Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet. Byddai’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) yn dosbarthu fersiwn derfynol y cynllun yn ystod yr wythnos yn cychwyn 21 Chwefror.
Cytunodd aelodau’r Cyd-Gr?p Gweithredol (CGG) y dylai’r GCA symud i fodel o Gynllun Busnes tair-blynedd, gyda chyfoesiad blynyddol manwl i’r Aelodau gytuno arno, yn ôl gofynion Cytundeb Cydweithredu ac Aelodau (CCAA).
Yn ychwanegol at gyfarfodydd rheolaidd CGG, byddai uwch-staff GCA yn mynychu cyfarfodydd sicrhau ansawdd misol gyda swyddogion yr Awdurdod Lleol, oedd yn rhoi gwersi proffesiynol i lywodraethwyr ysgolion, a’r rhain yn cael eu hysbysebu trwy’r GCA.
Ymysg pynciau penodol i Gasnewydd a gyflwynwyd yn ystod tymor hydref 2021 a thymor gwanwyn 2022 yr oedd:
· Cyfrifoldebau Rheoli Ariannol
· Diogelu ar gyfer Llywodraethwyr Dynodedig/Cadeiryddion Llywodraethwyr
· Rheoli Gwahardd Disgyblion o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion
· Cefnogi dysgwyr sy’n siarad Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY)
· Cefnogi Plant Milwyr/Aelodau o’r Lluoedd Arfog yn eich ysgol
Yr oedd cynnig cyffredinol o gefnogaeth
dysgu proffesiynol ar gael i ysgolion ym mhob un o’r meysydd
canlynol:
· Gwella Ysgolion
· Arweinyddiaeth a Dysgu
· Cwricwlwm i Gymru
· Iechyd, Lles a Chydraddoldeb
· Llywodraethwyr Ysgolion.
Yr oedd cefnogaeth
ychwanegol hefyd ar gael i ysgolion, wedi ei deilwrio i gwrdd ag
anghenion penodol
·
Mae ysgolion yn derbyn nifer penodedig o ddyddiau i
weithio gyda’u Partner Gwella Ysgol (PGY) a chynnal deialog
broffesiynol gyda’r GCA a’r ALl i gytuno ar a/neu newid
eu blaenoriaethau gwella a gofynion cefnogi.
· Byddai cefnogaeth unswydd ar gael hefyd i ysgolion sydd angen cefnogaeth fwy dwys. Y mae hyn yn cynnwys mwy o gefnogaeth gan y PGY neu ddefnyddio Partneriaeth Ysgol i Ysgol y Rhwydwaith Dysgu. Nid oedd dyraniad penodol i’r gefnogaeth hon.
Dyma’r Blaenoriaethau
Drafft i Gasnewydd:
·
Datblygu a gweithredu’r cwricwlwm
newydd
·
Sicrhau dysgu ac addysgu effeithiol i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu
Ychwanegol (ADY)
·
Arolygiad Estyn R1: Gwella perfformiad cyffredinol
ysgolion uwchradd
·
Arolygiad Estyn R2: Lleihau’r amrywiaeth o ran cynnydd/deilliannau i
ddisgyblion cymwys am Brydau Ysgol am Ddim a’r rhai heb fod
yn gymwys
·
Adolygiad Thematig Estyn: Datblygu agwedd gydlynus i wella cynnydd
mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau personol a chymdeithasol
disgyblion yr effeithiwyd yn anghymesur arnynt gan y pandemig, er
enghraifft, disgyblion cymwys am brydau ysgol am ddim
·
Adolygiad Thematig Estyn: Sefydlu strategaethau i fonitro ac ymdrin ag effaith tymor-hir y
pandemig ar iechyd corfforol a meddyliol disgyblion
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Dywedodd y Cynghorydd Davies fod y cynllun busnes yn fodel, ac yr oedd yn croesawu, agwedd sensitif at well ysgolion Casnewydd. Cydnabu hefyd fod y pandemig yn her i’r modd y cynhaliwyd addysg. Yr oedd y cynllun busnes yn datgan yn glir y byddai’r holl ysgolion yn gweld gwelliant ac yn cefnogi athrawon. Yr oedd y GCA wedi ymrwymo i gynnal adolygiad o bob awdurdod, ac yr oedd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau felly yn cefnogi’r adroddiad.
§ Soniodd y Cynghorydd Harvey mai da o beth oedd gweld fod bron i 800 o lywodraethwyr ysgolion, a bod hyn yn dystiolaeth o’u hymrwymiad i gefnogi eu hysgolion. Yr oedd y rhaglen hyfforddi yn gynhwysfawr iawn.
§ Yr oedd y Cynghorydd Jeavons, fel aelod o’r bwrdd a Dirprwy Arweinydd, eisiau diolch i’r GCA am yr adroddiad ac adleisiodd sylwadau ei gydweithwyr yn y Cabinet.
Gwahoddodd yr Arweinydd Ed Pryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysg De-Ddwyrain Cymru, i ddweud gair.
Diolchodd Ed Pryce i’r Aelodau Cabinet am eu sylwadau, ac ychwanegodd y bydd yr adroddiad terfynol ar gael trwy’r Gwasanaethau Democrataidd. Yr oedd oblygiadau adnoddau i’r elfen ariannol, a byddid yn dal i gyllido ysgolion a pharhau i gwrdd â’r cyfraddau dirprwyo uchel.
Diolchodd yr Arweinydd i Ed Pryce am ei bresenoldeb, a werthfawrogwyd gan y Cabinet.
Penderfyniad:
Fod y Cabinet
§ Yn derbyn yr adroddiad er gwybodaeth ac yn manteisio ar y cyfle i wneud sylwadau am gynnwys y Cynllun Busnes fel rhan o’r broses ymgynghori; ac
§ Ystyried beth oedd y prif gryfderau a’r meysydd datblygu i Gasnewydd, ac ystyried sut y gellid asio gwasanaethau’r ALl gyda’r blaenoriaethau yn y ddogfen, gan sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd ei lawn botensial.
Dogfennau ategol: