyd.

 

Yr oedd Casnewydd yn dal i fod ag un o’r cyfraddau treth isaf yng Nghymru ac ar draws y DU, gan mai cynyddu yr oedd ar draws y rhan fwyaf o gynghorau.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cefnogodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Arweinydd am waith caled a phroffesiynoldeb staff mewn ysgolion ledled Casnewydd, o ran sicrhau bod plant yn cael eu cadw’n ddiogel. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn sylweddoli y byddai’r grant caledi yn dod i ben ym mis Mawrth ac yr oedd ansicrwydd am effaith Covid ar blant, a’u bod wedi dioddef o’i herwydd. Yr oedd unigrwydd ac amddifadedd yn golygu fod plant yn cael trafferthion, ac ni fyddai hyn yn newid oherwydd costau byw uchel. Ysgolion oedd canolbwynt y gymuned, yn gofalu fod plant yn cael eu cefnogi i ddysgu, ac yn cael eu bwydo a’u dilladu gartref. Yr oedd croeso felly i’r £8M am y gyllideb Addysg.

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn ategu sylwadau Aelodau’r Cabinet am yr effaith ar iechyd meddwl plant yn ystod y cyfnod clo. Yr oedd y buddsoddiad o £9.5M mewn hybiau diogelu yn gwella, ac yr oedd partneriaethau ar gael. Gwahoddodd yr Aelod Cabinet yr Arweinydd i ymweld â’r hwb i weld sut yr oedd yn gweithredu, rywbryd yn y dyfodol pan fyddai’n ddiogel gwneud hynny. Byddai’r Arweinydd yn falch o ymuno â’r Aelod Cabinet ar ymweliad â’r safle am ei bod yn hanfodol cefnogi trigolion Casnewydd.

 

§  Cyfleodd y Cynghorydd Hughes ei gydymdeimlad â theulu’r Cynghorydd Peter Clark o Sir Fynwy ar ran Cyngor Dinas Casnewydd a’r Cabinet. Yr oedd yr Aelod Cabinet ac yn weithiwr cymdeithasol ac yn croesawu’r ymrwymiad i gyflog byw yn yr amser heriol hwn. Yr dangos fod y Cyngor ynn gwrando ac yn cyfrannu at wasanaethau allweddol yn ogystal â chefnogi trigolion Casnewydd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at y misoedd o ysgol a gollwyd gan blant, a bod pris i’r rhieni a gofalwyr o hyn hefyd; yr oedd yn croesawu’r cynigion a amlinellwyd yn y gyllideb i gefnogi hyn.

 

§  Ystyriodd y Cynghorydd Harvey y byddai’r Cyngor yn gweld fod hon yn gyllideb dda, a diolchodd i staff ysgolion a disgyblion yr effeithiwyd arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac yr oedd felly’n cefnogi’r gyllideb at y dyfodol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod penderfyniadau i’w gwneud o hyd, ond y byddai’r rhain yn cael eu gwneud gydag adborth gan aelodau’r cyhoedd. Nid oedd unrhyw godiadau yn cael eu cynnig mewn trwyddedau i yrwyr tacsi, busnesau arlwyo na grwpiau oedd yn defnyddio cyfleusterau chwaraeon.  Yr oedd y gyllideb hon yn seiliedig ar gefnogaeth i’n holl deuluoedd yng Nghasnewydd.

 

Penderfyniad:

 

1.         Cytunodd y Cabinet ar y cynigion drafft isod ar gyfer ymgynghori gan y cyhoedd:

i)                 Cynnyddyn nhreth y cyngor o 3.7%, cynnydd wythnosol o £0.59 - £0.79 am eiddo ym Mandiau A i C, y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd, fel y gosodir allan ym mharagraffau 3.21.

 

ii)                Y ffioedd a’r taliadau arfaethedig yn atodiad 4.

 

iii)               Buddsoddiadau’rgyllideb a welir yn atodiad 1.

 

iv)              Darpariaethbuddsoddi’r gyllideb mewn ysgolion o hyd at £8,003k, gan nodi y byddai hyn yn talu’n llawn am y rhagdyb o gyflogau athrawon o 4% o fis Medi 2022 ymlaen, ynghyd â chost ysgolion newydd/estynedig fel y nodwyd ym mharagraffau 3.11 – 3.18.  Yn benodol ar dâl athrawon, oherwydd yr ansicrwydd yn ei gylch o Fedi 2022 ymlaen, cynigiwyd darpariaeth o hyd at 4% a byddai’n cael ei ddal yn ganolog hyd nes i’r dyfarniad tâl gael ei gadarnhau. Cytunodd y Cabinet i gadarnhau hyn a rhoi ar ei ffurf derfynol pan oedd sicrwydd, gyda’r bwriad o gadw at yr amcan a ddisgrifiwyd uchod o dalu’r codiad tâl yn llawn ym mis Medi o fewn y ddarpariaeth sydd ar gael.

 

2.         Nododd y Cabinet:

v)                Y sefyllfa ar ddatblygu cyllideb gytbwys am 2022/23 ac ystyried y cyhoeddiad diweddar am gyllid GCR 2022/23, gan gydnabod y byddai’r sefyllfa yn cael ei hadolygu, ac y ceid cyfoesiadau rhwng nawr a’r Cabinet ym mis Chwefror pan gytunir ar y gyllideb derfynol.

 

vi)              Y rhagfynegiadau ariannol tymor-canol, rhagdybiaethau ynddynt, a’r rhagfynegiadau oedd yn cynnwys buddsoddiadau i roi ffurf derfynol ar wireddu’r addewidion yn y Cynllun Corfforaethol.

 

vii)             Yr angen i flaenoriaethu datblygurhaglen o newid strategol’ er mwyn i wasanaethau fod mewn sefyllfa ariannol gadarn a chynaliadwy yn y tymor hir.

 

Yr oedd angen gwaith pellach i adolygu a rheoli effeithiau ariannol rhai risgiau allweddol yn 2022/23, megis costau’n ymwneud â Covid a cholli incwm.

 

Dogfennau ategol: