Agenda item

Adroddiad Adfer Covid

Cofnodion:

Amlygodd yr Arweinydd bwrpas yr adroddiad hwn i’r Cabinet, sef rhoi  cyfoesiad am ymateb y Cyngor i bandemig Covid a chynllun adfer y ddinas, i sicrhau fod trigolion a busnesau yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau cyfredol, a’r cynnydd sydd yn cael ei wneud gyda Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Dros y mis diwethaf, daeth amrywiolyn Omicron yn fwyaf amlwg ledled Casnewydd a Chymru. Cynyddu wnaeth nifer yr achosion positif o’r amrywiolyn ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf, ac yr oedd hyn hefyd yn cael effaith ar wasanaethau’r Cyngor.

 

Mewnymateb, cymerodd Llywodraeth Cymru Gymru i Lefel Rhybudd 2 ac ail-gyflwyno nifer o gyfyngiadau er mwyn cefnogi’r gwasanaethau iechyd a gofal.  Fodd bynnag, byddai un o Weinidogion Cymru yn gwneud cyhoeddiad yn nes ymlaen am y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau.

 

Yr oedd yr adroddiad yn amlinellu’r cyfyngiadau hyn, a byddai’r Cabinet yn dal i ofyn i drigolion a busnesau ddilyn y rhain a manteisio ar y cyfle i gael brechiad atgyfnerthu a brechu’r sawl nad ydynt eisoes wedi derbyn hynny.     

 

Gyda’rcynnydd yn nifer yr achosion yn y gymuned, yr oedd hyn yn awr yn cael effaith ar staff y Cyngor, gan gynnwys y rhai mewn ysgolion. 

 

Yr oedd tîm Aur (Argyfyngau Sifil) y Cyngor ac Aelodau Cabinets yn derbyn adroddiadau rheolaidd am y sefyllfa fel yr oedd yn datblygu, ac yr oedd nifer o staff yn absennol naill ai am eu bod yn hunan-ynysu neu wedi dal Covid. Cafodd hyn effaith ar wasanaethau rheng-flaen hanfodol y Cyngor megis gwasanaethau cymdeithasol, Gwasanaethau’r Ddinas a’n hysgolion.  Yr oedd mesurau wrth gefn ar waith ledled y Cyngor a’r ysgolion i reoli hyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd i ddefnyddwyr gwasanaeth, trigolion a busnesau ledled Casnewydd, i gadw mewn cysylltiad â chyfryngau cymdeithasol a gwefan y Cyngor gydag unrhyw gyhoeddiadau am darfu ar ein gwasanaethau.  Os bydd unrhyw un yn poeni am gyflwyno gwasanaeth neu’n pryderu am gymdogion ac aelodau’r teulu, dylent gysylltu â’r Cyngor. 

 

Yr oedd yr Arweinydd a’r Cyngor hefyd yn deall yr anawsterau a wynebai trigolion a busnesau Casnewydd ar yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd costau byw, taliadau tanwydd, a methu a masnachu yn ôl yr arfer.

 

Yr oedd gan Gyngor Casnewydd a Llywodraeth Cymru lawer o becynnau cefnogaeth, ariannol ac fel arall. Yr oedd yr Arweinydd eisiau manteisio ar y cyfle hwn i annog y sawl oedd angen cymorth i gysylltu â’r Cyngor a hefyd i fynd at wefan y Cyngor i weld pa gefnogaeth oedd ar gael yn y cyfnod hwn. Yn ychwanegol at y gefnogaeth hon, cytunodd y Cabinet hwn fis diwethaf i ddarparu £100k yn ychwanegol er mwyn cefnogi banciau bwyd ac elusennau’r ddinas. Byddai’r arian hwn yn helpu’r banciau bwyd i reoli’r cynnydd yn y galw am eu gwasanaethau ac yn helpu aelwydydd i geisio gwella eu hamgylchiadau.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at yr amcanion adfer strategol fel y’u hamlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Yn olaf, cyfeiriodd yr Arweinydd at sylwadau’r Cynghorydd Harvey yn gynharach sef ein bod yn nesáu at ddwy flynedd ers dechrau’r pandemig, ac adleisiodd ddiolchiadau’r Aelod Cabinet i staff y cyngor am gefnogi Casnewydd.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at wasanaethau rheng-flaen Cyngor Dinas Casnewydd a dweud bod y staff hefyd yn agored i ddal Covid.  Yr oedd amrywiolyn Omicron wedi lledaenu’n gyflym, a chafodd hyn effaith ar wasanaethau. Os oedd rhai strydoedd felly wedi colli eu casgliadau sbwriel dros gyfnod y Nadolig, dylai’r trigolion adael eu sbwriel allan i’w gasglu mor fuan ag sydd modd.

 

§  Adleisiodd y Cynghorwyr Harvey a Hughes sylwadau’r Arweinydd.

 

Penderfyniad:

 

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a’i nodi, a bydd y Cabinet / Aelodau Cabinet yn derbyn cyfoesiadau gan swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

Dogfennau ategol: