Agenda item

Gofrestr Risg Corfforaethol (Chwarter 2)

Cofnodion:

Mae Cofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn monitro'r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei Gynllun Corfforaethol neu ddarparu gwasanaethau i'w gymunedau a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghasnewydd.

Ailadroddodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor nad eu rôl hwy oedd cwestiynu sgôr y risgiau ond y broses o amgylch y risgiau.

Cyflwynwyd yr adroddiad i'r Pwyllgor gan y Cyfarwyddwr Strategol – Trawsnewid a'r Ganolfan Gorfforaethol.

 

 

Prif Bwyntiau:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol, wrth edrych yn ôl i’r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021, fod rhai risgiau sylweddol posibl yr oedd y sefydliad yn ymdrin â hwy bryd hynny. Un o’r rhain oedd y cyfnod ar ôl y cyfnod pontio o'r UE a Brexit a’r goblygiadau sy’n gysylltiedig â hynny, yn ogystal â risg yr amrywiolyn Delta oherwydd dechrau’r tymor ysgol newydd. 

·       O fewn y cynlluniau gwasanaeth, roedd 46 o risgiau penodol ar draws ei wyth maes gwasanaeth gyda rhai newidiadau, gyda risg gaeëdig yn gysylltiedig â'r cynllun datblygu strategol o ganlyniad i drefniadau pwyllgor corfforaethol. Roedd risg newydd yn gysylltiedig â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.

·       Ar gyfer y Gofrestr Risg Gorfforaethol, roedd 18 o risgiau, gyda’r sefyllfa o ran COVID-19 yn gwaethygu ac yn gwella mewn perthynas â chyfraddau heintiau ac ati.

·       Roedd pwysau ar wasanaethau cymunedol hefyd yn dibynnu ar y risgiau sy’n gysylltiedig â COVID-19 a sut roedd hynny’n cael ei reoli.

·       Mwy o risg gyda Brexit a’r prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a barhaodd i Chwarter 3.

·       Roedd gostyngiad mewn diogelu yn risg oherwydd hunanasesiad y sefydliad a gynhaliwyd.

Cwestiynau:

Holodd y Cynghorydd Hourahine am y risg yn erbyn Brexit a ph'un a oedd yn arf di-fin i ddiffinio lle’r oedd y risgiau mewn gwirionedd gan fod anhawster recriwtio gweithwyr gofal ar gyfer cartrefi gofal a nodwyd y ceisiwyd recriwtio yn y gymuned.

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Strategol, y tu allan i'r cyfnod hwn, ond oherwydd yr amrywiolyn Omicron a'r pwysau ar ofal cymdeithasol, fod ystod o ymyriadau i reoli'r risg barhaus hon. Nid oedd hyn yn ymwneud â Brexit ond, o fewn pob cynllun gwasanaeth, roedd risgiau a gwaith cynllunio’r gweithlu lle bu llawer o waith yn y sefydliad ar hyn. Roedd hwn yn edrych ar y gweithlu presennol a chadw’r gweithlu yn y dyfodol, eu hyfforddi a gweithgareddau ar eu cyfer, ac ym mhob cynllun gwasanaeth roedd adran ar sut i fynd i’r afael â’r problemau hynny.

Dywedodd y Cynghorydd Giles fod materion Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ynghyd â chyllidebau ysgolion yn mynd rhagddynt ond nad oeddent mor ddifrifol ag y tybiwyd unwaith, a oedd yn drawiadol. Diolchodd y Cynghorydd Giles i'r awdurdod a'r holl ysgolion am eu gwaith caled. Gofynnodd y Cynghorydd Giles am ddiweddariad ar ysgolion a materion ADY ac AAA a gwnaeth sylwadau ar y darlun ar ôl COVID-19 a sut olwg fyddai arno gan fod rhai materion ariannol ysgolion wedi'u lleddfu rhywfaint.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Strategol fod pwysau costau cyllid ysgolion yn fater parhaus, ac roedd hwn yn ddarn enfawr o waith dan arweiniad cydweithwyr yn yr adrannau Cyllid ac Addysg a oedd yn gweithio gydag ysgolion i liniaru pwysau cyllidebol, a fu'n llwyddiannus iawn hyd yn hyn. Roedd hon yn ymdrech enfawr gan swyddogion ac ysgolion. Mewn perthynas â'r heriau AAA ac ADY, roedd hyn yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth newydd gyda gofynion newydd a heriau gweithredol.

Roedd y sefyllfa gyllidebol gyffredinol ar gyfer ysgolion yn ddiddorol oherwydd y pwysau cynyddol mewn ysgolion ac roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cronfa galedi i gefnogi hyn. Cafwyd yr effaith fwyaf trwy gydweithio rhwng cydweithwyr yn yr adrannau Cyllid ac Addysg. 

Gofynnodd y Cynghorydd Giles p'un a oedd pryderon ynghylch colli’r taliad ychwanegol eleni a beth fyddai’n digwydd o ganlyniad i hyn.

Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod dod â'r gronfa galedi i ben ar 31 Mawrth 2022 yn bryder ond bod y ffaith fod y setliadau'n rhai da i lywodraethau lleol wedi'i liniaru. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Cabinet a'r Arweinydd i lunio cynllun lliniaru risg i reoli'r gost anochel oedd yn y system yn ogystal â cholli incwm gan na fydd normalrwydd yn dychwelyd ar 1 Ebrill. Byddai angen iddo fod yn ddigonol ac yn gadarn ac efallai y bydd rhai newidiadau parhaol y flwyddyn nesaf, ond roedd yn rhy gynnar i ddweud ar hyn o bryd.

Nododd y Cadeirydd fod hwn yn dangos 20 fel sgôr risg gynhenid ar dudalen 32 o'r pecyn mewn perthynas â chlefyd lladdwr yr ynn. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd am gwestiynu'r sgôr ond, gyda chymaint o goed yn cael eu torri i lawr, dylid bod newid cyfeiriad yn y sgôr.

Cadarnhaodd y Partner Busnes Perfformiad a Risg y byddai'r sgôr yn gostwng dros y chwarteri nesaf ac y byddai hyn yn cael ei fonitro.

Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau ar dudalen 42, lle roedd y sgôr risg gynhenid yn dangos sgôr o 25 ond roedd y matrics yn dangos sgôr o 20, a ph'un a oedd y dot yn y lle iawn.

Cadarnhaodd y Partner Busnes Perfformiad a Risg fod y sgôr yn cadarnhau bod y cyfeiriad teithio yn gostwng. 

 

Cytunwyd:

Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: