Agenda item

TOMs Cenedlaethol Cymreig ar gyfer Gwerth Cymdeithasol

Cofnodion:

Ym mis Tachwedd 2020 lansiwyd y Fframwaith TOMs Cenedlaethol Cymreig  ar ran Cymdeithas Llywodraeth leol Cymru (CLlLC), gyda chefnogaeth Tasglu Gwerth Cymdeithasol Cymru.

 

Fframwaithfesur yw’r TOMs ar gyfer gwerth cymdeithasol, a phecyn cymorth ymarferol oedd yn caniatau datgloi gwerth cymdeithasol trwy ei integreiddio i gaffael a  rheoli prosiectau ar draws y Cyngor cyfan.

 

Cynlluniwydfframwaith TOMs Cymru o gwmpas saith thema (saith nod lesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015), 35 Deilliant a 93 Mesur:

 

Themâu - Y themâu strategol cyffredinol y mae sefydliad am eu dilyn,

Deilliannau – Yr amcanion neu’r nodau y mae sefydliad am gyrraedd fydd yn cyfrannu at y themâu,

Mesurau- Y mesurau y gellir eu defnyddio i asesu a gyrhaeddwyd y Deilliannau hyn.

 

Argyfer Fframwaith TOMs, yr oedd y rhain yn seiliedig ar gamau ac yn weithgareddau y gallai cyflenwr, darparwr gwasanaeth a chontractwr wneud i gefnogi deilliant penodol.

 

Yr oedd set o 93 Mesur yn y fframwaith. Dewiswyd ystod o’r mesurau hyn, yn ôl natur y caffael, i’w cynnwys ym mhroses dendro Cyngor, fel bod cyflenwyr y tendrau yn gallu ymateb i’r mesurau hyn a rhoi gwybod i’r Cyngor sut y galli ychwanegu’r gwerth cymdeithasol hwn at y contract. Byddai ymateb yn tendrwr wedyn yn cael ei sgorio, a gwerthusiad yr elfen gwerth cymdeithasol hwn yn dod yn rhan o werthusiad llawn y bid am y tendr.

 

Yr oedd prif fanteision y fframwaith TOMs hwn yn gysylltiedig â safon adrodd cyson am Werth Cymdeithasol. Yr oedd felly yn:

 

·        rhoiagwedd gyson at fesur ac adrodd am Werth Cymdeithasol,

·        hyblyg, yn gallu cael ei addasu ac yn unswydd, oedd yn hanfodol er mwyn dangos y gall y fethodoleg lwyddo,

·        caniataugwella parhaus,

·        ynrhoi ateb cadarn, tryloyw yr oedd modd ei amddiffyn i asesu a dyfarnu tendrau,

·        caniataui sefydliadau gymharu eu perfformiad eu hunain yn ôl meincnodau sectorau a diwydiannu, a deall sut beth yw’r arfer gorau,

·        seiliedigar berfformiad heb fod yn ariannol, ond yn caniatau adrodd am werth ariannol, ac

·        ynlleihau’r ansicrwydd am fesur Gwerth Cymdeithasol i fusnesau, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus ar sail asesiadau meintiol cadarn, a thrwy hynny wreiddio gwerth cymdeithasol yn eu strategaethau corfforaethol.

 

Y bwriad oedd i Fframwaith TOMs Cenedlaethol Cymru gael ei fabwysiadu fel fframwaith cyffredinol a phecyn cymorth i’w ddefnyddio yn briodol a chymesur mewn gweithgareddau caffael, i ddechrau am gontractau gwerth dros £75,000. Yr oedd y gwerth hwn yn debyg i rai awdurdodau lleol eraill, ac yn cyfateb i’r weithdrefn dendro agored yn ôl ein Rheolau Sefydlog am Gontractio, sy’n gymwys i’r un gwerth o £75k.

 

Yr oedd Fframwaith TOMs yn fecanwaith effeithiol ac effeithlon i fesur, cofnodi a monitro Gwerth Cymdeithasol a Budd Cymunedol.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

§  Croesawodd y Cynghorydd Davies fabwysiadu Fframwaith TOMs oedd yn cyd-fynd â deddf Llesiant cenedlaethau’r Dyfodol, fyddai’n galluogi’r Cyngor i ychwanegu gwerth cymdeithasol i newid hinsawdd. Yr oedd porthol i fusnesau hefyd ar gael i helpu busnesau lleol.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Mayer fod y paramedrau presennol yn gorgyffwrdd, ac y byddai’r fframwaith hwn yn dwyn y gwahanol haenau at ei gilydd fel y gallai pobl fynd at wybodaeth mewn un lle.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod hwn yn gam sylweddol ymlaen i’r Cyngor ac yr oedd hefyd yn ystyried yr agwedd gymdeithasol-economaidd, yr iaith Gymraeg a newid hinsawdd i Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn cymeradwyo mabwysiadu’r TOMs Cenedlaethol Cymreig  fel fframwaithcyffredinol i fesur cyflwyno gwerth cymdeithasol trwy Gomisiynu, Caffael a Rheoli Contractau.

Dogfennau ategol: