Cofnodion:
Dywedodd y Maer fod Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd o 13 Rhagfyr wedi'u cyflwyno gerbron ei gydweithwyr i'w nodi. Fodd bynnag, roedd un mater wedi'i gyfeirio gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i sylw'r Cyngor llawn i'w benderfynu, a byddai'r mater hwnnw'n cael ei gyflwyno gerbron aelodau'r Cyngor.
O dan Eitem 5 roedd trafodaeth gofnodedig ynghylch a ddylai'r Pwyllgor argymell bod y Cyngor yn penodi Aelod Llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y Cyngor o fis Mai 2022 ymlaen. Yn y cyfarfod, roedd y bleidlais yn gyfartal a gwrthododd y Cadeirydd roi ail bleidlais fwrw.
Roedd y mater felly wedi'i gyfeirio i sylw'r Cyngor llawn heb unrhyw argymhelliad.
Cyn y gellid cynnal unrhyw drafodaeth a phleidlais ar y mater, byddai angen felly i aelod o'r Cyngor wneud cynnig, ac eilio'r cynnig hwnnw'n ffurfiol, ynghylch a ddylai'r Cyngor benodi Aelod Llywyddol ai peidio.
Gofynnodd y Maer i'w gydweithwyr wneud cynnig ffurfiol i benodi Aelod Llywyddol. Cynigiodd y Cynghorydd Hourahine hynny a chadw'r hawl i siarad ar ddiwedd y drafodaeth. Eiliodd y Cynghorydd Whitcutt y cynnig hefyd a chadw'r hawl i siarad yn ddiweddarach yn y drafodaeth.
Cododd y Cynghorydd Fouweather bwynt ynghylch trefn, gan gwestiynu a oedd y cynnig yn gynnig cyfreithiol, gan nad oedd wedi'i gynnwys ymhlith yr eitemau ar Agenda'r Cyngor.
Sicrhaodd y Swyddog Monitro y Cynghorydd Fouweather a gweddill y Cyngor fod hwn yn gynnig dilys, yn unol â Rheolau Sefydlog y Cyngor. Roedd y mater wedi'i gyfeirio i sylw'r Cyngor a'i gofnodi yng nghofnodion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, a oedd wedi'u cyhoeddi ar agenda'r Cyngor. Nid oedd angen i'r cynnig fod wedi'i ysgrifennu. Yn syml, roedd y cynnig a wnaed ac a eiliwyd yn gynnig i benodi Aelod Llywyddol.
Gofynnodd y Maer wedyn a oedd unrhyw gynghorwyr yn dymuno gofyn am welliant i'r cynnig gwreiddiol. Gofynnodd y Cynghorydd M Evans felly am welliant a eiliwyd gan y Cynghorydd Fouweather, sef bod gwybodaeth bellach am y swydd-ddisgrifiad a'r tâl cydnabyddiaeth yn cael ei chyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er trafodaeth bellach.
Aeth y Cyngor ati wedyn i drafod y diwygiad yn gyntaf.
Sylwadau gan Gynghorwyr:
§ Siaradodd y Cynghorydd M Evans o blaid y diwygiad. Gwrthodwyd penodi Aelod Llywyddol yn wreiddiol yn 2019 oherwydd y gost yn gysylltiedig â'r rôl, ac nid oedd sicrwydd a fyddai'n benodiad cyfnod penodol o bum mlynedd. Yn ogystal â hyn, teimlwyd y byddai rôl y Maer yn cael ei lleihau a'i thanbrisio ac y dylai'r mater felly gael ei gyfeirio'n ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Bryd hynny, gofynnodd y Cynghorydd Evans am bleidlais gofnodedig ynghylch y gwelliant.
§ Siaradodd y Cynghorydd Whitcutt am y gwelliant, a dywedodd pe bai'r cynnig gwreiddiol yn cael ei basio, y gellid trafod manylion y rôl yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, a byddai'r mater wedyn yn cael ei gyfeirio'n ôl i'r Cyngor. Byddai'r Aelod Llywyddol yn gallu cyflawni ei rôl yn ogystal â'i ddyletswyddau arferol, yn debyg i gadeiryddion pwyllgorau. Gofynnodd y Cynghorydd Whitcutt felly am gael ystyried y cynnig gwreiddiol.
§ Gofynnodd y Cynghorydd M Evans am eglurhad ynghylch pwy a allai gael ei benodi'n Aelod Llywyddol. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn penderfynu pwy a allai wneud cais yn rhan o'r broses ymgeisio, gan ychwanegu y byddai'r Aelod Llywyddol yn benodiad llawn amser i'r Cyngor.
§ Siaradodd y Cynghorwyr Suller, J Watkins a Fouweather o blaid y gwelliant a phwysleisio pwysigrwydd a dyrchafiad rôl Maer Casnewydd a’i bod yn briodol trafod hyn yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth bellach.
§ Soniodd y Cynghorydd Harvey fod Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cyfeirio hyn i sylw'r Cyngor, ac ychwanegodd y byddai rôl yr Aelod Llywyddol yn anwleidyddol.
§ Roedd y Cynghorydd Mudd o'r farn na fyddai hyn yn gostwng statws y faeryddiaeth, a bod y Cyngor wedi gwneud cais i ddyrchafu Maer Cyngor Dinas Casnewydd i fod yn Arglwydd Faer yn ystod Jiwbilî Platinwm y Frenhines.
§ Ychwanegodd y Cynghorydd Cockeram fod cadeirio'r Cyngor yn anodd iawn pan oedd ef ei hun yn faer, a byddai hyfforddiant fel Aelod Llywyddol yn ddelfrydol, ac y gellid hefyd gadeirio seminarau'r aelodau. Roedd felly angen cysondeb.
§ Holodd y Cynghorydd Jordan ynghylch y cyflog o £25,000 y flwyddyn, a gofynnodd ai ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor yn unig yr oedd hyn, neu a fyddai angen cadeirio cyfarfodydd eraill. Dywedodd y Swyddog Monitro mai ar gyfer cadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn unig yr oedd hyn. Cyfanswm y cyflog oedd £25k, ond roedd yn golygu £9k yn ychwanegol ar ben cyflog sylfaenol cynghorydd, gan greu £25k fel cyfanswm.
§ Cyfeiriodd y Cynghorydd Morris at y ffaith bod yn rhaid i'r Maer fod yn amhleidiol, ac na ddylai weithredu mewn modd gwleidyddol. Fodd bynnag, teimlai ei bod hi'n anodd dehongli'r hyn a oedd yn cael ei roi gerbron y Cyngor, ac roedd yn cytuno y dylid anfon y mater yn ôl i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i'w drafod a'i ystyried eto yn y flwyddyn nesaf.
§ Roedd y Cynghorydd Spencer o blaid y cynnig gwreiddiol oherwydd gellid cyflwyno'r argymhelliad hwn gerbron y Cyngor eto, ar ôl ei drafod yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
§ Rhoddodd y Cynghorydd M Evans grynodeb o'i welliant, a dywedodd pe bai'r cynnig yn cael ei dderbyn fel yr oedd, gallai Aelod Cabinet hefyd fod yn Faer, gan gael gwared â'r elfen amhleidiol. Gallai Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod wedi atal trafodaeth ynghylch yr Aelod Llywyddol, ond teimlai fod angen trafod y mater ymhellach yn y Cyngor. Teimlai'r Cynghorydd Evans ei bod yn llawer rhy fuan i ystyried y cynnig a gofynnodd am gael pleidlais wedi'i chofnodi i edrych ar y rôl yn fanylach.
§ Dywedodd y Cynghorydd Hourahine, yn ei hawl i ateb, fod yr argymhelliad wedi'i gyflwyno gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac mai cais syml ydoedd i benodi Aelod Llywyddol. Roedd yr holl gwestiynau a ofynnwyd heno wedi'u hateb yn rhannol yn yr adroddiad, ac nid oedd unrhyw awgrym y byddai rôl y maer yn cael ei lleihau, a'r gobaith oedd y byddai'r dyrchafiad i Arglwydd Faer yn golygu rhagor o ddigwyddiadau a chyfleoedd i Gasnewydd. Roedd pob Maer wedi gwneud ei orau i gynrychioli’r ddinas, ond ddim o reidrwydd mewn cyfarfodydd cyngor. Er cydymffurfiaeth, roedd rôl yr Aelod Llywyddol, a ddeuai gan LlC, yn newid cadarnhaol ac ni ddylai felly gael ei daflu'n ôl a blaen. Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine felly am gael gwrthod y gwelliant a dychwelyd i'r cynnig gwreiddiol.
Ar gais y Cynghorydd M Evans i gynnal pleidlais gofnodedig ynghylch y gwelliant, cefnogodd y Cynghorwyr Mogford, Fouweather, Suller, Jones a J Watkins y cais, a dyma'r hyn a gofnodwyd:
Enw'r Cynghorydd |
|
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
Al-Nuaimi, Miqdad |
|
1 |
||
Berry, Graham |
Absennol |
|
|
|
Clarke, James |
|
1 |
|
|
Cleverly, Jan |
Gadawodd y cyfarfod |
|
|
|
Cockeram, Paul |
|
1 |
|
|
John Jones |
1 |
|
|
|
Critchley, Ken |
|
1 |
|
|
Davies, Deb |
|
1 |
|
|
Dudley, Val |
Ymddiheuriadau |
|
|
|
Evans, Chris |
|
|
1 |
|
Evans, Matthew |
|
1 |
|
|
Ferris, Charles |
|
1 |
|
|
Forsey, Yvonne |
|
1 |
|
|
Fouweather, David |
1 |
|
|
|
Giles, Gail |
|
1 |
|
|
Guy, John |
|
|
1 |
|
Harvey, Debbie |
|
|
1 |
|
Hayat, Ibrahim |
Absennol |
|
|
|
Hayat, Rehmaan |
Absennol |
|
|
|
Holyoake, Tracey |
Goddefeb |
|
|
|
Hourahine, Phil |
|
|
1 |
|
Hughes, Jason |
|
|
1 |
|
Jeavons, Roger |
|
|
1 |
|
Jordan, Jason |
|
1 |
|
|
Kellaway, Martyn |
|
1 |
|
|
Lacey, Laura |
|
|
1 |
|
Linton, Malcolm |
|
|
1 |
|
Marshall, Stephen |
|
|
1 |
|
Mayer, David |
|
1 |
|
|
Mogford, Ray |
|
1 |
|
|
Morris, Allan |
|
1 |
|
1 |
Mud, Jane |
|
|
1 |
|
Gavin, Horton |
|
|
1 |
|
Richards, John |
|
|
1 |
|
Routley, William |
Ymddiheuriadau |
|
|
|
Spencer, Mark |
|
1 |
|
|
Suller, Tom |
|
1 |
|
|
Thomas, Herbie |
|
1 |
|
|
Thomas, Kate |
|
1 |
|
|
Townsend, Carmel |
|
1 |
|
|
Townsend, Holly |
|
1 |
|
|
Truman, Ray |
|
1 |
|
|
Watkins, Joan |
|
1 |
|
|
Watkins, Trefor |
|
|
1 |
|
Whitcutt, Mark |
|
1 |
|
|
Gwyn, Richard |
Goddefeb |
|
|
|
Whitehead, Kevin |
|
1 |
|
|
Wilcox, Debbie |
|
1 |
|
|
Williams, David |
|
1 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
13 |
26 |
3 |
Collwyd y gwelliant fel y nodir yn y tabl uchod. Felly, agorodd y Maer y drafodaeth ynghylch y cynnig gwreiddiol.
Teimlai’r Cynghorydd Whitehead y byddai’r Aelod Llywyddol yn dal yn wleidyddol, ond roedd wedi colli'r hawl i gadw ei sylwadau ar gyfer diwedd y drafodaeth, gan fod y gwelliant i'r cynnig wedi'i golli.
Gwnaeth y Cynghorydd Mayer gynnig cau, sef y dylid bwrw pleidlais ar y mater heb unrhyw drafodaeth bellach. Cafodd y cynnig ei eilio'n briodol a'i basio drwy bleidlais gan y mwyafrif. Dywedodd y Swyddog Monitro fod gan y Cynghorydd Hourahine, fel y sawl a wnaeth y cynnig gwreiddiol, yr hawl i roi araith gloi cyn cynnal pleidlais ar y mater yn unol â'r cynnig cau.
Ailbwysleisiodd y Cynghorydd Hourahine ei safbwynt y dylid penodi Aelod Llywyddol.
Penderfynwyd:
Penderfynwyd drwy bleidlais gan y mwyafrif y byddai Aelod Llywyddol yn cael ei benodi gan y Cyngor o fis Mai 2022.
Dogfennau ategol: