Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad a hysbysu ei chyd-aelodau am y cynnydd hyd yma. Roedd dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a'r Farchnad Sengl.
Drwy gydol y flwyddyn gwnaethom barhau i weld effeithiau eang, nid yn unig yn sgil ymadael â'r UE ond hefyd yn sgil effeithiau byd-eang Covid oherwydd cynnydd yn y galw o fewn economïau a tharfu ar gyflenwadau.
Cynyddodd costau byw i aelwydydd yng Nghasnewydd a Chymru drwy gydol y flwyddyn, gyda chyflogau heb fod yn ddigonol i dalu'r costau ychwanegol hyn,
Mewn aelwydydd incwm isel y gwelwyd effaith fwyaf y codiadau hyn, ac roedd disgwyl i brisiau ynni godi eto yn 2022.
Fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad i'r Cabinet ar Adfer ar ôl Covid, roedd Llywodraeth Cymru ac elusennau/sefydliadau dielw eraill yn cynnig cymorth ariannol i aelwydydd dros y cyfnod hwn, a hefyd yn cynnig cyngor ar ddyledion a chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.
Parhaodd Cyngor Casnewydd i weinyddu grantiau a chymorth ariannol i gartrefi a busnesau yn y Ddinas.
· Roedd hyn yn cynnwys prosesu dros 7,000 o geisiadau am daliadau Tanwydd y Gaeaf a thalu'r grant i 6,253 o aelwydydd.
· Ar gyfer busnesau, roedd grantiau Ardrethi Annomestig wedi'u talu i 510 o fusnesau, gan greu cyfanswm o £1.3m.
Roed hi'n bwysig i aelwydydd a oedd yn gymwys i dderbyn y grant ymgeisio, er mwyn gallu eu helpu gyda'u costau ynni drwy'r cyfnod anodd hwn.
Hefyd, i Fusnesau yng Nghasnewydd roedd hi'n bwysig gwneud cais am y grant Ardrethi Annomestig, a hefyd i ymweld â'n gwefan a Busnes Cymru i weld pa gymorth a chyngor ariannol a oedd ar gael.
I ddinasyddion yr UE / AEE sy'n byw yng Nghasnewydd, roedd dros 10,000 o geisiadau am statws sefydlog wedi'u cwblhau, gyda 920 o geisiadau'n disgwyl penderfyniad (ar sail ffigurau'r Swyddfa Gartref hyd fis Medi 2021).
Ailbwysleisiodd y Cabinet ei gefnogaeth tuag at ddinasyddion yr UE/AEE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd, a'r ffaith bod gan bob un ohonynt ran i'w chwarae er mwyn gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw a gweithio ynddi.
Roedd y Cabinet hwn yn annog unrhyw un a oedd yn disgwyl am benderfyniad neu a oedd ei chael hi'n anodd cwblhau eu cais i gysylltu â'r Cyngor a sefydliadau eraill fel Cyngor ar Bopeth.
Roedd Cyngor Casnewydd a'i bartneriaid yn parhau i gynnwys ac ymgysylltu â phreswylwyr o'r UE. Roedd hi'n bwysig cael adborth o'r digwyddiadau hyn er mwyn inni ddeall sut y gallem barhau i gefnogi ein dinasyddion.
Roedd yn galonogol gweld bod 85% o ddinasyddion yr UE a fynychodd y digwyddiadau yn teimlo’n hapus yn byw yng Nghasnewydd ond roedd y Cabinet yn ymwybodol o’r heriau parhaus yr oeddent yn eu hwynebu i sicrhau bod Casnewydd yn parhau i fod yn ddinas ddiogel a chroesawgar.
Roedd y Cyngor yn parhau i weld cynnydd yn nifer y gwladolion o'r UE a thu hwnt yr oedd angen cymorth arnynt gan wasanaethu'r Cyngor, ond nad oeddent yn gallu gofyn am gymorth arian cyhoeddus.
Roedd gr?p atebion Caledi'r Cyngor yn cydgysylltu ymdrech y Cyngor a gwasanaethau dielw i gefnogi'r rhai yr oedd yn effeithio arnynt a cheisio atal eraill rhag camfanteisio ar y bobl hynny.
Sylwadau Aelodau'r Cabinet:
§ Gofynnodd y Cynghorydd Harvey i'r preswylwyr hynny nad oeddent wedi gwneud cais am gymorth, i gysylltu â'u cynghorwyr ward a fyddai'n eu helpu i wneud cais am grantiau fel yr amlinellwyd gan yr Arweinydd.
§ Dywedodd y Cynghorydd Davies fod Casnewydd wedi teimlo effaith colli gweithwyr yr UE ar draws y proffesiwn iechyd a gofal, a bod hynny'n achosi problemau wrth recriwtio. Lansiwyd menter yn ddiweddar i gynnig profiad gwaith dydd, i ystyried cymwysterau a chynllun gwaith wedi'i deilwra i'r rhai a oedd yn ystyried ymuno â'r proffesiwn. Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod angen gweithwyr o'r UE o hyd yng Nghasnewydd.
§ Cytunodd y Cynghorydd Cockeram â sylwadau'r Cynghorydd Davies, ac ychwanegodd fod angen dybryd am weithwyr gofal.
Penderfyniad:
Bod y Cabinet wedi ystyried a nodi cynnwys yr adroddiad, ac y byddai'r Cabinet/aelodau'r Cabinet yn derbyn diweddariadau gan swyddogion yn rhan o'u portffolio.
Dogfennau ategol: