Agenda item

Cyllideb Refeniw a CATC: Cynigion Terfynol 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a hysbysai'r Cabinet ynghylch y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac adroddiad cyllideb refeniw 2022/23. Dyma oedd un o adroddiadau pwysicaf y Cyngor, ac roedd angen ei ystyried yn ofalus.

 

Roedd yr adroddiad yn cynrychioli penllanw chwe mis o waith caled, o adolygu a chytuno ar ragdybiaethau cyllidebol yn sail ar gyfer ein gwaith cynllunio, hyd at y cam terfynol hwn lle byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i'n blaenoriaethau allweddol. 

 

Roedd proses y gyllideb yn wynebu heriau eleni.  Roedd y Cyngor nid yn unig ar drothwy'r drydedd flwyddyn o weithio drwy'r pandemig a'r holl broblemau cysylltiedig, ond roedd drafft setliad Llywodraeth Cymru, sy'n cyllido 76% o'r gyllideb, wedi'i dderbyn yn hwyr iawn ar 21 Rhagfyr. Roedd hyn yn golygu na ellid cwblhau'r gwaith terfynol a manwl yn gysylltiedig â'r gyllideb o fewn yr amserlen arferol.

 

Roedd setliad eleni, fodd bynnag, yn cynnwys setliad cyllido aml-flwyddyn, a oedd yn cynnig lefel resymol o sicrwydd. Roedd cynnwys gwerthoedd dangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cefnogi ein capasiti i gynllunio am y tymor hir.

 

Roedd y setliad a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn llawer uwch na'r hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y rhagdybiaethau cynllunio, gan olygu nad oedd angen canfod unrhyw arbedion newydd o fewn y gyllideb.

 

Adroddwyd 'balans mewn llaw' yng nghyfarfod mis Ionawr y Cabinet, ac roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r buddsoddiadau a fyddai'n cefnogi blaenoriaethau allweddol. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi adborth manwl o'r broses ymgynghori.

Bu'r Cabinet yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad, ynghyd â materion cyd-destunol eraill allweddol, a byddai'n pennu ein meysydd buddsoddi yng nghyllideb 2022/23.

 

Nid oedd y Dreth Gyngor ond i gyfrif am 24% o'r cyllid yng nghyllideb refeniw'r Cyngor, ond roedd yn dal i fod yn rhan hollbwysig o gyllid cyffredinol y Cyngor.

 

Nid oedd y Cyngor Llawn ond yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch lefel y Dreth Gyngor. 

 

Roedd Grant Cynnal Refeniw'r Cyngor wedi cynyddu'n sylweddol, bron £25m, ond roedd hyn ar yr amod bod y Cyngor yn talu amryw o bwysau o ran costau a buddsoddiadau wedi'u pennu gan ddylanwadau allanol, gan gynnwys y canlynol ymhlith eraill:

           costau ychwanegol cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal o 1 Ebrill 2022

           y costau'n gysylltiedig â chytundeb cyflogau'r athrawon

           y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr o fis Ebrill 2022

           rheoli effeithiau gweddilliol parhaus costau uwch a'r gostyngiad mewn incwm yn sgil pandemig Covid, gan gydnabod na fyddai'r gronfa galedi yn parhau y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol hon.

 

 Bu'r Cyngor yn ymgynghori ar gynnydd o 3.7% i'r Dreth Gyngor a oedd yn ychwanegu £2.7m o gyllid posibl ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf. Fel cyfanswm, cafwyd cynnydd o £27.5m i gyllid ein cyllideb ddrafft. 

 

           Roedd rhai buddsoddiadau cychwynnol mewn cyllidebau drafft yn amlygu'r canlynol fel blaenoriaethau allweddol:

atal ac ymyrraeth gynnar

           canol ein dinas

           ein hysgolion

 

Roedd y gyllideb ddrafft yn nodi:

           £3.2m i gefnogi ein gweithwyr gofal, gan sicrhau eu bod yn cael y ‘Cyflog Byw

           bron i £1m i gefnogi ein hoedolion mwyaf agored i niwed ag anawsterau dysgu

           bron i £900k i hyrwyddo cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim

           bron i £400k ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar o fewn ein hadrannau Addysg a Gofal Cymdeithasol, gan adeiladu ar gynnydd sylweddol iawn mewn cyllid ysgolion, yn ogystal â chyllid penodol i helpu'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol yn ein hysgolion. 

 

Roedd Tabl un yr adroddiad yn dangos bod £3.3m o adnoddau ar gael mewn llaw yng ngham y gyllideb ddrafft, ac roedd newidiadau pellach i broffiliau buddsoddi wedi peri i'r 'balans mewn llaw' ar gyfer adnoddau i'w dyrannu gynyddu bron i £3.9m.

 

            2022/23

£’000

Balans diwygiedig mewn llaw(£3,892k)

Buddsoddiadau newydd:       

GOFAL CYMDEITHASOL

 

Mae cynnal ein darparwyr gofal hanfodol ym maes gofal cymdeithasol yn gryn her.  Yn ogystal â sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Gan hynny, ceir darpariaeth ychwanegol o £1.1m ar gyfer risg bosibl o gostau parhaus yn ein sector Gofal Cymdeithasol, yn dilyn heriau'n deillio o Covid a Brexit.  Byddai creu cyllideb uwch barhaol yn y maes hwn o gymorth i sicrhau bod cyllidebau'n gadarn, o gymorth i liniaru'r risgiau hyn ac, yn hollbwysig, yn fodd i sicrhau ein bod yn cyllido'r gofal gorau posib i'n preswylwyr mwyaf agored i niwed.

 

Roedd galw o fewn y gwasanaethau cymdeithasol ac ym maes gofal yn her wirioneddol yn deillio o heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf.  Byddai buddsoddiad pellach mewn gofal cymdeithasol yn creu capasiti ychwanegol o fewn timau i gefnogi ein preswylwyr agored i niwed - mae'r buddsoddiad hwn o £191k yn cefnogi 6 swydd ychwanegol.  Byddai un o'r swyddi hyn yn rheoli'r gwasanaethau cysylltwr cymunedol, sef gwasanaeth ymyrryd ac atal allweddol, a oedd yn cyfeirio unigolion i wasanaethau a oedd ar gael o fewn y gymuned a oedd yn bodloni eu hanghenion.

 

Roedd buddsoddiadau ychwanegol mewn cyllidebau gofal cymdeithasol yn dangos ymrwymiad parhaus i'r maes hwn, wrth iddo ymdrin â galw a heriau parhaus. Roedd gofalu am aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau yn flaenoriaeth, yn enwedig drwy ymyrryd yn gynnar lle bo angen ac atal yn y lle cyntaf lle bynnag y bo hynny'n bosib.

            £1,110k

 

 

 

 

 

 

 

 

 

£191k

 

 

 

 

 

 

CANOL Y DDINAS

 

Roedd y Cabinet eisiau buddsoddi ymhellach i gael effaith gadarnhaol ar ganol y ddinas ac ar y busnesau oddi mewn i'r ardal honno.               Y benodol, hyrwyddo'r ddinas, marchnata, buddsoddi mewnol, cydgysylltu gweithgareddau a digwyddiadau, twristiaeth a'r amgylchedd cyffredinol oddi mewn i'r ddinas ac yn y cyffiniau.

 

Gan hynny, roedd buddsoddiad o £377k mewn nifer o feysydd allweddol â blaenoriaeth yn cynnwys:

 

-           Buddsoddiad ychwanegol o £198k yn y gwasanaethau glanhau er mwyn gwella'r ddarpariaeth glanhau yng nghanol y ddinas.

-           £38k i greu capasiti i ddatblygu a gweithredu strategaeth ddiwylliannol gan gryfhau arlwy diwylliannol Casnewydd

-           Buddsoddi £49k mewn rôl rheolwr canol y ddinas, fel bo modd cydgysylltu holl waith y Cyngor a phartneriaid yn well yng nghanol y ddinas, gan gynnwys cysylltu â busnesau.

-           Buddsoddiad o £92k i reoli cyrchfan a sicrhau ein bod yn 'marchnata'r ddinas yn gadarn ac yn cynyddu ei photensial i fusnesau, ymwelwyr a phreswylwyr hyd yr eithaf.

 

Yn ogystal â'r rhain, ni fyddai'r Cabinet yn cynyddu ffioedd a thaliadau'r Cyngor am barcio ceir yng nghanol y ddinas na thrwyddedu lleoliadau am gael seddau y tu allan.

 

            £377k

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ARALL

 

Dyma'r materion a wnaeth wahaniaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a'r materion a oedd o bwys gwirioneddol i'n preswylwyr:

 

-           Buddsoddi £255k i gynnal a chadw ein parciau, ein hardaloedd chwarae a'n hoffer chwarae. Yn ogystal â buddsoddiad untro sylweddol i wella ein stoc o ardaloedd chwarae hyd at lefel dderbyniol, bydd y gyllideb hon yn creu capasiti i gynnal a chadw a chyfnewid cyfarpar yn dilyn hynny.

 

-           Rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol o ran cartrefu cysgwyr allan dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac wrth ymdrin â galw cyffredinol o fewn y gwasanaethau digartrefedd, gyda chymorth Cronfa Galedi LlC. Bydd LlC yn parhau i ddarparu cyllid penodol, a byddwn yn buddsoddi £34k i ychwanegu at hynny, a fydd yn ein galluogi i barhau â'n darpariaeth a'n cefnogaeth gyfredol i breswylwyr agored i niwed yn y maes hwn.

 

-           Mae angen dybryd i'r Cyngor hwn chwarae ei ran a lleihau ei ôl troed carbon. Rydym eisoes yn gwneud llawer ac yn cynnig buddsoddi £153k a chynyddu'r capasiti i ddatblygu a gweithredu cynlluniau yn y dyfodol er mwyn gwireddu ein huchelgais sero net.

 

-           Mae ein record ailgylchu eisoes yn dda iawn, a gallwn wella hyn eto. Byddwn yn buddsoddi £55k i greu'r capasiti i gefnogi ac annog ymgysylltiad gwell gan breswylwyr mewn fflatiau a thai amlbreswyl er mwyn ymdrin â phroblemau gwastraff a hyrwyddo ailgylchu.                       

 

Yn ogystal â chynyddu adnoddau staff i ychwanegu capasiti yn y meysydd allweddol a amlinellwyd eisoes, byddwn yn darparu capasiti o £466k mewn nifer o feysydd eraill er mwyn gwella gwaith i fonitro ein rhaglen gyfalaf, yn ein swyddogaeth cynllunio priffyrdd, ein gwasanaethau gwastraff, ein gwasanaeth cofrestru etholiadol a iechyd yr amgylchedd.

 

Yn unol ag adran 6 o'r adroddiad yma, byddwn hefyd yn buddsoddi £500k er mwyn helpu i reoli'r risgiau ariannol yn gysylltiedig â sgil-effeithiau Covid a'r ffaith na fydd Cronfa Galedi ar gael o 2022/23. Bu'r gronfa'n hanfodol, a does dim amheuaeth y bydd yr effeithiau ar gyllid y Cyngor yn parhau ar ryw ffurf neu'i gilydd. Ochr yn ochr â'r mesurau eraill dros dro, bydd hyn yn lliniaru rhag yr effeithiau, ac wrth wneud hynny yn ein galluogi i ganolbwyntio ar flaenoriaethau a buddsoddiadau newydd wrth ddefnyddio adnoddau untro.                                                                                                                                  

 

            £1,463k

Y DRETH GYNGOR

 

Yn olaf, y Dreth Gyngor. Buom yn ymgynghori ar gynnydd o 3.7% i'r Dreth Gyngor. Gyda'r cynnydd hwn, byddai ein cyfraddau'n dal i fod gyda'r isaf yng Nghymru ac, yn wir, yn y DU. Fodd bynnag, rwyf wedi mynegi'n glir fy mwriad i wrando ar ein preswylwyr a bod yn ystyriol o'r pwysau parhaus ar gyllid aelwydydd. Gan hynny, byddai'r Cabinet yn gostwng y cynnydd arfaethedig i'r dreth Gyngor i 2.4%, a byddai hyn yn costio £828k. 

 

Bydd y buddsoddiadau a amlinellwyd uchod sy'n creu cyfanswm o £3.969m yn cael eu gwrthbwyso gan y cynnydd oherwydd chwyddiant sy'n is na'r disgwyl ac a gadarnhawyd yn ddiweddar ar ardollau'r cyngor o £77k, gan gydbwyso'r gyllideb

            £828k

 

 

 

 

 

 

 

 

(£77k)

 

Y cyfanswm sy'n weddill i'w ddyrannu           -

 

Eglurodd yr Arweinydd agweddau ar y gyllideb:

 

Hyd yma, ar gyfer busnesau:

           cymorth gyda grantiau busnes cysylltiedig â Covid,

           gweinyddu rhyddhad ardrethi, bellach ar ei ail flwyddyn, gyda chynllun mwy cyfyngedig hefyd ar y gweill ar gyfer 2022/23.

           cynyddu ein cynllun grantiau busnes yma'n lleol, gyda buddsoddiad untro o £250k o danwariant 2020/21.

 

Ar gyfer cymunedau:

           eu cefnogi nid yn unig drwy ein gwasanaethau o ddydd i ddydd ond hefyd drwy fuddsoddiadau untro penodol o danwariant 2020/23 ar gyfer nifer o fentrau, fel:

           £500K i greu cronfa adfer cymunedau ar ôl Covid

           Gwasanaethau'r Ddinas, £500k i adnewyddu a glanhau mannau agored

           £170k ar gyfer 'Cariad' Casnewydd                                                                                       

           £180K ar gyfer cynlluniau garddio cymunedol                                                                      

           darparu buddsoddiad parhaol o dros £150k yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol i ddatblygu a gweithredu cynlluniau a mentrau i gynyddu balchder yn ein dinas ymhellach, a chanfod ffyrdd o gefnogi a meithrin cysylltiadau â'r cymunedau lleol, a rhwng y cymunedau lleol sydd ynddi.

 

Byddai'r gyllideb hon a gyflwynir yma heddiw yn adeiladu ar y rhain, er enghraifft roedd y Cabinet yn canolbwyntio ar fannau gwyrdd, yn cynnig lefelau uwch o fuddsoddiad y yr adnoddau pwysig hyn. Cafodd pandemig Covid-19 gryn effaith ar fywydau pobl.  Profwyd bod treulio amser yn yr awyr agored ac mewn mannau gwyrdd o fudd mawr i'n llesiant meddyliol a chorfforol.  Bwriad y Cabinet oedd y byddai buddsoddi ymhellach mewn parciau a mannau yn yr awyr agored yn annog preswylwyr a theuluoedd i ddefnyddio'r mannau hyn, gan greu mwy o gyswllt rhyngddynt a'r amgylchedd naturiol, a hefyd â'u cymunedau lleol.

 

Yn ogystal â’r cyllid refeniw parhaol o £300k dros ddwy flynedd i gynnal a chadw ein mannau chwarae a’n hoffer, rydym yn bwriadu gwneud buddsoddiad untro o £2.5m mewn parciau a mannau agored. Byddai hyn yn cael ei gyllido drwy'r tanwariant refeniw ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Bwriad y Cabinet oedd datblygu a pharhau â'n cefnogaeth i ganol ein dinas, gan fuddsoddi bron i hanner miliwn o bunnoedd yng nghanol ein dinas dros y ddwy flynedd nesaf i hyrwyddo'r ddinas, annog twristiaeth a gwella'r amgylchedd cyffredinol yn y ddinas a'r cyffiniau. Byddai menter i roi cymorth pellach i fusnesau canol y ddinas yn cael ei darparu yng Nghyngor mis Mawrth.

 

Yn ogystal â hyn: buddsoddiad o fwy na £8m yn yr ysgolion, gofal cymdeithasol o fwy na £6.5m, gyda ffocws ar wasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar. Yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau tai a digartrefedd a darparu'r capasiti i symud tuag at ein huchelgais o garon sero net. 

 

Dyma'r blaenoriaethau cywir wrth inni edrych y tu hwnt i heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf. Byddai'r blaenoriaethau hyn yn llywio ein gwaith i ymdrin â heriau newydd, ond hefyd i fanteisio ar gyfleoedd newydd yn y dyfodol.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

         Dywedodd y Cynghorydd R Jeavons fod cyfraddau ailgylchu'n agos at 70% diolch i breswylwyr Casnewydd.  Byddai'r £55K ychwanegol o gymorth i fynd heibio'r 70% ac o gymorth i gyrraedd targedau ailgylchu'r dyfodol.  Mae'r Cyngor wedi gwrando ar ei breswylwyr, a byddai wedi ystyried costau ynni yn y dyfodol yn ogystal â'r ffaith bod Cyngor Dinas Casnewydd gyda'r isaf o ran y dreth gyngor.

 

         Cyfeiriodd y Cynghorydd Truman at y cynnydd mewn costau byw. Roedd y gyllideb yn fuddsoddiad mewn pobl, gan gynnwys pobl sy'n agored i niwed.  Roedd y gyllideb hefyd yn cefnogi busnesau ac yn gyllideb flaengar.  Ers y pandemig, ddwy flynedd yn ôl, roedd ymgynghoriad eang wedi'i gynnal ar hyn eleni, ac roedd pobl wedi dangos diddordeb drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

         Roedd y Cynghorydd Davies yn cefnogi sylwadau ei chyd-aelodau gan ychwanegu ei bod hi'n gyfnod anodd, oherwydd y cynnydd mewn costau byw a'r argyfwng tanwydd.  Roedd y buddsoddiad ychwanegol i godi safonau byw yn ganmoladwy, a dyna oedd y cam cywir i fodloni anghenion y preswylwyr.  Fel yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau, buddsoddi £8.8m mewn gwasanaethau addysg a chydnabod pa mor fregus yw plant Casnewydd o ganlyniad i'r pandemig oedd y peth cywir i'w wneud.  Roedd ysgolion yn ganolog i'r gymuned leol, yn darparu parseli bwyd a dillad. Byddai'r cyllid hefyd yn cefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ogystal â darpariaeth prydau ysgol, a bu cynnydd o 118% yn y nifer a oedd yn derbyn prydau ysgol yn y blynyddoedd diwethaf.

 

         Diolchodd y Cynghorydd Mayer i'r Arweinydd am ei chyflwyniad ac am y gwaith caled a wnaed ar hyn.  Roedd gwaith ar gyllideb eleni wedi dechrau cyn gynted ag y cytunwyd ar y gyllideb flaenorol.  Roedd y Cyngor wedi ymgynghori'n eang â chynrychiolwyr yr undebau llafur yn ogystal â phreswylwyr Casnewydd.

 

         Roedd y Cynghorydd Hughes yn falch o fod yn aelod o Gabinet a oedd yn canolbwyntio ar y bobl yr oedd yn eu gwasanaethu, ac ar wella'r ddinas.  Roedd y gyllideb yn ffafrio holl aelodau'r ddinas, ac yn cefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.

 

         Roedd y gyllideb hefyd yn destun balchder i'r Cynghorydd Harvey, ac roedd yn falch ei bod yn cynnwys buddsoddiad mewn parciau a mannau agored.

 

         Ategodd y Cynghorydd Cockeram y sylwadau a llongyfarch yr Arweinydd ar y gyllideb a gyflwynwyd.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cytuno â'r canlynol:

 

Cynigion y gyllideb a chynllun tymor canolig (adran 3-5)

         Nodi’r ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb fel yr amlinellwyd yn adran 4 a’r adborth a gafwyd, a ddangosir yn atodiadau 1 i 4.

 

         Nodio'r Asesiad Effaith Tegwch a Chydraddoldeb ar gynigion y gyllideb, a ddangosir yn atodiad 9.

 

         Adolygu a chadarnhau cynigion y gyllideb (atodiadau 5-6), yn unol â'r crynodeb cyfredol ohonynt yn y cynllun ariannol tymor canolig (atodiad 7) a dyrannu'r hyblygrwydd ariannol a ddangosir yn nhabl 4.

 

         Wrth wneud hynny, darparu isafswm o £500k o’r hyblygrwydd ariannol cyfredol ar gyfer risg barhaus Covid / dim Cronfa Galedi, a chytuno i ailddosbarthu'r cyllidebau a amlinellwyd ym mhara 6.8 a'r cronfeydd i'r un diben, gan nodi y byddai angen monitro'r risg yn barhaus wrth i'r flwyddyn fynd rhagddi.   

 

         Cytuno a ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer 2022/23, fel y'u dangosir yn atodiad 11.

 

         Nodi bod y buddsoddiad o hyd at £8,003k yng nghyllidebau'r ysgolion yn seiliedig ar gynnydd tybiedig yng nghyflogau athrawon/NJC o 4% o fis Medi 2022, yn ogystal â chyflwyno darpariaeth newydd/ehangu darpariaeth mewn ysgolion, fel y nodir ym mharagraff 3.8 i 3.13.

 

         Gofynnwyd i'r Cabinet gymeradwyo bod y ddarpariaeth ar gyfer cyflogau'n cael ei chadw mewn cronfa 'wrth gefn' o fewn y Gyllideb Ysgolion Unigol a'i dosbarthu i gyllidebau ysgol unigol oddi yno cyn gynted ag yr oedd y dyfarniad cyflog cytunedig yn hysbys, gyda'r bwriad o gyllido'r dyfarniad cyflog cytunedig hyd at y ddarpariaeth a oedd ar gael o fewn y gyllideb.

 

Y gyllideb refeniw gyffredinol a'r dreth gyngor yn deillio o hynny 22/23 (adran 6 a 7)

         Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid, sef y dylid cadw balansau'r Gronfa Gyffredinol ar £6.5 miliwn o leiaf, cadarnhau cadernid y gyllideb gyffredinol a oedd yn sail i'r cynigion a digonolrwydd y cronfeydd cyffredinol yng nghyd-destun cronfeydd clustnodedig eraill a swm wrth gefn o £1.4 miliwn yn y gyllideb refeniw.

 

         Nodi lefel gyfredol treth gyngor Cyngor Dinas Casnewydd a gwerth ariannol cynnydd canrannol amrywiol, a'r modd y mae hyn yn cymharu â lefelau'r dreth gyngor mewn cynghorau eraill, fel y dangosir yn nhabl 5.

 

         Argymell cyllideb net gyffredinol a threth gyngor yn deillio o hynny i'r Cyngor llawn, gan nodi y byddai penderfyniad ffurfiol, gan gynnwys praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent a phraeseptau'r Cynghorau Cymuned yn cael eu cyflwyno gerbron y Cyngor ar 1 Mawrth.

 

         Argymell cyllideb net gyffredinol a chynnydd o 2.4% i'r dreth Gyngor yn deillio o hynny i'r Cyngor llawn, gan nodi y byddai cynnig ffurfiol , gan gynnwys praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a'r Cynghorau Cymuned, yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor ar 1 Mawrth.

 

         Cymeradwyo gwariant a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn yn unol â'r crynodeb a ddangosir yn atodiad 10b, gan nodi eu bod yn seiliedig ar gynigion manwl a adolygwyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2022.

 

Dogfennau ategol: