Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud, ar waethaf yr holl heriau a wynebwyd yng Nghymru a’r byd dros y mis diwethaf, fod Covid yn dal yn bresennol mewn cymunedau.
Er bod achosion yn parhau i
ddisgyn, yr oedd effeithiau’r cyfyngiadau dros y ddwy flynedd
ddiwethaf yn dal i gael effaith ar y sector iechyd a gofal
cymdeithasol.
Yr oedd Cymru yn dal ar lefel
rhybudd 0 ac o 28Chwefror , byddai angen mygydau yn unig mewn
siopau, ar gludiant cyhoeddus a lleoliadau iechyd a
gofal.
Parhaodd Llywodraeth Cymru i
gymryd agwedd ofalus ac ym mis Mawrth byddai'n asesu sefyllfa
iechyd y cyhoedd ac a ddylid dileu'r gofyniad cyfreithiol i wisgo
gorchuddion wyneb erbyn diwedd mis Mawrth.
I Gyngor Casnewydd, y cyngor o hyd i aelodau etholedig a swyddogion i weithio o bell oni bai bod eu rôl yn mynnu i’r gwrthwyneb.
Fel rhan o brosiect Normal Newydd y Cyngor, yr oedd
y staff yn cael eu paratoi i weithio’n hybrid, gan sicrhau y
bydd ystafelloedd a chyfleusterau ar draws stad y Cyngor yn llefydd
addas a diogel i weithio a chynnal swyddogaethau democrataidd.
Ychwanegodd yr Arweinydd mai cyfarfod hybrid fyddai cyfarfod
y Cabinet ym mis Ebrill.
Yr oedd yr adroddiad hwn ac
adroddiad Pontio’r UE yn amlygu’r pwysau a’r
ansicrwydd sy’n cael eu hwynebu gan lawer aelwyd ledled
Casnewydd a Chymru, gyda’r argyfwng costau byw a achoswyd gan
gynnydd mewn costau ynni, bwyd a thanwydd.
Yr oedd Cyngor Casnewydd a
Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd a busnesau oedd yn cael
trafferth i ymdopi a’r pwysau hyn. Yr oedd Cyngor Casnewydd wedi neilltuo £100,000 yn
ychwanegol i daclo tlodi bwyd, cefnogi elusennau a grwpiau
bwyd.
Yr oedd y Cyngor hefyd yn
cefnogi cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru, a oedd
wedi ei ymestyn at 28 Chwefror, a’r symiau wedi codi o
£100 i £200.
Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod
yn bwysig fod cynghorwyr yn cefnogi aelwydydd oedd yn cael
anhawster, gan eu helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth a’r
canllawiau iawn yn ystod yr amser anodd hwn.
·
Nod Adfer Strategol 1 – Mae’r tîm
gwaith a Sgiliau yn gweithio ar y cyd ag Asiantaeth Recriwtio Acorn
i gynnig cyfleoedd i drigolion weithio yn y sector iechyd a gofal
cymdeithasol.
· Nod Adfer Strategol 1 –Sicrhaodd Cyngor Casnewydd grant 3 blynedd gan Blant a Chymunedau i gefnogi teuluoedd ledled Casnewydd
·
Nod Adfer Strategol 2 – Bydd cwblhau
cynlluniau mawr fel y Farchnad Dan Do, Arcêd y Farchnad a
Th?r y Siartwyr yn cynnal adfywio canol y ddinas.
· Nod Adfer Strategol 2 – Dyfarnwyd 18 o grantiau datblygu busnes Dinas Casnewydd
· Nod Adfer Strategol 3 – Gwasanaethau llyfrgell a chymuned yn ôl i’r oriau arferol
·
Nod Adfer Strategol 3 - Yr oedd gwasanaethau
oedolion yn cefnogi ein trigolion mwyaf bregus yn ystod y stormydd
diweddar, gan sicrhau bod ganddynt lety diogel a saff cyn dychwelyd
adref.
·
Nod Adfer Strategol 4 – Bu prosiectau i wella
tai a llety dros dro i’r trigolion yn parhau.
· Nod Adfer Strategol 4 - Gwaith cyfranogol ar y gyllideb yn dyfarnu cyllid tuag at brosiectau ar hyd a lled Casnewydd i helpu cymunedau i adfer o’r pandemig.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
§ Manteisiodd y Cynghorydd Truman ar y cyfle i ddiolch i’r holl swyddogion yng Nghyngor Dinas Casnewydd am ei fod ef yn ymddeol ym mis Mai, gan grybwyll yn arbennig swyddogion Safonau Masnach, Trwyddedu ac Amgylcheddol.
Diolchodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Truman a phob aelod fyddai’n ymddeol eleni, ar ran swyddogion Cyngor Dinas Casnewydd.
§ Adleisiodd y Cynghorydd Davies sylwadau’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr. Yr oedd yr effaith ar y sector iechyd a gofal yn golygu y collwyd gweithwyr allweddol. Yr oedd swyddogion y Cyngor wedi sefydlu rhaglen unswydd i ddenu pobl i’r sector gofal. Yr oedd hyn yn cynnwys mynediad at hyfforddiant am ddim: yr oedd LlC yn mynnu bod pob gweithiwr gofal yn meddu ar gymhwyster cydnabyddedig, a byddai hyn yn cael ei ddarparu gan Gyngor Dinas Casnewydd. Yn ychwanegol, yn gynharach heddiw, gwahoddwyd yr Aelod Cabinet i drefniant tebyg yn y diwydiant adeiladu, a ddigwyddodd yn Hwb Dwyrain Casnewydd i ganolbwyntio ar fynediad am ddim at hyfforddiant i arwain at y Cerdyn CSE. Yr oedd yr hwb yn llawn o bobl ifanc, oedd yn arwydd cadarnhaol fod pethau ar i fyny ledled y ddinas. Yr oedd y llyfrgell hefyd ar agor yn Hwb Dwyrain Casnewydd, gyda’r academi dysgu yn llawn myfyrwyr 16-18 oed yn gweithio’n galed.
§ Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i’r Cynghorydd Truman a chyfeiriodd at y gwasanaethau rheng flaen oedd yn parhau i weithio yn ystod y pandemig, a gofynnodd am gadw mewn cof y bobl hynny, yn enwedig y sawl oedd yn byw gyda phobl men perygl o ddal Covid.
§ Ategodd y Cynghorydd Harvey y sylwadau a diolchodd i’r Cynghorydd Truman am ei gefnogaeth.
§ Diolchodd y Cynghorydd Hughes hefyd i’r Cynghorydd Truman. Fel un o ymddiriedolwyr banc bwyd lleol, yr oedd yn cydnabod cefnogaeth Cyngor Dinas Casnewydd a’r £100,000 a neilltuwyd.
§ Dymunodd y Cynghorydd Cockeram y gorau i’r Cynghorydd Truman at y dyfodol. O ran problemau gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, trafodwyd profiad gwaith a lleoliadau mewn colegau yng nghyswllt gofal cartref, a hefyd gynnig llefydd i fyfyrwyr prifysgol mewn cartrefi gofal fel profiad gwaith.
Penderfyniad:
Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a derbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.
Dogfennau ategol: