Agenda item

Cynllun Dirprwyo Swyddogion Newydd (Gwybodaeth yn Unig)

Cofnodion:

Gareth Price – Pennaeth y Gyfraith a Safonau

Elizabeth Bryant – Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Cyfreithiol

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth drosolwg cryno i'r Pwyllgor ac ailbwysleisio mai gwaith ar y gweill yw'r Cynllun Dirprwyo Swyddogion newydd, ac y byddent yn mynd ati i'w fireinio a'i gwblhau'n derfynol. Nodwyd nad oedd unrhyw newidiadau o bwys i'r trefniadau dirprwyo cyfredol, ond cafodd swyddogaethau penodol eu hailddyrannu i'r Penaethiaid Gwasanaeth newydd, ar ôl ad-drefnu'r uwch reolwyr ac ailalinio'r gwasanaethau.

 

Erenghraifft, roedd Diogelu'r Cyhoedd gynt wedi'i gynnwys o dan Y Gyfraith a Safonau, ac roedd tacsis/trwyddedu a'r holl is-adrannau iechyd yr amgylchedd wedi'u cynnwys o dan Bennaeth y Gyfraith a Safonau, ond roedd y swyddogaethau hynny bellach yn cael eu trosglwyddo i bennaeth newydd, sef Pennaeth yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd. Byddai'n sicrhau bod y swyddogion dirprwyol oddi mewn i'r maes gwasanaeth cywir, a dywedodd bod y gwaith yn llawer mwy cymhleth nag yr oedd yn ymddangos gan fod y Cyngor yn gorfod datgyfuno rhai o'r gwasanaethau. Rhoddodd Pennaeth y Gyfraith a Safonau glod i Bennaeth Cynorthwyol y Gwasanaethau Cyfreithiol, Elizabeth Bryant, a wnaeth lawer o'r gwaith ar hynny.

 

Dywedwydwrth yr Aelodau mai gwaith ar y gweill oedd hyn, ac mai'r bwriad fyddai gorffen rhwng nawr a mis Mai i'r Aelodau gymeradwyo'r Cynllun ar 17 Mai.

 

Roedd y swyddogion yn croesawu unrhyw ymholiadau gan y Pwyllgor.

 

Cododd y Pwyllgor y pwyntiau a ganlyn:

·         Holodd y Cynghorydd Watkins sut y byddai'r cynllun dirprwyo yn effeithio ar y pwyllgorau craffu.

 

DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau nad oes a wnelo'r cynllun dirprwyo swyddogion ond â phenderfyniadau a wneir ar lefel swyddog. Mewn perthynas â'r pwyllgorau craffu; byddai'r rhan fwyaf o hynny'n dibynnu ar gyfansoddiad y Cyngor newydd a gaiff ei ethol.

Arhyn o bryd, yr oedd dau Bwyllgor Craffu Perfformiad yn craffu ar gynlluniau gwasanaeth, ac roeddent wedi'u seilio ar yr hen Gyfarwyddiaethau Pobl a Lle/Corfforaethol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod pedair cyfarwyddiaeth gorfforaethol ar hyn o bryd, a bod gwasanaethau wedi'u grwpio'n wahanol. Yn ogystal â hynny, roedd y Pennaeth Pobl, Polisi a Thrawsnewid yn datblygu proses hunanasesu perfformiad newydd.

Dywedwydwrth yr aelodau y byddai angen i'r swyddogion edrych ar hynny gyda'r cadeiryddion craffu; a fyddai'n ddarn mwy o waith yn nhermau perfformiad newydd.

 

·         Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwyntiau tri a saith yn yr is-adran Cyfrifoldeb Adfywio i wneud ceisiadau am gyllid Ewropeaidd, a gofynnodd a oedd hyn yn berthnasol bellach.

 

DywedoddPennaeth y Gyfraith a Safonau y gallent hepgor y cyfeiriad at 'Ewropeaidd', gan y byddai'r Cyngor yn dal i dderbyn cyllid grant allanol, cyllid codi'r gwastad a chyllid grant mewnol. Dywedwyd wrth yr Aelod y byddai hynny'n cael ei unioni'n rhan o'r broses fireinio.

 

Dywedodd y Swyddog Arweiniol hefyd fod y Penaethiaid Gwasanaeth yn perffeithio agweddau eraill, fel y broses gynllunio; ar hyn o bryd roedd y ceisiadau cynllunio'n cael eu cyflwyno i'r pwyllgor gan fod asedau eiddo a'r asedau corfforaethol o dan yr un Pennaeth Gwasanaeth. Tynnodd y swyddog sylw at y gwrthdaro a geir wrth ddirprwyo, o ran penderfynu eu ceisiadau cynllunio eu hunain. Yn sgil symud eiddo ac asedau o dan Pobl, Polisi a Thrawsnewid, roedd angen i'r swyddogion addasu'r ddirprwyaeth honno er mwyn iddi gael ei chynnwys mewn maes gwasanaeth gwahanol i ddiben gwell.

 

·         Hyd y deallai, dywedodd y Cynghorydd Hourahaine fod meysydd gwyddonol ac academaidd yn dal i fod yn gymwys i dderbyn cyllid Ewropeaidd, a nododd ei fod yn ansicr sut y byddai'n effeithio ar y Cyngor, ond awgrymodd y dylid newid geiriad y ddogfen, yn hytrach na'i dynnu'n ôl yn unig.

 

Mewnymateb i hyn, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth, yn achos y cynllun dirprwyo, y byddai'n amhriodol tynnu pob cyfeiriad at Ewrop yn ei ôl, gan fod hynny'n berthnasol i gyllid grant allanol; gallai fod wedi cynnwys yr UE, ond dywedodd y gallai grantiau eraill ddod i'r amlwg.

 

 

Dogfennau ategol: