Agenda item

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2021/25

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cabinet fod yr adroddiad wedi ei baratoi gan y Prif Swyddog Addysg a bod gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb y Cynllun Strategol Addysg Gymraeg 10-mlynedd, neu’r CSAG, i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Yr oedd Deddf Safonau Ysgolion a Threfniadaeth (Cymru) 2013 yn mynnu bod awdurdodau lleol yn paratoi CSAG a chadarnhawyd bod yn rhaid i hwn gynnwys targedau a chynigion i wella’r ddarpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg a safonau addysg cyfrwng Cymraeg a dysgu Cymraeg. Yr oedd y Ddeddf hefyd yn mynnu bod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu CSAG i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo cyn ei weithredu. Yr oedd y cyfnod CSAG 10-mlynedd newydd i fod i gychwyn ym Medi 2022, a’r terfyn ar gyfer cyflwyno i Lywodraeth Cymru oedd 31 Ionawr.

 

Yr oedd y CSAG yn dangos sut y byddai Casnewydd yn cyfrannu, dros y 10 mlynedd nesaf, at strategaeth  Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Y mae Cymraeg 2050 yn cyflwyno gweledigaeth tymor-hir o Gymru lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu, gyda’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

 

Yr oedd a wnelo’r targed cyffredinol yn y CSAG â’r cynnydd disgwyliedig yn nifer y plant  Blwyddyn 1 oedd yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Llywodraeth Cymru oedd wedi gosod y targed hwn, a nodwyd isafswm o 6 phwynt canran ar gyfer Casnewydd. Byddai hyn yn digwydd trwy ddyblu’r ddarpariaeth oedd ar gael ym mlwyddyn academaidd 2020/21 erbyn 2032. Yn anorfod, bydd yn rhaid ategu hyn gan fwy o gyfleoedd i’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, cynyddu’r sector uwchradd cyfrwng-Cymraeg, a chynnydd yn y gweithlu.

 

Datblygwyd y drafft CSAG ar y cyd â phartneriaid o Fforwm y Gymraeg mewn Addysg Casnewydd, ac yn ôl y gofyn, yr oedd yn destun cyfnod o wyth wythnos o ymgynghori statudol. Yr oedd hyn yn cynnwys ymwneud yn helaeth â rhanddeiliaid, cryn gyhoeddusrwydd trwy sianelu cyfryngau cymdeithasol y Cyngor,  annifer o gyfleoedd i gael sylwadau gan ddysgwyr trwy drefnu sesiynau mewn nifer o ysgolion uwchradd. Disgrifiwyd hyn yn fanwl yn yr Adroddiad Ymgynghori sydd gyda’r adroddiad, ac a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor.

 

Cafodd yr adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ei ystyried, a gwnaed rhai mân newidiadau i ardaloedd targed penodol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, awgrymai’r ymatebion fod y CSAG yn ddigon cadarn ac uchelgeisiol, ac y dylid yn awr ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w ystyried.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Ategodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Arweinydd sef bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth gan LlC.  Yr oedd y Cyngor yn ddiolchgar am gefnogaeth Fforwm y Gymraeg mewn Addysg. Yr oedd nifer y myfyrwyr a gymerodd ran yn y cynllun yn gadarnhaol ac yn dangos cryn gefnogaeth. Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod cyfraniad CSAG Cyngor Dinas Casnewydd yn rhagorol.

 

§  Ychwanegodd y Cynghorydd Hughes ei fod, fel siaradwr Cymraeg, yn cefnogi’r adroddiad a’i fod yn ddiolchgar am y ddarpariaeth Gymraeg oedd ar gael. Yr oedd hyn yn newid yr amgylchedd i siaradwyr Cymraeg, yn enwedig mewn dinas mor amrywiol â Chasnewydd.  Nid yn unig y byddai’n gwella’r Gymraeg, ond byddai hefyd yn annog plant i ddysgu ieithoedd eraill.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn ystyried yr adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol ac yn cymeradwyo cyflwyno’r CSAG i Lywodraeth Cymru i’w ystyried, gyda golwg ar weithredu’r Cynllun newydd o Fedi 2022 ymlaen.

 

Dogfennau ategol: