Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid yr
adroddiad.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor
fod y cynigion manwl yn cael eu hailwampio yn y ddau Bwyllgor
Craffu a oedd yn seiliedig ar wasanaethau.
Nododd y Pennaeth Cyllid y bu proses wahanol
eleni gan nad oedd unrhyw arbedion yn y gyllideb. Tynnodd y
Pennaeth Cyllid sylw at y farn optimistaidd a fabwysiadwyd yn y
cynnig, yn seiliedig ar setliadau cyllideb y flwyddyn flaenorol.
Nododd y Pennaeth Cyllid eu bod wedi parhau'n ofalus er gwaethaf yr
optimistiaeth hon a'u bod am fod yn realistig wrth fod yn
optimistaidd, a chael cynlluniau amgen pe bai'r setliad yn is na'r
disgwyl.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid
at y ffaith bod setliad drafft y gyllideb wedi'i dderbyn yn hwyrach
na'r arfer gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pennaeth Cyllid y bu'n
setliad mawr ar draws y sector, a'i fod yn uwch na rhagdybiaethau
optimistaidd.
Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is
available in English
Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod Llywodraeth
Cymru wedi dweud bod angen i'r setliad dalu am y cynnydd yng
nghyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol i'r cyflog byw
cenedlaethol, ac na fyddai Cronfa Galedi o hyn allan.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor
fod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu setliad tymor
canolig.
Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor
fod yr ymgynghoriad yn parhau.
Ategodd y Cyfarwyddwr Strategol Trawsnewid a
Chorfforaethol eu bod mewn sefyllfa wahanol i'r blynyddoedd
blaenorol oherwydd y dyraniad uwch a'r setliad da. Hysbysodd y
Cyfarwyddwr Strategol y pwyllgor fod yr ymgynghoriad
wedi'i
gynnal ar ffurf wahanol yn sgil hyn, gan nad
oedd unrhyw arbedion penodol, ac yn lle hynny canolbwyntiwyd ar y
cynnydd arfaethedig i'r dreth gyngor, cynigion buddsoddi a ffioedd
a thaliadau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y
pwyllgor eu bod hefyd wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu
â'r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn ynghylch eu blaenoriaethau
o ran gwasanaethau. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol eu bod wedi
derbyn bron i 1000 o ymatebion cyn y setliad cyllidebol a oedd yn
dynodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyffredinol i ysgolion,
gwasanaethau plant ac oedolion, gwasanaethau'r ddinas a chymorth i
bobl ddigartref. Nododd y Cyfarwyddwr
Strategol fod yr ymgynghoriad cyfredol yn cael ei gynnal ar-lein yn
bennaf.
Cododd y Cyfarwyddwr Strategol sylwadau a
wnaed gan y pwyllgor y flwyddyn gynt:
- Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Strategol at y
ffaith bod defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu a'u bod
bellach yn cael eu defnyddio'n rheolaidd i hyrwyddo'r ymgyngoriadau. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol nad
oeddent yn defnyddio hysbysebion naid gan fod yr ymateb iddynt yn
negyddol.
- Nododd y Cyfarwyddwr fod y sylw ynghylch
ymgysylltu â'r ysgolion yn y flwyddyn gynt, a'r negeseuon o'r
ymgynghoriad, wedi'u hanfon i holl ysgolion Casnewydd.
- Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y
pwyllgor fod y timau Cymunedau Cysylltiedig yn gweithio gyda
chymunedau "anodd eu cyrraedd" i sicrhau eu bod yn weladwy, a
sicrhau yr ymgysylltir â nhw, yn unol â chais y
pwyllgor y flwyddyn gynt.
Cododd y Cynghorydd Forsey y pwyntiau
canlynol, gan adrodd yn ôl ar ôl bod yn bresennol mewn
cyfarfodydd craffu eraill:
- Teimlai'r Pwyllgor Lle a Materion
Corfforaethol ryddhad na fyddai unrhyw doriadau, ac na fyddai felly
angen iddynt ddewis rhwng toriadau nad oedd neb am eu gweithredu.
Roedd y pwyllgor yn croesawu'r buddsoddiad mewn ysgolion, ond yn
pryderu ynghylch chwyddiant. Croesawodd y pwyllgor y cynnydd i'r
ddarpariaeth ar gyfer y gyllideb cysgu allan. Esboniodd y Swyddog
Cyllid a oedd yn bresennol sut roedd diffyg ffioedd am logi
ystafelloedd a gwasanaethau hamdden wedi effeithio ar y Cyngor, a
bod y Cyngor wedi gallu hawlio am y golled honno drwy'r Gronfa
Galedi, sydd wedi bod o gymorth i wrthbwyso rhai o agweddau
ariannol y pandemig.
- Roedd y pwyllgor Pobl yn croesawu'r gyllideb
a hefyd yn teimlo rhyddhad nad oedd angen unrhyw doriadau. Roedd y
pwyllgor yn croesawu'r buddsoddiad mewn ysgolion a darparu prydau
ysgol am ddim i bob plentyn drwy gydol y flwyddyn. Roedd y pwyllgor
hefyd yn croesawu'r cynnydd yng nghyflogau gweithwyr gofal
cymdeithasol, yn ogystal â'r gwaith sy'n digwydd i ddod
â phlant sydd mewn gofal yn ôl i'r ardal leol.
Trafododd y pwyllgor y pwysau ar leoedd ysgol mewn rhai ardaloedd.
Teimlwyd bod diffyg eglurhad ynghylch y dull o bennu maint ysgolion
newydd a oedd yn cael eu hadeiladu ar stadau tai, a bod anghysondeb
rhwng nifer y lleoedd a ragamcanwyd a'r
ymgeiswyr gwirioneddol.
Cwestiynau:
A ddylid bod wedi ymgynghori ag ysgolion a
sefydliadau gofal cymdeithasol?
- Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol wrth y
pwyllgor yr ymgynghorwyd â'r Fforwm Ysgolion ar y gyllideb
gyffredinol. Teimlai'r Cyfarwyddwr Strategol y byddai'r ysgolion yn
fodlon. Nododd y Cyfarwyddwr Strategol fod trafodaethau’n
parhau â darparwyr gofal.
- Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor
eu bod yn ymgysylltu â chyrff Penaethiaid ysgolion cynradd ac
uwchradd ac yn derbyn adborth ganddynt. Cydnabu'r Pennaeth Cyllid
fod ymdrechion yr ysgolion unigol a chyllid Llywodraeth Cymru wedi
helpu. Nododd y Pennaeth Cyllid nad oedd y prydau ysgol am ddim
wedi'u cynnwys yn y gyllideb hon gan Llywodraeth Cymru yn darparu
cyllid uniongyrchol ar gyfer hynny.
Heb allu gweld mwy o ddata ymgynghori roedd
yn anodd gwneud sylwadau penodol ar yr agwedd ymgynghori'r
gyllideb.
- Cytunai'r Cyfarwyddwr Strategol fod y pwynt
hwnnw'n ddilys, a theimlai y gallai fod angen iddynt adolygu
amseriad cyfarfodydd a'r broses yn y dyfodol.
- Teimlai'r Pennaeth Cyllid y gallai fod yn
fuddiol ehangu'r drafodaeth i gynnwys gwaith cynllunio'r gyllideb.
Nododd y Pennaeth Cyllid pa mor gyflym yr oedd yn rhaid cyflawni'r
gwaith, a'r cyfyngiadau yr oedd hynny'n ei achosi.
A oedd unrhyw syniad o nifer yr ymatebion a
dderbyniwyd?
- Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifyddiaeth
wrth y pwyllgor y cafwyd 556 o ymatebion drwy'r Wi-Fi bysus a 72 o ymatebion eraill.
Bu cynnydd yn y grant gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer y cynnydd mewn eiddo yn y ddinas - pa fath o ragdybiaeth a
wnaed ar gyfer hyn?
- Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor
fod setliad mawr wedi dod i law ar gyfer y flwyddyn ariannol
gyfredol oherwydd cywiriad i'r data sy'n llywio dosbarthiad
cyfanswm y cyllid. Dywedodd y Pennaeth Cyllid wrth y pwyllgor fod
Casnewydd yn cael cyfran ganrannol uwch bob blwyddyn, yn bennaf
oherwydd twf yn y boblogaeth, a'r ffaith bod y boblogaeth ifanc yn
tyfu ar gyfradd uwch na'r rhan fwyaf o ardaloedd cyngor eraill
Cymru. Nododd y Pennaeth Cyllid fod hyn fel arfer yn cael ei
ystyried wrth gynllunio'r gyllideb, a'i fod bob tro'n seiliedig ar
ddoethineb, gan mai maint yr holl gyllid sy'n bwysig, a'u bod yn
ceisio bod yn ddarbodus ond yn rhesymol optimistaidd.
·
to be prudent but reasonably optimistic.