Cofnodion:
Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gyflwyno ein Cynllun Newid Hinsawdd sefydliadol i gydweithwyr.
Newid Hinsawdd oedd un o heriau
byd-eang ein cenhedlaeth, ac y mae angen dybryd i’r byd
ddad-garboneiddio, cyfyngu ar y codiad yn nhymheredd y byd, a
lliniaru effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Yr oedd angen
i’r byd hefyd ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd yn awr ac
yn y dyfodol.
Fel sefydliad cyfrifol yn
fyd-eang, datganodd y Cyngor argyfwng ecolegol a hinsawdd ym mis
Tachwedd, gan ddweud y byddwn yn gwneud y canlynol:
Datblygu cynllun sefydliadol Newid Hinsawdd clir, trwy ymgynghoriad â’n dinasyddion, am y pum mlynedd nesaf fyddai’n gosod allan y camau mae angen eu cymryd i wneud hyn.
Fel rhan o’r datganiad,
fe wnaethom hefyd dweud y byddwn yn:
Lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net carbon erbyn 2030, ac
Adolygu’r gwasanaethau a ddarperir gan y cyngor i gefnogi taith y ddinas at sero net zero ac ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd.
Mae ein Cynllun Newid Hinsawdd yn gosod allan y themâu, blaenoriaethau, camau a’r cerrig milltir oedd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf i gyrraedd yr ymrwymiad hwnnw.
Datblygwyd y cynllun gan staff a rheolwyr ledled y cyngor a chraffwyd arno gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Hydref 2021.
Cynhaliwyd ymgynghoriad llawn â’r cyhoedd ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2021 pryd y derbyniwyd dros 600 o sylwadau unigol, sydd wedi helpu i lunio’r cynllun ymhellach.
Byddai’r cynllun yn ddogfen allweddol i’r Cyngor at y dyfodol a byddai’n tywys ein taith fel sefydliad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a’u heffeithiau.
Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i roi sylwadau.
Soniodd y Cynghorydd Hughes fod y Cyngor wedi gwneud cychwyn da ac eisoes wedi gostwng allyriadau carbon yn sylweddol, gan wneud yn well na’r targedau a osodwyd allan yn ein Cynllun Rheoli Carbon. Arweiniodd hyn at ostyngiad o 29% mewn allyriadau cwmpas 1 a chwmpas 2 dros y tair blynedd a aeth heibio.
Edrychai’r Cynghorydd Hughes ymlaen at fwy o ostyngiad wrth i ni barhau i ôl-ffitio adeiladau’r cyngor, a chynyddu ein fflyd o gerbydau trydan.
Er hynny, yr oedd llawer mwy i’w wneud fel sefydliad i liniaru ac ymaddasu i’r argyfwng hinsawdd a natur, a bydd ein Cynllun Newid Hinsawdd sefydliadol yn ein gosod ar y llwybr iawn ar y daith hon er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ar ran y genhedlaeth hon a rhai’r dyfodol.
Fel Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros leihau carbon a thros genedlaethau’r dyfodol, yr oedd y Cynghorydd Hughes yn falch o weld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth, a byddai’n monitro cynnydd yn fanwl ac yn gofyn am gyfoesiadau rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn dal i fwrw ymlaen yn ôl y gofyn.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Ychwanegodd y Cynghorydd Davies, fel yr Aelod Cabinet blaenorol dros Ddatblygu Cynaliadwy, ei bod wedi cael tasg gan yr Arweinydd i fwrw ymlaen â’r cynllun ar ddechrau’r pandemig ac ers hynny, fod y Cynllun Newid Hinsawdd wedi datblygu’n sylweddol. Digwyddodd hyn nid yn unig oherwydd cefnogaeth y Cynghorydd Hughes ond hefyd oherwydd cefnogaeth y swyddogion. Diolchodd y Cynghorydd Davies i Tracy McKim, Pennaeth Pobl (Polisi a Thrawsnewid), Emma Wakeham (Uwch-swyddog Polisi a Phartneriaeth) a Ross Cudlipp (Rheolwr Lleihau Carbon) am eu hymwneud a’u gwaith caled oedd wedi strwythuro datblygu hyn yn gynllun gweithredu. Ein cyfrifoldeb corfforaethol oedd bwrw ymlaen â hyn gan y byddai’n cael mwy o effaith gyda chanlyniadau cadarnhaol.
§ Teimlai’r Cynghorydd Harvey fod y ddogfen hon yn un ddiddorol oedd yn ymdrin â’r holl faterion sylfaenol ac a allai ond gwella. Ychwanegodd mai mater i ni fel Cyngor oedd gwneud safiad ac amddiffyn yr hyn oedd gennym i’r cenedlaethau i ddod.
§ Dywedodd y Cynghorydd Truman fod y ddogfen yn gosod allan dargedau oedd yn rhaid gweithredu arnynt yn syth, gan y byddai cenedlaethau’r dyfodol yn cofio ac yn barnu ein penderfyniadau.
§ Dywedodd y Cynghorydd Jeavons ei fod yn adroddiad gwerthfawr, yn amlygu llwyddiannau Cyngor Dinas Casnewydd . Byddai’r gobaith o newid cludiant ysgolion trwy gyflwyno cludiant trydan neu hydrogen yn llwyddiant o’r mwyaf.
Ychwanegodd yr Arweinydd, ar lefel unigol neu ehangwch, fod angen i’r Cyngor weithio’n galed i greu’r newid hwn at y dyfodol. Yr oedd yr Arweinydd yn hynod falch o’r Cyngor a’r hyn y llwyddodd i wneud trwy’r Cynllun Newid Hinsawdd hwn.
Penderfyniad:
Cymeradwyodd y Cabinet y drafft o Gynllun Newid Hinsawdd y Cyngor.
Dogfennau ategol: