Agenda item

Cofrestr Risg Corfforaethol - Chwarter 3

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad am gyfoesi Cofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwarter Tri, 1 Hydref 2021 tan 31 Rhagfyr 2021.

Gofynnwyd i aelodau’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad hwn  a pharhau i fonitro’r risgiau hyn a’r camau oedd yn cael eu cymryd i ymdrin â’r risgiau a nodir yn yr adroddiad.

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Byddai’r adroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar ddiwedd Mawrth (2022) i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Ar ddiwedd chwarter tri, yr oedd gan  y Cyngor 44 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny a bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. 

Ar ddiwedd chwarter dau, cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Corfforaethol:

·        Deg Risg Ddifrifol (15 i 25);

·        Pum Risg Fawr (7 i 14);

·        Dwy Risg Ganolig (4 i 6); ac

·        Un Risg Isel (1 i 3).

O gymharu â chwarter dau, yr oedd 16 risg wedi aros ar yr un sgôr risg gyda dwy sgôr risg yn gostwng:

§  Clefyd Marwolaeth yr Ynn - Ers i’r Cyngor gychwyn ar eu rhaglen waith i symud ymaith goed oedd â’r clefyd, aeth y sgôr risg i lawr o 20 i 16.  Yr oedd cyflwyno’r gwaith hwn yn cael ei asesu bob chwarter, a phlannu coed newydd yng Nghasnewydd.

§  Cydbwyso cyllideb tymor-canol y Cyngor - Derbyniodd y Cyngor ei setliad cyllido 2022/23 gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â dyraniadau cyllido dangosol am y ddwy flynedd ganlynol. Yr oedd ffigwr setliad 22/23 yn fwy cadarnhaol na’r hyn a ragwelwyd, a chymeradwywyd cyllideb y Cyngor am 22/23. Yr oedd y cynllun ariannol tymor-canol cyffredinol yn fras yn cydbwyso, ond gallai pwysau ychwanegol ymddangos ac arwain at fwlch cyllidebol.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at ddau farc risg coch yn erbyn gwasanaethau addysg. Yr oedd a wnelo hyn â'r gal’ am gefnogaeth ADY ac AAA mewn ysgolion, a bu hyn yn bryder cyson yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gyda newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan LlC. Y risg allweddol arall oedd gwasanaethau ariannol, ond gyda’r buddsoddiad o £8.1M, yr oedd yr Aelod Cabinet yn hyderus y gallwn gyflwyno gwell gwasanaeth. 

 

§  Yr oedd y Cynghorydd Jeavons yn falch fod sgôr Clefyd Marwolaeth yr Ynn wedi gostwng o 20 i 13, a diolchodd Wasanaethau’r Cyngor a’r partneriaid arbenigol oedd yn symud y coed hyn.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y gwasanaethau cymdeithasol a’r broblem staffio ledled Cymru a’r DU. Byddai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ysgrifennu at y Gweinidog am broblemau gyda thalu staff, gan na all Cynghorau gystadlu gyda’r sector gofal iechyd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r staff am eu gwaith caled yng nghartrefi gofal Cyngor Dinas Casnewydd, a’u cyfraniad a’u gwytnwch eithriadol.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys cyfoesiad chwarter dau y Gofrestr Risg Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ategol: