Agenda item

Monitor Cyllideb Refeniw

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad yn amlygu’r rhagolygon am gyllideb refeniw’r Cyngor, ynghyd â’r risgiau a’r cyfleoedd ariannol oedd yn bodoli ym mis Tachwedd 2021.

 

Yn erbyn cyllideb net o £316miliwn, yr oedd y sefyllfa refeniw ym mis Tachwedd ar hyn o bryd yn rhagweld tanwariant o £10 miliwn, a hyn wedi ystyried y cais newydd am arian wrth gefn, sef amrywiad o 3% yn erbyn y gyllideb. Yr oedd y sefyllfa hon yn cynnwys effaith ariannol pandemig COVID-19 oedd yn parhau, ac yn rhagdybio ad-dalu yn llawn yr holl gostau sylweddol a cholled mewn incwm am weddill y flwyddyn. Yr oedd hyn yn dilyn cadarnhad gan LlC y byddai’r Gronfa Caledi ar gael tan fis Mawrth 2022. 

 

Esboniodd yr Arweinydd, er bod meysydd gwasanaeth yn adrodd am danwariant yn erbyn y gyllideb oherwydd anawsterau/oedi mewn recriwtio, ad-dalu am weithgareddau cysylltiedig â Covid trwy’r Gronfa Galedi ac incwm ychwanegol o grantiau mewn Gwasanaethau plant ac Oedolion, yr oedd llawer o’r tanwariant yn deillio o gyllidebau heb fod yn rhai gwasanaeth, megis arbedion yn erbyn:

 

(i)               y gyllideb arian cyfalaf,

(ii)              CynllunGostwng Treth Cyngor a chasglu’r Dreth Cyngor,

(iii)             y gyllideb refeniw wrth gefn, nad oedd ei hangen ar hyn o bryd, a

(iv)             rhaicyllidebau eraill heb fod yn rhai gwasanaeth nad ydynt wedi eu hymrwymo ar hyn o bryd. Cyfanswm hyn yw tanwariant o £10m.

 

Er hynny, yr oedd rhai meysydd unigol yn dal i orwario yn erbyn gweithgareddau penodol, ac y mae manylion am hyn yn yr adroddiad. Yn y blynyddoedd a aeth heibio, yr oedd y gorwario hwn yn gysylltiedig â meysydd gweithgaredd oedd yn cael eu harwain gan y galw, megis Gwasanaethau Cymdeithasol; er hynny, nid oedd y ddwy flynedd ddiwethaf yn cynrychioli mewn gwirioned dyr heriau a wynebwyd yn y meysydd hyn oherwydd y pandemig ac ad-dalu costau ychwanegol a dderbyniwyd o’r Gronfa Galedi.  O gofio’r ansicrwydd yn y meysydd hyn, yr oedd risg y gallai lefelau’r galw eleni newid o’r hyn a ragwelwyd, ac y gall y tanwariant gynyddu eto. Nid oedd hyn yn golygu na fyddai’r Cyngor yn gwario’r arian, ond y byddai’n cael ei wario yn nes ymlaen.

 

Ymysg y meysydd allweddol sy’n cyfrannu at y sefyllfa a ragwelwyd o £10miliwn y mae:

 

(i)               Costau cynyddol i drin clefyd marwolaeth yr ynn, cynnydd mewn premiymau yswiriant, a’r gwaith adfer oedd ei angen ar draws y stad fasnachol a diwydiannol. Yr oedd disgwyl gorwariant mewn meysydd risg i fod ychydig yn llai na £1 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

(ii)              Diffyg a ragwelwyd yn erbyn cyflwyno yn 2021/22 ac arbedion y flwyddyn flaenorol o bron i £600k, yn bennaf oherwydd oedi cyn bwrw ymlaen â chamau angenrheidiol, oherwydd y pandemig. Er bod lefel yr arbedion na lwyddwyd i’w gwneud o ran y flwyddyn ariannol gyfredol yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol, yr oedd angen o hyd i sicrhau bod arbedion yn cael eu gwneud yn llawn, mor fuan ag sydd modd, ac y mae’r swyddogion yn parhau i weithredu er mwyn sicrhau y gwneir hyn yn gynnar.

 

(iii)             Yr oedd tanwariant o £2.7miliwn yn cael ei ragweld yn y gyllideb Arian Cyfalaf. Fel rhan o osod y gyllideb am 2021/22, yr oedd costau cyllido cyfalaf y rhaglen gyfalaf bresennol sy’n dod i ben yn 2022/23, yn cael eu talu’n syth. Arweiniodd hyn at arbediad yn y gyllideb Isafswm Darpariaeth Refeniw a’r costau llog, gan nad oedd angen y gyllideb hon eto. Yr oedd y tanwariant hwn yn hysbys ac i’w ddeall pan na chytunwyd ar y gyllideb ym Mawrth eleni. 

 

(iv)             Yr oedd disgwyl arbedion o ryw £900k hefyd yn erbyn y cynllun gostyngiad treth cyngor oherwydd bod llai na’r disgwyl yn hawlio gostyngiad treth cyngor, a chasglu’r dreth cyngor. 

 

(v)              Ymhellach, o gofio fod tanwariant yn cael ei ragweld ar y pwynt hwn yn y flwyddyn, nid oedd angen defnyddio cyllideb refeniw cyffredinol wrth gefn y cyngor o £1.3miliwn, felly yr oedd  hyn yn ychwanegu at y tanwariant heb fod yn gysylltiedig â gwasanaethau.

 

Yr oedd ysgolion yn rhagweld gorwariant net o £2.6miliwn, wedi caniatau am ad-dalu gwariant cymwys ac incwm a gollwyd o’r Gronfa Galedi.

 

Nodwyd, fodd bynnag, fod ysgolion yn dwyn ymlaen falansau sylweddol uwch ar derfyn blwyddyn ariannol 2020/21 o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Yr oedd hyn yn bennaf oherwydd grantiau Llywodraeth Cymru a dalwyd tua diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf, oedd yn talu am wariant oedd eisoes yng nghyllidebau ysgolion. O’r herwydd, yr oedd ysgolion yn dwyn ymlaen falansau uwch na’r hyn a ragwelwyd, ac yn y rhan fwyaf o achosion, byddai hyn yn fwy na digon i dalu am y gorwariant yr adroddwyd amdano.

 

O gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, dim ond pedair ysgol oedd yn rhagweld balansau diffyg, cyfanswm o £919k, gyda dwy yn disgwyl y byddent yn llai na’r flwyddyn flaenorol.

 

Yr oedd monitro’r gyllideb refeniw yn rhagweld cryn danwariant a allasai gynyddu lefel yr incwm grant annisgwyl allai ddod i ni. Gallai hyn ganiatáu i’r Cabinet ystyried cymysgedd o fuddsoddiadau unwaith-am-byth yr oedd eu hangen yn fawr, a lliniaru risgiau’r gyllideb at y dyfodol wrth i effeithiau ariannol Covid barhau y tu hwnt i fis Mawrth eleni ond heb Gronfa Galedi i roi cefnogaeth. Byddai mwy o fanylion yn cael eu rhoi yng nghynigion terfynol y gyllideb ym mis Chwefror.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at y rhaglen ddiweddar o dorri coed yn sgil clefyd marwolaeth yr ynn, a’r broblem ddiogelwch oedd yn golygu y bu’n rhaid gwario hyn wrth i’r Cyngor barhau i dorri coed ar hyd y ddinas.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at 2.13, y gwasanaethau preswyl i blant, a’r posibilrwydd o wneud arbedion o ryw £2m ar leoliadau. Byddai talu am ofal maeth yn fewnol i blant yn golygu arbedion yn y flwyddyn neu ddwy nesaf wrth i blant symud o’r sector annibynnol.  Diolchodd yr Arweinydd i’r gofalwyr maeth, oedd yn unigolion hael a charedig, am eu cefnogaeth yng Nghasnewydd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at y gorwariant net mewn ysgolion a’r cynnydd arfaethedig o £8M i fuddsoddiad mewn ysgolion, oedd yn cynnwys cefnogaeth i Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Y gobaith felly oedd na fyddai’r Cyngor yn gweld yr un problemau y flwyddyn nesaf.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

§  Nodi sefyllfa gyffredinol y gyllideb a ragwelir ac i sefyllfa o danwariant fodoli ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

§  Cymeradwyocreu cronfa wrth gefn benodol wedi ei chlustnodi o £563k o danwariant eleni i gefnogi’r galw cynyddol ar gyllidebau anabledd dysgu oedolion yn 2022/23.

§  Nodi a gofyn i’r Prif Weithredwr a thîm y Cyfarwyddwyr i weithredu’r arbedion nas cyflwynwyd hyd yma cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib ac yn briodol, gan nodi’r risgiau cysylltiedig â’r oedi, a’r cyd-destun cyfredol.

§  Nodi’rheriau ariannol cyson a wynebir gan rai gwasanaethau sy’n cael eu harwain gan alw, a’r angen am reolaeth ariannol gadarn yn y meysydd hyn, yn ogystal â lefel yr arbedion nad ydynt yn cael eu gwneud ar hyn o bryd yn y gyllideb.

§  Nodi’rrisgiau a nodwyd yn yr adroddiad ac yn sylwadau’r Pennaeth Cyllid, yn enwedig yng nghyswllt y blynyddoedd i ddod ac effeithiau parhaol y pandemig.

§  Nodi symudiadau’r rhagolygon am yr arian wrth gefn.

§  Nodi’rgwelliant cyffredinol o ran ysgolion, o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, ond nodi hefyd y diffyg oedd yn parhau mewn rhai ysgolion a’r risg y byddai hen broblemau yn codi i’r wyneb os na fyddai rheolaeth a chynllunio ariannol da yn digwydd.

 

Gweithredu gan      

 

Aelodau Cabinet / Pennaeth Cyllid / Tîm Rheoli Corfforaethol:

§  PenaethiaidGwasanaeth i barhau i gadw golwg ar y meysydd allweddol o ran risg costau a gweithredu, gydag Aelodau’r Cabinet, i symud i sefyllfa gytbwys gyda’r cyllidebau hynny y rhagwelir ar hyn o bryd fydd yn gorwario.

§  Tîm y Cyfarwyddwyr / Penaethiaid Gwasanaeth i gyflwyno’r arbedion y cytunwyd arnynt i gyllideb 2021/22 mor fuan ag sy’n ymarferol bosib.

Yr oedd y Penaethiaid Gwasanaeth a deiliaid cyllidebau yn cadw llygad fanwl ar effaith cyfyngiadau newydd y pandemig, y tebygolrwydd y buasent yn parhau i’r flwyddyn ariannol nesaf, a chanlyniadau ariannol hyn o gofio na fydd cronfa galedi ar gael. 

 

Dogfennau ategol: