Agenda item

Deilliannau Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 a 5 wedi'u Gwirio

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i'w chyd-aelodau ar y Cabinet, a amlygai'r canlynol:

 

Canlyniadau Haf 2021

Mae’r gwaith o gyfrifo a chyhoeddi mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a mesurau perfformiad etifeddol y chweched ar gyfer blynyddoedd academaidd 2020 i 2021 a 2021 i 2022 wedi'i ohirio.

Ni fyddai data dyfarniadau cymhwyster yn cael eu defnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad mewn ysgol, nac ar raddfa awdurdod lleol a chonsortiwm lleol, ac ni cheir eu defnyddio i ddwyn ysgolion i gyfrif am ddeilliannau eu dysgwyr.

Byddai hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau data arferol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, gyda rhai datganiadau wedi'u gohirio am flwyddyn neu fwy o'r blynyddoedd yr amharwyd arnynt gan y coronafeirws, neu am gyfnod a oedd heb ei benderfynu.

Roedd yn dal yn ofynnol i bob ysgol a darparydd ôl-16 gynnal hunanwerthusiad effeithiol i gefnogi gwelliant parhaus. Yn rhan o hyn byddai'r ysgolion, gyda chefnogaeth awdurdodau lleol a chonsortia lleol, yn defnyddio'r wybodaeth lefel dysgwyr a oedd ganddynt yn gysylltiedig â chyrhaeddiad, a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol, a gwella'r trefniadau hynny.

Ni fyddai ysgolion yn cael eu gosod mewn categorïau ym mlwyddyn academaidd 2021 i 2022. Roedd consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion er mwyn helpu i ddarparu'r cymorth i ysgolion yr oedd arnynt ei angen er mwyn gwella a gweithredu ein diwygiadau uchelgeisiol yn llwyddiannus.

Cafodd Rheoliadau Perfformiad Ysgolion a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 eu dirymu yn 2020, gan olygu nad oedd yn ofynnol mwyach i ysgolion osod a chyhoeddi targedau.)

 

Cwricwlwm i Gymru a Chanllawiau Gwella Ysgolion Drafft Llywodraeth Cymru

 

Byddai cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau a ariennir nas cynhelir yng Nghymru o fis Medi 2022, Cwricwlwm i Gymru (CiG).

 

Ym mis Mawrth 2020 cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ganllawiau gwella ysgolion drafft.  Nod y cynigion newydd oedd:

 

·        Cryfhau pwysigrwydd ac effeithiolrwydd hunanarfarniadau a chynlluniau gwella gan ysgolion, sy'n defnyddio ystod eang o dystiolaeth.

·        Canolbwyntio ar hunanwerthusiadau ysgolion a blaenoriaethau gwella fel man cychwyn ar gyfer gwaith gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

·        Ystyried perfformiad ysgol yn ei ystyr ehangaf, gan werthuso ysgolion yn eu cyd-destun eu hunain, gan ddefnyddio ystod eang o dystiolaeth, cynlluniau gwella a chefnogaeth bwrpasol i gefnogi hynny.

·        Sicrhau bod prosesau hunanarfarnu’r ysgol yn nodi cryfderau a blaenoriaethau ar gyfer gwella, a gaiff eu cyfuno mewn cynllun datblygu ysgol strategol cyfun.

·        Adeiladu ar hunanwerthusiadau a chynlluniau datblygu ysgolion i weithio gydag awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gytuno ar y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i wella.

·        Canfod ysgolion â chryfderau a'r capasiti i gydweithio ag ysgolion eraill i'w cefnogi.

 

Data ar gyfer Aelodau Etholedig

 

Defnyddiodd ysgolion ystod o wybodaeth werthusol a data ar gynnydd yn sail ar gyfer arfer a darpariaeth yn y dyfodol, ac i fireinio hynny, gan siapio'u blaenoriaethau ar gyfer gwella.  Roedd yr aelodau'n parhau i dderbyn data ar:

 

·        Canlyniadau arolygiadau Estyn (o Dymor y Gwanwyn 2022) a chynnydd ysgolion mewn categorïau statudol (o dymor yr Hydref 2021).

·        Gwybodaeth am bresenoldeb

·        Gwybodaeth am waharddiadau

·        Gwybodaeth gyd-destunol (byddai setiau data cyd-destunol PYADd% a Data Craidd Cymru Gyfan yn cael eu diweddaru)

·        Fy Ysgol Leol gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru ar y canlynol: (Prydau Ysgol Am Ddim (PYADd)%, Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)%, Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL)% - cyfartaledd 3 blynedd treigl, gan gynnwys 7 mlynedd)

·        Cynnydd Ysgolion sy’n Destun Pryder (gan gynnwys rhai o fewn yr ymagwedd aml-asiantaeth a'r rhai o fewn yr ymagwedd Tîm o Amgylch y Teulu rhanbarthol)

·        Gwybodaeth Awdurdod Lleol am Gyllid, Adnoddau Dynol, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

 

Dechreuodd cyfarwyddwyr Consortia Dw Ddwyrain Cymru gynnal trafodaethau â Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) De Ddwyrain Cymru ynghylch yr ystod lawn o wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am gyd-destun a pherfformiad ysgolion.  Byddai angen ymgynghori ymhellach er mwyn nodi’r wybodaeth fwyaf perthnasol ac ystyrlon i’w rhannu ag aelodau etholedig, gan gydnabod y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi’n awtomatig ar ôl cael ei chynnwys yn y broses graffu.

 

Sylwadau Aelodau'r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Davies wrth ei chyd-aelodau ei bod hi'n bwysig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod systemau atebolrwydd â gofynion uchel yn methu gan amlaf wrth arwain gwelliannau parhaol mewn ysgolion. Roedd hyn oherwydd gorddibyniaeth ar ystod gyfyng o ddata perfformiad a oedd yn ysgogi ymddygiadau canlyniadol a oedd yn y pen draw'n effeithio ar unigolion a'r modd yr oeddent yn dysgu.

 

Roedd cydnabyddiaeth bellach fod ymagwedd gefnogol a thryloyw gydag adborth penodol yn creu twf, gyda buddsoddiad gonest mewn atebolrwydd a oedd yn arwain at wella'r ysgol gyfan ac at ddeilliannau gwell.

 

Er nad oedd data CA4 a CA5 yn cael eu defnyddio mwyach i fesur cyrhaeddiad, ac i gymharu ag ysgolion eraill, ac yn wir, y bu angen gohirio hynny yn ystod y pandemig, roedd hi'n dal i fod yn hanfodol i ysgolion ddeall a gwybod sut i gefnogi'u myfyrwyr i wella'u dysgu a'u helpu i baratoi am gystadleurwydd ym myd yr oedolion.

 

Byddai ysgolion yn parhau i ddefnyddio strategaethau asesu ffurfiannol ac ystod o wybodaeth werthusol i bennu datblygiad a pherfformiad unigolyn. Roedd ysgolion yn cael cynnig cymorth ac arweiniad pwrpasol gan yr AALl a'r GCA i sicrhau defnydd effeithlon o hunanwerthusiadau a thargedau gyda chanlyniadau mesuradwy.

 

Byddai aelodau etholedig yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ystod o fesurau a oedd eisoes ar waith. Roedd hi'n bwysig i aelodau etholedig gael dealltwriaeth o gyd-destun mewn perthynas â pherfformiad ein hysgolion yng Nghasnewydd. Fodd bynnag, byddai'n rhaid rhoi ystyriaeth i gyfrinachedd a'r risgiau cysylltiedig yr oedd y papur hwn yn cyfeirio atynt wrth gymharu. Roedd gwaith felly ar y gweill i bennu sut y byddai hyn yn digwydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Cynghorydd Davies am ei chefnogaeth werthfawr a pharhaus.

 

Penderfyniad:

Bod y Cabinet:

1.       Yn cydnabod y sefyllfa o ran perfformiad disgyblion.

2.       Wedi ystyried unrhyw faterion a oedd yn codi y gallai'r Cabinet fod am dynnu sylw'r Prif Swyddog Addysg atynt.

 

 

Dogfennau ategol: