Cofnodion:
Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad uchod.
Dywedodd yr Arweinydd wrth ei gydweithwyr mai adroddiad cydymffurfio oedd hwn i gadarnhau bod gweithgareddau'r Trysorlys yn hanner cyntaf 2021-22 yn gyson â Strategaeth y Trysorlys a ystyriwyd ac a osodwyd yn flaenorol gan yr Aelodau. Roedd yr adroddiad hefyd yn cymharu gweithgarwch â’r sefyllfa diwedd blwyddyn ar gyfer 2020-21 i nodi'r symudiadau a'r achosion wrth wraidd hynny.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ganlynol:
§ Derbyniwydnodyn atgoffa ynghylch strategaeth y trysorlys
§ Manyliongweithgarwch benthyca a buddsoddi
§ Manylionystyriaethau economaidd ehangach fel y pandemig a'r hinsawdd economaidd
§ Diweddariadi'r cod Trysorlys Rhyngwladol ar gyllid buddsoddi masnachol
§ Archwiliad o weithgarwch yn erbyn perfformiad, gan gadarnhau cydymffurfio
Roedd yr adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet ac fe'i cymeradwywyd ganddynt i'w ystyried wedi hynny gan y Cyngor llawn.
Ar 30 Medi 2021, cafwyd gostyngiad o £9.1m mewn lefelau benthyca o gymharu â lefelau 2020-21, i £144m.
Roedd hyn yn gysylltiedig ag ad-dalu benthyciad PWLB a aeddfedodd yn hanner cyntaf 2021/22, oherwydd ar 3 Medi nid oedd angen unrhyw fenthyca pellach i ail-lenwi'r benthyciad hwn. Efallai y bydd angen benthyciad dros dro i ddarparu ar gyfer hyn cyn 31 Mawrth 2022.
Roedd yna hefyd nifer o fenthyciadau; Gostyngodd Rhandaliadau Cyfartal o'r Prifswm (EIP) a oedd yn ad-dalu'r prifswm dros oes y benthyciad, a'r llog a oedd yn gysylltiedig â'r benthyciad, wrth i'r prifswm a oedd yn weddill ostwng.
Cafwyd cynnydd hefyd o £4.1m yn lefel y buddsoddiadau i £28.9m, gan olygu gostyngiad o £13.3m mewn benthyciadau net yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol i £115.1m. Roedd y ffigur buddsoddi hwn yn cynnwys £13.9m wedi'i ddal mewn arian parod.
Roedd hyn oddeutu £6m yn is na diwedd y flwyddyn, ond oherwydd parhad y pandemig mae'r Awdurdod wedi parhau i gadw rhagor o arian parod y gellir cael gafael arno'n sydyn ar fyr-rybudd na'r hyn sy'n arferol, rhag ofn y ceir unrhyw alw annisgwyl am arian.
Nid oedd rhyw lawer o alw am fenthyciadau byrdymor iawn o fewn y farchnad, ac ym mis Medi roedd cyfraddau ar adneuon llai na 14 diwrnod o hyd gyda'r Debt Management Account Deposit Facility (DMADF) yn dal yn isel iawn ar 0.01%. Roedd gan yr Awdurdod fuddsoddiad o £15m gydag awdurdodau lleol eraill a chanddynt gyfraddau llog a oedd fymryn yn well, ond yn dal i fod yn isel. Rhagwelwyd y byddai buddsoddiadau’n lleihau yn ystod 2021/22 er mwyn lleihau'r angen i fenthyca nes cyrraedd balans o £10m, a fyddai'n parhau i gael ei fuddsoddi er mwyn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau a Chytundebau Ariannol (MiFDII).
O ganlyniad i hyn, nid oedd angen unrhyw fenthyciadau newydd hirdymor newydd yn hanner cyntaf y flwyddyn ariannol.
Rhagwelwyd serch hynny y byddai angen i'r Cyngor drefnu benthyciad byrdymor ychwanegol ar gyfer gweddill y flwyddyn, er mwyn darparu ar gyfer gweithgarwch llif arian beunyddiol o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ar sail y rhagolygon cyfredol o wariant cyfalaf, disgwyliwyd na fyddai unrhyw ofyniad penodol i ymrwymo i fenthyciad hirdymor yn y flwyddyn ariannol hon, er y gellid ystyried benthyca'n allanol i reoli risgiau'n gysylltiedig â chyfraddau llog ac angen y Cyngor i fenthyca yn y tymor hwy.
Yn olaf, Dangosyddion Darbodus; mae'r Awdurdod yn mesur ac yn rheoli ei gysylltiad â risgiau rheoli trysorlys drwy ddefnyddio dangosyddion amrywiol y gellid cael hyd iddynt yn Atodiad B. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau bod y Cyngor yn parhau i gydymffurfio â'r Dangosyddion Darbodus a osodwyd ar gyfer 2021/22.
Penderfynwyd:
Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo'r adroddiad ar weithgareddau rheoli trysorlys hyd 30 Medi 2021, gan gymeradwyo ar yr un pryd fod y gweithgareddau'n unol â'r Strategaeth Rheoli Trysorlys a gytunwyd ar gyfer 2021/22.
Dogfennau ategol: