Cofnodion:
Sefydlwyd Porth y Gorllewin ym mis Tachwedd 2019. Partneriaeth strategol ydoedd a anelai i ddarparu pwerdy economaidd ar hyd coridorau'r M4 a'r M5, gan sbarduno twf ar y naill ochr a'r llall i Afon Hafren. Fel un o bum dinas, roedd Casnewydd yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y bartneriaeth, ac yn debygol o elwa ar fanteision cydweithio gwell. Fel partneriaeth, roedd gennym bron 4.4 miliwn o breswylwyr, oddeutu 160,000 o fusnesau a thua 2.1 miliwn o swyddi. Roedd gennym hefyd gysylltedd ardderchog â thraffyrdd a ffyrdd pwysig, 2 faes awyr a 9 porthladd.
Ers mis Gorffennaf 2020, ehangwyd aelodaeth bwrdd y bartneriaeth i gynnwys cynrychiolwyr o bartneriaethau economaidd lleol, prifysgolion a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd y Bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr wedi'u penodi o fyd busnes, ac yn eu plith yr oedd Ian Edwards, Prif Weithredwr y Celtic Manor Resort.
Cynhaliwyd Adolygiad Economaidd Annibynnol yn nhymor yr Hydref 2021 a ystyriai gryfderau a chyfleoedd economaidd Porth y Gorllewin, a'r modd y gellid arwain a chydgysylltu'r rhain i ysgogi datblygiad economaidd y rhanbarth. Dyma'r tair thema a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig a nodwyd.
· Arloesi - roedd gan Lywodraeth y DU darged uchelgeisiol i sicrhau cynnydd o £9bn ychwanegol y flwyddyn mewn gwariant cyhoeddus ar ymchwil a datblygu erbyn 2024/25, ac roedd y bartneriaeth yn archwilio'r potensial am Gronfeydd Arloesi.
· Sero Net – roedd toriad o 80% mewn allyriadau erbyn 2050 ymhlith polisïau creiddiol Llywodraeth Cymru ac roedd Llywodraeth y DU wedi ymrwymo'n gyfreithiol i ostwng allyriadau i Sero Net erbyn 2050. Mae £12bn o gymorth eisoes wedi'i neilltuo i gyflawni hyn. Mae'r potensial am ynni'r llanw yn Aber Afon Hafren yn cael ei archwilio, yn ogystal â chyfleoedd am hydrogen.
· Cysylltedd – hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a’r DU. Roedd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar seilwaith rheilffyrdd strategol ac yn mapio rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol a rhanbarthol ‘delfrydol’ 2050 i ddeall lle’r oedd y bylchau, pa arbedion carbon y gellid eu sicrhau drwy newid dulliau teithio, a beth fyddai'r manteision economaidd i'r rhanbarth.
Roedd y bwrdd partneriaeth hefyd wedi ymrwymo i wella proffil ac amlygrwydd Porth y Gorllewin drwy gyfathrebu a digwyddiadau wedi'u targedu. Byddai'r Gynhadledd Agoriadol sydd i'w chynnal ar 8 Mawrth 2022 yn yr ICCW yn ddigwyddiad allweddol. Roedd cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ehangach hefyd yn cael ei ddatblygu a fyddai'n golygu cynhyrchu prosbectws newydd ac ailddylunio ac ailfrandio'r wefan.
Roedd y bwrdd partneriaeth yn awyddus i fod yn bresennol mewn digwyddiadau rhyngwladol pwysig, gan gynnwys yr MIPM ym mis Mehefin, lle gellid hyrwyddo cyfleoedd y rhanbarth ymhlith cwmnïau a buddsoddwyr rhyngwladol. Byddai Porth y Gorllewin yn cael ei gynrychioli ar stondinau a oedd wedi'u meddiannu eisoes gan Awdurdod Cyfun Gorllewin Lloegr a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd/Caerdydd. Roedd diddordeb hefyd mewn cael ardal benodol yn Fforwm Buddsoddi mewn Eiddo Tirol a Seilwaith y DU ym mis Mai. Yn rhan o Borth y Gorllewin, byddai gan Gasnewydd bresenoldeb yn y digwyddiadau hyn ac mae deunydd hyrwyddo yn cael ei ddatblygu i gyflwyno Casnewydd i gynulleidfa ryngwladol a dylanwadol.
Roedd y bartneriaeth yn gweithredu o dan Reolau Sefydlog a Chylch Gorchwyl y cytunwyd arnynt ym mis Mawrth 2020. Roedd y Bwrdd wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru, ac roedd copi o hwnnw wedi'i atodi i'r adroddiadau gan sicrhau trefniadau llywodraethu priodol.
Roedd Porth y Gorllewin wedi'i gyllido'n bennaf drwy daliad capasiti gan Adran Codi'r Gwastad, Tai a Chymunedau. Gofynnwyd am gyllid parhaus o'r Adolygiad o Wariant, ond roedd cyfraniad ariannol blynyddol o £10,000 yn cael ei geisio gan bartneriaid i gefnogi gwaith yr Ysgrifenyddiaeth.
Roedd Porth y Gorllewin yn cael ei gynnal gan Gyngor De Swydd Gaerloyw, sef corff atebol y bartneriaeth, a oedd felly'n gyfrifol am y gyllideb. Roedd staff ysgrifenyddol hefyd yn cael eu cyflogi, ond cydnabuwyd bod gan awdurdodau partner rwymedigaethau, pe bai'r bartneriaeth yn methu. Er bod y risg hon yn cael ei hystyried yn isel iawn, nes bod cyllideb barhaus wedi’i sicrhau o’r Adolygiad o Wariant, roedd y rhwymedigaethau hyn yn parhau, a gofynnwyd i’r holl bartneriaid gytuno i Gytundeb Indemnio.
Yn gyffredinol, roedd Porth y Gorllewin yn dal i gynnig cyfle i Gasnewydd. Cyfle i fod yn rhan o bartneriaeth strategol gref a fyddai’n helpu busnesau a diwydiannau i gydweithio a rhannu syniadau arloesol ar sail ranbarthol. Byddai'n amhosib sicrhau buddion o'r fath ar ein pen ein hunain, ond drwy weithio mewn partneriaeth roedd rhagor o gyfleoedd yn codi, ac roedd uchelgeisiau Casnewydd o ran ei phroffil a'i thwf economaidd yn datblygu i fod yn fwy cyflawnadwy a realistig.
Roedd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno er gwybodaeth, ond roedd hi'n bwysig i Gasnewydd barhau i chwarae rhan allweddol yn y cyfle partneriaethol hwn, er mwyn helpu Casnewydd ar ei thaith ei hun tuag at adferiad economaidd.
Penderfyniad:
Dogfennau ategol: