Agenda item

Adroddiad Blynddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Cofnodion:

Gofynnodd y Maer i'r Arweinydd gyflwyno'r adroddiad.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch unwaith eto i Chris Humphreys am gyflawni rôl y Cyfarwyddwr yn ystod y cyfnod hwn.  Cafodd Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 ei gwblhau gan Chris Humphrey. Bu Chris yn cyflawni rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro o fis Rhagfyr 2019 hyd fis Hydref 2021. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r cyfnod pan gamodd Chris i'r rôl mewn amgylchiadau eithriadol tu hwnt.

 

Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu cyfnod digynsail yn y galw am, ac o ran darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws gofal cymdeithasol Plant ac Oedolion. Ym mis Mai 2021, cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru Wiriad Sicrwydd a edrychai yn ôl ar y cyfnod 2020/2021. Yn eu gwiriad, nodwyd y canlynol:

 

“Canfuom fod cefnogaeth wedi’i hategu gan berthynas agored a gonest ynghylch yr opsiynau sydd ar gael i bobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth”.

 

Roedd gwasanaethau plant yn profi galw digynsail a chynnydd mewn atgyfeiriadau ac roedd staff yn y gwasanaethau oedolion yn gweithio o dan gryn bwysau. Nodai'r canfyddiadau ddiwylliant o welliant ac o chefnogaeth y naill i'r llall, a chydnabyddiaeth o arweinyddiaeth gadarnhaol. Er bod staff ar eu traed olaf yn ymdrin â dwysedd uchel o achosion cymhleth, roedd morâl yn dda ar y cyfan.

 

Ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant, parhawyd i ddarparu gwasanaethau, gan gynnal pob lefel o ddarpariaeth er gwaethaf effaith y pandemig. Rhwng Cysylltwyr Cymunedol, a gwasanaethau ataliol plant hyd at eiriolaeth, gofal cartref, a chymorth i deuluoedd ac ymyriadau statudol mewn achosion cyfiawnder teuluol, a darparu gofal maeth a chartrefi preswyl, darparwyr gofal a chymorth yn uniongyrchol i ddinasyddion. Parhaodd y staff i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb yn ogystal â chanfod datrysiadau arloesol er mwyn ymateb i gyfyngiadau'r pandemig.

 

Datblygodd y Gwasanaethau Oedolion wasanaeth allgymorth newydd, gan lwyddo i ymwreiddio eu prosesau rhyddhau o'r ysbyty yn Ysbyty newydd Grange a agorwyd fis Medi 2020. Roedd y timau Ysbyty ac Ailalluogi yn bresennol ar safleoedd ysbytai drwy gydol y cyfnod.

Yn y Gwasanaethau Plant cefnogwyd teuluoedd i allu gofalu'n ddiogel am eu plant yng nghartref y teulu yn sgil cyflwyno'r tîm Ymateb Brys a chyflwyno Y Babi a Fi.

 

Roedd gweithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a chyda’n cymunedau yn allweddol er mwyn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau cadarn a chadarnhaol. Ar bob lefel, parhaodd swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Aelodau i gynrychioli'r Cyngor mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys y Byrddau Diogelu, y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, y gr?p rhanbarthol ar gyfer Plant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches a lliaws o grwpiau partneriaeth a ffurfiwyd yn benodol i ymateb i ofynion y pandemig ac i sicrhau y gellid darparu gwasanaethau'n effeithiol ar draws yr holl asiantaethau.

 

Er y bu pwysau aruthrol ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/2021, amlinellai'r adroddiad y modd yr aeth staff ati'n rhyfeddol i barhau i amddiffyn a gofalu am ein dinasyddion mwyaf agored i niwed. Byddai heriau sylweddol yn codi wrth symud ymlaen i 2021/2022, ond yn sicr byddai'r heriau hynny'n creu cyfleoedd i barhau i wella gwasanaethau.  

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol ddweud ychydig eiriau ac achubodd hefyd ar y cyfle i ddiolch i'r Aelod Cabinet am ei waith caled a'i ymroddiad i'r gwasanaethau.

 

Soniodd y Cynghorydd Cockeram yn gyntaf ei fod yn cytuno â sylwadau'r Arweinydd ynghylch Chris Humphrey, a'r gwaith ardderchog a wnaeth yn ystod y pandemig, a pharhad y gwasanaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig. Diolchodd hefyd i holl aelodau o staff y cyngor am eu cyfraniad dros y ddwy flynedd ddiwethaf.  Roedd heriau mawr o flaen y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys diogelu.  Roedd cynnwys yr Heddlu a'r sector iechyd yn yr Hyb Diogelu yn welliant mawr. Cynllun peilot yng Nghasnewydd oedd yr Hyb, a oedd bellach yn cael ei roi ar waith ledled Cymru yn dilyn ei lwyddiant.  Yn ogystal â hyn, gallai'r cyfnodau clo'r ysgolion, ac nad oeddem yn gwybod beth oedd yn digwydd i blant, hefyd fod yn broblem. 

 

Roedd gan y Cyngor 380 o blant sy'n derbyn gofal, ac roedd 256 o'r rheiny mewn gofal maeth.  Gofalwyr maeth oedd yn gofalu am y mwyafrif o blant, ac roedd yr Aelod Cabinet am ddiolch iddynt am eu gwaith caled.  Gwelwyd hefyd 26 o achosion mabwysiadu llwyddiannus yn ystod y cyfnod clo. Un o'r meysydd yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch yn ei gylch oedd cartrefi preswyl y Gwasanaethau Plant fu hefyd yn llwyddiant mawr, ac roedd y Gweinidog wedi ysgrifennu llythyr i ddiolch i'r Cyngor am y gwasanaeth hwn. 

 

Cafwyd 840 o atgyfeiriadau o'r ysbyty newydd yn Llanfrechfa, a llwyddwyd i ryddhau 475 o'r rhain, a olygai y llwyddwyd i atal 60% o'r rhain rhag mynd i'r ysbyty.  Roedd Gwasanaeth Ailalluogi Dementia newydd hefyd yn gwneud yn dda.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol am eu cyllid. Roedd Awdurdodau Lleol yn dibynnu ar y cyllid hwnnw.  Cafodd yr adroddiad hefyd ei gyflwyno gerbron craffu, gan dderbyn sylwadau cadarnhaol.  Bu tanwariant, ond nid ydym yn y byd go iawn ar hyn o bryd oherwydd effaith covid.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i'r staff a oedd wedi gwneud gwaith rhagorol, ond a oedd hefyd yn flinedig, ac roedd problem gyffredinol o ran staffio ledled Cymru.  Teimlai'r Aelod Cabinet fod angen adroddiad rhanbarthol ar sut i gynyddu niferoedd staff, a gofynnodd i Goleg Gwent a cholegau eraill gynnig bwrsariaethau i annog pobl i ymuno â'r proffesiwn a gweithio i'r Cyngor.  Yn olaf, ystyriai'r Aelod Cabinet fod yr adroddiad hwn yn gadarnhaol ar y cyfan.

 

Gwahoddwyd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, Sally Jenkins i ddweud ychydig eiriau hefyd.  Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ddiolch i Chris Humphrey, a diolch hefyd i'r staff am eu bod wedi bod o dan bwysau anferthol.  Roedd y staff yn flinedig a morâl yn isel, ond roedd y negeseuon cadarnhaol a ymrwymiad i staff barhau i weithio i Gasnewydd drwy gadw myfyrwyr yn tystio i'r gefnogaeth yr oeddent yn ei chael gan y Cyngor.  Roedd yr adroddiad yn trafod y flwyddyn 2021, ond roedd hi'n teimlo fel pe baem wedi ymlwybro'n syth i gyfnod heriol iawn arall yn 2022. 

 

I gloi, achubodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y cyfle i ddiolch i Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â'r aelodau etholedig eraill, am eu cefnogaeth wrth i'r Gwasanaethau Cymdeithasol barhau i ddarparu eu gwasanaethau.  Yn wyneb amrywiad Omicron, roedd pryder ynghylch sut y byddai staff yn parhau i weithio, ond gellid monitro hyn, a byddai'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud popeth i sicrhau'r gwasanaeth gorau drwy'r gefnogaeth a fyddai'n cael ei chynnig.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

§  Diolchodd y Cynghorydd Hughes i Chris Humphrey am ei hadroddiad, gan ddweud ei fod yn cofio gweithio iddi fel gweithiwr cymdeithasol. Roedd y Cyngor yn ymfalchïo yn y timau ac yn y ffordd yr oeddent yn ymddwyn.  Fel gweithiwr cymdeithasol ei hun, teimlai nad oedd hyn yn cael ei werthfawrogi'n ddigon aml. Soniodd y Cyngor hefyd am gynnydd gofal maeth yng Nghasnewydd.

 

Penderfynwyd:

 

Bod y Cyngor yn derbyn Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, 2020/21.

Dogfennau ategol: