Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar Drefniadau Gwaith CCR/CJC

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, oedd yn seiliedig ar nodyn cefndir a baratowyd gan Gyfarwyddwr Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd. Yr oedd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r 10 awdurdod lleol sy’n ffurfio Cydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru, i roi cyfoesiad am y broses weithredu er mwyn cwrdd â gofynion statudol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Yr oedd yr adroddiad yn gosod allan fodel llywodraethiant a chyflwyno interim, cyn penderfynu ar nifer o faterion ariannol sydd heb eu datrys a throsglwyddo swyddogaethau i’r Cydbwyllgor Corfforaethol. Yr oedd hyn yn golygu dilynllwybr deuoli gydymffurfio ag isafswm y gofynion cyfreithiol gan y CBC erbyn y terfyn statudol o 31 Ionawr a byddai’n parhau gyda threfniadau Cydweithio ‘r Fargen Ddinesig, hyd nes y bydd problemau wedi eu datrys.

 

Er nad oedd gofyn i’r Cabinet na’r Cyngor gymryd unrhyw benderfyniadau pellach ar hyn o bryd, er gwybodaeth yr oedd yr adroddiad, ac yr oedd gofyn i’r Cabinet nodi’r sefyllfa bresennol am y cynllun gweithredu a’r trefniadau llywodraethiant interim. Yr oedd ffurf a rhedeg y Cyd-Bwyllgor Corfforaethol wedi eu gosod gan ddeddfwriaeth a Rheoliadau, tra bod y  trefniadau cyflwyno a llywodraethiant  yn unol â Chytundeb Cydweithio’r CBC y cytunodd y Cyngor arnynt o’r blaen. 

 

Yr oedd cydweithwyr yn ymwybodol fod Deddf 2021 yn mynnu bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol i gyflawni rhai swyddogaeth adfywio, datblygu economaidd a thrafnidiaeth ar lefel ranbarthol. Yr oedd y Cydbwyllgorau Corfforaethol hyn yn wahanol i Gydbwyllgorau blaenorol, megis CCR Cabinet Rhanbarthol am eu bod wedi eu gorchymyn gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na bod yn drefniadau gwirfoddol, a’u bod wedi eu cyfansoddi fel cyrff cyfreithiol ar wahân, gyda phwerau i osod eu cyllideb ei hun, cyflogi staff a dal eiddo ac asedau eraill. Yr oedd copi o adroddiad llawn y Cabinet Rhanbarthol yn Atodiad 2. 

 

Cytunodd y Cabinet Rhanbarthol ar 13 Rhagfyr i fabwysiadau agweddllwybr deuol”, fyddai’n cwrdd ag isafswm gofynion y ddeddfwriaeth, ond yn galluogi’r CBC i aros yn llonydd ac i drefniadau’r Fargen Ddinesig barhau yn ystod y cyfnod interim. Mae copi llawn o adroddiad y Cabinet Rhanbarthol hwnnw yn Atodiad 3.

 

Y bwriad oedd i’r CBC gynnal cyfarfod cychwynnol o’r holl Arweinyddion cyn 31 Ionawr, i osod cyllideb gychwynnol, mabwysiadu’r rheolau sefydlog arfaethedig a osodir allan yn Atodiad 1 a sefydlu fframwaith llywodraethiant sylfaenol. Y cyfan oedd y Rheolau Sefydlog yn wneud oedd adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth a’r Rheoliadau, gyda phob un o’r 10 awdurdod yn cael eu cynrychioli gan eu Harweinyddion a phob aelod ag un bleidlais. Byddai penderfyniadau ar y gyllideb yn unfrydol, a phenderfyniadau eraill angen mwyafrif arbennig o 70%.  Yr oedd gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd fod yn aelod statudol o’r CBC ond yn unig yng nghyswllt datblygu’r Cynllun Datblygu Strategol, o gofio eu pwerau cynllunio. Yr oedd gan y CBC hefyd rym i gyfethol aelodau eraill.

 

At ddibenion gosod cyllideb gyntaf CBC a’r model isafswm yn unig, byddai’r CBC yn defnyddio cyllideb bresennol y Fargen Ddinesig y cytunwyd arni ac na ddylid cael gofyniad am unrhyw ddyraniad cyllideb ychwanegol gan y cynghorau. Ar gyfer cyllidebau’r dyfodol, byddai’n rhaid cytuno ar fecanwaith i ymdrin â dyraniad y gyllideb o’r cynghorau cyfansoddol i alluogi’r CBC i osod ei gyllideb ei hun dan y Rheoliadau, gan nad oedd ganddo unrhyw bwerau trethu na phraeseptio uniongyrchol. 

 

Unwaithi’r materion ariannol gael eu datrys, y bwriad oedd trosglwyddo swyddogaethau’r Fargen Ddinesig i’r CBC yn unol â’r cynlluncodi a symudtrosiannol gwreiddiol. Pe na bai’r materion hyn yn cael eu datrys cyn cychwyn statudol swyddogaethau CBC ar ôl diwedd Mehefin 2022, yna efallai y bydd angen parhau â’r trefniadaullwybr deuol”. Yna, bydd angen i’r cynghorau wneud darpariaeth yn y gyllideb i’r CBC gychwyn gwaith ar y cynllun datblygu strategol a’r cynllun trafnidiaeth rhanbarthol, gan nad oedd modd i’r gwaith hwnnw gael ei wneud gan y Cabinet Rhanbarthol.

 

Yn y tymor hwy, unwaith i’r CBC weithredu’n llawn, yna byddai angen cymryd penderfyniadau am ei gyllido at y dyfodol a’r trefniadau gweithio, ond am y tro, gofynnwyd i’r Cabinet nodi’r sefyllfa bresennol a’r trefniadau interim ar gyfer parhau Cytundeb Cydweithio y Fargen Ddinesig.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r Arweinydd am esboniad cynhwysfawr o adroddiad anodd a chymhleth. 

 

§  Diolchodd yr Arweinydd i’r holl swyddogion fu’n rhan o lunio’r adroddiad a’r atodiadau, gan gynnwys Kellie Beirne, Cyfarwyddwr Bwrdd Rhaglen Dinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn :

(a)               Nodi’r model llywodraethiant a chyflwyno interim ar gyfer gweithredu Cyd-Bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru, a’r trefniadaullwybr deuol’ a gynigiwyd ar draws gweithredu Bargen Ddinesig DRC, ochr yn ochr â gweithredu CBC ‘isafswm yn unig’ – hyd nes y gall yr agweddcodi a symudddigwydd.

 

(b)               Nodi’rgofyniad i’r CBC osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn 31Ionawr 2022 a’r camau a osodir allan yn yr adroddiad i alluogi hyn.

 

(c)               Nodi’rrisgiau a’r problemau a osodir allan yn yr adroddiad oedd yn galw am barhau i fonitro, lliniaru a rheoli.

 

(d)               Nodi’rcais a wnaed y CCR i Lywodraeth Cymru i newid Rheoliadau CBC i newid y dyddiad pryd y cychwynnodd y dyletswyddau yn syth dan y Rheoliadau o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022.

 

(e)               Nodi’rdrafft o Reolau Sefydlog Atodiad 1 oedd yn gosod allan y gofynion cychwynnol a’r model gweithredu am y CBC yn ogystal â busnes cychwynnol y cyfarfod cyntaf ar 31 Ionawr 2022

 

(f)                Nodi’rgwaith sy’n digwydd gan DRC a’r Cynghorau sy’n ei chyfansoddi i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru ac ymgynghorwyr fel sy’n briodol, i helpu i ddatrys problemau lle bo modd.

 

(g)               Nodi y byddai’r Arweinydd yn cynrychioli’r Cyngor ar CBC De Ddwyrain Cymru ac y bydd dyletswydd arnynt i ystyried a gosod eu cyllideb gyntaf yn y cyfarfod cychwynnol ar 31 Ionawr 2022, er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth yn ôl y gofyn

 

 

Dogfennau ategol: