Cofnodion:
Yn gyntaf, dywedodd yr Arweinydd wrth ei chyd-aelodau am farwolaeth Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, ddydd Sul 13 Chwefror. Roedd Aled yn gyn-Arweinydd Cyngor Wrecsam ac yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru yn 2011.
Roedd yn rhaid i'r Cyngor fodloni nifer o Safonau'r Gymraeg, a oedd yn cael eu gorfodi gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Roedd Safon 145 yn gosod rhwymedigaeth ar y Cyngor i gyhoeddi strategaeth bum mlynedd a fyddai'n esbonio sut roeddem yn cynnig hyrwyddo a galluogi'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghasnewydd.
Roedd y Safonau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Strategaeth gynnwys targed % ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, a datganiad i esbonio sut y byddai hyn yn cael ei gyflawni.
Roedd hi'n bleser gan yr Arweinydd gael cyflwyno ein hail Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg a oedd yn adeiladu ar y cysylltiadau, y gwaith da a'r cynnydd a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf.
Roedd y Strategaeth yn cynrychioli esblygiad o’n cynllun ar gyfer 2017 – 2022, gyda ffocws ar gyflawni gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd a oedd yn cynnwys ein holl gymunedau amrywiol, gan weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol a bodloni rhwymedigaethau statudol.
Roedd y Strategaeth yn rhoi adlewyrchiad o Gasnewydd fel dinas Gymreig â chyfoeth o gymunedau amlddiwylliannol ac amlieithog. Roeddem am ddathlu’r Gymraeg fel rhan o’n hunaniaeth gyffredin, a chynyddu cyfleoedd i bawb weld, clywed, dysgu, defnyddio a charu ein hiaith genedlaethol.
Roedd hefyd yn cyfuno gwaith cyffrous yn gysylltiedig â'r Gymraeg ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd a'n gwaith gyda'n partneriaid ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus drwy ein Bwrdd Sgiliau Cywir.
Yn ogystal â chanolbwyntio ar dyfu ystod y partneriaid a'r rhanddeiliaid a oedd yn ymgysylltu â'r Gymraeg, roeddem yn parhau â'n hymrwymiad i ddatblygu ein strwythurau a'n polisïau mewnol i gefnogi staff sy'n dymuno dysgu'r Gymraeg, neu ddefnyddio'u sgiliau yn y gwaith.
Byddai’r Strategaeth hon yn sbardun a ffocws ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth inni barhau i godi proffil y Gymraeg ar draws y ddinas, gan gefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chreu Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Gofynnodd yr Arweinydd i'r Cyng. Jason Hughes, Aelod Eiriolwr y Gymraeg, ddweud ambell air.
Rhannodd y Cynghorydd Hughes ei deimladau ynghylch marwolaeth Aled, gan fynegi cydymdeimlad â'i deulu a'i ffrindiau.
Mae’r strategaeth yn cyflwyno gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd-Bod pawb yn gallu gweld; clywed; dysgu, defnyddio a charu'r Gymraeg.
Er bod ein targed ar gyfer twf yn canolbwyntio ar addysg, rydym yn cydnabod bod angen uchelgais ehangach ar gyfer y Gymraeg yng Nghasnewydd er mwyn gwneud yr iaith yn hygyrch a gynhwysol fel y gall ein holl drigolion ymgysylltu a hi.
I gyflawni hyn rydym wedi datblygu tair thema strategol sy'n canolbwyntio ar Addysg, Cymunedau a Diwylliant, a Chyflogaeth a Sgiliau.
Cafodd cyfres o gamau gweithredu sy'n ymwneud â'r themâu hyn eu cynnwys yn y strategaeth a byddai'r rhain yn cael eu hadolygu'n barhaus, yn enwedig yng ngoleuni data newydd o'r cyfrifiad a allai dweud mwy wrthym am broffil ieithyddol Casnewydd.
Byddwn hefyd yn defnyddio strwythurau llywodraethu presennol i fonitro cynnydd y Strategaeth, gan gynnwys drwy ein Bwrdd Sgiliau Cywir, Gr?p Gweithredu'r Gymraeg a Fforwm Cymraeg. Adroddir yn gyhoeddus ar gynnydd y strategaeth fel rhan o’n hadroddiad blynyddol ar y Gymraeg, y mae'n ofynnol ei gyhoeddi bob blwyddyn ariannol.
Diolch yn fawr Arweinydd
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Diolchodd y Cynghorydd Mayer i'r Cynghorydd Hughes fel Eiriolwr y Gymraeg ac i'r Arweinydd. Diolchodd y Cynghorydd Mayer i Tracy McKim, yn ei rôl fel Swyddog Polisi, Partneriaeth a Chynnwys a'r tîm fu wrthi'n ymwreiddio hyn. Yn olaf diolchodd y Cynghorydd Mayer hefyd i Heather Powell, Rheolwr Cymunedau Cysylltiedig, am ei gwaith caled a'i chefnogaeth. Roedd Heather yn gadael y Cyngor, a dymunodd y Cynghorydd Mayer yn dda iddi wrth iddi gychwyn llwybr gyrfa newydd.
§ Ategodd y Cynghorydd Davies y ddiolch ei gydweithwyr. Roedd yr adroddiad yn myfyrio ar darged y CSGA ac yn mabwysiadu'r blaenoriaethau hynny i gyrraedd targed o 1M o siaradwyr erbyn 2050.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet yn cymeradwyo'r Strategaeth ddrafft cyn ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth.
Dogfennau ategol: