Agenda item

Strategaeth 5 Mlynedd yr Iaith Gymraeg

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

Rhys Cornwall – Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a Chorfforaethol

Heather Powell – Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig

Hywel Jones – Swyddog Polisi’r Gymraeg

  

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Strategol yr adroddiad.  

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben ond eu bod yn dal i gymryd sylwadau.  

Hysbysodd y Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor mai amserlen yr adroddiad oedd iddo fynd at y Cabinet ym mis Chwefror a’r Cyngor  ym mis Mawrth.  

Nododd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig fod rhai rheoliadau penodol oedd eu hangen dan y safonau presennol, gan gynnwys targed twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd, oedd yn asio gyda’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg. Hysbysodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y pwyllgor fod y rhain yn canoli ynghylch 3 thema strategol - addysg, bod yn weladwy, ac ymwneud. Hysbysodd y pwyllgor fod hyn yn destun ymgynghori, ac yn cael ei anfon at bartneriaid yr iaith Gymraeg a gwefan Dinas Casnewydd ar ddydd Llun. Dywedodd hefyd fod arolwg derbyn hefyd wedi ei gynnal dros yr haf.  

  

Cwestiynau:  

Gwnaed sylw am y diffyg defnydd o’r Gymraeg yn yr adroddiad

A oedd y galw am ysgolion Cymraeg yn cyfateb â’r ddarpariaeth o lefydd?

       Hysbysodd Swyddog Polisi’r Gymraeg y pwyllgor y cynhaliwyd cyfarfod cynllunio llefydd ysgol y diwrnod blaenorol, a bod hyn yn eitem sefydlog ar yr agenda. Ar hyn o bryd, yr oedd dim ond digon o lefydd yn yr ysgolion cynradd, ond byddai’r ddarpariaeth yno tan 2032, er bod hyn yn cael ei adolygu’n gyson.  

       Dywedodd Swyddog Polisi’r Gymraeg wrth y pwyllgor eu bod yn ceisio cynyddu’r niferoedd yn ysgol Gymraeg newydd Pilgwenlli.

Beth oedd y costau am gyfieithu a mentrau Cymraeg eraill?

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor y byddai’n hapus i ddarparu ffigurau gwirioneddol ar gyfer hyn.

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor, pan gawsant Safonau’r iaith Gymraeg yn wreiddiol oedd yn gymwys i Gasnewydd, fod rhan o’r broses ymgynghori â’r awdurdod lleol yn ymwneud â chost gweithredu rhai o’r safonau, sef costau cyfieithu yn bennaf. Dywedodd wrth y pwyllgor mai’r gyllideb gyfredol ar gyfer cyfieithu oedd £101,100 y flwyddyn, sef cyfran fwyaf cost cwrdd â’r safonau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol nad yw hyn yn cynnwys unrhyw ddatblygu ar y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg, gan fod hyn wedi ei gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf Addysg ar gyfer ysgolion. Ymysg costau eraill mae darpariaeth ar gyfer Swyddog Polisi’r Gymraeg a Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg.

       Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y pwyllgor fod gwaith yn cael ei wneud i recriwtio mwy o staff Cymraeg eu hiaith ac i annog staff i ddysgu Cymraeg.  

       Teimlai’r Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y gellid edrych eto ar eiriad y cwestiwn ynghylch ystadegau am siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd ac ymwneud y ganolfan gyswllt â siaradwyr Cymraeg.  

Pa gynlluniau oedd ar gael i gynyddu amlygrwydd, ymwneud a chyflogaeth i siaradwyr Cymraeg?

       Amlygodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig yr angen i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy yn y Cyngor, ar waetha’r safonau presennol ynghylch cyfieithu dogfennau, llofnodion e-byst a negeseuon allan-o’r-swyddfa yn y ddwy iaith, etc. Nododd hefyd fod angen gwneud yr iaith yn fwy amlwg y tu allan i’r cyngor i aelodau o’r gymuned ymwneud â’r Gymraeg y tu allan i leoliadau lle buasent yn disgwyl ei gweld yn cael ei defnyddio, fel ysgolion a cholegau. Hysbysodd y Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig y pwyllgor eu bod yn canolbwyntio ar edrych ar bartneriaethau cymunedol nad oedd yn draddodiadol Gymraeg i annog hyn, a soniodd fod Dreigiau Casnewydd Gwent am gynnig rhaglenni dwyieithog yn eu gemau, a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar ddyddiau gemau er mwyn annog y Gymraeg mewn cyd-destunau llai ffurfiol.

       NododdSwyddog Polisi’r Gymraeg y gwaith oedd yn cael ei wneud i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn y gymuned. Dywedodd fod dwy haen i’r agwedd o ran ymdrin â sgiliau a gwaith: yn fewnol, lle byddid yn annog staff i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y Cyngor, a sut i ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r cyngor, a gwneud y Gymraeg yn amlycach yn y Cyngor. Yr haen arall oedd gweithio gyda’r Bwrdd Sgiliau Cywir a phartneriaid y sector cyhoeddus i gynyddu’r iaith Gymraeg fel sgil.

DywedoddSwyddog Polisi’r Gymraeg y byddai hyn yn cyd-fynd â’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg o ran ei hybu ym mhob ysgol, nid dim ond y rhai cyfrwng-Cymraeg. Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai gr?p bychan yn adrodd yn ôl i Fwrdd Gwasanaeth y Gymraeg, a’i fod yn gobeithio trwy hyn cael dull safonedig o fesur sgiliau yn y Gymraeg.  

       Gofynnodd aelod o’r pwyllgor am esboniad o waith oedd yn cael ei wneud gyda’r sector preifat.  

       Dywedodd Swyddog Polisi’r Gymraeg nad yw’r sector preifat yn dod dan yr un safonau, ond eu bod yn gweithio i’w cymell.

 

Dogfennau ategol: