Cofnodion:
Leanne Rowlands – Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd
RhoddoddRheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor a rhannu’r cynlluniau am Hyfforddiant Cynefino Aelodau iddynt eu hadolygu a gwneud sylwadau. Dywedwyd wrth yr Aelodau beth oedd y gofynion deddfwriaethol i Aelodau a gwaith CLlLC ar fframwaith i Aelodau yng Nghymru. Hysbyswyd y Pwyllgor y defnyddir fframweithiau cymhwysedd i Aelodau i’w helpu i ddatblygu.
Pwyntiau allweddol
Ymdriniodd y Swyddog Arweiniol ag egwyddorion a dulliau cyflwyno’r hyfforddiant, nodi y bydd yr hyfforddiant yn canoli ar yr aelodau, a’u bod yn edrych ar ffyrdd i wneud yr hyfforddiant mor ddiddorol ag sydd modd. Pecyn Dogfennau Cyhoeddus: hysbyswyd yr Aelodau y cynhelir yr hyfforddiant ar amrywiol lwyfannau, megis hyfforddiant wyneb yn wyneb, gweithdai a modiwlau e-ddysgu, er mwyn sicrhau y gellir ei gyflwyno’n hygyrch. Bydd hyfforddi a mentora hefyd yn digwydd.
Rhoddwyd y dyddiadau allweddol i’r Pwyllgor, a dywedwyd y bydd 6 diwrnod gwaith clir o’r cyfrif hyd at y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 17 Mai; mae hyn yn amserlen dynn iawn, yn enwedig gydag Aelodau newydd yn dod i mewn.
Bydd cynnal hyfforddiant craidd a chynefino gyda’r cyfarpar yn gryn dasg er mwyn i’r Aelodau newydd fod yn barod am y CCB. Hysbyswyd yr Aelodau mai cyfarfod hybrid fydd y CCB a bod angen felly i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd ddarparu hyfforddiant yn ôl y galw fel bod Aelodau’n teimlo’n gyfforddus i gymryd rhan yn y cyfarfodydd.
Ymdriniodd y Swyddog Arweiniol ag amcanion y cwricwlwm, a mynd trwy’r hyfforddiant i’r Aelodau fesul wythnos. I grynhoi, mae cyfanswm o 33 modiwl, gyda 16 ohonynt yn orfodol, a 6 yn orfodol i Aelodau pwyllgorau penodol. I weddill yr Aelodau, bydd cyfanswm o 10 modiwl gorfodol, wedi eu gwasgaru dros gyfnod o amser, ac yn llai aml wedi wythnos gyntaf yr hyfforddiant cynefino.
Croesawodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd unrhyw gwestiynau a sylwadau gan y Pwyllgor.
Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:
·Holodd y Cynghorydd T. Watkins a allai Aelodau’r Pwyllgor gael copi o’r cyflwyniad.
CadarnhaoddRheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y caiff ei ddosbarthu ac y bydd rhan o’r gefnogaeth i ddarpar-ymgeiswyr a gwybodaeth am hyfforddiant ar gael. Esboniwyd eu bod yn gosod disgwyliadau am yr wythnos gyntaf oherwydd y bydd llawer o waith i’w wneud, a’i bod yn bwysig felly egluro pa mor brysur y bydd yr wythnos honno. Trafodwyd y ffaith y gallai cynghorwyr a darpar-ymgeiswyr fod wedi trefnu gwyliau, ac y byddai’n syniad felly eu rhybuddio ymlaen llaw.
·Diolchodd y Cynghorydd Hourahine y swyddog am y cyflwyniad a chrybwyll nad oedd 3-4 o Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn y gorffennol wedi cymryd rhan yn y modiwlau gorfodol; holodd a fyddai sancsiynau’n cael eu gosod ar y sawl na fyddant yn cymryd rhan.
Atebodd y Pennaeth Gwasanaeth trwy gadarnhau nad oes gan y cyngor sancsiynau gorfodi, ond y dywed y rheolau os nad yw Aelodau yn cwblhau’r hyfforddiant gorfodol, na allant wedyn eistedd ar bwyllgorau Cynllunio a Thrwyddedu. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw sancsiynau y gellid eu gosod pe na bai aelodau yn dilyn yr hyfforddiant gorfodol ar y Cod Ymddygiad. Pwysleisiwyd fod gofyn i aelodau gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad pan fyddant yn llofnodi eu Datganiad/Derbyn Swydd, ond yn anffodus, nid oes sancsiynau gorfodi pe na baent yn mynychu’r hyfforddiant gorfodol.
DywedoddLlywodraeth Cymru nad ydynt yn bwriadu newid y rheolau cyn etholiadau mis Mai, yn ôl argymhelliad adolygiad Richard Penn, i gynnwys ymrwymiad i’r hyfforddiant fel rhan o’r Datganiad Derbyn swydd. Fodd bynnag, gyda’r Cyngor a’r Ombwdsmon, mae hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn orfodol ond nid oes dull o orfodi hyn. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cyngor wedi trefnu nifer o sesiynau hyfforddiant gloywi i’r aelodau hynny, ond pe na bai rhai yn gallu bod yn bresennol, fod y cyngor yn anfon gwybodaeth yr hyfforddiant atynt yn electronig. Un ddarpariaeth newydd o ran gorfodaeth yn y ddeddfwriaeth newydd yw bod cyfrifoldeb personol ar Arweinyddion grwpiau gwleidyddol i gynnal safonau moesegol yn eu grwpiau. Felly, mae disgwyl iddynt sicrhau bod eu haelodau gwleidyddol yn mynychu’r hyfforddiant gorfodol.
·Gwnaeth y Cynghorydd M. Evans sylw ei bod yn dda gweld fod y tîm yn cydnabod y gall llai fod yn well weithiau, a soniodd y gall toreth o wybodaeth fod yn llethol i’r Aelodau. Aeth yr Aelod ymlaen i drin y cynnig am gyfarfod hybrid ym mis Mai gan y credai y gall y cyfyngiadau fod wedi eu codi erbyn hynny, ac y byddai’r cyngor eisiau ymwneud wyneb yn wyneb yn y ganolfan ddinesig. Pwysleisiodd nad oedd y penderfyniad i gynnal cyfarfod ar-lein ym mis Mai yn un y byddai’n ei gefnogi fel aelod.
Mewnymateb, eglurodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y gamddealltwriaeth; cyfarfod hybrid fyddai, gyda’r aelodau yn bresennol yn y siambr gan fod ganddynt hawl i hynny, gyda’r dewis o gael cynghorwyr yn galw i mewn o bell trwy dechnoleg.
Ni fyddai rheidrwydd ar yr Aelodau i alw i mewn o bell, yn amodol ar gyfyngiadau. Yr oedd y cyfarfod “hybrid” yn un o ofynion y ddeddfwriaeth newydd, a’r bwriad oedd rhoi dewis personol i aelodau fynychu cyfarfod yn bersonol neu o bell. A rhagdybio na fyddai unrhyw gyfyngiadau Covid ym mis Mai, yna byddai gan bob aelod oedd am ddod i Siambr y Cyngor yr hawl i wneud hynny. Ni chymerwyd unrhyw “benderfyniad” i barhau â chyfarfodydd o bell ar ôl mis Mai.
· Holodd y Cynghorydd M. Evans hefyd a allai’r Aelodau gael sicrwydd y byddai mewngofnodi i’r cyrsiau e-ddysgu yn syml oherwydd bod y rhai a drefnwyd trwy ddull mewngofnodi y GIG yn anodd i Aelodau gael mynediad atynt.
CadarnhaoddRheolwr y Gwasanaethau Democrataidd eu bod yn edrych i mewn i’r problemau ynghylch hynny, a’u bod yn trefnu rhywbeth.
·Cefnogodd y Cynghorydd Townsend farn y Cynghorydd M Evans am gyfarfodydd hybrid a dweud y buasai’n well ganddi hi fod yn y ganolfan ddinesig oherwydd i drigolion gwyno wrthi nad yw’r Cynghorwyr yn cwrdd yn siambrau’r cyngor.
Nodwyd y gallai hyn fod yn ffordd o osgoi gwaith, a dywedodd felly ei bod yn awyddus i ddychwelyd i fod wyneb yn wyneb gan nad yw’n hawdd cynnal trafodaethau yn rhithiol.
Aeth yr Aelod ymlaen i ddiolch i’r Pennaeth Gwasanaeth am yr esboniad. Ar derfyn y drafodaeth, gofynnodd y Pennaeth Gwasanaeth i’r Aelodau drosglwyddo’r neges i’w pleidiau, oherwydd bod 6 diwrnod gwaith rhwng y cyfrif a’r CCB i gael hyfforddiant hanfodol wedi ei wneud.
Gofynnodd felly i’r Aelodau hysbysu eu cyfoedion y bydd yn ymrwymiad amser mawr ar y dyddiau hynny i ymgymryd â’r datganiadau swydd, hyfforddiant ar gyfarfodydd y cyngor a chyfarpar TG ac ati. Nodwyd y byddai o fudd i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd pe gallai’r Aelodau fod ar gael ar y dyddiau hynny. Cytunwyd: Cytunodd y Cadeirydd i’r Aelodau nodi’r amserlen honno ac adrodd yn ôl i’w pleidiau.