Presentation by Emma Wakeham Senior Policy and Partnership Officer and Ross Cudlipp Carbon Reduction Manager
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr eitem agenda hon ar Newid Hinsawdd i’r cyfarfod gan Emma Wakeham (Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth).
Prif bwyntiau:
Dywedodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth eu bod wedi arwain ar ddatblygu’r Cynllun Newid Hinsawdd i Gyngor Dinas Casnewydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.
- Y peth cyntaf a ystyriwyd oedd pa fath o gwmpas oedd angen ar gyfer y cynllun. Penderfynwyd ar ddau faes i gyrraedd sero carbon fel sefydliad erbyn 2030 ac i adolygu’r gwasanaethau a ddarparwn er mwyn sicrhau eu bod yn cefnogi taith y ddinas at net sero ac ymaddasu i newid hinsawdd.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod allan ganllawiau adrodd am weithio ar allyriadau carbon fel sefydliad, felly defnyddiwyd hyn fel gwaelodlin i allyriadau carbon.
- Dangosodd graff allyriadau Cwmpas 1 a Chwmpas 2 y cyngor – roedd allyriadau Cwmpas 1 o ffynonellau oedd ym mherchenogaeth y Cyngor, ac allyriadau Cwmpas 2 o drydan a gwresogi oedd yn cael eu prynu.
- Roedd Cwmpas 3 yn sylweddol ond heb fod ym mherchenogaeth neu reolaeth uniongyrchol Cyngor Dinas Casnewydd sef y gadwyn gyflenwi, nwyddau a bwrcaswyd gennym, d?r a ddefnyddiwn a theithio ar fusnes.
- Pan wnaed y waelodlin, roedd yn dangos sut y rhannwyd yr allyriadau.
- Unwaith i ni wybod beth oedd allyriadau’r sefydliadau, ystyriwyd y meysydd i ganolbwyntio arnynt, a defnyddiwyd fframwaith Llywodraeth Cymru – Map o’r Ffordd i’r Sector Cyhoeddus – i helpu i benderfynu ar hyn.
- O’r fframwaith hwn, dewiswyd 6 thema wahanol –
Thema 1: Diwylliant y Sefydliad ac Arweinyddiaeth
Thema 2: Ein Hadeiladau
Thema 3: Ein Tir
Thema 4: Trafnidiaeth a Symud
Thema 5: Y Nwyddau a’r Gwasanaeth yr ydym yn eu Caffael
Thema 6: Ein Rôl Ehangach
-Roedd a wnelo Thema 2-5 yn uniongyrchol ag allyriadau carbon ac ystyriwyd thema 1 a 6 rôl ehangach y Cyngor a’r effaith ar y ddinas gyfan.
- Dan Thema 1 ystyriwyd hyfforddiant a chanllawiau i staff ac aelodau etholedig.
-Roedd Thema 2 am wres adnewyddol a lleihau nwy naturiol; ystyriodd thema 3 sut roedd tir yn cael ei reoli, plannu meysydd gan ddefnyddio atebion seiliedig ar natur.
- Ystyriodd Thema 4 gymudo mewn busnes a’r fflyd, gan annog teithio llesol.
- Ystyriodd Thema 5 sut roedd angen i’r Cyngor ddeall allyriadau carbon yn well wrth wneud penderfyniadau am brynu nwyddau a gwasanaethau.
- Ystyriodd Thema 6 gynllunio argyfwng ledled y ddinas a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau.
Roedd copïau o’r cynllun i’w cael yn y dolenni ar y cyflwyniad, ac edrychwyd i mewn i bob thema gydag amserlenni, etc a sut y cânt eu cyflwyno.
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu rheolwr datblygu unswydd ac y maent yn cefnogi mentrau’r sector cyhoeddus a chymunedol i leihau allyriadau carbon ac ynni. Roeddent yn hapus i roi cyngor ar gaffael ac roeddent yn chwilio am y prosiectau fyddai’n cael y mwyaf o effaith ar ynni ac allyriadau carbon.
Roedd cyfleoedd hefyd o ran cyllido a chynhaliwyd digwyddiad ar 31 Mawrth 2022- Digwyddiad Newid Hinsawdd Cwrdd â’r Cyllidwyr lle gallai cynghorau cymuned gwrdd â chyllidwyr.
Cwestiynau:
Holodd cynrychiolydd Gwynll?g am gynlluniau Cartrefi Cynnes ac a ydynt yn dod dan y pwnc hwn lle rhoddir grantiau’r llywodraeth i wneud cartrefi yn fwy ynni-effeithlon, ac mewn rhai ardaloedd, mae pobl wedi gwella eu tai am eu bod yn h?n, e.e., ffermdai. Roedd modd gweld y rhain ar wefannau rhai Cynghorau eraill, ond ni welwyd dim tebyg ar gyfer Casnewydd, gan nad oedd dim ar y wefan.
Cadarnhaodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth fod gan Lywodraeth Cymru Raglen Cartrefi Cynnes, oedd yn gynllun cenedlaethol, ond roedd iddo rai meini prawf cymhwyster, megis derbyn rhai budd-daliadau neu fod ar incwm isel. Y cynllun arall oedd yn cael ei ddatblygu oedd Cynllun Ynni Ardal Leol, i edrych ar ynni adnewyddol ledled y ddinas, ac ar dlodi tanwydd, ond roedd hwn yn dal i gael ei ddatblygu a byddai’n cymryd rhai misoedd i’w weithredu.
Dywedodd cynrychiolydd Gwynll?g nad oedd y cynlluniau eraill yr edrychwyd arnynt o ran cymhwyster yn destun prawf modd, ac mai’r cymhwyster oedd oedran yr eiddo.
Cadarnhaodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth y deuai mwy o ffrydiau cyllido ar gael, oherwydd bod Dinas-Ranbarth Caerdydd yn ystyried cynllun i Ddinas-Ranbarth Caerdydd gyfan; byddai’r manylion wedyn yn cael eu hanfon at y cynghorau cymuned. Cytunodd cynrychiolydd Gwynll?g hefyd i anfon manylion y cynlluniau a welodd at yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth.
Dywedodd cynrychiolydd Llangadwaladr eu bod hwy wedi cwblhau eu hyfforddiant llythrennedd carbon, ac y gwelwyd nad oedd llawer eiddo yn addas oherwydd y diffyg insiwleiddio ac na fuasent felly yn addas i bympiau gwres o’r ddaear a gofynnodd a fyddai’r rheoliadau adeiladu yn newid fel y buasent yn addas ac a fyddai tai yn y dyfodol yn cael eu codi gyda phaneli solar.
Dywedodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth, yng nghyswllt pympiau gwres o’r ddaear, fod angen cyfradd o C ac yn uwch er mwyn bod yn effeithiol. Roedd rhai tai yn awr yn cael eu codi gyda phympiau gwres o’r aer eisoes wedi eu gosod, ond nid oedd hyn wedi digwydd yn ardal Casnewydd. Roedd rhai tai eisoes yn dod o dan y rheoliad cywir, ond byddai angen llawer o ôl-ffitio er mwyn gosod pympiau gwres. Dywedodd yr Uwch-Swyddog Polisi a Phartneriaeth na wyddai’r ateb ynghylch a fyddai paneli solar yn cael eu gosod ar bob t? newydd a godwyd gan mai mater cynllunio fyddai hynny: nid oedd hyn yn hysbys ar hyn o bryd.