Agenda item

Diweddariad ar ôl Pontio'r UE

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad uchod. Er adroddiad diwethaf y Cabinet ym mis Chwefror, yr oedd ansicrwydd byd-eang wedi parhau i effeithio ar fywydau pobl yng Nghasnewydd a Chymru.

Ar 1 Mawrth, cyflwynodd Cyngor Casnewydd gynnig a’i basio yng nghyswllt y sefyllfa bresennol yn Wcráin, a bu undod ar draws y pleidiau mewn ymateb i’r ymosodiad erchyll ar Wcráin a’i phobl. Yr oedd hon yn sefyllfa dorcalonnus i bobl Wcráin, gyda llawer yn gorfod ffoi o’u cartrefi i geisio lloches. 

Yr oedd yn achos pryder hefyd i ddinasyddion Wcráin oedd yn byw a gweithio yng Nghasnewydd a mannau eraill yng Nghymru, o ran eu hanwyliaid a’u gwlad.

Yr oedd gan Gasnewydd draddodiad maith ac anrhydeddus o roi lloches i ffoaduriaid, a bydd yn gwneud popeth yn ei gallu i helpu’r sawl a ddioddefodd oherwydd yr ymosodiad hwn.

Hefyd, i ddinasyddion Ewrop a’r byd sydd yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig pwysleisio eu bod hwythau hefyd yn drigolion pwysig allai fyw, gweithio a chyfrannu at wneud Casnewydd yn lle amlddiwylliannol i fyw ynddo.

Yr oedd y gwrthdaro yn Wcráin yn un yn unig o sawl sefyllfa ledled y byd oedd yn cael effaith ar gostau byw yng Nghasnewydd a Chymru.   

Yr oedd y cynnydd mewn costau ynni, bwyd a thanwydd yn cael effaith ar bob aelwyd, ond yn taro galetaf ar drigolion mwyaf bregus y ddinas.

Yr oedd Llywodraeth Cymru a’r Cyngor yn gwneud popeth yn eu gallu i aelwydydd yn y cyfnod anodd hwn, ac yr oedd gwasanaethau ar gael allai liniaru’r pwysau hyn. 

Pasiodd yr Arweinydd a’r Cynghorydd Hughes cynnig yn y Cyngor ar 1 Mawrth, am yr argyfwng cenedlaethol mewn costau byw, i ysgrifennu at y llywodraeth ganolog am weithredu i atal y cynnydd arfaethedig mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gostwng TAW ar filiau ynni, a chyflwyno cap prisiau is ar filiau ynni i warchod aelwydydd rhag cynnydd gormodol mewn prisiau. 

Byddai Cyngor Casnewydd yn gweinyddu rhyddhad Treth y Cyngor i dai  bandiau A i D a rhyddhad ardrethi i fusnesau, yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes Llywodraeth Cymru a’n cynllun ein hunain i gefnogi busnesau lleol.

Yr oeddem hefyd yn parhau i gefnogi grwpiau a mudiadau tlodi bwyd  trwy ddarparu cyllid a  chefnogaeth i ddosbarthu bwyd a chyngor ar ddyledion. 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod nod mwy eto y gallai’r Cyngor wneud i gefnogi grwpiau difreintiedig a bregus yng Nghasnewydd a bydd y Cyngor yn datblygu ei waith gyda’r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ymdrin â’r pryderon a godwyd gan y trigolion.

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Dymunai’r Cynghorydd Hughes gydnabod y gefnogaeth a roddodd pobl yng Nghasnewydd i’r Wcrainiaid, ac yr oedd yn falch o fod yn rhan o’r ddinas.

 

§  Derbyniodd y Cynghorydd Harvey neges gan Gyn-Filwyr Casnewydd oedd yn llwytho cyflenwadau ar wagen i’w hanfon i Wcrain. Mynegodd y Cynghorydd Harvey hefyd ei balchder yn y ddinas.

 

Adfyfyriodd yr Arweinydd ar y sefyllfa, a dymunai atgoffa’r trigolion fod y Cyngor yn eu cefnogi. Yr oedd yr Arweinydd yn falch iawn o’r gymuned Bwylaidd am roi cymorth ar droed. Yr oedd dinasyddion Rwsia hefyd yng Nghasnewydd ac yr oedd y Cyngor yn cydnabod mai gweithred un dyn mewn llywodraeth oedd yn digwydd, a bod croeso i bawb yng nghymuned Casnewydd.

 

Penderfyniad:

 

Nododd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a derbyn cyfoesiadau gan y swyddogion fel rhan o’u portffolio.

 

Dogfennau ategol: