Agenda item

Monitor Cyllideb Gyfalaf

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth y Cabinet mai un iteraidd ydoedd, ac amlygodd y newidiadau  i’r rhaglen gyfalaf ers i’r Aelodau ystyried monitro cyfalaf ym mis Medi 2021 a cheisio ychwanegu cynlluniau newydd, sef cyfanswm o +£4.84m, yn bennaf yn gysylltiedig â grantiau.

 

Yr oedd yr adroddiad yn dangos y symudiadau a’r rhagolygon hyd at ddiwedd Tachwedd 2021.  Adroddwyd fod cyllideb rhaglen gyfalaf Medi yn £65.99m.

 

Yr oedd newidiadau (gostyngiadau net) o -£3.49m, yn bennaf, dychwelyd y grant am welliannau i’r A467 na fyddai’n mynd y tu hwnt i’r cyfnod dylunio yn y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Nododd cydweithwyr yn y gwasanaeth lithriad pellach o -£9.81m, o ran cynlluniau yn symud yn ariannol arafach na’r hyn a ragwelwyd i ddechrau pan wnaed y cynlluniau gwariant blynyddol, gan symud y rhan honno o’r gyllideb i 2022-23.

 

Pan ychwanegwyd hi at gyllideb Medi, yr oedd cyllideb ddiwygiedig y rhaglen gyfalaf am 2021/22 yn awr yn £57.53m.

 

Yr oedd canolbwynt y monitro yn  bennaf ar y flwyddyn gyfredol (2021-22).  Er hynny, yr oedd y rhaglen gyfalaf yn cydnabod y byddai gan gynlluniau mwy wariant fyddai’n croesi blynyddoedd ariannol, a’r confensiwn felly oedd sefydlu rhaglen bum-mlynedd, gyda’r un bresennol i fod i ddod i ben ddiwedd 2022-23.  Yr oedd cyflwyno tablau aml-flwyddyn hyd at 2024-25 yn yr adroddiad yn awgrymu rhaglen saith mlynedd, ond cydnabyddiaeth oedd hyn yn bennaf fod ymrwymiadau ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Fargen Ddinesig yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd 2022-23.

 

Yn erbyn cyllideb ddiwygiedig 2021-22, rhagwelwyd gwariant o £57.58m, fyddai’n golygu gorwariant dros dro o £51k.  Rhagwelwyd y byddid yn talu am y gorwariant hwn trwy fidiau ychwanegol am grantiau, ond lle na fyddai arian o’r fath ar gael, byddent felly  yn dod yn dreth ar y symiau blynyddol y cyllidebau cynnal a chadw.

 

Llwyddodd adrannau gwasanaeth i gael arian ychwanegol ar ffurf grantiau i ategu’r rhaglen draddodiadol. Yr oedd hyn yn sicr i’w groesawu o ran gwella gallu’r Cyngor i gynnal ac uwchraddio seilwaith, ond yr oedd yn dueddol o fod yn benodol i rai blynyddoedd yn unig. Arweiniodd hyn at dreiglo ymlaen fwy o lithriad tuag at ddiwedd y rhaglen gyfredol, felly byddai cyllideb gychwynnol 2022-23 yn debyg o fod dros £100m, oedd yn llawer uwch na’r lefelau gwariant traddodiadol a’r gallu reoli’r rhaglen gyfredol. Yr oedd potensial gan y ffigwr hwn i gynyddu eto, o gofio profiad y gorffennol o ystyriaethau’r chwarter olaf megis tywydd gwael, problemau gyda’r gadwyn gyflenwi, ac yn fwy diweddar, absenoldebau oherwydd Covid oedd yn effeithio ar ragolygon cynnydd a wnaed yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Gall maint y llithriad effeithio ar y gallu i gyflwyno cynlluniau newydd ym mlynyddoedd cyntaf y rhaglen newydd, oherwydd y bydd cwblhau’r rhaglen bresennol yn cael blaenoriaeth.

 

Nododdgweddill yr adroddiad falansau’r adnoddau oedd ar gael i gefnogi cynlluniau a mentrau newydd, ar ffurf arian cyfalaf wrth gefn a derbyniadau ac arian rhydd y trysorlys.

 

Yr oedd balans y Derbyniadau Cyfalaf nas ymrwymwyd o (£2.65m) yn yr adroddiad yn gynnydd ar ffigwr Medi, oherwydd i weithgaredd derbyniadau gael ei gynnwys (£1.47m yn ychwanegol).  Yr oedd lefel y cyllido oedd yn rhaid dod o Dderbyniadau Cyfalaf yr un fath ag yr adroddwyd amdano ym Medi (£4.3m).

 

Yr oedd gan y Gronfa Gwariant Cyfalaf Wrth Gefn falans o £4.47m, ond gallai hyn helpu i fforddio cyfran y Cyngor o raglen well ysgolion Band B (£1.3m) a chyfran y Cyngor o gostau dymchwel Canolfan Casnewydd (£250k).  Nid oedd yr Aelodau eto wedi cymeradwyo’r naill na’r llall o’r ffigyrau hyn, felly rhag-ymrwymiadau ydynt yn yr adroddiad Monitro Cyfalaf hwn.

 

Cafodd y £4.5m ychwanegol o arian gwariant cyfalaf rhydd ei osod yn wreiddiol i mewn i’r gyllideb cyllido dyled gan ragweld yr angen i hwyluso prosiectau ychwanegol cyn diwedd cyfnod y rhaglen bresennol (diwedd 2022-23).  Nododd y tabl yn yr adroddiad na fu unrhyw ymrwymiadau ychwanegol ers adroddiad Medi, oedd yn gadael £391k heb ei ymrwymo i gynlluniau newydd a allai godi rhwng nawr a diwedd Mawrth 23y gellid talu amdanynt yn fwy priodol trwy fenthyca.

 

Oblygiad hyn oedd mai ychydig o arian rhydd mewnol fyddai ar gael heb orfod dibynnu’n drwm ar brosesau bidio am grantiau allanol. Byddai cynnydd cynlluniau yn gynyddol yn dod dan ddylanwad blaengynllunio a dylunio i weithredu i gyd-fynd â chyfnodau rhyddhau ffynonellau grantiau, a meddu ar y gallu angenrheidiol i reoli prosiectau i ymdrin â nifer o brosiectau amrywiol a’u cwblhau.

 

Comments of Aelod Cabinet:

 

§  Soniodd y Cynghorydd Cockeram nad iechyd oedd yn talu am waith adeiladu Rhandy Rosedale, ond yn hytrach trwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Gofynnodd yr Arweinydd i’r swyddogion nodi hyn at y dyfodol.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn:

1.       Cymeradwyo’rgwelliannau a’r ychwanegiadau i’r rhaglen gyfalaf (Atodiad A), gan gynnwys defnyddio arian wrth gefn a derbyniadau cyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad

 

2.       Cymeradwyollithriad/ail-broffilio o £9,811k i’r blynyddoedd i ddod

 

3.       Nodi’rcyfoesiad am yr adnoddau cyfalaf sydd weddill (‘arian rhydd’) hyd at ac i gynnwys 2022/23

 

4.       Nodi’rsefyllfa o ran rhagolygon gwariant cyfalaf fel ym mis Tachwedd 2021

 

Dogfennau ategol: