Agenda item

Canllawiau Drafft ar Gyfansoddiadau (Gwybodaeth yn Unig)

Cofnodion:

Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

 

Hysbysodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau y Pwyllgor mai dogfen ddrafft yw’r ddogfen a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn fuan cyn i’r agenda fynd allan felly ei bod wedi ei chynnwys er mwyn gwybodaeth yn unig. Felly nid oes angen penderfyniadau gan y Pwyllgor.

 

Hysbyswyd yr Aelodau y byddai’r tîm yn falch o gymryd unrhyw gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn y Pwyllgor:

 

· Holodd y Cynghorydd Hourahine a oedd y Pennaeth Gwasanaeth yn golygu y byddai’n ateb eu cwestiynau yn uniongyrchol neu yn eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru.

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hynny’n dibynnu ar y math o gwestiwn. Petaent yn sylwadau am y ddogfennaeth drafft, yna byddai’r cyngor yn hapus i’w trosglwyddo i Lywodraeth Cymru fel ymateb i’r ymgynghoriad.

 

· Holodd Cynghorydd T. Watkins o lle y deuai’r gyllideb ar gyfer rôl y cymorth gwleidyddol fel y trafodwyd ynghynt.

 

Dywedodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau mai’r cyngor fyddai’n talu am ymgynghorwyr y grwpiau gwleidyddol petaent am eu cyflogi.

 

·Aeth yr Aelod ymlaen i holi a fyddai’n rhaid i’r cyngor wedyn gael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rôl neu a fyddai’n dod allan o gyllideb y cyngor.

 

Atebodd y swyddog trwy ddweud y deuai allan o’r gyllideb staffio i dalu am gynorthwywyr gwleidyddol. Nid oes cyllid ychwanegol i hynny.

 

·Holodd y Cynghorydd Hourahine a fyddai’r cynorthwywyr gwleidyddol yn cael eu talu pro-rata i nifer y seddi.

 

DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau y byddai’n rhaid i’r gr?p fod ag o leiaf 10% o’r Aelodau ar y cyngor i fod yn gymwys am ymgynghorydd. Felly o fis Mai ymlaen, gyda’r cynnydd yn aelodaeth y Cyngor i 51 o Gynghorwyr, byddai’n rhaid i bob gr?p gael o leiaf 6 o Aelodau i fod yn gymwys am gymhorthydd gwleidyddol. Os bydd digon o aelodau, yna byddai gan y  3 gr?p mwyaf ar y Cyngor hawl i benodi un cynorthwydd gwleidyddol. Ond nid yw’n gymesur a nifer y seddi, gyda mwy o Aelodau i fod yn gymwys am y cymorth.

 

·Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 56 y pwerau dirprwyedig a holodd a oedd hyn yn ddeddfwriaeth newydd i’r cyngor.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol mai cyngor blaenorol o fesur 2011 oedd hyn, felly nid yw’n newydd ond yn ail-ddatganiad o ganllawiau blaenorol a chyngor yn unig ydyw.

 

·Holodd y Cadeirydd a yw’r cyngor yn gweithredu adran 56.

Cadarnhaodd  Pennaeth y Gyfraith mai p?er dewisol yw adran 56 ac nad yw’r cyngor erioed wedi gweithredu’r p?er i ddirprwyo penderfyniadau i aelodau anweithredol. Mae rhai cynghorau wedi defnyddio’r p?er hwn lle mae ganddynt ardaloedd mawr a phwyllgorau ward mewn cymunedau unigol. Maent wedi rhoi pwerau dirprwyedig i’r aelodau anweithredol ar y pwyllgorau ward hynny. Fodd bynnag, yng Nghasnewydd, yr oedd y cynllun dirprwyo am benderfyniadau gweithredol unigol i Aelodau Cabinet a Phenaethiaid Gwasanaeth.

 

·Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 35 am gyfethol y sawl nad ydynt yn aelodau i bwyllgorau craffu a gofynnodd i’r swyddogion a yw’r cyngor yn cadw at hynny.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y cyngor yn gwneud hyn a’i fod wedi gwneud hynny ers 2000 gan mai dyma un o ofynion y Ddeddf Llywodraeth Leol. Er enghraifft, mewn addysg, mae gan y pwyllgor craffu aelodau cyfetholedig statudol.

 

·Holodd y Cadeirydd a yw’r cyngor yn cyhoeddi ei flaen-raglen waith.

 

DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau fod y Cyngor yn gwneud hynny ar hyn o bryd a dywedodd, ym mhob cyfarfod, fod yr Aelodau yn cytuno ar eu rhaglen waith a’i bod yn cael ei chyhoeddi fel dogfen gyhoeddus a’i huwchlwytho ar y wefan.

 

· O ran y cyd-bwyllgorau craffu, holodd y Cadeirydd a yw’r cyngor yn dal i gynnal y rhain.

 

Esboniodd y Pennaeth Gwasanaeth fod gan y cyngor nifer o gyd-bwyllgorau craffu oherwyd po fwyaf o gydweithredu, mwyaf o gyd-bwyllgorau fydd eu hangen. Er enghraifft, bydd angen cyd-graffu rhanbarthol ar gyfer y Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol, ac yr ydym hefyd yn edrych ar sefydlu cyd-bwyllgor craffu corfforaethol i’r BGC sydd yn rhanbarthol. Wrth i fwy o wasanaethau gael eu cyflwyno yn rhanbarthol trwy gydweithredu, mae gofyniad am gyd-bwyllgorau rhanbarthol a chraffu gyda’r cynghorau sy’n cymryd rhan. Bydd yr Aelodau yn gweld mwy o hyd wrth i’r cyngor symud tuag at gydweithredu a chyd-gyflwyno gwasanaethau.

 

·Gofynnodd y Cadeirydd a oedd hyn yn ddyhead hirdymor i'r cyngor oedd yn cael ei wireddu. Cadarnhaodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau fod y gallu i sefydlu proses graffu ar y cyd wedi bod ar gael ers mesur 2011 a grybwyllwyd yn flaenorol. Mae'r angen i'w sefydlu wedi datblygu yn fwy diweddar wrth i'r cyngor symud i gydweithio’n fwy rhanbarthol.

 

·Gofynnodd y Cynghorydd T. Watkins a allai Aelodau unigol wneud sylwadau am y copi drafft ac a fyddia’r sylwadau hynny yn cael eu hanfon at Lywodraeth Cymru neu Gyngor Dinas Casnewydd.

 

Mewnymateb, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth yr Aelod am anfon sylwadau yn ôl at y cyngor er mwyn iddynt gael eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru. Atgoffwyd yr Aelodau mai ail-ddatganiad yw’r copi drafft o ddeddfwriaeth a fu yno ers blynyddoedd. Byddai’r cyngor yn ceisio sylwadau am yr agweddau techngeol a bydd y canllawiau yn cyfeirio’n ôl at unrhyw ran o’r drafftio a darpariaethau deddfwriaethol newydd.

 

Dogfennau ategol: