Agenda item

Strategaeth Cyfranogi Ddrafft

Cofnodion:

Gwahoddedigion:

Leanne Rowlands – Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd

Gareth Price - Pennaeth y Gyfraith a Rheoleiddio

 

Pwyntiau allweddol:

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y dyddiadau allweddol ar gyfer proses y Strategaeth Cyfranogi. Bydd fformat a dyluniad terfynol yr ymgynghoriad â'r cyhoedd ym mis Chwefror, lle dylai'r strategaeth adlewyrchu Awdurdodau Lleol unigol ond hefyd fodloni safonau'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Disgwylir i'r cynghorau adeiladu ar yr hyn sydd ganddynt eisoes ar waith gan fod gan y cyngor ddyletswydd i sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd yn ymwneud â'r prosesau gwneud penderfyniadau. Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd y canlyniadau'n dod yn ôl tua diwedd mis Mawrth ac yna byddant yn cael eu cyflwyno i'r cyngor llawn i'w mabwysiadu, yn barod i'w cyhoeddi ym mis Mai 2022.  Nodwyd y gallai'r cyngor wneud newidiadau bach i'r cynllun, ond gallai unrhyw newidiadau gael effaith ar y llinell amser ar y cam hwn.

 

Hysbyswyd yr Aelodau y bydd cyfnod ymgynghori statudol o 30 diwrnod a fydd ar-lein yn bennaf, gyda Chodau Wi-Fi cyhoeddus yn y ddinas a chodau QR mewn mannau cyhoeddus fel y gall preswylwyr gwblhau'r arolwg ar eu ffonau clyfar. Mae'r tîm yn ystyried sut i gyrraedd y grwpiau anoddach eu cyrraedd drwy gysylltiadau partner.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth yr Aelodau fod saith tudalen o'r strategaeth wedi'u cwblhau, bod gan y ddogfen ymgynghori lawn bum tudalen arall o hyd. Gan fod y dyddiad gofynnol gan y tîm Cysylltiadau Cyhoeddus wedi'i newid i fod yn gynt; mae'n rhaid iddynt gwblhau'r ddogfen o hyd ond maent wedi cwblhau saith tudalen i ddangos sut mae'n cyd-fynd â'r strategaethau eraill. Roedd y strategaeth yn gysylltiedig â'r cynllun corfforaethol gyda rôl y dinesydd wrth deilwra dull gweithredu'r cyngor, gydag anghenion amrywiol a chynllunio ffyrdd o gyfranogi i gynnwys pawb a chysylltu pobl â lle maent yn byw gyda'r penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

 

Croesawodd y Swyddog Arweiniol sylwadau a chwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Gwnaeth y Pwyllgor y sylwadau canlynol:

·       Cadarnhaodd Y Cynghorydd M. Evans ei fod yn hapus i'r strategaeth fynd yn ei blaen ar gyfer yr ymgynghoriad a hoffai wybod pa gwestiynau fydd yn cael eu gofyn i’r cyhoedd. Soniwyd y gallai aelodau o'r cyhoedd gael eu digalonni pe byddai llawer o gwestiynau. Roedd yr Aelod yn cofio nad oedd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus wedi cael llawer o ymatebion gan y cyhoedd.

 

·       Soniodd y Cynghorydd Hourahine y byddai'n hoffi i'r cofnodion nodi  bod gan y pwyllgor amheuon ynghylch y dulliau ymgynghori. Ond nodir bod yr Aelodau'n derbyn pam na all y swyddogion wneud rhai mathau o ymgynghori ar hyn o bryd ac felly cadarnhaodd ei fod yn fodlon iddo fynd yn ei flaen.

 

·       Gwnaeth y Cynghorydd Clarke sylw bod cynnwys y drafft yn dda iawn ac, os bydd aelodau o'r cyhoedd yn edrych ar y strategaeth, byddant yn ei gweld bod ynddi gynnwys da ac roedd yn gobeithio y bydd pobl yn edrych arni.

 

·       Ychwanegodd y Cynghorydd T. Watkins mai mater i'r Cynghorwyr yw ei hyrwyddo, ond gofynnodd beth fyddai'n digwydd pe bai Llywodraeth Cymru am ddiwygio neu newid yr hyn a gyflwynwyd ar ôl yr ymgynghoriad. Gofynnodd yr Aelod i'r swyddogion gadarnhau a fyddai'r strategaeth yn dod yn ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu a fyddai'n rhaid i'r Pwyllgor ei gadael.

 

Mewn ymateb, eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth y byddai'n rhaid iddo ddod yn ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Mae fformat y ddogfen yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol; felly, pe byddai newid yn y ddeddfwriaeth, yna byddai'n cael ei dwyn yn ôl i'r Pwyllgor i sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth gyfredol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod drafft y strategaeth yn ddogfen ddeinamig sy'n agored i'r Pwyllgor ei hadolygu ar unrhyw adeg ac o leiaf unwaith bob tymor Cyngor 5 mlynedd. Cydnabuwyd bod angen gwneud gwaith ar y cynlluniau deisebau, er enghraifft. Gan y nodir bod angen i'r cyngor edrych ar ddeisebau, gellir ei gysylltu â'r strategaethau cyfranogi.

 

Rhan ddeinamig y ddogfen fyddai'r mesurau a’r camau y byddai'r pwyllgor yn eu rhoi ar waith i wella cyfranogiad. Er enghraifft, pryderon ynghylch pa mor effeithiol mae'r dull ymgynghori gyda’r cyhoedd, a bydd hynny'n rhan o'r adolygiad.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai'r cam presennol yw rhoi'r ddogfen feincnodi ar waith erbyn mis Mai a'i defnyddio fel blaengynllun gwaith ac nid dyma'r fersiwn orffenedig. Mae'n ymwneud mwy ag a ydynt yn hoffi fformat a golwg y ddogfen ac os yw'r cyngor wedi cynnwys y camau gweithredu a'r mesurau cywir yn y fan honno fel man cychwyn.

 

·       Mynegodd y Cynghorydd T. Watkins ei bryder o ran pe bai Llywodraeth Cymru yn cynghori'r cyngor i gael rhyw fath o gyfranogiad gan y cyhoedd mewn pwyllgorau craffu, yna byddai'n rhaid iddo ddychwelyd i'r pwyllgor.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth, pe bai Llywodraeth Cymru yn rhagnodi unrhyw newidiadau neu reoliadau, y byddai'n rhaid i'r cyngor newid yr hyn sydd yn y ddogfen.  Fodd bynnag, roedd y ddeddfwriaeth a'r canllawiau presennol yn caniatáu hyblygrwydd i'r cyngor roi beth bynnag y mae am ei gael yn y strategaeth cyn belled â'i fod yn cydymffurfio â'r gofynion statudol sylfaenol. Pe bai rheoliadau'n newid, byddai'n cael ei ddwyn yn ôl i'r pwyllgor.

Daeth y Cadeirydd i'r casgliad bod y Pwyllgor yn fodlon â'r strategaeth fel y mae wedi ei chyflwyno ac yn edrych ymlaen at weld rhagor o waith ar y drafft.

 

Cytunwyd:

Cytunodd y Pwyllgor i fynd i ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft. Felly, bydd Drafft y Strategaeth Cyfranogi yn dod yn ôl i'r Pwyllgor ddiwedd mis Mawrth.

 

 

Dogfennau ategol: