Agenda item

Parciau - Rheoli Cwn PSPO

Cofnodion:

Gwahoddwyd:  

  

Joanne Gossage (Rheolwr Gwasanaeth Amgylchedd a Hamdden)

  

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth yr adroddiad, gan nodi ei fod wedi ei newid ac y bu ymwneud â rhanddeiliaid ynghylch yr adroddiad fel y’i diwygiwyd, ac y llwyddwyd i gynnal ymarferiad ymgynghori trylwyr. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth fod baneri a hysbysiadau wedi eu cynhyrchu, a bod yr ymarferiad ymgynghori wedi ei gysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a gwefan Cyngor Dinas Casnewydd. Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei ddangos i Aelodau’r Cabinet cyn cael ei ddwyn yn ôl i’r pwyllgor.

Yr oedd dros 3000 o bobl wedi gweld y dudalen GGMC, a bu ymwneud o holl wardiau’r ddinas.  

Nododdaelod o’r pwyllgor y bu nifer dda o ymatebion a chanmolodd y tîm am ddefnyddio agwedd mor amrywiol i gael ymateb i’r ymgynghoriad. 

 

 

Cwestiynau:

Sut byddai’r GGMC yn cael ei orfodi?

Aoes digon o finiau ar gael i’r sawl sy’n mynd â’u c?n am dro i roi gwastraff ynddynt?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad pwrpas y GGMC oedd bod yn rhy llym. Teimlai mai nod geiriad y gorchymyn fyddai troi pobl ymaith oddi wrth rai gweithgareddau, ac y buasent yn plismona eu hunain i ryw raddau. Teimlai y dylai’r mesurau fod yn gymesur a mynd yn llymach yn unig lle’r oedd yn rhaid.

       Holodd yr aelod pwyllgor a oedd staff ar gael i orfodi’r gorchymyn.

       Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor mai swyddogion y Cyngor fyddai’n gyfrifol am orfodi’r mesurau meddalach, tra gellid cyfeirio problemau mwy cyson at Wardeiniaid Diogelwch Cymunedol, Wardeiniaid C?n neu’r Heddlu i’w monitro.

       Holodd yr aelod pwyllgor a fyddai dirwyon yn cael eu rhoi yn y fan a’r lle.  

       Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth y byddai hyn yn digwydd.  

  

Sut byddai’r maes gwasanaeth yn argymell i’r cyhoedd adrodd am achosion o dorri’r gorchymyn?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor, petai’r gorchymyn yn llwyddiannus, y byddai darpariaeth ar y wefan a’r ganolfan gyswllt i adrodd am faterion.  

A fydd arwyddion yn cael eu codi i hysbysu’r cyhoedd am y gorchymyn?

       Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth fod hyn yn cael ei hysbysebu’n ffurfiol ar draws yr holl barciau.  

  

Sut y dylai trigolion roi gwybod am achosion o g?n yn brathu?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth mai mater i’r heddlu fyddai hyn.  

Fyddai mwy o finiau gwastraff yn cael eu darparu?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth eu bod wedi adolygu hyn ac wedi gosod mwy o finiau ar safleoedd oherwydd eu bod wedi derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Anogodd y Rheolwr Gwasanaeth y pwyllgor i roi gwybod iddi os oedd unrhyw safleoedd penodol y carent i’r tîm eu hadolygu o ran darparu biniau.

  

Beth petai gormod o leiniau yn cael eu marcio?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth wrth y pwyllgor fod lleiniau yn cael eu harchebu trwy gydol y tymor chwaraeon trwy system sy’n bodoli eisoes gyda Casnewydd Fyw.  Yr oedd y Rheolwr Gwasanaeth yn sylweddoli fod digwyddiadau a archebwyd weithiau yn cael eu canslo neu eu hail-drefnu, ond eu bod yn marcio lleiniau yn unig ar gyfer archebion sydd yn y dyddiadur, ac er lles y cyhoedd.   

A yw’r biniau a osodir yn rhai at ddefnydd cyffredinol, neu ai biniau gwastraff c?n ydynt?

       Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth mai rhai cyffredinol yw’r rhan fwyaf o finiau.  

Beth oedd yn cael ei wneud ynghylch c?n ar lwybrai beicio?

       Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod llwybrau beicio oll yn rhai lle rhennir y defnydd onid ydynt ar briffordd unswydd, a bod gan gerddwyr hawl tramwy dros feiciau.  

       Cytunodd yr aelod pwyllgor y dylai pawb fod yn ystyrlon, ond teimlai nad oedd modd darogan o hyd sut y byddai c?n yn ymddwyn, ac y byddai darpariaeth ar rai llwybrau i g?n fod ar dennyn yn fuddiol.  

       Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth mai cyfrifoldeb y perchennog oedd rheoli’r ci wrth ddefnyddio llwybrau oedd yn cael eu rhannu neu briffyrdd, ac nad oedd yn teimlo y dylid gosod cyfyngiadau ar berchenogion i gael eu c?n ar dennyn. Dywedodd wrth y pwyllgor fod arwyddion ar gael i annog pobl i fod yn gyfrifol.  

 

Dogfennau ategol: