Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Rheolaeth Trysorlys 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'r Cabinet a hysbysai ei chyd-aelodau fod y strategaethau Rheoli Cyfalaf a'r Trysorlys blynyddol, wedi'u dwyn gerbron y cyfarfod hwn o'r Cabinet ar ôl cael eu hadolygu, ac ar ôl derbyn sylwadau arnynt gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr.

 

Roedd yn ofynnol i'r Cabinet gymeradwyo'r strategaethau cyn eu cyflwyno gerbron y Cyngor llawn i'w cymeradwyo'n derfynol. Roedd yn ofynnol iddynt hefyd gymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf fanwl a oedd wedi'i chynnwys yn un o atodiadau'r adroddiad hwn.

 

Roedd sylwadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'u cynnwys yn yr adroddiad hwn a, lle bo'n briodol, roedd yr adroddiad wedi'i ddiwygio'n unol â'r sylwadau hynny.

 

Roedd y ddwy strategaeth yn ofynnol yng Nghod Darbodus CIPFA, yn rhan hollbwysig o gynlluniau ariannol tymor byr, canolig a hir, ac roedd cyswllt annatod rhyngddynt â phroses bennu'r gyllideb refeniw.

 

Pwrpas y Strategaeth Gyfalaf oedd disgrifio sut roedd y Cyngor yn mynd ati i wneud penderfyniadau ynghylch gwariant cyfalaf, ac wrth wneud hynny, dangos bod y penderfyniadau hynny wedi'u gwneud yn unol ag amcanion gwasanaethau a chan roi ystyriaeth i risg, gwobrwyo ac effaith.

 

Roedd cysylltiad annatod rhwng y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, a oedd ei hun yn trafod ymagwedd y Cyngor at reoli ei arian parod, gan gynnwys, yn bennaf, yr ymagwedd at weithgareddau benthyca a buddsoddi.

 

Agwedd allweddol ar strategaeth Rheoli'r Trysorlys oedd y terfynau benthyca, a oedd yn y pen draw'n cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, ac a oedd yn rhan o'r gyfres o ddangosyddion darbodus sy'n rheoli gweithgareddau rheoli arian parod y Cyngor. 

 

Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn ddogfen a ganolbwyntiai ar y tymor hir, gan ystyried y 10 mlynedd nesaf o leiaf. Oherwydd y ffocws hwn ar yr hirdymor, roedd hi'n hanfodol i benderfyniadau adlewyrchu'r angen i gynlluniau cyfalaf fod yn fforddiadwy, yn ddarbodus a chynaliadwy.  Yn y bôn, roedd hyn yn golygu'r canlynol:

 

·        Byddai gwariant cyfalaf a ariennir gan ddyled heddiw yn creu ymrwymiad hirdymor i'r Cyngor ad-dalu'r benthyciad hwnnw a'r llog a ddeilliai ohono.

·        Byddai'r ymrwymiad hwnnw i dalu costau cyllido cyfalaf yn cael ei gynnwys yn rhan o'r gyllideb refeniw.

·        Er y gallai'r ymrwymiad hwnnw fod yn fforddiadwy nawr, roedd yn rhaid gallu cynnal yr ymrwymiad dros y tymor hir.

·        Nid oedd modd lleihau nac osgoi costau cyllido cyfalaf, wedi iddynt gael eu cloi i mewn, gan olygu y byddai unrhyw heriau cyllidebol yn y dyfodol yn effeithio ar lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau a blaenoriaethau eraill, yn hytrach nag ar y gyllideb cyllido cyfalaf.

 

Oherwydd eu pwysigrwydd, roedd sylwebaeth y Pennaeth Cyllid o fewn yr adroddiad yn ymdrin yn benodol â'r ffactorau hyn. 

 

Fel yr amlinellwyd ar y dechrau, er bod y Cabinet yn gwneud penderfyniadau ynghylch y prosiectau sy'n ffurfio'r Rhaglen Gyfalaf, y Cyngor llawn a oedd yn pennu'r terfynau benthyca yr oedd yn rhaid cadw atynt.

 

Er bod llawer o brosiectau'n cael eu cyllido o ffynonellau fel grantiau, derbyniadau cyfalaf ac o gronfeydd wrth gefn penodol, byddai nifer ohonynt na fyddai modd eu cyllido fel hyn, ac a fyddai yn y pen draw'n cael eu cyllido drwy fenthyca. Gam hynny, roedd angen i'r Rhaglen Gyfalaf gyffredinol gael ei phennu oddi mewn i'r terfynau benthyca hyn.

 

Mae’r flwyddyn ariannol sydd i ddod (2022/23) yn cynrychioli blwyddyn olaf y Rhaglen Gyfalaf bum mlynedd gyfredol. Fodd bynnag, roedd dwy flynedd wedi'u hychwanegu at y rhaglen i adlewyrchu'r prosiectau hynny a ddechreuwyd yn y rhaglen gyfredol hon ond a oedd yn ymestyn y tu hwnt iddi i'w cwblhau'n ddiweddarach.

 

Roedd hi'n rhaglen fawr a heriol i'w chyflawni, gan gynrychioli cyfanswm o £288.4m a thros £100m yn 2022/23 yn unig.

 

Roedd yn cynnwys nifer o'n blaenoriaethau allweddol o ran cyfalaf, yn ogystal â buddsoddiadau fel benthyca ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac elfen o hyblygrwydd o ran benthyca fel bo modd cyllido cynlluniau newydd neu gostau ychwanegol.

 

Roedd rhai o'r cynlluniau mwy o fewn y rhaglen yn cynnwys:

·        £111.7m yn gysylltiedig ag Addysg ac Ysgolion, yr oedd £75m ohono wedi'i gynnwys yn gysylltiedig â chynlluniau Band B y Cyngor ar gyfer Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, a olygai welliant sylweddol i ansawdd ein hadeiladau ysgol.

·        Dros £25m o gyllid tuag at Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a oedd yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd aruthrol ar draws y rhanbarth, a oedd o fudd i Gasnewydd.

·        Bron i £10m ar gyfer y bont droed newydd yng Ngorsaf Casnewydd

·        Dros £12m yn gysylltiedig ag adnewyddu ac adfer y Bont Gludo.

·        £19.7m ar gyfer y ganolfan hamdden newydd a fyddai, yn ei thro, yn braenaru'r tir ar gyfer datblygiad newydd Coleg Gwent, a fyddai'n cyfrannu at ddatblygiad Ardal Wybodaeth Casnewydd.

 

O'r rhaglen gyfan gwerth £288.4m, byddai tua £92m o'r gwariant yn cael ei gyllido drwy ddyled, gan gynyddu'r angen i fenthyca ac achosi i'r Cyngor ymrwymo i fod yn fenthyciwr net dros y tymor canolig i hir.

 

Mae’r ymrwymiad hwn i fod yn fenthyciwr net wedi'i adlewyrchu yn Nhabl 2 yr adroddiad, sy'n rhoi rhagamcan o'r twf mewn lefelau benthyca cronnus. Rhagwelir y bydd benthyca gwirioneddol yn cynyddu o'r lefel gyfredol o £149m i uchafbwynt o £203m erbyn 2023/24, yn seiliedig ar gyflawni'r rhaglen gyfredol, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Gall y benthyciadau sydd eu hangen naill ai fod ar ffurf benthyciadau allanol gwirioneddol neu gael eu rheoli drwy ddefnyddio adnoddau arian parod mewnol, a elwir yn fenthyca mewnol. Yn y gorffennol, mae'r Cyngor wedi llwyddo i gynyddu ei gapasiti benthyca mewnol hyd yr eithaf, gan leihau'r angen i ysgwyddo'r costau'n gysylltiedig â benthyciadau allanol yn sgil hynny.

 

Fel yr adlewyrchir yn y rhagolygon yn yr adroddiad hwn, disgwylir y bydd y lefel benthyca fewnol, a gynrychiolir gan lefel y cronfeydd arian parod a ddelir, oddeutu £100m wrth fynd i mewn i 2022/23.

 

Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu mai dyma werth hanesyddol gwariant cyfalaf a gyllidir drwy ddyled, ac a gyllidwyd drwy fenthyca mewnol. Fodd bynnag, mae'r capasiti ar gyfer benthyca mewnol bellach yn lleihau, wrth i gronfeydd wrth gefn clustnodedig gael eu defnyddio. O ganlyniad i hyn, bydd yr angen i fenthyca'n allanol yn cynyddu i gyllido'r gwariant hanesyddol hwn, i bob pwrpas.

 

Yn ogystal â hyn, bydd unrhyw wariant cyfalaf yn y dyfodol, naill ai o fewn y rhaglen bresennol neu'r rhaglen nesaf, yn arwain at ofyniad i fenthyca mwy, a bydd yn ychwanegu at gyfanswm y gofyniad cyllido cyfalaf. Mae hyn yn ein hatgoffa fod angen inni ystyried fforddiadwyedd, darbodusrwydd a chynaliadwyedd wrth wneud penderfyniadau.

 

Mae Tabl 3 yr adroddiad yn dangos effaith yr angen i fenthyca ar y gyllideb refeniw. Mae'r costau sy'n gysylltiedig â'r benthyciad sydd ei angen ar gyfer y rhaglen bresennol, a elwir yn gostau cyllido cyfalaf, eisoes wedi'u cyllido'n llawn, yn sgil y setliad cyllid gwell na'r disgwyl o 2021/22.

 

Fodd bynnag, yn sgil datblygu rhaglen gyfalaf newydd o 2023/24, gallai'r angen i fenthyca dyfu eto, a bydd hi'n bwysig gallu talu'r costau sy'n deillio o fenthyciadau pellach oddi mewn i'r gyllideb refeniw.

 

Mae cyfran y gyllideb refeniw a neilltuwyd ar gyfer costau cyllido cyfalaf eisoes yn gymharol uchel o gymharu â chynghorau tebyg yng Nghymru, felly bydd hi'n bwysig i'r rhaglen newydd fod yn gynaliadwy a sicrhau nad yw'n cael effaith anghymesur ar y gyllideb refeniw.

 

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

 

Mae Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn ymwneud yn bennaf ag ymagwedd y Cyngor at fenthyca a buddsoddi, ac mae'n cynnwys nifer o ddangosyddion darbodus allweddol.

 

O ran benthyca, fel y nodwyd eisoes, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn fenthyciwr net dros y tymor canolig i hir. Y strategaeth a ffafrir yw cynyddu lefel y benthyciadau mewnol hyd yr eithaf, er bod disgwyl i'r capasiti hwn leihau o'r naill flwyddyn i'r nesaf. Gan hynny, byddwn yn cyrraedd sefyllfa lle bydd angen benthyciadau allanol gwirioneddol i fodloni gofynion llif arian gweithredol.

 

Fodd bynnag, er y bydd y Cyngor yn gohirio'r angen i fenthyca gyhyd ag y bod modd, efallai y bydd yn penderfynu benthyca'n fuan er mwyn sicrhau cyfraddau llog ffafriol, ar yr amod bod hynny'n fforddiadwy ac o fewn y terfynau benthyca cytunedig. Ni fyddai'r Cyngor ond yn cymryd y cam hwn yn unol â chyngor gan ein Cynghorwyr Trysorlys. 

 

O ran buddsoddi, yr amcan wrth fuddsoddi arian yw taro cydbwysedd priodol rhwng risg ac adenillion - hynny yw, lleihau hyd yr eithaf y risg o greu colledion yn sgil diffygdaliadau a'r risg o dderbyn incwm buddsoddi amhriodol o isel.

 

Fel yr amlinellwyd yn strategaeth y llynedd, mae'r Cyngor yn bwriadu amrywiaethu ei fuddsoddiadau i wahanol ddosbarthiadau ased, er mwyn cynyddu adenillion hyd yr eithaf gan liniaru rhag y risg a'r arenillion isel yn gysylltiedig â buddsoddiadau banc diwarant. Cafodd y newid hwn mewn ymagwedd ei ohirio oherwydd ansicrwydd yr hinsawdd economaidd yn sgil y pandemig.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn argymell y canlynol i'w cymeradwyo gan y Cyngor:

i)                 Y Strategaeth Gyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig oddi mewn iddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1), a'r gofynion/terfynau benthyca sydd eu hangen i gyflawni'r rhaglen arfaethedig.

 

ii)                Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a'r Ddarpariaeth Refeniw Isafswm (DRI) ar gyfer 2022/23. (Atodiad 3)

 

iii)               Yn rhan o'r uchod:

 

a.      Nodi'r cynnydd mewn dyled a'r gost refeniw yn gysylltiedig â hyn, wrth gyflawni'r Rhaglen Gyfalaf gyfredol, a goblygiadau hyn dros y tymor byr a chanolig o ran fforddiadwyedd, darbodusrwydd a chynaliadwyedd.

 

b.      Nodi argymhelliad y Pennaeth Cyllid i'r Cyngor, fod angen cyfyngu ar fenthyca i'r hyn sydd wedi'i nodi yn y Rhaglen Gyfalaf gyfredol, a'r dangosyddion darbodus a argymhellir ar gyfer terfynau benthyca er mwyn cyflawni hyn.

 

c.      Nodi'r gofyniad i reoli a chyfyngu ar wariant a gyllidir gan ddyled y tu hwnt i gyfnod y rhaglen bresennol, i ddibenion cynaliadwyedd, gan roi sylw arbennig i ddatblygiad y Rhaglen Gyfalaf newydd.

 

ch. Nodi'r newidiadau i'r Cod Darbodus a Chod Rheoli'r Trysorlys, ac effaith y newidiadau hynny ar ymagwedd y Cyngor at fuddsoddi cyfalaf a rheoli'r trysorlys.

 

d.     Nodi'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio ar 27 Ionawr 2022 (paragraff 6).

 

Dogfennau ategol: