Agenda item

Cwestiwn i'r Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet dros Wasanaethau'r Ddinas: 2022/04 - Trafnidiaeth Gyhoeddus

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd Mogford:

 

“Ymatebodd y Cynghorydd Jeavons: Mae’r gwasanaeth bws Fflecsi ledled Cymru yn wasanaeth gan Trafnidiaeth Cymru.Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch ei gwmpas daearyddol at Trafnidiaeth Cymru.  Fodd bynnag, roedd yr ardal y gwnaethoch gyfeirio ati eisoes yn cael ei chwmpasu gan wasanaeth Trafnidiaeth Cymunedol sy'n Ymateb i'r Galw, cyn cyflwyno'r gwasanaeth Fflecsi a dyma’r achos nawr hefyd.”

 

Yn eich ymateb i'm cwestiwn CAUA 13 Rhagfyr 2021 ynghylch cyrhaeddiad y bws fflecsi (gweler y nodyn atgoffa uchod mewn llythrennau italig) dim ond drwy fy ailgyfeirio i Trafnidiaeth Cymru y gwnaethoch ymateb a sôn hefyd am y TYG sydd, yn ôl gwefan CDC (gweler isod) yn wasanaeth cyfyngedig iawn nad yw'n gweithredu yn ardal Langstone, felly unwaith eto, dim ateb i gwestiwn penodol.

 

Fy nghwestiynau dilynol…

.

Cwestiwn 1: Oni welwch fel rhan o'ch rôl yr angen i lobïo am wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell yng Nghasnewydd a'u hwyluso?

 

Cwestiwn 2: Ydych chi'n credu bod y bws fflecsi a drefnir yn deg i drigolion Casnewydd? Codwyd hyn mor ddiweddar â heddiw yn SWA er enghraifft ( https://www.southwalesargus.co.uk/news/19891062.calls-fflecsi-bus-cover-newports-rural-areas/ )

 

Cwestiwn 3: Beth yr ydych wedi'i wneud yn bersonol yn eich rolau cyfunol fel Dirprwy Arweinydd, aelod Cabinet a chynghorydd Ward i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd yn addas i'r diben ac yn cyfateb i ddisgwyliadau'r cyhoedd?

Calls for Fflecsi bus to cover Newport's rural areas | South Wales Argus

Yn yr un modd, mae cymunedau mwy gwledig i'r dwyrain o Gasnewydd fel Parc-Seymour, Llandevaud, Penhow a Llanfaches ddim yn rhan o'r dalgylch ar gyfer bws Fflecsi.

www.southwalesargus.co.uk

 

Cwestiwn 4: Beth yw dyfodol y TYG cyfyngedig iawn y soniwch amdano? A oes cynllun i ehangu/contractio'r gwasanaeth TYG nad ydym efallai'n ymwybodol ohono?

 

Atodiad isod: TYG

 

 

Ymatebodd y Dirprwy Arweinydd:

 

C1  Yr wyf yn parhau i lobïo am well trafnidiaeth gyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, yn enwedig drwy fy rôl yn Awdurdod Trafnidiaeth Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac ymgysylltu ag Uned Gyflawni Burns.

Dilëwyd pwerau'r awdurdod i ddarparu gwasanaethau bws yn uniongyrchol yng nghanol y 1980au ar ôl dadreoleiddio o dan lywodraeth y dydd; fodd bynnag, rydym yn parhau i ddarparu cyfleusterau ategol ac yn ddiweddar rydym wedi sicrhau cyllid ychwanegol i fynd i'r afael â darpariaeth gwybodaeth Amser Real yn yr orsaf fysiau ac ymestyn y rhaglen o adnewyddu safleoedd bws.

 

C2. Diben y treial Fflecsi yw nodi cyfleoedd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus fwy ymatebol.  Mae'r dysgu o'r peilot eisoes yn helpu i nodi galw cudd a diwygiadau posibl i wasanaethau.  Un enghraifft yw cyflwyno gwasanaeth boreol i drigolion Casnewydd a gyflogir ym Magwyr. 

Mae'r peilot yn cael ei ariannu a'i gaffael yn gyfan gwbl gan Trafnidiaeth Cymru, a ddiffiniodd yr ardal weithredu yn y cyfnod prawf hwn.

 

C3 Fel yr wyf wedi'i amlinellu yn fy ymateb i C1 rydym wedi sicrhau ac yn parhau i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhwydwaith bysus.   Er bod dyhead i ddarparu'r lefel uchaf o ddarpariaeth, mae gennym ddyletswydd i gydbwyso anghenion a disgwyliad o fewn adnoddau cyfyngedig, tra'n ystyried gwerth i'r pwrs cyhoeddus.   Mae prinder gyrwyr bws cenedlaethol, sy'n cael cyhoeddusrwydd da, hefyd yn ychwanegu cymhlethdod pellach at ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus.

 

C4 Mae'r holl wasanaethau a gefnogir yn cael eu hadolygu'n gyson i adlewyrchu'r galw a'r gwerth i arian cyhoeddus.   Mae awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth wedi sefydlu adolygiad o ofynion y rhwydwaith bysus yn ddiweddar, gan gynnwys oriau gwasanaeth, amlder a chyrhaeddiad y rhwydwaith. Bydd gwasanaethau TYG yn cael eu cynnwys yn yr adolygiad hwn. Bydd canlyniadau'r cynllun peilot Fflecsi yn darparu tystiolaeth amhrisiadwy i lywio'r adolygiad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

The Deputy Leader responded:

 

Q1  I continue to lobby for better public transport at a local, regional and national level, particularly through my role in the Cardiff Capital Regional Transport Authority and engagement with the Burns Delivery Unit.

The authority’s powers to directly deliver bus services were removed in the mid 1980 following deregulation under the government of the day; however we continue to provide supporting facilities and have recently secured additional funding to address Real Time information provision in the bus station and extend the programme of bus shelter replacement.

 

Q2. The purpose of the Fflecsi trial is to identify opportunities for more responsive public transport. The learning from the pilot is already helping to identify latent demand and potential revisions to services. An example being the introduction of a morning service for Newport residents employed in Magor.

The pilot is wholly funded and procured by TfW, who defined the area of operation in this trial phase.

 

Q3. As I’ve outlined in my response to Q1 we have secured and continue to secure Welsh Government funding to support the bus network.  Whilst there is an aspiration to provide the highest level of coverage, we have a duty to balance needs and expectation within finite resources, whilst considering value to the public purse.  There is also a national, well-publicised shortage of bus drivers which adds further complexity to the provision of public transport.

 

Q4. All supported services are kept under review to reflect demand and value for public money.  Local authorities across the region have recently established a review of bus network requirements, including service hours, frequencies and network coverage. DRT services will be included in this review. The results of the Fflecsi pilot will provide invaluable evidence to inform the review.