Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i’r Cabinet am y DadansoddiadPerfformiad Canol Blwyddyn (2021/22) o ran cyflwyno cynlluniau gwasanaeth y Cyngor am chwe mis cyntaf (Ebrill i Fedi) y flwyddyn ariannol hon.
Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn, gan nodi lle’r oedd y Cyngor yn llwyddo i gyflawni yn erbyn ei gynlluniau, a lle gallai’r Cyngor wella. Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys adborth ac argymhellion o bwyllgorau craffu perfformiad y Cyngor.
Yr oedd y Cyngor ym mlwyddyn olaf y Cynllun Corfforaethol pum-mlynedd oedd yn gosod allan weledigaeth a nod i wella bywydau pobl yng Nghasnewydd a chyflwyno gwasanaethau. Datblygodd wyth maes gwasanaeth y Cyngor gynlluniau gwasanaeth oedd yn gosod allan sut y buasent yn cyfrannu at gyrraedd Amcanion Lles y Cyngor ac yn gwella cyflwyno eu gwasanaethau. Y canolbwynt dros y ddwy flynedd diwethaf oedd amddiffyn y gwasanaethau a rhai o’r trigolion a busnesau mwyaf bregus yn y ddinas yn ystod y pandemig. Ar waetha’r heriau, yr oedd y gwasanaethau yn ymateb ac yn ymaddasu i gwrdd â’r galwadau newydd hyn a’r pwysau ychwanegol.
Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r cynnydd oedd yn cael ei wneud ar hyd prosiectau, meysydd gwasanaeth, amcanion a gweithredoedd y Cyngor, a’r mesurau perfformiad. Yn gyffredinol, ar waethaf yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau, yr oedd y Cyngor yn dal i wneud cynnydd da yn erbyn yr amcanion a osodwyd yn y cynlluniau gwasanaeth.
Yngnghanol y flwyddyn ariannol hon, yr oedd47 o 61 prosiect yn adrodd bod eu statws yn wyrdd, sef eu bod ar y llwybr iawn i gyflwyno o fewn y cwmpas, yr amser a’r gyllideb. Dim ond un prosiect (Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol) oedd yn adrodd am statws Coch, gyda 13 prosiect yn adrodd am statws oren. Yr oedd y swyddogion yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y perfformiad yn gwella.
O ran y mesur perfformiad ar draws yr wyth maes gwasanaeth, yr oedd 69% o’u camau yn adrodd am statws Gwyrdd, gyda dim ond 2% (6 cham) yn adrodd yn Goch a 17% yn adrodd am statws Oren. Adroddodd 63% (48 o 76 mesur) o fesurau’r Cyngor am statws gwyrdd, sy’n golygu eu bod wrthi a/neu yn llwyddo yn erbyn eu targed. Adroddodd15 o 76 mesur statws oren, sy’n golygu eu bod ar eu hôl hi o ran cwrdd â’u targed. Er hynny, yr oedd 13 mesur yn adrodd statws coch, sef bod y mesurau ymhell o’r targed. Mae mwy o wybodaeth am brosiectau, camau a mesurau perfformiad Coch y Cyngor yn atodiad 1 yr adroddiad. Yr oedd gr?p Uwch-Swyddogion y Cyngor yn cymryd y camau angenrheidiol i wella eu perfformiad ac i gadw llygad fanwl ar y mesurau er mwyn sicrhau bod gwelliannau yn digwydd.
Tynnodd yr adroddiad sylw
hefyd at rai o lwyddiannau a datblygiadau nodedig o
ran cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol:
GwasanaethauOedolion a Chymuned – Parhau i gefnogi gwasanaethau yn y gymuned, gan gynnwys cartrefi gofal.
Gwasanaethau Plant a
Phobl Ifanc
- Cefnogi Gofalwyr perthynas a
phlant heb
gwmni sy’n ceisio
lloches i
ymsefydlu yng Nghasnewydd.
Gwasanaethau’r
Ddinas
- Parhau i gyflwyno perfformiad ailgylchu
cryf i
Gasnewydd, y rhaglen Teithio
Llesol; gosod y bont
droed newydd ar draws
Casnewydd a phrynu mwy o
gerbydau trydan i gyfrannu at nod y Cyngor o sero carbon
net erbyn 2030.
Addysg - Presenoldeb disgyblion,
cydweithio gyda’r Gwasanaeth
Cyrhaeddiad Addysg i gyflwyno Trawsnewid
Anghenion Dysgu ychwanegol
erbyn Medi 2022 a bwrw ymlaen
gyda rhaglenni Ysgolion yr
21ain Ganrif ac EdTech
gan gynnwys
cyfuno Meithrinfa Fairoak a
Kimberly i Ysgol Feithrin Casnewydd ac
agor y bedwaredd ysgol
gynradd Gymraeg, Ysgol Gymraeg
Nant Gwenlli.
Gwasanaeth Cyllid - Cefnogi
cyflwyno gwasanaethau yn 2022/23
a pharatoadau’r gyllideb tymor-canol a
chefnogi trigolion i
ddileu ôl-ddyledion ers
llynedd a rhoi cyngor a
chefnogaeth am ddyledion i
ymdrin ag anghenion ehangach y
trigolion.
Cyfraith a Rheoleiddio - Cefnogi busnesau
i gadw at
reoliadau Covid / iechyd a diogelwch, gan
gymryd camau angenrheidiol
i sicrhau
cydymffurfio. Cefnogaeth ddemocrataidd i
aelodau etholedig y Cyngor a
chwrdd â gofynion newydd
Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau gan gynnwys
Etholiadau’r Cynulliad ac isetholiadau; cyfarfodydd rhithiol /
hybrid. Iechyd Amgylchedd yn cefnogi ysgolion, cartrefi
gofal ac Argyfyngau Sifil
i sicrhau
bod achosion Covid yn cael eu lliniaru/rheoli.
Pobl a Newid Busnes
- Parhau i chwarae rhan hanfodol
i alluogi’r Cyngor
i gwrdd
â’i amcanion corfforaethol
a chefnogi pob maes gwasanaeth i
gyflwyno deilliannau allweddol.
Yr oedd hyn
yn cynnwys
symud i
gynllun adeiladu Normal Newydd gyda gweithio
hyblyg a menter Newid
Hinsawdd. Yr oedd Argyfyngau
Sifil yn
dal i fod
wrth graidd
cydgordio ymateb y Cyngor
i bandemig Covid
a fydd yn
parhau am weddill 21/22.
Polisïau lles, partneriaethau
polisi yn
ogystal â chefnogi teuluoedd
i ymsefydlu
yng Nghasnewydd fel
rhan o gynllun y Swyddfa
Gartref i
adsefydlu ffoaduriaid i
enwi dim ond rhai.
Adfywio Buddsoddi a Thai -Canolfannau Cymdogaeth,
yn cefnogi
trigolion trwy fentrau
gwaith a sgiliau megis Kickstart
a Restart, darpariaeth chwarae yn ystod gwyliau’r
ysgol trwy’r haf.
Cefnogaeth tai a digartrefedd gan
gydweithio a phartneriaid i
ddod o hyd
i gefnogaeth a llety
tymor-hir. Cefnogaeth Fusnes,
ail-ddatblygu’r Farchnad Dan Do/Arcêd y Farchnad,
a’r Ganolfan Hamdden a
Lles newydd
ar Ffordd
Brynbuga.
Adborth ac Argymhellion gan y Pwyllgorau Craffu
- Adborth gan y
Pwyllgorau Craffu Perfformiad
ym mis Tachwedd am gyflwyno
yn erbyn y
cynlluniau gwasanaeth a chyd-destun ehangach
argyfwng Covid. Yr oedd yr adroddiad
i’r Cabinet yn cynnwys eu hadborth a
phwyntiau allweddol a godwyd
ym mhob
cyfarfod. Mae modd cyrchu
cofnodion llawn/fideos y
cyfarfodydd ar-lein trwy
wefan y Cyngor. Derbyniodd y
Cabinet yr adborth a gafwyd gan gydweithwyr yn y
ddau Bwyllgor Craffu ac
annog Aelodau Cabinet ac Uwch-Swyddogion i
ystyried y rhain wrth gyflwyno gwasanaethau
ac adroddiadau yn y dyfodol.
SylwadauAelodau’r Cabinet:
§ Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at bresenoldeb mewn ysgolion. Yr oedd y Cyngor yn cymryd agwedd ragweithiol at bresenoldeb, gan fod hyn hefyd yn fater diogelu plant. Un ardal goch allweddol oedd honno yng nghyswllt darpariaeth ADY, ond yr oedd y Cyngor yn dal i ddisgwyl am ganllawiau gan LlC ac felly yn methu â bwrw ymlaen. Er hynny, byddid yn mynd i’r afael a materion anghenion cyllido eraill.
§ Soniodd y Cynghorydd Jeavons fod Gwasanaethau’r Ddinas yn dal i gyflwyno yn erbyn targedau fel yr amlygwyd uchod, gan gynnwys pont droed Devon Place a osodwyd ar Ddydd Nadolig, cyn yr amser a bennwyd. Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i’r holl staff am eu gwaith caled ar y project. Canmolodd yr Arweinydd hefyd y gwaith a chyfeirio at y fideo oedd yn dangos y gwaith yn cael ei wneud i osod y bont droed.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at Atodiad 1 lle’r oedd y swyddogion yn aros am ganllawiau gan LlC ar fod yn Rhiant Corfforaethol, oedd yn golygu bod y Cyngor yn y coch oherwydd hyn. Ond y Fforwm Rhieni Corfforaethol oedd un o’r pwyllgorau gorau, gyda gofalwyr maeth a phlant yn bresennol, ac eto, oherwydd yr oedi o du LlC, yr oedd hyn yn dangos yn goch. Cytunodd yr Arweinydd fod ffactorau y tu hnwt i reolaeth y Cyngor yn hyn o beth. Yr oedd yn bwysig, er hynny, cydnabod fod y pandemig wedi cael effaith ar LlC, a byddai hyn wedi cyfrannu at yr oedi. Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Cabinet am ei waith caled a’i gyfraniad at wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â’r staff yn y Gwasanaethau Oedolion.
§ Soniodd y Cynghorydd Harvey, o ystyried y cafwyd bron i ddwy flynedd o gyfyngiadau Covid, fod 220 o gamau wedi eu rhestru oedd yn wyrdd, gyda chwech yn goch, oedd i’w ganmol. Ystyriodd yr Aelod Cabinet fod yr adroddiad wedi ei lunio’n dda, a diolchodd i’r staff am eu gwaith caled ar adeg mor anodd. Yr oedd yr Arweinydd hefyd yn ategu diolchiadau’r Aelod Cabinet.
§ Diolchodd y Cynghorydd Hughes hefyd i’r staff oedd yn gweithio yn y Gwasanaethau Amgylchedd yn ystod yr amser heriol hwn, gan weithio gyda chymunedau yn ystod y pandemig.
§ Cefnogodd y Cynghorydd Mayer y gwaith oedd yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Craffu, ac ystyriodd fod Cyngor Dinas Casnewydd yn gwneud gwaith rhagorol dan yr amgylchiadau a theimlai y byddid yn ymdrin â’r meysydd coch yn nes ymlaen yn y flwyddyn, oedd yn gam cadarnhaol.
Diolchodd yr Arweinydd, gan gytuno gyda’r sylwadau a wnaed gan Aelodau Cabinet ar yr adroddiad hwn, yn ogystal â diolch i’r cydweithwyr Craffu am eu cefnogaeth.
Penderfyniad:
Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad gan nodi perfformiad meysydd gwasanaeth y Cyngor, a chydnabod lle’r oedd y Cyngor yn perfformio’n dda ac ymdrin ag ardaloedd o danberfformiad gyda’r Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Gwasanaeth.
Dogfennau ategol: